
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mehefin 2024.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “awdurdod derbyn” yr ystyr a roddir i “admission authority” yn adran 88(1) o Ddeddf 1998;
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir yng Nghymru a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 mae i “blwyddyn academaidd” yr ystyr a roddir i “academic year” yn adran 89B(6) o Ddeddf 1998;
 ystyr “blwyddyn benderfynu” (“determination year”), mewn perthynas â’r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer ysgol, yw’r flwyddyn academaidd sy’n dechrau 2 flwyddyn academaidd cyn y flwyddyn academaidd y mae’r trefniadau derbyn yn berthnasol iddi;
 ystyr “blwyddyn dderbyn” (“admission year”) yw’r flwyddyn academaidd y derbynnir disgyblion i grŵp oedran perthnasol o dan gynllun cymhwysol neu gynllun Gweinidogion Cymru;
 ystyr “blwyddyn gynnig” (“offer year”) yw’r flwyddyn academaidd sy’n union cyn y flwyddyn dderbyn;
 ystyr “cais” (“application”), mewn perthynas â threfniadau a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 86(1) o Ddeddf 1998, yw mynegiad rhiant, mewn ffurflen gais gyffredin, o’i hoff ddewis o ran ym mha ysgol a gynhelir y mae’r rhiant hwnnw’n dymuno i addysg gael ei darparu i’w blentyn;
 mae i “corff llywodraethu” yr ystyr a roddir i “governing body” yn adran 19(1) o Ddeddf Addysg 2002;
 ystyr “cynllun cymhwysol” (“qualifying scheme”) yw cynllun sydd wedi ei lunio gan awdurdod lleol i gydlynu trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i ysgolion a gynhelir yn ei ardal o dan adran 89B(1)(a) o Ddeddf 1998 a’r Rheoliadau hyn;
 ystyr “cynllun Gweinidogion Cymru” (“Welsh Minister scheme”) yw cynllun ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn a osodir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran 89B(2) o Ddeddf 1998;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 mae i “dyddiad cynnig” (“offer date”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6;
 ystyr “ffurflen gais gyffredin” (“common application form”) yw ffurflen a ddarperir gan awdurdod lleol i’w chwblhau gan riant mewn cysylltiad â chais gan y rhiant hwnnw;
 mae i “grŵp oedran perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant age group” yn adran 142(1) o Ddeddf 1998;
 mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 84(6) o Ddeddf 1998;
 ystyr “prosbectws cyfansawdd” (“composite prospectus”) yw’r prosbectws cyfansawdd y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei gyhoeddi o dan reoliad 4 o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011;
 mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” yn adran 576 o Ddeddf 1996;
 mae i “trefniadau derbyn” yr ystyr a roddir i “admission arrangements” yn adran 88(2) o Ddeddf 1998;
 mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” yn adran 84(6) o Ddeddf 1998;
 mae i “ysgol gynradd” yr ystyr a roddir i “primary school” yn adran 5(1) o Ddeddf 1996;
 mae i “ysgol uwchradd” yr ystyr a roddir i “secondary school” yn adran 5(2) o Ddeddf 1996.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae cais wedi ei wneud yng nghwrs cylch derbyn arferol—
(a) os yw’n gais i ddisgybl gael ei dderbyn i grŵp oedran perthnasol, a
(b) os nad yw’n gais hwyr nac yn gais a wneir yn ystod y flwyddyn.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae cais yn gais hwyr—
(a) os yw’n gais i ddisgybl gael ei dderbyn i grŵp oedran perthnasol,
(b) os cyflwynir y cais cyn diwrnod cyntaf tymor ysgol cyntaf y flwyddyn dderbyn,
(c) os cyflwynir y cais ar ôl y dyddiad a nodir yn y prosbectws cyfansawdd ar gyfer cael ceisiadau i dderbyn disgybl i ysgol a gynhelir, a
(d) os nad yw penderfyniad sy’n ymwneud â’r cais yn cael ei wneud gan awdurdod derbyn ar y dyddiad cynnig neu cyn hynny.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae cais yn gais a wneir yn ystod y flwyddyn—
(a) os yw’n gais i ddisgybl gael ei dderbyn i grŵp oedran perthnasol ac os yw wedi ei gyflwyno ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn dderbyn neu ar ôl hynny, neu
(b) os yw’n gais i ddisgybl gael ei dderbyn i grŵp oedran heblaw grŵp oedran perthnasol.
