
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2025.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “adeilad” yr ystyr a roddir i “building” gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2010;
 ystyr “adeilad GDT” (“FSO building”) yw adeilad neu unrhyw ran ohono y mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys iddo, neu a fydd yn gymwys iddo ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu;
 mae i “addasiad sylweddol” yr ystyr a roddir i “material alteration” gan reoliad 3(2) o Reoliadau 2010;
 ystyr “adroddiad trosglwyddo” (“transfer report”) yw adroddiad a roddir yn unol ag adran 53B o Ddeddf 1984;
 mae i “annedd” yr ystyr a roddir i “dwelling” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2010;
 ystyr “arolygydd cofrestredig adeiladu” (“registered building inspector”) yw unigolyn sydd wedi ei gofrestru yn arolygydd adeiladu yn unol â Rhan 2A o Ddeddf 1984;
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
 ystyr “awdurdod tân ac achub” yw’r awdurdod gorfodi o fewn yr ystyr a roddir i “fire and rescue authority” gan erthygl 25 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005;
 mae i “codi” yr un ystyr ag a roddir i “erection” yn adran 123 o Ddeddf 1984;
 mae i “corff cyhoeddus” yr ystyr a roddir i “public body” gan adran 54(1) o Ddeddf 1984;
 ystyr “cymeradwywr” (“approver”) yw cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu o fewn ystyr adran 58N o Ddeddf 1984;
 ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984;
 mae i “gwaith adeiladu” yr ystyr a roddir i “building work” gan reoliad 3(1) o Reoliadau 2010;
 ystyr “hysbysiad corff cyhoeddus” (“public body’s notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 54(1)(c) o Ddeddf 1984;
 mae i “hysbysiad cychwynnol” yr ystyr a roddir i “initial notice” gan adran 47(1)(a) o Ddeddf 1984;
 mae i “hysbysiad diwygio” yr ystyr a roddir i “amendment notice” gan adran 51A o Ddeddf 1984;
 mae i “newid defnydd sylweddol” yr ystyr a roddir i “material change of use” gan reoliad 5 o Reoliadau 2010;
 ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 2010;
 mae i “rheoliadau adeiladu” yr ystyr a roddir i “building regulations” gan adran 122 o Ddeddf 1984;
 mae i “tystysgrif blaniau” yr ystyr a roddir i “plans certificate” gan adran 50(1) o Ddeddf 1984;
 ystyr “tystysgrif blaniau corff cyhoeddus” (“public body’s plans certificate”) yw tystysgrif a roddir o dan baragraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 1984;
 ystyr “tystysgrif derfynol corff cyhoeddus” (“public body’s final certificate”) yw tystysgrif a roddir o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i Ddeddf 1984;
 ystyr “tystysgrif drosglwyddo” (“transfer certificate”) yw tystysgrif a roddir yn unol ag adran 53B o Ddeddf 1984;
 ystyr “ymgymerwr carthffosiaeth” (“sewerage undertaker”) yw person a benodir o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 ar gyfer yr ardal y mae’r adeilad wedi ei leoli ynddi, neu y mae i gael ei leoli ynddi.
(2) Pan fo unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio ffurflen wedi ei rhifo yn Atodlen 1, caniateir defnyddio ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gynnal gwaith yn cynnwys cyfeiriad at wneud newid defnydd sylweddol.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at hysbysiad cychwynnol (pa un a yw wedi ei gyfuno â thystysgrif blaniau ai peidio) i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr hysbysiad cychwynnol hwnnw fel y’i diwygiwyd gan hysbysiad diwygio sydd wedi ei dderbyn gan awdurdod lleol.
RHAN 2
3 

(1) Ni chaiff cymeradwywyr fod ag unrhyw fuddiant proffesiynol nac ariannol yn y gwaith y maent yn ei oruchwylio.
(2) Ystyrir bod gan berson (“P”) fuddiant proffesiynol neu ariannol yn y gwaith a ddisgrifir mewn unrhyw hysbysiad neu dystysgrif a roddir o dan y Rheoliadau hyn os—
(a) yw P yn gyfrifol neu wedi bod yn gyfrifol am ddylunio neu adeiladu unrhyw ran o’r gwaith mewn unrhyw swyddogaeth;
(b) yw P neu unrhyw un o enwebeion P yn aelod, yn swyddog neu’n gyflogai i gwmni neu gorff arall sydd â buddiant proffesiynol neu ariannol yn y gwaith;
(c) yw P yn bartner neu os yw yng nghyflogaeth person sydd â buddiant proffesiynol neu ariannol yn y gwaith.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a) mae P i’w drin fel pe bai ganddo fuddiant proffesiynol neu ariannol yn y gwaith hyd yn oed os oes gan P y buddiant hwnnw yn unig fel ymddiriedolwr er budd rhyw berson arall;
(b) yn achos personau priod neu bartneriaid sifil sy’n cyd-fyw, ystyrir bod buddiant un priod neu bartner, os yw’n hysbys i’r llall, hefyd yn fuddiant i’r llall.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn nid yw’r canlynol i’w hystyried yn fuddiant proffesiynol nac ariannol—
(a) ymwneud â’r gwaith fel cymeradwywr,
(b) hawlogaeth i unrhyw ffi a delir am swyddogaeth P fel cymeradwywr,
(c) hawlogaeth i unrhyw ffi a delir am gyflogai i P gynnal swyddogaeth fel arolygydd cofrestredig adeiladu, a
(d) atebolrwydd posibl i dalu unrhyw swm os caiff hawliad ei wneud o dan unrhyw sicrwydd yswiriant.
