
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Ganolog (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Gorffennaf 2024.
2 
Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 17.
3 
Yn rheoliad 7(1) (hereditamentau rheilffyrdd), ar ôl “Network Rail Infrastructure Limited” mewnosoder “(registered with company number 02904587)”.
4 
Yn rheoliad 8 (hereditamentau cyfathrebu), ym mharagraffau (1)(a), (3) a (5)(b), yn lle “British Telecommunications plc”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “British Telecommunications Public Limited Company (registered with company number 01800000)”.
5 
Yn rheoliad 9 (hereditamentau nwy cenedlaethol a rhanbarthol)—
(a) ym mharagraffau (1) a (3), yn lle “Transco”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “National Gas Transmission plc (registered with company number 02006000)”;
(b) ym mharagraff (5) hepgorer ““Transco” means Transco plc and each subsidiary of National Grid Transco plc existing on 1 March 2005;” a’r “and” ar ei ôl.
6 
Yn rheoliad 11 (hereditamentau mesuryddion nwy)—
(a) ym mharagraffau (1) a (3), yn lle “Transco”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “National Gas Transmission plc (registered with company number 02006000)”;
(b) hepgorer paragraff (4)(b) a’r “and” ar ei ôl.
7 
Yn Rhan 1 o’r Atodlen (hereditamentau rheilffyrdd), yn y golofn gyntaf (person dynodedig), yn union ar ôl “Network Rail Infrastructure Limited” mewnosoder “(registered with company number 02904587)”.
8 
Yn Rhan 2 o’r Atodlen (hereditamentau cyfathrebu), yn y golofn gyntaf (person dynodedig)—
(a) yn lle “British Telecommunications plc” rhodder “British Telecommunications Public Limited Company (registered with company number 01800000)”;
(b) hepgorer y personau dynodedig a ganlyn—
(i) “Cable and Wireless UK”;
(ii) “Energis Communications Limited”;
(c) yn lle “Global Crossing (UK) Telecommunications Limited” rhodder “Lumen Technologies UK Limited (registered with company number 02495998)”.
9 
Yn Rhan 3 o’r Atodlen (hereditamentau trawsgludo nwy cenedlaethol a rhanbarthol), yn y golofn gyntaf (person dynodedig)—
(a) yn lle “Transco” rhodder “National Gas Transmission plc (registered with company number 02006000)”;
(b) yn lle “Blackwater 2 Limited” rhodder “Wales & West Utilities Limited (registered with company number 05046791)”.
10 
Yn Rhan 4 o’r Atodlen (hereditamentau trawsgludo nwy lleol), yn y golofn gyntaf (person dynodedig)—
(a) hepgorer y personau dynodedig a ganlyn—
(i) “British Gas Connections Limited”;
(ii) “British Gas Pipelines Limited”;
(iii) “Utility Grid Installations Limited”;
(iv) “The Gas Transportation Company Limited”;
(v) “SP Gas Limited”;
(vi) “Quadrant Pipelines Limited”;
(vii) “ESP Networks Limited”;
(viii) “ESP Pipelines Limited”;
(b) yn lle “Global Utility Connections Limited” rhodder “Last Mile Gas Limited (registered with company number SC303150)”;
(c) yn union ar ôl “Independent Pipelines Limited” mewnosoder “(registered with company number 02828692)”;
(d) yn lle “SSE Pipelines Limited” rhodder “Indigo Pipelines Limited (registered with company number 02742721)”;
(e) yn union ar ôl “GTC Pipelines Limited” mewnosoder “(registered with company number 03104203)”;
(f) yn union ar ôl “E.S. Pipelines Limited” mewnosoder “(registered with company number 03822878)”.
11 
Yn Rhan 5 o’r Atodlen (hereditamentau mesuryddion nwy), yn y golofn gyntaf (person dynodedig)—
(a) yn lle “Transco” rhodder “National Gas Transmission plc (registered with company number 02006000)”;
(b) yn lle “Blackwater 2 Limited” rhodder “Wales & West Utilities Limited (registered with company number 05046791)”.
12 
Yn Rhan 6 o’r Atodlen (hereditamentau trawsyrru trydan), yn y golofn gyntaf (person dynodedig), yn lle “National Grid Company plc” rhodder “National Grid Electricity Transmission plc (registered with company number 02366977)”.
13 
Yn Rhan 7 o’r Atodlen (hereditamentau dosbarthu trydan), yn y golofn gyntaf (person dynodedig)—
(a) yn lle “Central Networks West plc” rhodder “National Grid Electricity Distribution (West Midlands) plc (registered with company number 03600574)”;
(b) yn union ar ôl “SP Manweb plc” mewnosoder “(registered with company number 02366937)”;
(c) hepgorer “United Utilities Electricity plc”;
(d) yn lle “Western Power Distribution (South Wales) plc” rhodder “National Grid Electricity Distribution (South Wales) plc (registered with company number 02366985)”.
14 
Yn Rhan 8 o’r Atodlen (hereditamentau mesuryddion trydan), yn y golofn gyntaf (person dynodedig)—
(a) yn lle “Central Networks West plc” rhodder “National Grid Electricity Distribution (West Midlands) plc (registered with company number 03600574)”;
(b) yn union ar ôl “SP Manweb plc” mewnosoder “(registered with company number 02366937)”;
(c) hepgorer “United Utilities Electricity plc”;
(d) yn lle “Western Power Distribution (South Wales) plc” rhodder “National Grid Electricity Distribution (South Wales) plc (registered with company number 02366985)”.
15 
Yn Rhan 9 o’r Atodlen (hereditamentau cyflenwi dŵr), yn y golofn gyntaf (person dynodedig)—
(a) yn lle “Dee Valley Water plc” rhodder “Hafren Dyfrdwy Cyfyngedig (registered with company number 03527628)”;
(b) yn union ar ôl “Dŵr Cymru Cyfyngedig” mewnosoder “(registered with company number 02366777)”;
(c) yn union ar ôl “Severn Trent Water Limited” mewnosoder “(registered with company number 02366686)”;
(d) yn lle “United Utilities Water plc” rhodder “United Utilities Water Limited (registered with company number 02366678)”.
16 
Yn Rhan 10 o’r Atodlen (hereditamentau camlesi), yn y golofn gyntaf (person dynodedig) hepgorer “The British Waterways Board”.
17 
Yn Rhan 11 o’r Atodlen (hereditamentau piblinellau pellter hir), yn y golofn gyntaf (person dynodedig), yn union ar ôl “Mainline Pipelines Limited” mewnosoder “(registered with company number 00995545)”.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet, un o Weinidogion Cymru
17 Mehefin 2024