3 

(1) Rhaid i bob awdurdod lleol, mewn perthynas â’r flwyddyn benderfynu 2025 i 2026, ac mewn perthynas â phob blwyddyn benderfynu ddilynol, lunio cynllun cymhwysol mewn perthynas â phob ysgol a gynhelir yn ei ardal.
(2) Rhaid i gynllun cymhwysol gydymffurfio â’r gofynion yn yr Atodlen.
4 

(1) Rhaid i bob awdurdod lleol fabwysiadu cynllun cymhwysol yn ymwneud â’r flwyddyn benderfynu 2025 i 2026 erbyn 1 Ionawr 2025 ac wedi hynny erbyn 1 Ionawr cyn pob blwyddyn benderfynu y mae’r cynllun cymhwysol yn perthyn iddi.
(2) Cyn mabwysiadu cynllun cymhwysol, os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (3) wedi eu bodloni, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â’r cyrff a nodir ym mharagraff (4).
(3) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a) bod y cynllun cymhwysol yn sylweddol wahanol i’r cynllun cymhwysol a fabwysiadwyd ar gyfer y flwyddyn benderfynu cyn hynny, neu
(b) nad yw’r awdurdod lleol, yn y 6 blwyddyn benderfynu flaenorol, wedi ymgynghori ar gynllun cymhwysol y mae wedi ei fabwysiadu.
(4) Ymgynghorer â’r cyrff a ganlyn—
(a) y fforwm derbyn,
(b) pob corff llywodraethu sy’n awdurdod derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol, ac
(c) unrhyw awdurdod lleol arall y mae’r awdurdod lleol yn meddwl bod y cynllun cymhwysol yn debygol o effeithio arno.
(5) Rhaid i’r ymgynghoriad o dan baragraff (4)(c) gael ei gynnal gyda’r bwriad o sicrhau bod y trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i ysgolion a gynhelir yn ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol yn gydnaws â’i gilydd, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol.
(6) Wedi i’r awdurdod lleol gynnal unrhyw ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo—
(a) penderfynu’r cynllun cymhwysol—
(i) ar ei ffurf wreiddiol, neu
(ii) gydag unrhyw addasiadau y mae’r awdurdod lleol yn meddwl eu bod yn addas, a
(b) mabwysiadu’r cynllun cymhwysol a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y cynllun yn cael ei fabwysiadu gan bob corff llywodraethu sy’n awdurdod derbyn yr ymgynghorodd yr awdurdod lleol ag ef mewn perthynas â’r cynllun.
(7) Yn y rheoliad hwn ystyr “fforwm derbyn” yw corff a sefydlwyd gan awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer ysgolion a gynhelir yn ei ardal o dan adran 85A o Ddeddf 1998.
5 
Ar gyfer y flwyddyn dderbyn 2027 i 2028 a phob blwyddyn dderbyn ddilynol, rhaid i bob awdurdod lleol roi gwybod i Weinidogion Cymru ar 28 Chwefror neu cyn hynny yn y flwyddyn benderfynu berthnasol a yw wedi mabwysiadu cynllun cymhwysol ai peidio.
6 

(1) Y dyddiad unigol ym mhob blwyddyn pryd y mae rhaid cyfleu i riant benderfyniad, a wneir o dan ddarpariaethau cynllun cymhwysol neu gynllun Gweinidogion Cymru, i gynnig neu wrthod derbyn disgybl i ysgol a gynhelir—
(a) ar gyfer ysgolion cynradd, yw 16 Ebrill yn y flwyddyn gynnig, a
(b) ar gyfer ysgolion uwchradd, yw 1 Mawrth yn y flwyddyn gynnig.