4 

(1) Cyhyd â bod hysbysiad cychwynnol yn parhau mewn grym, rhaid i’r cymeradwywr a roddodd yr hysbysiad gymryd camau o’r fath (a gaiff gynnwys gwneud profion o waith adeiladu a chymryd samplau o ddeunyddiau) ag sy’n rhesymol i alluogi’r cymeradwywr i gael ei fodloni o fewn terfynau sgìl a gofal proffesiynol y cydymffurfir â’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2) (fel y’u haddesir gan reoliad 5 (addasu Rheoliadau 2010 etc.)).
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a) yn Rheoliadau 2010—
(i) rheoliad 4 (gofynion sy’n ymwneud â gwaith adeiladu),
(ii) rheoliad 6 (gofynion sy’n ymwneud â newid defnydd sylweddol),
(iii) rheoliad 7 (deunyddiau a chrefftwaith),
(iv) rheoliad 20 (y darpariaethau sy’n gymwys i gynlluniau hunanardystio),
(v) rheoliad 22 (gofynion sy’n ymwneud â newid i statws ynni),
(vi) rheoliad 23 (gofynion ar gyfer adnewyddu neu ailosod elfennau thermol),
(vii) rheoliad 25A (ystyried systemau amgen tra effeithlon ar gyfer adeiladau newydd),
(viii) rheoliad 26 (cyfraddau allyriadau CO2 ar gyfer adeiladau newydd),
(ix) rheoliad 26A (cyfraddau ynni crai ar gyfer adeiladau newydd),
(x) rheoliad 26B (gwerthoedd perfformiad adeiladwaith ar gyfer anheddau newydd),
(xi) rheoliad 26C (sgôr effeithlonrwydd ynni gofynnol),
(xii) rheoliad 27 (cyfrifiadau cyfradd allyriadau CO2 ),
(xiii) rheoliad 27A (cyfrifiadau cyfradd defnyddio ynni crai),
(xiv) rheoliad 27B (cyfrifiadau gwerthoedd perfformiad adeiladwaith),
(xv) rheoliad 27C (cyfraddau ynni crai targed ar gyfer adeiladau newydd),
(xvi) rheoliad 28 (gwelliannau canlyniadol i berfformiad ynni),
(xvii) rheoliad 36 (effeithlonrwydd dŵr anheddau newydd),
(xviii) rheoliad 37 (cyfrifo’r defnydd o ddŵr dihalog),
(xix) rheoliad 37A (darparu systemau llethu tân awtomatig),
(xx) rheoliad 38 (gwybodaeth am ddiogelwch tân),
(xxi) rheoliad 39 (gwybodaeth am awyru),
(xxii) rheoliad 40 (gwybodaeth am ddefnyddio tanwydd a phŵer),
(xxiii) rheoliad 40A (gwybodaeth am systemau ar gyfer cynhyrchu trydan ar y safle),
(xxiv) rheoliad 40B (gwybodaeth am orgynhesu),
(xxv) rheoliad 41 (profi inswleiddio sain),
(xxvi) rheoliad 42 (profi cyfradd llif awyr awyru mecanyddol),
(xxvii) rheoliad 43 (profi pwysedd),
(xxviii) rheoliad 44 (comisiynu), a
(xxix) rheoliad 44ZA (comisiynu mewn cysylltiad â system ar gyfer cynhyrchu trydan ar y safle), a
(b) yn Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012, reoliad 7A (tystysgrifau perfformiad ynni wrth adeiladu).
5 

(1) Mae Rheoliadau 2010 yn gymwys gyda’r addasiadau ym mharagraff (2) i (11).
(2) Mae rheoliadau 20 (y darpariaethau sy’n gymwys i gynlluniau hunanardystio), 25A (ystyried systemau amgen tra effeithlon ar gyfer adeiladau newydd), 27 (cyfrifiadau cyfradd allyriadau CO2), 27A (cyfrifiadau cyfradd defnyddio ynni crai), 27B (cyfrifiadau gwerthoedd perfformiad adeiladwaith), 27C (cyfraddau ynni crai targed ar gyfer adeiladau newydd), 37 (cyfrifo’r defnydd o ddŵr dihalog), 41 (profi inswleiddio sain), 42 (profi cyfradd llif awyr awyru mecanyddol), 43 (profi pwysedd), 44 (comisiynu) a 44ZA (comisiynu mewn cysylltiad â system ar gyfer cynhyrchu trydan ar y safle) o Reoliadau 2010 yn gymwys mewn perthynas â gwaith adeiladu sy’n ddarostyngedig i hysbysiad cychwynnol fel pe bai cyfeiriadau at yr awdurdod lleol yn gyfeiriadau at y cymeradwywr.
(3) Mae rheoliad 27(3) o Reoliadau 2010 yn gymwys mewn perthynas â gwaith adeiladu sy’n destun hysbysiad cychwynnol fel pe bai, ar ôl “work has been completed,”, y canlynol wedi ei fewnosod “or, if earlier, the date on which in accordance with regulation 14 of the Building (Registered Building Control Approvers etc.) (Wales) Regulations 2024, the initial notice ceases to be in force”.
