
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024 a deuant i rym ar 6 Ionawr 2025.
2 
Mae rheoliad 12 o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (1A), yn lle’r geiriau o “rheoliad 3(1)(ab)” i “2016” rhodder “paragraff (1B)”;
(b) ar ôl paragraff (1A) mewnosoder—“
(1B) Mae datblygiad o fewn y paragraff hwn os ydyw—
(a) o fewn rheoliad 3(1)(a) neu (aa) o Reoliadau 2016 ac—
(i) yn achos adeiladu naill ai gorsaf gynhyrchu neu orsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir, disgwylir i’r orsaf gynhyrchu neu’r orsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir, pan gaiff ei hadeiladu, fod â gallu cynhyrchu gosodedig o lai na 50 megawat; neu
(ii) yn achos estyn neu addasu naill ai gorsaf gynhyrchu neu orsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir, disgwylir i’r estyniad neu’r addasiad gynyddu’r gallu cynhyrchu gosodedig o lai na 50 megawat; neu
(b) o fewn rheoliad 3(1)(ab) (gosod llinell drydan uwchben y ddaear) o Reoliadau 2016.”;
(c) yn lle paragraff 10 rhodder—“
(10) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “gorsaf gynhyrchu” (“generating station”), “gallu cynhyrchu gosodedig” (“installed generating capacity”) a “gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir” (“onshore wind generating station”) yr ystyron a roddir yn rheoliad 4(3) o Reoliadau 2016;
 mae “penderfynu cais” (“determining an application”) yn cynnwys penderfynu unrhyw gydsyniadau eilaidd sy’n gysylltiedig â’r cais pan fo’r penderfyniad ar y cydsyniadau hynny i’w wneud gan Weinidogion Cymru;
 ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016.”
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
11 Rhagfyr 2024