(2) Pan nad yw’r dyddiad cynnig mewn unrhyw flwyddyn gynnig yn ddiwrnod gwaith, y dyddiad cynnig yw’r diwrnod gwaith nesaf.
(3) Nid yw’r rheoliad hwn ond yn gymwys i benderfyniadau a wneir yng nghwrs cylch derbyn arferol.
7 

(1) Mae Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) i fod yn gymwys fel pe bai unrhyw rwymedigaethau a osodir ar gorff llywodraethu o dan gynllun cymhwysol neu gynllun Gweinidogion Cymru yn cael eu gosod arno gan y Deddfau Addysg.
(2) Mae Pennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2013 i fod yn gymwys fel pe bai unrhyw rwymedigaethau a osodir ar awdurdod lleol o dan gynllun cymhwysol neu gynllun Gweinidogion Cymru yn swyddogaethau addysg.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a) mae i “y Deddfau Addysg” yr ystyr a roddir i “the Education Acts” yn adran 578(1) o Ddeddf 1996;
(b) mae i “swyddogaethau addysg” yr ystyr a roddir i “education functions” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996.
8 
Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 3, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd hepgorer “Atodlen 1”, a
(b) yn rheoliad 5, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd hepgorer “Atodlen 2”.
9 
Yn Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011, ar ôl paragraff 5 yn Rhan 1 o Atodlen 2 mewnosoder—“
5A. 

(1) Ar gyfer y flwyddyn dderbyn ysgol 2026 i 2027 a phob blwyddyn ysgol ddilynol, crynodeb o’r cynllun ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn yr awdurdod lleol (“y cynllun”) gan gynnwys—
(a) disgrifiad cryno o’r modd y gellir gwneud cais i ddisgybl gael ei dderbyn i ysgol o dan y cynllun, gan gynnwys sut i wneud cais ac erbyn pa ddyddiad,
(b) disgrifiad cryno o ba bryd y caiff cynigion derbyn i ysgol eu cyfleu i rieni o dan y cynllun,
(c) disgrifiad cryno o ba bryd y bydd apelau yn erbyn gwrthod lle yn cael eu gwrando,
(d) disgrifiad cryno o’r modd y penderfynir ceisiadau a wneir drwy ddull heblaw cylch derbyn arferol o dan y cynllun, ac
(e) copi o’r ffurflen gais gyffredin ar gyfer y cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Addysg (Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 (“Rheoliadau 2024”).
(2) Yn y paragraff hwn—
 mae i “cylch derbyn arferol” (“a normal admission round”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(2) o Reoliadau 2024;
 ystyr “y cynllun ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn yr awdurdod lleol” (“the scheme for co-ordinating admission arrangements of the local authority”) yw—
(a) cynllun a fabwysiedir gan awdurdod lleol yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau 2024, neu
(b) cynllun a osodir ar yr awdurdod lleol gan Weinidogion Cymru yn unol ag is-adran 89B(2) o Ddeddf 1998.”