(4) Mae rheoliad 27A(3) o Reoliadau 2010 yn gymwys mewn perthynas â gwaith adeiladu sy’n destun hysbysiad cychwynnol fel pe bai, ar ôl “work has been completed,” y canlynol wedi ei fewnosod “or, if earlier, the date on which in accordance with regulation 14 of the Building (Registered Building Control Approvers etc.) (Wales) Regulations 2024, the initial notice ceases to be in force”.
(5) Mae rheoliad 27B(3) o Reoliadau 2010 yn gymwys mewn perthynas â gwaith adeiladu sy’n destun hysbysiad cychwynnol fel pe bai, ar ôl “work has been completed,” y canlynol wedi ei fewnosod “or, if earlier, the date on which in accordance with regulation 14 of the Building (Registered Building Control Approvers etc.) (Wales) Regulations 2024 the initial notice ceases to be in force”.
(6) Mae rheoliad 27C(3) o Reoliadau 2010 yn gymwys mewn perthynas â gwaith adeiladu sy’n destun hysbysiad cychwynnol fel pe bai, ar ôl “work has been completed,” y canlynol wedi ei fewnosod “or, if earlier, the date on which in accordance with regulation 14 of the Building (Registered Building Control Approvers etc.) (Wales) Regulations 2024 the initial notice ceases to be in force”.
(7) Mae rheoliad 37(2) o Reoliadau 2010 yn gymwys mewn perthynas â gwaith adeiladu sy’n destun hysbysiad cychwynnol fel pe bai, ar ôl “work has been completed,” y canlynol wedi ei fewnosod “, or, if earlier, the date on which in accordance with regulation 14 of the Building (Registered Building Control Approvers etc.) (Wales) Regulations 2024 the initial notice ceases to be in force”.
(8) Mae rheoliad 38 o Reoliadau 2010 yn gymwys mewn perthynas â gwaith adeiladu sy’n destun hysbysiad cychwynnol fel pe bai, yn lle paragraff (2), y canlynol wedi ei roi—“
(2) The person carrying out the work must give the fire safety information to the responsible person no later than whichever is the earlier of—
(a) the date of completion of the work to which the initial notice relates;
(b) the date of occupation of the building or extension;
(c) the date on which in accordance with regulation 14 (events causing initial notice to cease to be in force) of the Building (Registered Building Control Approvers etc.) (Wales) Regulations 2024, the initial notice ceases to be in force.”.
(9) Mae rheoliad 41 o Reoliadau 2010 yn gymwys mewn perthynas â gwaith adeiladu sy’n destun hysbysiad cychwynnol fel pe bai—
(a) yn lle paragraff (3)(b), y canlynol wedi ei roi—“
(b) given to the approver in accordance with paragraph (2)(b) not later than 5 days after completion of the work to which the initial notice relates.”;
(b) yn lle’r geiriau ym mharagraff (4) “not later than the date on which notice of commencement of the work is given under regulation 16(1)” rhodder y geiriau “prior to commencement of the building work on site”.
(10) Mae rheoliad 44 o Reoliadau 2010 yn gymwys mewn perthynas â gwaith adeiladu sy’n destun hysbysiad cychwynnol fel pe bai, yn lle paragraff (4), y canlynol wedi ei roi—“
(4) The notice must be given to the approver—
(a) subject to sub-paragraphs (b) and (c), not later than 5 days after completion of the work to which the initial notice relates;
(b) where regulation 14 of the Building (Registered Building Control Approvers etc.) (Wales) Regulations 2024 applies, not later than the date on which the initial notice ceases to be in force or, if earlier, the end of the period referred to in sub-paragraph (a);
(c) where regulation 20 applies by virtue of regulation 5 of the Building (Registered Building Control Approvers etc.) (Wales) Regulations 2024, not later than the date on which the notice or certificate required by that regulation must be given.”.
(11) Mae rheoliad 44ZA o Reoliadau 2010 yn gymwys mewn perthynas â gwaith adeiladu sy’n destun hysbysiad cychwynnol fel pe bai, yn lle paragraff (3), y canlynol wedi ei roi—“
(3) The notice must be given to the approver—
(a) subject to sub-paragraphs (b) and (c), not later than 5 days after completion of the work to which the initial notice relates;
(b) where regulation 14 of the Building (Registered Building Control Approvers etc.) (Wales) Regulations 2024 applies, not later than the date on which the initial notice ceases to be in force or, if earlier, the end of the period referred to in sub-paragraph (a);
(c) where regulation 20 applies by virtue of regulation 5 of the Building (Registered Building Control Approvers etc.) Regulations 2024, not later than the date on which the notice or certificate required by that regulation must be given.”.
(12) Mae rheoliad 7A(3) o Reoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012 yn gymwys mewn perthynas â gwaith adeiladu sy’n destun hysbysiad cychwynnol fel pe bai—
(a) cyfeiriadau at yr awdurdod lleol yn gyfeiriadau at y cymeradwywr, a
(b) ym mharagraff (3), “or, if earlier, the date in which in accordance with regulation 14 of the Building (Registered Building Control Approvers etc.) (Wales) Regulations 2024, the initial notice ceases to be in force” wedi ei fewnosod ar ôl “work has been completed”.
