
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2024.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau UCD 2003” yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003.
2 

(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i waharddiadau sy’n digwydd ar neu ar ôl 8 Ebrill 2024.
(2) Mae Rheoliadau UCD 2003, fel yr oeddent cyn eu diwygio gan y Rheoliadau hyn, yn parhau i fod yn gymwys i waharddiadau sy’n digwydd cyn 8 Ebrill 2024.
3 

(1) Mae rheoliad 3 (y corff cyfrifol) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle “yr awdurdod lleol sy’n cynnal” rhodder “pwyllgor rheoli”.
(3) Hepgorer “am gyfnod penodedig”.
4 

(1) Mae rheoliad 5 (gwahardd disgyblion: y ddyletswydd i hysbysu’r person perthnasol a’r awdurdod lleol) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y pennawd, ar ôl “person perthnasol” mewnosoder “, y pwyllgor rheoli”.
(3) Ym mharagraff (1)—
(a) hepgorer “am gyfnod penodedig”;
(b) yn is-baragraff (a), ar y diwedd mewnosoder “neu, os yw’r disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol, fod y disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol”;
(c) yn is-baragraff (c)—
(i) ar ôl “y caiff” mewnosoder “y person perthnasol”, a
(ii) yn lle “awdurdod lleol”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “pwyllgor rheoli”.
(4) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn penderfynu y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol, rhaid i’r athro neu’r athrawes â gofal yn ddi-oed gymryd camau rhesymol i hysbysu’r person perthnasol—
(a) o’r penderfyniad, a
(b) o’r materion a bennir yn is-baragraffau (b) i (ch) o baragraff (1).”
(5) Yn lle paragraffau (2) a (3) rhodder—“
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys os bydd yr athro neu’r athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion—
(a) yn gwahardd unrhyw ddisgybl mewn amgylchiadau pan fyddai’r disgybl, yn sgil y gwaharddiad—
(i) yn cael ei wahardd o’r uned cyfeirio disgyblion am gyfanswm o fwy na phum diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu
(ii) yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus,
(b) yn gwahardd disgybl yn barhaol, neu
(c) yn penderfynu y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl yn waharddiad parhaol.
(3) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r athro neu’r athrawes â gofal yn ddi-oed hysbysu’r pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol o’r materion canlynol—
(a) cyfnod y gwaharddiad neu, os yw’r disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol, fod y disgybl yn cael ei wahardd felly, neu
(b) penderfyniad yr athro neu’r athrawes â gofal y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol,
ac (yn y naill achos neu’r llall) y rhesymau drosto.”
(6) Hepgorer paragraff (4).
(7) Ym mharagraff (5)—
(a) ar ôl “hysbysu’r” mewnosoder “pwyllgor rheoli a’r”;
(b) yn lle “paragraffau (2) neu (3)” rhodder “paragraff (2)”.
5 

(1) Mae rheoliad 6 (gwahardd disgyblion: darparu gwybodaeth i’r awdurdod lleol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y pennawd, yn lle “Chynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Gweinidogion Cymru”.
(3) Ym mharagraff (1)—
(a) yn lle “athro neu’r athrawes â gofal” rhodder “pwyllgor rheoli”;
(b) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ba) pan fo gan y disgybl sydd wedi’i wahardd anghenion dysgu ychwanegol, neu y gall fod ganddo anghenion dysgu ychwanegol, a yw’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol, neu a oedd ar adeg y gwaharddiad—
(i) yn penderfynu a oes gan y disgybl anghenion dysgu ychwanegol,
(ii) yn llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y disgybl, neu
(iii) yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y disgybl,
yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;”.
(4) Yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Rhaid i awdurdod lleol ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth, os byddant yn gofyn amdani, y mae’r awdurdod lleol wedi’i chael oddi wrth athro neu athrawes â gofal o dan reoliad 5(3) neu 5(5) neu oddi wrth bwyllgor rheoli o dan reoliad 6(1).”
6 

