
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2024 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2024.
2 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (cyfrifo ffioedd)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “£14.70” rhodder “£20.00”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “£47.00” rhodder “£60.00”;
(c) ym mharagraff (3), yn lle “£203.00” rhodder “£260.00”;
(d) ym mharagraff (4), yn lle “£203.00” rhodder “£260.00”;
(e) ym mharagraff (5), yn lle “A Band 1 charge, that is to say a charge of £14.70” rhodder “A charge of £30.00”.
3 
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2020 wedi eu dirymu.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2024