
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Ionawr 2024.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024 neu ar ôl hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” yn adran 1(2)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”);
 ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992.
2 
Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “Swyddfa’r Post” (“the Post Office”) yw Post Office Limited (rhif cofrestredig 02154540);”;“
 ystyr “y system Horizon” (“the Horizon system”) yw unrhyw fersiwn o’r system gyfrifiadurol a ddefnyddir gan Swyddfa’r Post, a elwir yn Horizon, Horizon Legacy, Horizon Online neu’n HNG-X;”;“
 ystyr “taliad digollediad Swyddfa’r Post” (“Post Office compensation payment”) yw taliad a wneir gan Swyddfa’r Post neu’r Ysgrifennydd Gwladol at ddiben darparu digollediad neu gymorth sydd—
(a) mewn cysylltiad â methiannau’r system Horizon, neu
(b) fel arall yn daladwy yn dilyn y dyfarniad yn Bates and Others v Post Office Ltd ((No. 3) “Common Issues”);”;“
 ystyr “taliad niwed drwy frechiad” (“vaccine damage payment”) yw taliad a wneir o dan Ddeddf Taliadau Niwed Drwy Frechiad 1979;”;
(b) yn y diffiniad o “person cymwys”, ar ôl “yw person” mewnosoder “sy’n cael taliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad neu berson”.
4 
Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr), ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£16.40” rhodder “£17.35”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£5.45” rhodder “£5.80”;
(b) yn is-baragraff (2)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£236.00” rhodder “£256.00”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£236.00”, “£410.00” a “£10.90” rhodder “£256.00”, “£445.00” ac “£11.55” yn y drefn honno;
(iii) ym mharagraff (c), yn lle “£410.00”, “£511.00” a “£13.70” rhodder “£445.00”, “£554.00” a “£14.50” yn y drefn honno;
(c) ar ôl is-baragraff (9)(b) mewnosoder—“
(c) unrhyw daliad a wneir o dan neu gan yr Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006);
(d) unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post.”
5 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£217.00” rhodder “£235.20”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£324.70” rhodder “£352.00”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£324.70” a “£107.70” rhodder “£352.00” a “£116.80” yn y drefn honno;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£77.78”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£83.24”;
(c) ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£18.53” rhodder “£19.15”;
(d) ym mharagraff 8 (premiwm plentyn anabl)—
(i) ar ddiwedd is-baragraff (c) yn lle “.” rhodder “; neu”;
(ii) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“
(d) yn cael TALlA.”;
(e) yn yr ail golofn (swm) o’r Tabl ym mharagraff 12 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£76.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£81.50” ac yn lle “£152.80” rhodder “£163.00”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£30.17” rhodder “£32.20”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£74.69” rhodder “£80.01”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£42.75” rhodder “£45.60”.
6 
Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 16—
(i) ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad.”;
(ii) yn is-baragraff (2), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(iii) yn is-baragraff (3), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(iv) yn is-baragraff (5), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(v) yn is-baragraff (6), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(vi) ar ôl is-baragraff (6) mewnosoder—“
(6A) Unrhyw daliad allan o ystad person, sy’n deillio o daliad i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022 a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person, pan wneir y taliad i fab, merch, llysfab neu lysferch y person.”;
(vii) yn is-baragraff (7), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(b) ym mharagraff 28C—
(i) daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);
(ii) ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(2) Pan fo taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 yn cael ei dalu i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn ystyr adran 30(6B) o’r Ddeddf honno) mewn cysylltiad â marwolaeth sy’n digwydd cyn 9 Chwefror 2023, unrhyw swm o’r taliad hwnnw—
(a) sydd mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017, a
(b) a delir fel cyfandaliad am fwy nag un ailddigwyddiad misol o’r diwrnod o’r mis y bu farw ei bartner a oedd yn cyd-fyw,
ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau o 1 Ebrill 2024 neu o ddyddiad cael y taliad, pa un bynnag sydd ddiweddaraf.”;
(c) ar ôl paragraff 28E mewnosoder—“
28F. 
