
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Rhagfyr 2024.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2018” yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018.
(2) Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
3 
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch sydd â dyddiad cael effaith sydd ar neu ar ôl 11 Rhagfyr 2024.
4 
Ond nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw drafodiad a grybwyllir yn rheoliad 3—
(a) y rhoddir effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo ac a gyflawnwyd yn sylweddol cyn 11 Rhagfyr 2024, neu
(b) y rhoddir effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo ond nas cyflawnwyd yn sylweddol cyn 11 Rhagfyr 2024 ac nad yw wedi ei eithrio gan reoliad 5.
5 
Mae trafodiad wedi ei eithrio gan y rheoliad hwn os yw’n drafodiad a bennir yn rheoliad 3 y rhoddir effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo cyn 11 Rhagfyr 2024 ac—
(a) pan geir unrhyw amrywiad i’r contract, neu pan aseinir hawliau o dan y contract, ar neu ar ôl 11 Rhagfyr 2024,
(b) pan roddir effaith i’r trafodiad o ganlyniad i arfer unrhyw opsiwn, hawl rhagbrynu neu hawl debyg ar neu ar ôl 11 Rhagfyr 2024, neu
(c) pan geir, ar neu ar ôl 11 Rhagfyr 2024, aseiniad, is-werthiant neu drafodiad arall yn ymwneud â’r cyfan neu ran o bwnc y contract, y caiff person heblaw’r prynwr o dan y contract hawlogaeth i alw am drosglwyddiad o ganlyniad iddo.
6 
Yn yr Atodlen i Reoliadau 2018, yn lle Tabl 2 rhodder—“
Tabl 2: Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch
Band treth Y gydnabyddiaeth berthnasol Y gyfradd dreth ganrannol
Y band treth cyntaf Nid mwy na £180,000 5%
Yr ail fand treth Mwy na £180,000 ond nid mwy na £250,000 8.5%
Y trydydd band treth Mwy na £250,000 ond nid mwy na £400,000 10%
Y pedwerydd band treth Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000 12.5%
Y pumed band treth Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000 15%
Y chweched band treth Mwy na £1,500,000 17%”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
am 9.05 a.m. ar 10 Rhagfyr 2024