RHAN 3
6 

(1) Ffurf ragnodedig hysbysiad cychwynnol—
(a) nad yw wedi ei gyfuno â thystysgrif blaniau, yw Ffurflen 1(C) yn Atodlen 1, neu
(b) sydd wedi ei gyfuno â thystysgrif blaniau, yw Ffurflen 4(C) yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i’r planiau a’r dogfennau a ddisgrifir yn y ffurflen berthnasol a ragnodir gan baragraff (1) fynd gyda hysbysiad cychwynnol.
(3) Y seiliau y mae rhaid i awdurdod lleol wrthod hysbysiad cychwynnol arnynt yw’r rhai a ragnodir yn Atodlen 2, a’r ffurflen sydd i’w defnyddio ar gyfer gwrthod hysbysiad cychwynnol (pa un a yw wedi ei gyfuno â thystysgrif blaniau neu fel arall) yw Ffurflen 7(C) yn Atodlen 1.
(4) Y cyfnod y caniateir i awdurdod lleol roi hysbysiad gwrthod ar gyfer hysbysiad cychwynnol yw 5 diwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
7 

(1) Ffurf ragnodedig hysbysiad diwygio yw Ffurflen 2(C) yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i’r planiau a’r dogfennau a ddisgrifir yn y ffurflen a ragnodir gan baragraff (1) fynd gyda hysbysiad diwygio.
(3) Y seiliau y mae rhaid i awdurdod lleol wrthod hysbysiad diwygio arnynt yw’r rhai a ragnodir ym mharagraffau 1 i 11 o Atodlen 2 a’r ffurflen sydd i’w defnyddio ar gyfer gwrthod hysbysiad diwygio yw Ffurflen 7(C) yn Atodlen 1.
(4) Y cyfnod y caniateir i awdurdod lleol roi hysbysiad gwrthod ar gyfer hysbysiad diwygio yw 5 diwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
8 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—
(a) hysbysiad cychwynnol i’w roi neu wedi ei roi mewn perthynas ag—
(i) codi, estyn neu wneud newid sylweddol i adeilad GDT, neu
(ii) mewn perthynas â gwaith adeiladu mewn cysylltiad â newid defnydd sylweddol perthnasol adeilad, a
(b) Rhan B o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofynion mewn perthynas â’r gwaith.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r cymeradwywr ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub—
(a) cyn rhoi hysbysiad cychwynnol mewn perthynas â’r gwaith, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl hynny,
(b) cyn rhoi hysbysiad diwygio perthnasol mewn perthynas â’r gwaith, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl hynny,
(c) cyn rhoi tystysgrif blaniau (pa un a yw’n cael ei chyfuno â hysbysiad cychwynnol ai peidio), a
(d) cyn rhoi tystysgrif derfynol.
(3) Rhaid i gymeradwywr y mae’n ofynnol iddo gan baragraff (2) ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub roi i’r awdurdod tân ac achub—
(a) mewn achos pan fo’r cymeradwywr yn ymgynghori â’r awdurdod mewn cysylltiad â hysbysiad cychwynnol neu hysbysiad diwygio, blaniau digonol i ddangos a fyddai’r gwaith, pe bai’n cael ei gynnal yn unol â’r planiau hynny, yn cydymffurfio â gofynion cymwys Rhan B o Atodlen 1 i Reoliadau 2010, a
(b) mewn achos pan fo’r cymeradwywr yn ymgynghori â’r awdurdod mewn cysylltiad â rhoi tystysgrif blaniau, gopi o’r planiau y mae’r cymeradwywr yn bwriadu rhoi’r dystysgrif mewn perthynas â hwy.
(4) Rhaid i gymeradwywr y mae’n ofynnol iddo gan baragraff (2) ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub—
(a) rhoi sylw i unrhyw safbwyntiau a fynegir gan yr awdurdod, a
(b) peidio â rhoi tystysgrif blaniau na thystysgrif derfynol hyd nes bod 15 diwrnod gwaith wedi mynd heibio o’r diwrnod yr ymgynghorodd y cymeradwywr â’r awdurdod, oni bai bod yr awdurdod wedi mynegi ei farn i’r cymeradwywr cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
(5) Pan fyddai deddfiad lleol, pe bai planiau’n cael eu rhoi ar waith yn unol â rheoliadau adeiladu, yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub cyn cynnal unrhyw waith neu yn ystod cynnal unrhyw waith, rhaid i’r cymeradwywr ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub mewn modd tebyg i’r hyn sy’n ofynnol gan y deddfiad hwnnw.
(6) Yn y rheoliad hwn—
 mae “newid defnydd perthnasol” yn newid defnydd sylweddol pan fydd, ar ôl i newid defnydd ddigwydd, Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys, neu’n parhau i fod yn gymwys, i’r adeilad neu unrhyw ran ohono;
 mae “hysbysiad diwygio perthnasol” yn hysbysiad diwygio pan fo—
(a) unrhyw ran o’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad cychwynnol, fel y’i hamrywir gan yr hysbysiad diwygio, a hwnnw’n waith na ellid fod wedi ei gynnal o dan yr hysbysiad gwreiddiol (“gwaith ychwanegol”)—
(i) yn ymwneud â chodi, estyn neu wneud newid sylweddol i adeilad GDT, neu
(ii) yn waith adeiladu mewn cysylltiad â newid defnydd perthnasol adeilad, a
(b) Rhan B o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofynion mewn perthynas â’r gwaith ychwanegol.