Unrhyw daliad o lwfans rhiant gweddw a wneir o dan adran 39A o DCBNC—
(a) i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn yr ystyr a roddir i “cohabiting partnership” yn adran 39A(7) o’r Ddeddf honno) sydd â hawl i gael lwfans rhiant gweddw am gyfnod cyn 9 Chwefror 2023, a
(b) mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o amser yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben â’r diwrnod cyn i’r goroeswr wneud hawliad am lwfans rhiant gweddw.”
7 
Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£16.40” rhodder “£17.35”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£5.45” rhodder “£5.80”;
(b) yn is-baragraff (2)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£236.00” rhodder “£256.00”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£236.00”, “£410.00” a “£10.90” rhodder “£256.00”, “£445.00” ac “£11.55” yn y drefn honno;
(iii) ym mharagraff (c), yn lle “£410.00”, “£511.00” a “£13.70” rhodder “£445.00”, “£554.00” a “£14.50” yn y drefn honno;
(c) yn is-baragraff (9), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(ba) unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post;”.
8 
Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£90.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£96.45” ac yn lle “£71.55” rhodder “£76.35”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£90.40” rhodder “£96.45”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£141.95” rhodder “£151.45”;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1), yn lle “£77.78”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£83.24”;
(c) ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£18.53” rhodder “£19.15”;
(d) yn yr ail golofn (swm) o’r Tabl ym mharagraff 17 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£39.85” a “£56.80” rhodder “£42.50” a “£60.60” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£76.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£81.50” ac yn lle “£152.80” rhodder “£163.00”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£74.69” rhodder “£80.01”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£42.75” rhodder “£45.60”;
(v) yn is-baragraff (5), yn lle “£30.17”, “£19.55” a “£27.90” rhodder “£32.20”, “£20.85” a “£29.75” yn y drefn honno;
(e) ym mharagraff 23, yn lle “£33.70” rhodder “£35.95”;
(f) ym mharagraff 24, yn lle “£44.70” rhodder “£47.70”.
9 
Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 29—
(i) ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad.”;
(ii) yn is-baragraff (2), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(iii) yn is-baragraff (3), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(iv) yn is-baragraff (4), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(v) yn is-baragraff (5), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(vi) ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—“
(5A) Unrhyw daliad allan o ystad person, sy’n deillio o daliad i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022 a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person, pan wneir y taliad i fab, merch, llysfab neu lysferch y person.”;
(vii) yn is-baragraff (6), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(b) ym mharagraff 65—
(i) daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);
(ii) ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(2) Pan fo taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 yn cael ei dalu i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn ystyr adran 30(6B) o’r Ddeddf honno) mewn cysylltiad â marwolaeth sy’n digwydd cyn 9 Chwefror 2023, unrhyw swm o’r taliad hwnnw—
(a) sydd mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017, a
(b) a delir fel cyfandaliad am fwy nag un ailddigwyddiad misol o’r diwrnod o’r mis y bu farw ei bartner a oedd yn cyd-fyw,
ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau o 1 Ebrill 2024 neu o ddyddiad cael y taliad, pa un bynnag sydd ddiweddaraf.”;
(c) ar ôl paragraff 67 mewnosoder—“
68. 
Unrhyw daliad o lwfans rhiant gweddw a wneir o dan adran 39A o DCBNC—
(a) i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn yr ystyr a roddir i “cohabiting partnership” yn adran 39A(7) o’r Ddeddf honno) sydd â hawl i gael lwfans rhiant gweddw am gyfnod cyn 9 Chwefror 2023, a
(b) mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o amser yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben â’r diwrnod cyn i’r goroeswr wneud hawliad am lwfans rhiant gweddw.”