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
24 Mai 2024
YR ATODLEN
Rheoliad 3(2)
1 
Rhaid i gynllun cymhwysol—
(a) sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, fod pob rhiant yn ardal yr awdurdod lleol sy’n gwneud cais ar y ffurflen gais gyffredin yn cael un cynnig i dderbyn plentyn i ysgol a gynhelir o dan y cynllun cymhwysol,
(b) sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, mewn unrhyw achos pan fo plentyn yn gymwys i gael cynnig i’w dderbyn i fwy nag un ysgol a gynhelir, fod y plentyn yn cael cynnig i’w dderbyn i ba un bynnag o’r ysgolion a gynhelir hynny y mae’r rhiant wedi ei rhoi yn y safle uchaf ar y ffurflen gais gyffredin,
(c) ei gwneud yn ofynnol i ffurflen gais gyffredin gael ei chwblhau, gan alluogi rhiant yn ardal awdurdod lleol—
(i) i ddarparu ei enw a’i gyfeiriad,
(ii) i ddarparu enw, cyfeiriad a dyddiad geni ei blentyn,
(iii) i wneud cais i ddim llai na thair ysgol a gynhelir, pa un a yw unrhyw ysgol a gynhelir y gwneir cais ar ei chyfer o fewn ardal yr awdurdod lleol ai peidio,
(iv) i roi rhesymau dros unrhyw gais, a
(v) i raddio pob cais mewn perthynas ag unrhyw gais arall,
(d) sicrhau y cyhoeddir ffurflen gais gyffredin—
(i) drwy drefnu bod copïau ar gael i’w dosbarthu’n ddi-dâl i rieni ar gais yn swyddfeydd yr awdurdod lleol sy’n ei chyhoeddi, a
(ii) drwy arddangos copi ar wefan yr awdurdod lleol,
(e) nodi ar gyfer pob ysgol a gynhelir y mae’r cynllun cymhwysol yn gymwys iddi ai’r awdurdod lleol ynteu’r corff llywodraethu yw’r awdurdod derbyn,
(f) pan fo’r corff llywodraethu sy’n awdurdod derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir o’r fath wedi gwneud trefniadau i gorff arall benderfynu’r drefn flaenoriaeth o dan baragraff 5(b), nodi’r corff hwnnw, ac
(g) pennu bod rhaid i unrhyw hysbysiad bod cynnig i dderbyn plentyn i ysgol a gynhelir wedi ei dderbyn ddod i law’r awdurdod lleol o fewn 2 wythnos ar ôl y dyddiad cynnig.
2 
Mewn cysylltiad â cheisiadau a wneir yng nghwrs cylch derbyn arferol, rhaid i gynllun cymhwysol—
(a) ei gwneud yn ofynnol i’r ffurflen gais gyffredin gael ei chyflwyno i’r awdurdod lleol—
(i) erbyn 15 Ionawr yn y flwyddyn gynnig, mewn perthynas â cheisiadau ar gyfer ysgolion cynradd, a
(ii) erbyn 31 Hydref yn y flwyddyn gynnig, mewn perthynas â cheisiadau ar gyfer ysgolion uwchradd,
(b) pennu sut y penderfynir ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiadau a grybwyllir yn is-baragraff (a),
(c) ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol, pa un ai ef yw’r awdurdod derbyn ai peidio, anfon at riant unrhyw benderfyniad sy’n cynnig neu’n gwrthod derbyn plentyn i ysgol a gynhelir ar y dyddiad cynnig, a
(d) pennu’r dyddiadau erbyn pryd y mae pob un o’r camau y mae’n ofynnol eu cymryd o dan yr Atodlen hon i’w cyflawni, gan gynnwys pan fo’r dyddiad wedi ei bennu yn yr Atodlen hon.