9 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hysbysiad cychwynnol neu hysbysiad diwygio i’w roi neu wedi ei roi mewn cysylltiad â gwaith y mae paragraff H4 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofynion mewn perthynas ag ef.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r cymeradwywr ymgynghori â’r ymgymerwr carthffosiaeth—
(a) cyn rhoi hysbysiad cychwynnol mewn perthynas â’r gwaith, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl hynny,
(b) cyn rhoi hysbysiad diwygio mewn perthynas â’r gwaith, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl hynny,
(c) cyn rhoi tystysgrif blaniau (pa un a yw’n cael ei chyfuno â hysbysiad cychwynnol ai peidio), a
(d) cyn rhoi tystysgrif derfynol.
(3) Rhaid i gymeradwywr y mae’n ofynnol iddo gan baragraff (2) ymgynghori â’r ymgymerwr carthffosiaeth roi i’r ymgymerwr carthffosiaeth—
(a) mewn achos pan fo’r cymeradwywr yn ymgynghori ag ef mewn cysylltiad â hysbysiad cychwynnol neu hysbysiad diwygio, blaniau digonol i ddangos a fyddai’r gwaith, pe bai’n cael ei gynnal yn unol â’r planiau hynny, yn cydymffurfio â gofynion cymwys paragraff H4 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010, a
(b) mewn achos pan fo’r cymeradwywr yn ymgynghori ag ef mewn cysylltiad â rhoi tystysgrif blaniau, gopi o’r planiau y mae’r cymeradwywr yn bwriadu rhoi’r dystysgrif mewn perthynas â hwy.
(4) Rhaid i gymeradwywr y mae’n ofynnol iddo gan baragraff (2) ymgynghori â’r ymgymerwr carthffosiaeth—
(a) rhoi sylw i unrhyw farn a fynegir gan yr ymgymerwr, a
(b) peidio â rhoi tystysgrif blaniau na thystysgrif derfynol nes bod 15 diwrnod gwaith wedi mynd heibio o’r diwrnod yr ymgynghorodd y cymeradwywr â’r ymgymerwr, oni bai bod yr ymgymerwr wedi mynegi ei farn i’r cymeradwywr cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
10 

(1) Ffurf ragnodedig tystysgrif blaniau—
(a) nad yw wedi ei chyfuno â hysbysiad cychwynnol, yw Ffurflen 3(C) yn Atodlen 1, neu
(b) sydd wedi ei chyfuno â hysbysiad cychwynnol, yw Ffurflen 4(C) yn Atodlen 1.
(2) Y seiliau y mae rhaid i awdurdod lleol wrthod tystysgrif blaniau nad yw wedi ei chyfuno â hysbysiad cychwynnol arnynt yw’r rhai a ragnodir yn Atodlen 3 a’r ffurflen sydd i’w defnyddio ar gyfer gwrthod tystysgrif blaniau yw Ffurflen 7(C) yn Atodlen 1.
(3) Y seiliau y mae rhaid i awdurdod lleol wrthod tystysgrif blaniau wedi ei chyfuno â hysbysiad cychwynnol yw’r rhai a ragnodir yn Atodlen 2 ac Atodlen 3 a’r ffurflen sydd i’w defnyddio ar gyfer gwrthod tystysgrif blaniau yw Ffurflen 7(C) yn Atodlen 1.
(4) Y cyfnod y caniateir i awdurdod lleol roi hysbysiad gwrthod ar gyfer tystysgrif blaniau (pa un a yw wedi ei gyfuno â hysbysiad cychwynnol ai peidio) yw 5 diwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y dystysgrif.
11 
Os yw hysbysiad cychwynnol yn peidio â bod mewn grym fel y disgrifir yn adran 47(4)(b) o Ddeddf 1984 (canslo etc. hysbysiad cychwynnol) a’r amodau yn adran 53(2) o Ddeddf 1984 (tystysgrif blaniau wedi ei rhoi, ei derbyn a heb ei dadwneud) wedi eu bodloni, ni chaiff yr awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw ran o’r gwaith a ddisgrifir yn y dystysgrif sydd wedi ei gynnal yn unol â’r planiau y mae’r dystysgrif yn ymwneud â hwy—
(a) rhoi hysbysiad o dan adran 36(1) o Ddeddf 1984 (symud ymaith neu addasu gwaith sy’n torri rheoliadau adeiladu), neu
(b) cychwyn achos o dan adran 35 o Ddeddf 1984 am dorri rheoliadau adeiladu.
12 

(1) Ffurf ragnodedig tystysgrif derfynol yw Ffurflen 5(C) yn Atodlen 1.
(2) Y seiliau y mae rhaid i awdurdod lleol wrthod tystysgrif derfynol arnynt yw’r rhai a ragnodir yn Atodlen 4 a’r ffurflen sydd i’w defnyddio ar gyfer gwrthod tystysgrif derfynol yw Ffurflen 7(C) yn Atodlen 1.
(3) Y cyfnod y caniateir i awdurdod lleol roi hysbysiad gwrthod ar gyfer tystysgrif derfynol yw 10 diwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y dystysgrif.