(1) Mae rheoliad 7 (swyddogaethau awdurdod lleol mewn perthynas â disgyblion wedi’u gwahardd am gyfnod penodedig) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y pennawd—
(a) yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”;
(b) yn lle “wedi’u gwahardd am gyfnod penodedig” rhodder “sydd wedi’u gwahardd”.
(3) Yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys pan hysbysir y pwyllgor rheoli o’r canlynol o dan reoliad 5(3)—
(a) gwahardd disgybl yn barhaol,
(b) penderfyniad y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl yn waharddiad parhaol, neu
(c) gwahardd unrhyw ddisgybl, a’r amgylchiadau yw y byddai’r disgybl, yn sgil y gwaharddiad—
(i) yn cael ei wahardd o’r uned cyfeirio disgyblion am gyfanswm o fwy na 15 diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu
(ii) yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus.”
(4) Ym mharagraff (2)—
(a) yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”;
(b) yn is-baragraff (b)—
(i) yn y geiriau o flaen is-baragraff (b)(i), yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”;
(ii) ar ddiwedd paragraff (ii) hepgorer “a”;
(iii) ar ddiwedd paragraff (iii), yn lle “;” rhodder “, a”;
(iv) ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—“
(iv) gan yr awdurdod lleol;”;
(c) yn is-baragraff (c)—
(i) yn lle “caniatáu” rhodder “cynnull cyfarfod a chaniatáu”;
(ii) ar ddiwedd paragraff (ii) hepgorer “a”;
(iii) ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—“a
(iv) un o swyddogion yr awdurdod lleol, a enwebwyd gan yr awdurdod,”;
(iv) yn lle “i gyfarfod â’r awdurdod lleol” rhodder “i’r cyfarfod hwnnw”.
(5) Ym mharagraff (3)—
(a) yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”;
(b) yn y testun Saesneg, yn lle “he or she” rhodder “the pupil”.
(6) Ym mharagraff (4)—
(a) yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “yr awdurdod lleol” rhodder “y pwyllgor rheoli”;
(b) yn is-baragraff (b), ar ôl “person perthnasol” mewnosoder “a’r awdurdod lleol”.
(7) Ym mharagraff (5), yn lle “yr awdurdod lleol” rhodder “y pwyllgor rheoli”.
(8) Ym mharagraff (6)—
(a) yn lle “yr awdurdod lleol” rhodder “y pwyllgor rheoli”;
(b) yn lle’r geiriau o “hysbysu’r person perthnasol” hyd at y diwedd rhodder—“yn ddi-oed—
(a) hysbysu’r person perthnasol, yr athro neu’r athrawes â gofal a’r awdurdod lleol o’i benderfyniad, a
(b) yn ychwanegol, yn achos disgybl sydd wedi’i wahardd yn barhaol, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person perthnasol, sy’n cyfeirio at y penderfyniad hwnnw ac sy’n datgan y materion a ganlyn—
(i) y rhesymau dros y penderfyniad,
(ii) hawl y person perthnasol i apelio yn erbyn y penderfyniad,
(iii) y person y dylai’r person perthnasol roi unrhyw hysbysiad o apêl iddo,
(iv) bod rhaid i unrhyw hysbysiad o apêl gynnwys y sail dros yr apêl, a
(v) y dyddiad olaf y caniateir i apêl gael ei gwneud.”
(9) Ym mharagraff (7)(b), yn lle “yr awdurdod lleol” rhodder “y pwyllgor rheoli”.
(10) Ym mharagraff (8)—
(a) yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”;
(b) yn is-baragraff (b), ar ôl “yn achos gwaharddiad” mewnosoder “parhaol neu waharddiad”;
(c) yn y geiriau ar ôl is-baragraff (c), yn lle “5(2)” rhodder “5(3)”.
(11) Ym mharagraff (9)—
(a) hepgorer “am gyfnod penodedig”;
(b) yn y testun Saesneg, yn lle “he or she” rhodder “the pupil”;
(c) yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”.
(12) Ym mharagraff (10), yn lle “corff llywodraethu” rhodder “pwyllgor rheoli”.
(13) Ar ôl paragraff (10) mewnosoder—“
(11) Caniateir rhoi’r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b) naill ai—
(a) drwy ei draddodi â llaw i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol, neu
(b) drwy ei anfon drwy’r post dosbarth cyntaf, mewn amlen wedi’i chyfeirio’n briodol a’i rhagdalu, i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol.”
7 