3 
Mewn cysylltiad â cheisiadau a wneir ar gyfer ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol, rhaid i’r cynllun cymhwysol ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol—
(a) pan fo’r cais ar gyfer ysgol a gynhelir y mae’r corff llywodraethu yn awdurdod derbyn iddi, ddarparu i’r corff llywodraethu, neu’r corff y mae’r corff llywodraethu wedi gwneud trefniadau ag ef o dan baragraff 5(b), fanylion—
(i) y cais, a
(ii) unrhyw wybodaeth ategol a ddarperir gan y rhiant,
(b) pan fo’r cais ar gyfer ysgol a gynhelir y mae’r awdurdod lleol yn awdurdod derbyn iddi, benderfynu, drwy gyfeirio at feini prawf derbyn yr ysgol a gynhelir, y drefn flaenoriaeth y pennir safle pob cais i’r ysgol ynddi,
(c) penderfynu yn unol â darpariaethau’r cynllun cymhwysol a yw’r plentyn i gael cynnig i’w dderbyn ynteu a wrthodir ei dderbyn i ysgol a gynhelir yn ei ardal pan fo’n ymddangos i’r awdurdod lleol—
(i) bod plentyn yn ei ardal yn gymwys i gael cynnig i’w dderbyn i fwy nag un ysgol a gynhelir, neu
(ii) nad yw plentyn yn ei ardal yn gymwys i gael cynnig i’w dderbyn i unrhyw ysgol a gynhelir,
(d) gwneud y penderfyniad o dan is-baragraff (c) gan roi sylw—
(i) i unrhyw benderfyniad a wneir o dan is-baragraff (b), a
(ii) i unrhyw benderfyniad y’i hysbysir amdano o dan baragraff 5(c),
(e) mewn unrhyw achos pan fo penderfyniad yr awdurdod lleol o dan is-baragraff (c) yn ymwneud ag ysgol a gynhelir yn ei ardal nad yw’n awdurdod derbyn iddi, hysbysu corff llywodraethu’r ysgol am ei benderfyniad,
(f) ac eithrio pan fo is-baragraff (g) yn gymwys, anfon unrhyw benderfyniad o dan is-baragraff (c) at y rhiant, pa un ai’r awdurdod lleol yw’r awdurdod derbyn ai peidio, ac
(g) o ran unrhyw gais yn ymwneud â phlentyn sy’n byw yn ardal awdurdod lleol gwahanol, hysbysu’r awdurdod lleol hwnnw am ei benderfyniad.
4 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo rhiant yn ardal awdurdod lleol (“yr awdurdod cartref”) yn gwneud cais yn y ffurflen gais gyffredin i blentyn gael ei dderbyn i ysgol a gynhelir yn ardal awdurdod lleol gwahanol (“yr awdurdod cynnal”).
(2) Rhaid i’r awdurdod cartref anfon manylion y cais ymlaen i’r awdurdod cynnal, ynghyd ag unrhyw wybodaeth ategol a ddarperir gan y rhiant.
(3) Rhaid i gynllun cymhwysol—
(a) pennu bod rhaid i’r awdurdod cartref, wrth wneud penderfyniad o dan baragraff 3(c) a yw’r plentyn i gael cynnig i’w dderbyn ynteu a wrthodir ei dderbyn i unrhyw ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod cartref hwnnw y mae cais hefyd wedi ei wneud ar ei chyfer, roi sylw i unrhyw wybodaeth a ddarperir gan yr awdurdod cynnal ynghylch a yw’r plentyn i gael cynnig i’w dderbyn ynteu a wrthodir ei dderbyn i ysgol a gynhelir o fewn ardal yr awdurdod cynnal hwnnw, a
(b) ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cartref anfon at y rhiant unrhyw benderfyniad sy’n cynnig neu’n gwrthod derbyn plentyn i’r ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod cynnal gan yr awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol honno.
5 
Rhaid i gynllun cymhwysol ei gwneud yn ofynnol i bob corff llywodraethu sy’n awdurdod derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir—
(a) anfon ymlaen i awdurdod lleol yr ardal y mae ynddi—
(i) manylion unrhyw geisiadau a wneir yn uniongyrchol i’r ysgol a gynhelir yn y cylch derbyn arferol neu fel cais hwyr, a
(ii) unrhyw wybodaeth ategol a ddarperir gan y rhiant, ni waeth a yw’r rhiant sy’n gwneud y cais yn preswylio yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw,
(b) penderfynu neu wneud trefniadau i gorff arall (gan gynnwys ei awdurdod lleol) benderfynu, drwy gyfeirio at feini prawf derbyn yr ysgol a gynhelir, y drefn flaenoriaeth y pennir safle pob cais i’r ysgol ynddi, ac
(c) hysbysu neu, pan fo trefniadau wedi eu gwneud o dan is-baragraff (b) i gorff arall (nad yw’n awdurdod lleol iddo) wneud penderfyniad, drefnu i’r corff hwnnw hysbysu ei awdurdod lleol am ei benderfyniad.