10 
Yn Atodlen 11 (myfyrwyr), ym mharagraff 1(1) (dehongli), yn y diffiniad o “cronfeydd mynediad”, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“
(aa) unrhyw gyllid a ddarperir o dan adran 85 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 at y diben o ddarparu cyllid i’w dalu ar sail ddisgresiynol i fyfyrwyr;”.
11 
Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 12 i 18.
12 
Ym mharagraff 2(1) (dehongli)—
(a) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “Swyddfa’r Post” (“the Post Office”) yw Post Office Limited (rhif cofrestredig 02154540);”;“
 ystyr “y system Horizon” (“the Horizon system”) yw unrhyw fersiwn o’r system gyfrifiadurol a ddefnyddir gan Swyddfa’r Post, a elwir yn Horizon, Horizon Legacy, Horizon Online neu’n HNG-X;”;“
 ystyr “taliad digollediad Swyddfa’r Post” (“Post Office compensation payment”) yw taliad a wneir gan Swyddfa’r Post neu’r Ysgrifennydd Gwladol at ddiben darparu digollediad neu gymorth sydd—
(a) mewn cysylltiad â methiannau’r system Horizon, neu
(b) fel arall yn daladwy yn dilyn y dyfarniad yn Bates and Others v Post Office Ltd ((No. 3) “Common Issues”);”;“
 ystyr “taliad niwed drwy frechiad” (“vaccine damage payment”) yw taliad a wneir o dan Ddeddf Taliadau Niwed Drwy Frechiad 1979;”;
(b) yn y diffiniad o “person cymwys”, ar ôl “yw person” mewnosoder “sy’n cael taliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad neu berson”.
13 
Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£16.40” rhodder “£17.35”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£5.45” rhodder “£5.80”;
(b) yn is-baragraff (2)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£236.00” rhodder “£256.00”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£236.00”, “£410.00” a “£10.90” rhodder “£256.00”, “£445.00” ac “£11.55” yn y drefn honno;
(iii) ym mharagraff (c), yn lle “£410.00”, “£511.00” a “£13.70” rhodder “£445.00”, “£554.00” a “£14.50” yn y drefn honno;
(c) yn is-baragraff (9)—
(i) yn y testun Saesneg, ar ddiwedd paragraff (b) hepgorer “and”;
(ii) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(ba) unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post;”;
(iii) ar ddiwedd paragraff (c) hepgorer “a”.
14 
Ym mharagraff 70(1) (dehongli), yn y diffiniad o “cronfeydd mynediad”, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“
(aa) unrhyw gyllid a ddarperir o dan adran 85 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 at y diben o ddarparu cyllid i’w dalu ar sail ddisgresiynol i fyfyrwyr;”.
15 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£217.00” rhodder “£235.20”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£324.70” rhodder “£352.00”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£324.70” a “£107.70” rhodder “£352.00” a “£116.80” yn y drefn honno;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£77.78”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£83.24”;
(c) ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£18.53” rhodder “£19.15”;
(d) ym mharagraff 8 (premiwm plentyn anabl)—
(i) ar ddiwedd is-baragraff (c) yn lle “.” rhodder “; neu”;
(ii) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“
(d) yn cael TALlA.”;
(e) yn yr ail golofn (swm) yn y Tabl ym mharagraff 12 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£76.40” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£81.50” ac yn lle “£152.80” rhodder “£163.00”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£30.17” rhodder “£32.20”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£74.69” rhodder “£80.01”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£42.75” rhodder “£45.60”.
16 
Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£90.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£96.45” ac yn lle “£71.55” rhodder “£76.35”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£90.40” rhodder “£96.45”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£141.95” rhodder “£151.45”;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1) (swm), yn lle “£77.78”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£83.24”;
(c) ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£18.53” rhodder “£19.15”;
(d) yn yr ail golofn (swm) o’r Tabl ym mharagraff 17 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£39.85” a “£56.80” rhodder “£42.50” a “£60.60” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£76.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£81.50” ac yn lle “£152.80” rhodder “£163.00”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£74.69” rhodder “£80.01”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£42.75” rhodder “£45.60”;
(v) yn is-baragraff (5), yn lle “£30.17”, “£19.55” a “£27.90” rhodder “£32.20”, “£20.85” a “£29.75” yn y drefn honno;
(e) ym mharagraff 23, yn lle “£33.70” rhodder “£35.95”;
(f) ym mharagraff 24, yn lle “£44.70” rhodder “£47.70”.
