
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Awdurdodau Iechyd Arbennig (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Ionawr 2025.
RHAN 2
2 
Mae Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 4 (penodi aelodau Bwrdd Iechyd Lleol)—
(a) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Mae’r swyddog-aelodau yn cael eu penodi fel a ganlyn—
(a) mae’r prif swyddog yn cael ei benodi gan y cadeirydd, yr is-gadeirydd a’r aelodau nad ydynt yn swyddogion;
(b) mae’r swyddog-aelodau sy’n weddill yn cael eu penodi gan y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a’r prif swyddog.”;
(b) ar ôl paragraff (9) mewnosoder—“
(9A) Caiff pob undeb llafur sy’n cael ei gydnabod gan y Bwrdd mewn perthynas â materion cyflogi enwebu dau berson a chaiff Gweinidogion Cymru ddewis person o blith y personau hynny a enwebir i fod yr aelod undeb llafur o dan reoliad 3(4)(c).”;
(c) ar ôl paragraff (10) mewnosoder—“
(11) Ni fydd unrhyw swydd wag ymhlith yr aelodau hynny sy’n gwneud y penodiad yn effeithio ar ddilysrwydd penodiadau a wneir o dan baragraff 2.”
4 
Yn is-baragraff (1)—
(a) yn lle “gan unrhyw un o’r Byrddau Iechyd Lleol neu’r Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn.” rhodder “gan—”;
(b) yn lle paragraffau (a) i (c) rhodder—“
(a) Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o’r Ddeddf,
(b) Ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd o dan adran 18 o’r Ddeddf, neu
(c) Awdurdod Iechyd Arbennig o ran Cymru a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o’r Ddeddf.”;
(c) hepgorer paragraff (ch).
5 
Ym mharagraff 2(3) o Atodlen 3 (rheolau ynghylch cyfarfodydd a thrafodion byrddau), yn lle “deg diwrnod” rhodder “bum niwrnod”.
RHAN 3
6 
Mae Rheoliadau Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Aelodaeth a Gweithdrefn) 1990 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
7 
Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli)—
(a) ar ôl y diffiniad o “the Act” mewnosoder—“
 “the Wales 2006 Act” means the National Health Service (Wales) Act 2006.”;
(b) yn y diffiniad o “health service body”, ar ôl is-baragraff (ba) mewnosoder—“
(bb) a Local Health Board established under section 11 of the Wales 2006 Act;”.
8 
Yn rheoliad 11 (anghymhwyso rhag penodi’n gadeirydd, yn is-gadeirydd ac yn gyfarwyddwyr anweithredol)—
(a) ym mharagraff (1)(e), ar y dechrau mewnosoder “in relation to England,”;
(b) ym mharagraff (1)(ee), ar y dechrau mewnosoder “in relation to England,”;
(c) ym mharagraff (1)(f), ar y dechrau mewnosoder “in relation to England,”;
(d) ar ôl paragraff (1)(h) mewnosoder—“
(j) in relation to Wales, that person is, or has been within the 12 months prior to appointment, in the paid employment of—
(i) a Local Health Board established under section 11 of the Wales 2006 Act,
(ii) an NHS trust established under section 18 of the Wales 2006 Act, or
(iii) a Special Health Authority in relation to Wales established by the Welsh Ministers under section 22 of the Wales 2006 Act.”
(e) hepgorer paragraff (6A);
(f) ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(8) For the purposes of paragraph (1)(j)—
(a) a person is not to be treated as having been in paid employment by reason of having held the position of chair, vice-chair or non-officer member of a Local Health Board; chair, vice-chair or non-executive director of an NHS trust; or chair, vice-chair or non-officer member of a Special Health Authority, and
(b) a person is disqualified from being a chair, vice-chair or non-executive director if following that person’s appointment as a chair, vice-chair or non-executive director they take up paid employment with any of the bodies listed in paragraph (1)(j) other than in the circumstances specified in this paragraph.”
RHAN 4
9 
Mae Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
10 
Yn rheoliad 15 (datgymhwyso rhag penodi cadeirydd, is-gadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol)—
(a) yn lle paragraff (1)(d) rhodder—“
(d) os yw’r person hwnnw mewn cyflogaeth am dâl, neu wedi bod mewn cyflogaeth am dâl o fewn y 12 mis cyn y penodiad, gydag—
(i) Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o’r Ddeddf,
(ii) ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd o dan adran 18 o’r Ddeddf, neu
(iii) Awdurdod Iechyd Arbennig o ran Cymru a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o’r Ddeddf.”;
(b) hepgorer paragraff (1)(dd);
(c) yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) At ddibenion paragraff (1)(d)—
(a) nid yw person i’w drin fel pe bai wedi bod mewn cyflogaeth am dâl oherwydd ei fod wedi dal swydd cadeirydd neu is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol, neu aelod nad yw’n swyddog ohono; cadeirydd neu is-gadeirydd ymddiriedolaeth GIG, neu gyfarwyddwr anweithredol iddi; neu gadeirydd neu is-gadeirydd Awdurdod Iechyd Arbennig, neu aelod nad yw’n swyddog ohono;
(b) mae person yn cael ei ddatgymhwyso rhag bod yn cadeirydd, is-gadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol os yw’r person hwnnw, yn dilyn ei benodi’n cadeirydd, is-gadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol, yn ymgymryd â chyflogaeth am dâl gydag unrhyw un neu ragor o’r cyrff a restrir ym mharagraff (1)(d) ac eithrio o dan yr amgylchiadau a bennir yn y paragraff hwn.”
11 
Ym mharagraff 2(3) o Atodlen 2 (rheolau ynghylch cyfarfodydd a thrafodion yr Ymddiriedolaeth), yn lle “ddeng” rhodder “bum”.
RHAN 5
12 
Mae Rheoliadau Addysg a Gwella Iechyd Cymru 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
13 
Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “corff gwasanaeth iechyd”, ar ôl is-baragraff (k) mewnosoder—“
(1) Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlir o dan adran 22 o’r Ddeddf;”
14 
Yn rheoliad 5 (aelodau nad ydynt yn swyddogion – cymhwystra)—
(a) ym mharagraff (1) (aelodau nad ydynt yn swyddogion – cymhwystra)—
(i) hepgorer y “neu” ar ôl is-baragraff (a);
(ii) ar ôl “Ddeddf” yn is-baragraff (b) mewnosoder—“;
(c) Awdurdod Iechyd Arbennig o ran Cymru a sefydlir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o’r Ddeddf”;
(b) ym mharagraff (2) ar ôl “Fwrdd Iechyd Lleol” mewnosoder “neu Awdurdod Iechyd Arbennig,”.
15 
Ym mharagraff 3(1) o Atodlen 2 (rheolau ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion AaGIC) yn lle “10” rhodder “5”.
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2024