(4) Mae tystiolaeth derfynol a roddir gan gymeradwywr i awdurdod lleol yn unol â’r Rheoliadau hyn yn dystiolaeth (ond nid yn dystiolaeth derfynol) y cydymffurfiwyd â’r gofynion a bennwyd yn y dystysgrif.
13 
Wrth roi hysbysiad o dan adran 51C(2) o Ddeddf 1984 (newid person sy’n bwriadu cynnal gwaith) rhaid defnyddio’r ffurflen sydd wedi ei nodi yn Ffurflen 8(C) yn Atodlen 1.
14 

(1) Pan wrthodir tystysgrif derfynol a roddwyd mewn cysylltiad â gwaith a ddisgrifir mewn hysbysiad cychwynnol, mae’r hysbysiad cychwynnol yn peidio â bod mewn grym mewn perthynas â’r gwaith a ddisgrifir yn y dystysgrif derfynol ar ddiwedd cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad gwrthod.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo gwaith a ddisgrifir mewn hysbysiad cychwynnol yn cynnwys codi, estyn neu wneud addasiad sylweddol i adeilad, ac—
(a) meddiennir yr adeilad neu, yn ôl y digwydd, yr estyniad neu unrhyw ran o’r adeilad sydd wedi ei addasu’n sylweddol, a
(b) ni roddir tystysgrif derfynol.
(3) Mae’r hysbysiad cychwynnol yn peidio â bod mewn grym mewn perthynas â’r adeilad, yr estyniad neu’r rhan o’r adeilad sy’n cael ei feddiannu—
(a) os yw’r adeilad yn adeilad GDT, ac eithrio pan fo’n cynnwys fflatiau a rhannau cyffredin ar gyfer y fflatiau hynny yn unig, ar ddiwedd cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod meddiannu, a
(b) mewn unrhyw achos, ar ddiwedd cyfnod o 8 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod meddiannu.
(4) Mae’r hysbysiad cychwynnol yn peidio â bod mewn grym mewn perthynas â newid defnydd sylweddol adeilad ar ddiwedd cyfnod o 8 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r newid defnydd hwnnw’n digwydd, os—
(a) na roddir tystysgrif derfynol, a
(b) yw’r newid defnydd hwnnw’n digwydd.
(5) Mewn unrhyw achos arall pan na roddir tystysgrif derfynol, bydd hysbysiad cychwynnol yn peidio â bod mewn grym ar ddiwedd cyfnod o 8 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblheir y gwaith a ddisgrifir yn yr hysbysiad cychwynnol i raddau helaeth.
(6) Nid yw hysbysiad cychwynnol yn peidio â bod mewn grym yn rhinwedd paragraffau (2) a (3) oherwydd bod rhan o adeilad neu estyniad yn cael ei meddiannu os yw tystysgrif derfynol wedi ei derbyn mewn perthynas â’r rhan honno.
(7) Caiff awdurdod lleol estyn unrhyw gyfnod y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn naill ai cyn neu ar ôl iddo ddod i ben.
(8) Yn y rheoliad hwn, mae i “fflat” yr ystyr a roddir i “flat” gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2010.
15 

(1) Ffurflen 9(C) yn Atodlen 1 yw ffurf yr hysbysiad sydd i’w rhoi, gan gymeradwywr, i ganslo hysbysiad cychwynnol yn unol ag adran 52(1) o Ddeddf 1984 yn seiliedig ar amod yn adran 52(1)(a) i (f) o Ddeddf 1984.
(2) Ffurflen 10(C) yn Atodlen 1 yw ffurf yr hysbysiad sydd i’w rhoi, gan berson sy’n cynnal neu’n bwriadu cynnal gwaith, i ganslo hysbysiad cychwynnol yn unol ag adran 52(3) o Ddeddf 1984.
(3) Ffurflen 11(C) yn Atodlen 1 yw ffurf yr hysbysiad sydd i’w rhoi, gan awdurdod lleol, i ganslo hysbysiad cychwynnol yn unol ag adran 52(5A) o Ddeddf 1984 yn seiliedig ar amod yn adran 52(5B)(a) i (d) o Ddeddf 1984.
(4) Ffurflen 12(C) yn Atodlen 1 yw ffurf yr hysbysiad sydd i’w rhoi, gan awdurdod lleol o dan adran 52(7) o Ddeddf 1984, i’r person a ddangosir yn yr hysbysiad cychwynnol fel y cymeradwywr.
(5) Ffurflen 13(C) yn Atodlen 1 yw ffurf yr hysbysiad sydd i’w rhoi, gan gymeradwywr, i ganslo hysbysiad cychwynnol yn unol ag adran 52A(1) o Ddeddf 1984.
(6) Ffurflen 14(C) yn Atodlen 1 yw ffurf yr hysbysiad sydd i’w rhoi, gan berson sy’n cynnal neu’n bwriadu cynnal gwaith, i ganslo hysbysiad cychwynnol yn unol ag adran 52A(2) o Ddeddf 1984.
(7) Ffurflen 15(C) yn Atodlen 1 yw ffurf yr hysbysiad sydd i’w rhoi, gan awdurdod lleol, i ganslo hysbysiad cychwynnol yn unol ag adran 52A(4) o Ddeddf 1984.
(8) Ffurflen 16(C) yn Atodlen 1 yw ffurf yr hysbysiad sydd i’w rhoi, gan awdurdod lleol, i ganslo hysbysiad cychwynnol yn unol ag adran 53D(2) o Ddeddf 1984.
