
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2024.
2 

(1) Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y testun Saesneg, ym mhob lle y mae’n digwydd (gan gynnwys y penawdau) yn lle “Fitness to Practice”, rhodder “Fitness to Practise”.
(3) Yn y testun Cymraeg, yn rheoliad 3(1), yn lle’r diffiniad o “Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer” rhodder—“
 ystyr “Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer” (“Fitness to Practise Committee”) yw pwyllgor a sefydlwyd o dan reoliad 22;”.
(4) Yn rheoliad 26, ym mharagraff (6)(b), yn lle paragraffau (i) a (ii) rhodder—“
(i) sy’n berson sydd wedi ei gofrestru mewn o leiaf un o’r categorïau cofrestru; a
(ii) sy’n gyflogedig, neu sydd wedi ei gymryd ymlaen ac eithrio o dan gontract cyflogaeth, mewn o leiaf un o’r swyddi a ddisgrifir yn y categorïau cofrestru ar y dyddiad y penodir yr aelod hwnnw sy’n berson cofrestredig i’r Pwyllgor.”
(5) Yn rheoliad 45, ym mharagraff (3)(b), yn lle “(1)” rhodder “(2)”.
(6) Ym mharagraff 21 o Ran 1 o Atodlen 2, ar ôl “142” mewnosoder “neu adran 167A”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
23 Ionawr 2024