
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2024.
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2017” yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) 2017.
3 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau 2017, yn y diffiniad o “darparwr dysgu” ar ôl “Weinidogion Cymru” mewnosoder “neu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.
4 
Yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau 2017—
(a) yn lle “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” rhodder “Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”;
(b) yn lle “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr” rhodder “Y Swyddfa Fyfyrwyr”.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
19 Mehefin 2024