(9) Ffurflen 17(C) yn Atodlen 1 yw ffurf yr hysbysiad sydd i’w rhoi, gan berson sy’n cynnal neu’n bwriadu cynnal gwaith, i ganslo hysbysiad cychwynnol yn unol ag adran 53D(3) o Ddeddf 1984.
16 

(1) Pan fo cymeradwywr o’r farn y dylid canslo hysbysiad cychwynnol o dan adran 52(1)(c) o Ddeddf 1984 am dorri unrhyw ddarpariaeth o reoliadau adeiladu, rhaid i’r cymeradwywr roi hysbysiad ysgrifenedig yn gyntaf i’r person sy’n cynnal y gwaith (“C”) sy’n pennu—
(a) gofyniad rheoliadau adeiladu na chydymffurfiwyd ag ef ym marn y cymeradwywr, a
(b) lleoliad y gwaith sy’n torri’r gofyniad hwnnw.
(2) Rhaid i hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (1) hysbysu C os nad yw C, erbyn diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (3), naill ai wedi tynnu ymaith na symud ymaith y gwaith nac wedi gwneud addasiadau o’r fath sy’n angenrheidiol er mwyn iddo gydymffurfio â rheoliadau adeiladu, bydd y cymeradwywr yn canslo’r hysbysiad cychwynnol.
(3) Y cyfnod y mae C i unioni’r toriad ynddo yw 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod gwaith y rhoddir yr hysbysiad o dan baragraff (1).
RHAN 4
17 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) pan fo unrhyw ran o’r gwaith a ddisgrifir mewn hysbysiad cychwynnol wedi ei gynnal,
(b) pan fo’r hysbysiad cychwynnol wedi peidio â bod mewn grym oherwydd rheoliad 14 (digwyddiadau sy’n peri i’r hysbysiad cychwynnol beidio â bod mewn grym) neu wedi ei ganslo drwy hysbysiad o dan adran 52 neu 53D o Ddeddf 1984, ac
(c) pan na dderbyniwyd unrhyw hysbysiad cychwynnol arall yn ymwneud â’r rhan honno o’r gwaith.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r perchennog—
(a) wrth gael rhybudd rhesymol gan yr awdurdod lleol, roi iddynt—
(i) planiau digonol ar gyfer y gwaith a gynhaliwyd, nad oes tystysgrif derfynol wedi ei rhoi mewn cysylltiad ag ef, i ddangos pa un a fyddai unrhyw ran o’r gwaith hwnnw, pe bai’n cael ei gynnal yn unol â’r planiau, yn torri unrhyw ddarpariaeth o Reoliadau 2010, a
(ii) pan roddwyd tystysgrif blaniau ac na chafodd ei gwrthod mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r gwaith, gopi o’r planiau y mae’n ymwneud â hwy, a
(b) cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog o fewn amser rhesymol agor, tynnu i lawr, neu dorri i mewn i hynny o’r gwaith sy’n atal yr awdurdod lleol rhag canfod a yw unrhyw waith nad oes tystysgrif derfynol mewn perthynas ag ef yn torri unrhyw ofyniad yn Rheoliadau 2010.
(3) Pan fo paragraff (1) yn gymwys ac mae gwaith mewn perthynas ag adeilad wedi dechrau ond heb ei gwblhau, rhaid i berson sy’n bwriadu cynnal gwaith pellach mewn perthynas â’r gwaith sydd wedi ei gwblhau yn rhannol roi planiau digonol i’r awdurdod lleol i ddangos na fydd y gwaith a fwriedir yn torri unrhyw ofyniad yn Rheoliadau 2010, gan gynnwys planiau o’r fath o unrhyw ran o’r gwaith a wnaed eisoes sy’n angenrheidiol i ddangos y gellir cynnal y gwaith arfaethedig heb fynd yn groes i unrhyw ofyniad o’r fath.
(4) Ni ddylid ystyried planiau a roddir i awdurdod lleol yn unol â pharagraff (3) fel planiau a adneuwyd yn unol â rheoliadau adeiladu.
18 

(1) At ddibenion adran 53(4B) o Ddeddf 1984, y cyfnod y mae’n ofynnol i berson a ddangosir yn yr hysbysiad cychwynnol fel y cymeradwywr (“P”) roi gwybodaeth i’r awdurdod lleol ynddo yw 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad i P o dan adran 53(4A). Caniateir estyn y cyfnod hwn drwy gytundeb ar y cyd rhwng P â’r awdurdod lleol.
(2) At ddibenion adran 53(4C) o Ddeddf 1984, y cyfnod y mae’n ofynnol i P roi gwybodaeth i’r person sy’n cynnal neu’n bwriadu cynnal y gwaith (“C”) ynddo yw—
(a) 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd yr awdurdod lleol hysbysiad i P o dan adran 53(4A) neu gyfnod estynedig o’r fath fel y cytunir arno rhwng P a’r awdurdod lleol yn unol â pharagraff (1), neu
(b) mewn perthynas â gwybodaeth y gofynnwyd amdani gan C o dan adran 53(4C)(c), neu wybodaeth y gofynnwyd amdani gan C o dan adran 53(4C)(b), 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae C yn rhoi hysbysiad i P o dan adran 53(4C)(c).
