
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Ionawr 2024.
2 
Yn rheoliad 3(1) (addasiadau darfodol i Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC) o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021, yn lle “31 Ionawr” rhodder “29 Ebrill”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
8 Ionawr 2024