
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2024 a daw i rym ar 1 Ebrill 2024.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998.
2 
Yn erthygl 1(2) o’r prif Orchymyn, yn y diffiniad o “the trust”, yn lle “Welsh Ambulance Services National Health Service Trust” rhodder “Welsh Ambulance Services University National Health Service Trust”.
3 
Yn lle erthygl 2 o’r prif Orchymyn rhodder—“
2. 
There is hereby established an NHS trust which shall be called Welsh Ambulance Services University National Health Service Trust or Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.”
4 
Nid yw’r newid enw y rhoddir effaith iddo gan erthygl 3—
(a) yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan unrhyw berson, nac ar unrhyw rwymedigaeth sydd ar unrhyw berson, na
(b) yn annilysu unrhyw offeryn (pa un a’i gwnaed cyn, ar neu ar ôl y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym) sy’n cyfeirio at Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a rhaid dehongli pob offeryn neu ddogfen arall sy’n cyfeirio at yr enw hwnnw fel pe bai’n cyfeirio at yr ymddiriedolaeth.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2024