17 
Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 16—
(i) ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad.”;
(ii) yn is-baragraff (2), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(iii) yn is-baragraff (3), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(iv) yn is-baragraff (5), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(v) yn is-baragraff (6), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(vi) ar ôl is-baragraff (6) mewnosoder—“
(6A) Unrhyw daliad allan o ystad person, sy’n deillio o daliad i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022 a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person, pan wneir y taliad i fab, merch, llysfab neu lysferch y person.”;
(vii) yn is-baragraff (7), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(b) ym mharagraff 28C—
(i) daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);
(ii) ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(2) Pan fo taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 yn cael ei dalu i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn ystyr adran 30(6B) o’r Ddeddf honno) mewn cysylltiad â marwolaeth sy’n digwydd cyn 9 Chwefror 2023, unrhyw swm o’r taliad hwnnw—
(a) sydd mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017, a
(b) a delir fel cyfandaliad am fwy nag un ailddigwyddiad misol o’r diwrnod o’r mis y bu farw ei bartner a oedd yn cyd-fyw,
ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau o 1 Ebrill 2024 neu o ddyddiad cael y taliad, pa un bynnag sydd ddiweddaraf.”;
(c) ar ôl paragraff 28E mewnosoder—“
28F. 
Unrhyw daliad o lwfans rhiant gweddw a wneir o dan adran 39A o DCBNC—
(a) i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn yr ystyr a roddir i “cohabiting partnership” yn adran 39A(7) o’r Ddeddf honno) sydd â hawl i gael lwfans rhiant gweddw am gyfnod cyn 9 Chwefror 2023, a
(b) mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o amser yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben â’r diwrnod cyn i’r goroeswr wneud hawliad am lwfans rhiant gweddw.”
18 
Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 29—
(i) ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad.”;
(ii) yn is-baragraff (2), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(iii) yn is-baragraff (3), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(iv) yn is-baragraff (5), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(v) yn is-baragraff (6), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(vi) ar ôl is-baragraff (6) mewnosoder—“
(6A) Unrhyw daliad allan o ystad person, sy’n deillio o daliad i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022 a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person, pan wneir y taliad i fab, merch, llysfab neu lysferch y person.”;
(vii) yn is-baragraff (7), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(b) ym mharagraff 65—
(i) daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);
(ii) ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(2) Pan fo taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 yn cael ei dalu i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn ystyr adran 30(6B) o’r Ddeddf honno) mewn cysylltiad â marwolaeth sy’n digwydd cyn 9 Chwefror 2023, unrhyw swm o’r taliad hwnnw—
(a) sydd mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017, a
(b) a delir fel cyfandaliad am fwy nag un ailddigwyddiad misol o’r diwrnod o’r mis y bu farw ei bartner a oedd yn cyd-fyw,
ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau o 1 Ebrill 2024 neu o ddyddiad cael y taliad, pa un bynnag sydd ddiweddaraf.”;
(c) ar ôl paragraff 67 mewnosoder—“
68. 
Unrhyw daliad o lwfans rhiant gweddw a wneir o dan adran 39A o DCBNC—
(a) i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn yr ystyr a roddir i “cohabiting partnership” yn adran 39A(7) o’r Ddeddf honno) sydd â hawl i gael lwfans rhiant gweddw am gyfnod cyn 9 Chwefror 2023, a
(b) mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o amser yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben â’r diwrnod cyn i’r goroeswr wneud hawliad am lwfans rhiant gweddw.”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Ionawr 2024