
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Rhwydweithiau Gwresogi) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2024.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
2 
At ddibenion paragraff 6 o Atodlen 4ZA i’r Ddeddf, ac at ddibenion rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn, ystyr “rhwydwaith gwresogi” yw cyfleuster sy’n cyflenwi ynni thermol o ffynhonnell ganolog at ddibenion—
(a) gwresogi gofod,
(b) oeri gofod, neu
(c) gwresogi dŵr domestig.
3 

(1) Yr amodau sydd i’w bodloni at ddibenion paragraff 6(1)(b) o Atodlen 4ZA i’r Ddeddf yw, am y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef sydd o dan sylw, ei bod yn ymddangos i’r awdurdod bilio y mae’r rhwydwaith gwresogi yn ei ardal y bydd yr ynni thermol a gyflenwir gan y rhwydwaith gwresogi yn cael ei gynhyrchu o ffynhonnell garbon isel.
(2) Caiff y ffynhonnell garbon isel fod ar yr hereditament o dan sylw neu ar hereditament gwahanol.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” gan adran 144(2) o’r Ddeddf;
 mae i “diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef” yr ystyr a roddir i “chargeable day” gan adran 43(3) o’r Ddeddf;
 ystyr “ffynhonnell garbon isel” (“low-carbon source”) yw ffynhonnell sy’n cynhyrchu ynni thermol y mae’r canlynol yn wir amdano—
(a) mae o leiaf 75% ohono yn wres a gydgynhyrchir,
(b) mae o leiaf 50% ohono yn wres adnewyddadwy,
(c) mae o leiaf 50% ohono yn wres gwastraff, neu
(d) mae o leiaf 75% ohono yn gyfuniad o wres adnewyddadwy, gwres gwastraff neu wres a gydgynhyrchir;
 ystyr “gwres adnewyddadwy” (“renewable heat”) yw ynni thermol a gynhyrchir gan beiriannau a pheirianwaith ynni adnewyddadwy a eithrir, fel y’u diffinnir ym mharagraff (d) yn Nosbarth 1 o’r Atodlen i Reoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000;
 ystyr “gwres a gydgynhyrchir” (“cogenerated heat”) yw ynni thermol a gynhyrchir yn yr un broses ac ar yr un pryd ag ynni trydanol neu ynni mecanyddol;
 ystyr “gwres gwastraff” (“waste heat”) yw ynni thermol a gynhyrchir yn anochel fel sgil-gynnyrch proses arall ac na fyddai unrhyw ddefnydd iddo heblaw at ddibenion rhwydwaith gwresogi.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
15 Ionawr 2024