
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) (Diwygio) 2024 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2024.
2 
Yn Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2024, yn lle rheoliad 1(3) rhodder—“
(3) Daw’r rheoliad hwn a rheoliad 3(5) i rym ar 1 Ionawr 2025.”
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 12.59 p.m. ar 10 Rhagfyr 2024