(1) Mae rheoliad 8 (apelau yn erbyn gwahardd disgyblion yn barhaol) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), yn lle “yr athro neu’r athrawes â gofal o dan adran 52(2) i wahardd disgybl yn barhaol” rhodder “y pwyllgor rheoli o dan reoliad 7 i beidio â derbyn yn ôl ddisgybl sydd wedi’i wahardd yn barhaol”.
(3) Ym mharagraff (3)—
(a) yn lle “adran 52(2) o Ddeddf 2002” rhodder “reoliad 7”;
(b) yn y testun Cymraeg, yn lle “herbyn” rhodder “erbyn”;
(c) ar y diwedd mewnosoder “, neu’r gwaharddiad neu’r penderfyniad gan yr athro neu’r athrawes â gofal yr oedd y penderfyniad hwnnw yn ymwneud ag ef”.
(4) Ym mharagraff (4), ar ôl “yr athro neu’r athrawes â gofal” mewnosoder “, y pwyllgor rheoli”.
(5) Ym mharagraff (5)(c), yn lle “i’w dderbyn” rhodder “i dderbyn y disgybl”.
8 

(1) Mae rheoliad 9 (gwahardd disgyblion: canllawiau) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) y pwyllgor rheoli,”.
(3) Ym mharagraff (2), yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Weinidogion Cymru”.
9 
Yn is-baragraff (b) o reoliad 9A (gwaharddiadau — safon y prawf) o Reoliadau UCD 2003, yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli.
10 

(1) Mae’r Atodlen (addasiadau i’r Atodlen i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003) i Reoliadau UCD 2003 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer paragraff 1.
(3) Ar y dechrau, mewnosoder paragraff 1A—“
1A. 
Ym mharagraff 1(1)—
(a) yn lle “6(1)” rhoddir “8(1)”;
(b) yn lle “6(6)(b)” rhoddir “7(6)(b)”.”
(4) Hepgorer paragraff 2.
(5) Ym mharagraff 4—
(a) ym mharagraff (a) o’r addasiad i baragraff 2(7), hepgorer “(os oes un)”;
(b) ym mharagraff (ch)(ii) o’r addasiad i baragraff 2(7), yn lle “ei wahardd” rhodder “wahardd y disgybl”;
(c) yn y geiriau ar ôl paragraff (ch)(ii) o’r addasiad i baragraff 2(7), yn lle “ei allu” rhodder “allu’r person”.
(6) Ym mharagraff 5—
(a) ar ddiwedd yr addasiad i baragraff 10(2)(a) hepgorer “a”;
(b) ar ôl yr addasiad i baragraff 10(2)(a) mewnosoder—“
(aa) i’r pwyllgor rheoli roi sylwadau ysgrifenedig, i gael ei gynrychioli ac i ymddangos a rhoi sylwadau llafar, a”;
(c) ym mharagraff (b) o’r addasiad i baragraff 10(2), hepgorer “yn ychwanegol at y datganiad y mae’n ofynnol i’r awdurdod ei gyflwyno i’r panel o dan is-baragraff (1),”.
(7) Yn lle paragraff 6 rhodder—“
6. 
Ym mharagraff 14(a), yn lle “y corff llywodraethu a’r pennaeth” rhodder “y pwyllgor rheoli a’r athro neu’r athrawes â gofal”.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2024