
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024 a deuant i rym ar 25 Ebrill 2024.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Gorchymyn 2005” (“2005 Order”) yw Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005;
 ystyr “Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy” (“Approved Inspectors Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010;
 ystyr “Rheoliadau 2012” (“2012 Regulations”) yw Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Daw adran 49(1) a (2) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i rym ar 25 Ebrill 2024.
3 
Yn y darpariaethau a ganlyn (gan gynnwys penawdau) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy, yn lle “approved inspector”, ym mhob lle y mae’n digwydd, gan gynnwys lle mae’n digwydd unwaith yn unig, rhodder “approver”—
(a) pennawd Rhan 3;
(b) rheoliad 8, gan gynnwys yn y pennawd;
(c) rheoliad 9, gan gynnwys yn y pennawd;
(d) rheoliad 12, gan gynnwys yn y pennawd;
(e) rheoliad 13, gan gynnwys yn y pennawd;
(f) rheoliad 16;
(g) rheoliad 18;
(h) rheoliad 20(1);
(i) rheoliad 20(5)(a);
(j) rheoliad 20(6), ym mharagraff 4(a) a amnewidir;
(k) rheoliad 20(6A), ym mharagraff 3 a amnewidir;
(l) Atodlen 2;
(m) Atodlen 3, gan gynnwys ym mhennawd paragraff 5;
(n) Atodlen 4, gan gynnwys ym mhennawd paragraff 4.
4 

(1) Mae Gorchymyn 2005 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 30(5)(c) ar ôl “the approved inspector”, mewnosoder “or registered building control approver”.
(3) Yn erthygl 46(3) yn lle “an approved inspector within the meaning of section 49 of the Building Act 1984” rhodder “a registered building control approver within the meaning of section 58N of the Building Act 1984”.
5 
Yn rheoliad 32(1)(c) o Reoliadau 2012 yn lle “an approved inspector for the purposes of the inspector’s” rhodder “a registered building control approver for the purposes of the approver’s”.
6 
Nid yw’r diwygiadau yn rheoliadau 3, 4(3) a 5 yn gymwys i berson sydd, yn rhinwedd rheoliad 4 o Reoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2024, yn parhau mewn swydd arolygydd cymeradwy ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024.
Julie James
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
2 Ebrill 2024