
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw Rhannau 1 a 2 i rym ar 19 Ionawr 2024.
(4) Daw Rhan 3 i rym ar 1 Ebrill 2024.
RHAN 2
2 
Yn rheoliad 3(1) (dehongli) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989, yn y diffiniad o “the amount payable”, yn is-baragraff (a), yn lle “paragraphs 1 to 7, and 10 of Schedule 4ZA or paragraphs 1 to 3 of Schedule 4ZB to” rhodder “section 43(4) to (6) or 45(4) to (6) of”.
3 

(1) Mae Atodlen 1 (materion i’w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu) i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 4—
(a) yn lle “rheoliadau o dan baragraff 1(2)(b) a 3(9) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fyddant mewn grym” rhodder “gorchymyn o dan adran 45(4A) o Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fydd mewn grym”;
(b) yn lle “rheoliadau o gymharu â’r swm pe bai paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i” rhodder “gorchymyn o gymharu â’r swm pe bai adran 45(4) o”.
(3) Ym mharagraff 5—
(a) yn lle “paragraff 2 o Atodlen 4ZB i” rhodder “adran 45A o”;
(b) yn lle “paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i” rhodder “adran 45(4) o”.
(4) Ym mharagraff 6—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “baragraff 2(1) neu 4(1) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 43(4A)(b) neu (5) o”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 44(2) a (2A) o”;
(c) yn lle “paragraff 1 o Atodlen 4ZA, heb ei addasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA heb ei amnewid” rhodder “adran 43(4), heb ei haddasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) adran 44(2) heb ei hamnewid”.
4 

(1) Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli), yn y diffiniad o “hereditament a eithrir”, ym mharagraff (c), yn lle “baragraff 2(2)(a) neu (b) o Atodlen 4ZA i” rhodder “baragraff (a) neu (b) o adran 43(6) o”.
(3) Yn erthygl 5 (uchafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi), yn lle “paragraff 4(2)(b)(i) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 43(4B)(b)(i) o”.
(4) Yn erthygl 6 (amodau rhyddhad), yn lle “paragraff 4(2)(b)(ii) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 43(4B)(b)(ii) o”.
(5) Yn erthygl 10 (swm E), yn lle “paragraff 10(6) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 44(9) o”.
5 

(1) Mae Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2023 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2) (diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989), hepgorer is-baragraff (a).
(3) Yn rheoliad 4 (diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017)—
(a) hepgorer paragraff (2);
(b) hepgorer paragraff (3);
(c) hepgorer is-baragraffau (a), (b) a (d) o baragraff (4).
(4) Hepgorer rheoliad 5 (diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017).
RHAN 3
6 
Yn rheoliad 3(1) (dehongli) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989, yn y diffiniad o “the amount payable”, yn is-baragraff (a), yn lle “section 43(4) to (6) or 45(4) to (6) of” rhodder “any provision of or made under Schedule 4ZA or Schedule 4ZB to”.
7 
Yn rheoliad 3(7) (cydberchnogion a chydfeddianwyr) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990, yn lle “section 43(6), 45(6) and 47(2)(a) of” rhodder “paragraph 2(2) of Schedule 4ZA to”.
8 

(1) Mae Atodlen 1 (materion i’w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu) i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 4—
(a) yn lle “gorchymyn o dan adran 45(4A) o Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fydd mewn grym” rhodder “rheoliadau o dan baragraffau 1(2)(b) a 3(9) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fyddant mewn grym”;
(b) yn lle “gorchymyn o gymharu â’r swm pe bai adran 45(4) o” rhodder “rheoliadau o gymharu â’r swm pe bai paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i”.
(3) Ym mharagraff 5—
(a) yn lle “adran 45A o” rhodder “paragraff 2 o Atodlen 4ZB i”;
(b) yn lle “adran 45(4) o” rhodder “paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i”.
(4) Ym mharagraff 6—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “adran 43(4A)(b) neu (5) o” rhodder “baragraff 2(1) neu 4(1) o Atodlen 4ZA i”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “adran 44(2) a (2A) o” rhodder “baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA i”;
(c) yn lle “adran 43(4), heb ei haddasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) adran 44(2) heb ei hamnewid” rhodder “paragraff 1 o Atodlen 4ZA, heb ei addasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA heb ei amnewid”.
9 

(1) Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli), yn y diffiniad o “hereditament a eithrir”, ym mharagraff (c), yn lle “baragraff (a) neu (b) o adran 43(6) o” rhodder “baragraff 2(2)(a) neu (b) o Atodlen 4ZA i”.
(3) Yn erthygl 5 (uchafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi), yn lle “adran 43(4B)(b)(i) o” rhodder “paragraff 4(2)(b)(i) o Atodlen 4ZA i”.
(4) Yn erthygl 6 (amodau rhyddhad), yn lle “adran 43(4B)(b)(ii) o” rhodder “paragraff 4(2)(b)(ii) o Atodlen 4ZA i”.
(5) Yn erthygl 10 (swm E), yn lle “adran 44(9) o” rhodder “paragraff 10(6) o Atodlen 4ZA i”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
15 Ionawr 2024