
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Harbwr ar gyfer Harbwr Port Talbot (Estyn Terfynau) 2024.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Chwefror 2024.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “yr ardal ychwanegol” (“the added area”) yw’r ardal a ddisgrifir yn Atodlen 1 ac a ddangosir at ddiben adnabod yn unig ar y cynllun a nodir yn Atodlen 2;
 ystyr “awdurdod yr harbwr” (“the harbour authority”) yw Associated British Ports yn rhinwedd bod yn awdurdod harbwr ar gyfer Harbwr Port Talbot;
 ystyr “Deddf 1847” (“the 1847 Act”) yw Deddf Cymalau Harbyrau, Dociau, a Phierau 1847;
 ystyr “Deddf 1899” (“the 1899 Act”) yw Deddf Rheilffordd a Dociau Port Talbot 1899;
 ystyr “Deddf 1964” (“the 1964 Act”) yw Deddf Dociau Trafnidiaeth Prydain 1964;
 ystyr “Deddf 1971” (“the 1971 Act”) yw Deddf Dociau Trafnidiaeth Prydain 1971;
 ystyr “Harbwr Port Talbot” (“Port Talbot Harbour”) yw’r dociau a’r harbwr sy’n cynnwys ymgymeriad Associated British Ports ym Mhort Talbot;
 ystyr “is-ddeddfau presennol yr harbwr” (“the existing harbour byelaws”) yw is-ddeddfau Harbwr Port Talbot dyddiedig 1 Mawrth 1923, fel y’u hategir gan yr is-ddeddfau dyddiedig 29 Ebrill 1927.
3 

(1) Mae terfynau Harbwr Port Talbot fel y’u diffinnir yn adran 23 (Terfynau presennol yr harbwr) o Ddeddf 1899 ac fel y’u hestynnir gan adran 19 (Estyn awdurdodaeth y docfeistr a’r harbwrfeistr, a therfynau’r harbwr) o Ddeddf 1971 yn cael eu hestyn ymhellach i gynnwys yr ardal ychwanegol.
(2) Yn ddarostyngedig i erthygl 4, bydd yr holl ddeddfiadau sy’n rhoi hawliau a phwerau i awdurdod yr harbwr neu ei harbwrfeistr, neu sy’n gosod dyletswyddau, rhwymedigaethau neu atebolrwyddau ar awdurdod yr harbwr neu ei harbwrfeistr, a gafodd effaith yn union cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym o fewn yr harbwr, i gael effaith yn yr ardal ychwanegol.
4 

(1) Mae Deddf 1847 yn cael effaith yn yr ardal ychwanegol fel y’i hymgorfforir â Deddf 1964 mewn perthynas â gweithfeydd Port Talbot a awdurdodir gan y Ddeddf honno.
(2) Ni fydd is-ddeddfau presennol yr harbwr yn gymwys i’r ardal ychwanegol.
(3) Ni ellir codi tollau llongau, nwyddau na theithwyr o fewn ystyr Deddf Harbyrau 1964 ar unrhyw long nac ar nwyddau a gludir ar y llong honno dim ond am fod y llong yn pasio drwodd yr ardal ychwanegol neu’n angori yn yr ardal ychwanegol ar fordaith i le, ac o le, y tu allan i Harbwr Port Talbot.
(4) Ni chaniateir codi taliadau llywio o dan adran 10 (taliadau llywio) o Ddeddf Llywio 1987 ar unrhyw lestr sy’n pasio drwodd yr ardal ychwanegol neu’n angori yn yr ardal ychwanegol sy’n teithio i ardal awdurdod harbwr cymwys arall neu oddi yno, ac sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd llywio gorfodol a wneir gan yr awdurdod hwnnw.
(5) Yn yr erthygl hon, ystyr “awdurdod harbwr cymwys” yw awdurdod harbwr cymwys at ddibenion Deddf Llywio 1987, ac ystyr “cyfarwyddyd llywio gorfodol” yw cyfarwyddyd a wneir o dan adran 7 (cyfarwyddydau llywio) o’r Ddeddf honno.
5 

(1) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn—
(a) yn lleihau effaith unrhyw ystad, hawl, pŵer, braint, awdurdod neu esemptiad o eiddo’r Goron;
(b) yn awdurdodi Associated British Ports nac unrhyw un o drwyddedeion Associated British Ports i gymryd unrhyw dir neu unrhyw fuddiannau mewn tir neu unrhyw hawliau o ba ddisgrifiad bynnag, eu defnyddio, mynd arnynt, neu ymyrryd mewn unrhyw fodd â hwy (gan gynnwys unrhyw ran o lannau neu wely’r môr neu lannau neu wely unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu foryd) sy’n eiddo i—
(i) Ei Fawrhydi drwy hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o Ystad y Goron heb gydsyniad ysgrifenedig Comisiynwyr Ystad y Goron, neu
(ii) adran o’r llywodraeth, neu a ddelir o dan ymddiriedolaeth i’w Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, heb gydsyniad ysgrifenedig yr adran honno o’r llywodraeth.
(2) Caniateir i gydsyniad o dan baragraff (1)(b) gael ei roi yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i’r amodau hynny neu’r telerau hynny yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol neu’n briodol.
Lee Waters
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
13 Chwefror 2024
ATODLEN 1
Erthygl 2

Ystyr yr ardal ychwanegol yw’r ardal o fewn Bae Abertawe, a ddangosir at ddiben adnabod yn unig ar y cynllun a nodir yn Atodlen 2, sydd â’i ffin yn llinell ddychmygol a dynnwyd rhwng y pwyntiau canlynol—

Pwynt Lledred Hydred
1 51° 35′ 03.15893″G 003° 49′ 58.92743″Gn
2 51° 35′ 23.28499″G 003° 53′ 52.82491″Gn
3 51° 34′ 48.72388″G 003° 54′ 16.40161″Gn
4. 51° 34′ 09.25610″G 003° 56′ 54.67783″Gn
5 51° 32′ 40.80632″G 003° 58′ 52.80959″Gn
6 51° 32′ 37.04455″G 004° 05′ 25.93474″Gn
7 51° 24′ 59.63288″G 004° 09′ 42.42239″Gn
8 51° 24′ 59.70080″G 003° 58′ 01.78030″Gn
9 51° 28′ 33.70239″G 003° 55′ 40.05564″Gn
10 51° 30′ 05.51332″G 003° 49′ 34.14032″Gn
11 51° 32′ 13.91218″G 003° 51′ 35.79793″Gn
12 51° 32′ 50.42414″G 003° 50’ 01.11214”Gn
13 51° 33’ 35.46087”G 003° 50′ 45.40336″Gn
14 51° 33′ 28.55389″G 003° 51′ 04.80125″Gn
15 51° 34′ 01.50460″G 003° 51′ 33.55558″Gn
16 51° 34′ 38.486404″G 003° 49′ 55.61939″Gn

ATODLEN 2
Erthygl 2