(3) Caniateir estyn y cyfnod ym mharagraff (2)(b) drwy gytundeb ar y cyd rhwng P ac C.
RHAN 5
19 
At ddibenion adran 53(7)(a)(iii) o Ddeddf 1984, rhagnodir adran 52(1)(a) o Ddeddf 1984.
20 

(1) At ddibenion adran 53B(5)(b) o Ddeddf 1984, rhaid i dystysgrif drosglwyddo gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) datganiad yn disgrifio’r gwaith gwreiddiol a’r gwaith anorffenedig;
(b) datganiad yn disgrifio’r holl gamau y mae’r cymeradwywr wedi eu cymryd i benderfynu, yn unol ag adran 53B(2) o Ddeddf 1984, a yw’r gwaith anorffenedig yn torri unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliadau adeiladu, gan restru yn arbennig—
(i) pob arolygiad o’r gwaith a wnaed neu bob achos o’i agor;
(ii) pob adroddiad a lunnir o unrhyw arolygiad o’r gwaith neu unrhyw achos o’i agor;
(iii) unrhyw asesiad arall o’r gwaith a ystyriwyd;
(c) datganiad yn nodi enw a chyfeiriad yr arolygydd cofrestredig adeiladu y cafwyd cyngor ganddo o dan adran 54B(3) o Ddeddf 1984 cyn rhoi’r dystysgrif drosglwyddo;
(d) declarasiwn, wedi ei lofnodi a’i ddyddio gan y cymeradwywr, yn cadarnhau—
(i) bod y cymeradwywr wedi arolygu’r gwaith anorffenedig,
(ii) bod y cymeradwywr wedi penderfynu, fel ar ddyddiad y dystysgrif drosglwyddo, nad yw’r gwaith anorffenedig yn torri unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliadau adeiladu,
(iii) bod pob adroddiad neu asesiad y cyfeirir ato yn y datganiad o dan baragraff (b) wedi ei gynnwys yn yr adroddiad trosglwyddo a roddir o dan adran 53B o Ddeddf 1984,
(iv) bod yr apelydd wedi cael cyngor gan arolygydd adeiladu cofrestredig o dan adran 54B(3) o Ddeddf 1984 cyn rhoi’r dystysgrif drosglwyddo, a
(v) bod y cymeradwywr wedi cael cytundeb y person sy’n cynnal neu’n bwriadu cynnal y gwaith i gyflwyno’r dystysgrif drosglwyddo a’r adroddiad trosglwyddo.
(2) Yn y rheoliad hwn—
(a) mae i “gwaith gwreiddiol” yr ystyr a roddir i “original work” yn adran 53(7) o Ddeddf 1984;
(b) mae i “gwaith anorffenedig” yr ystyr a roddir i “unfinished work” yn adran 53B(9) o Ddeddf 1984.
21 
At ddibenion adran 53C(6)(a) o Ddeddf 1984, y cyfnod rhagnodedig yw 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y dystysgrif drosglwyddo a’r adroddiad trosglwyddo i’r awdurdod lleol.
22 
Y seiliau y caniateir i awdurdod lleol wrthod tystysgrif drosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo arnynt yw’r rhai a ragnodir yn Atodlen 5.
23 

(1) At ddibenion adran 53D(5) o Ddeddf 1984, mae’r amgylchiadau a ganlyn wedi eu rhagnodi—
(a) mae busnes y cymeradwywr y mae’r hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef wedi dod i ben am unrhyw reswm, gan gynnwys yn achos ansolfedd;
(b) mae’r person sy’n cynnal neu’n bwriadu cynnal y gwaith wedi canslo’r hysbysiad cychwynnol o dan adran 53D(3) o Ddeddf 1984 oherwydd eu bod yn fodlon nad oedd y cymeradwywr yn gallu cynnal (neu barhau i gynnal) ei swyddogaethau mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r gwaith y mae’r hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef;
(c) rhoddwyd gorchymyn disgyblu penodedig i’r cymeradwywr yn ystod y cyfnod perthnasol (fel y’i diffinnir yn adran 53B(7) o Ddeddf 1984).
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gorchymyn disgyblu penodedig” yw—
(a) unrhyw orchymyn disgyblu o dan adran 58U(2)(b) o Ddeddf 1984 (amrywio cofrestriad) fel nad yw’r cymeradwywr bellach yn gallu cynnal ei swyddogaethau mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r gwaith y mae’r hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef;
(b) unrhyw orchymyn disgyblu o dan adran 58U(2)(c) o Ddeddf 1984 (atal cofrestriad dros dro) ac eithrio unrhyw atal dros dro sydd o ganlyniad i swyddogaethau mewn perthynas â’r gwaith neu’r gwaith anorffenedig i’r person sy’n cynnal y gwaith;
(c) gorchymyn o dan adran 58V o Ddeddf 1984 (atal dros dro interim am doriad difrifol a amheuir) ac eithrio unrhyw atal dros dro interim sydd o ganlyniad i swyddogaethau mewn perthynas â’r gwaith neu’r gwaith anorffenedig i’r person sy’n cynnal y gwaith;
(d) unrhyw orchymyn disgyblu o dan adran 58U(2)(d) o Ddeddf 1984 (canslo cofrestriad) ac eithrio unrhyw ganslo sydd o ganlyniad i swyddogaethau mewn perthynas â’r gwaith neu’r gwaith anorffenedig i’r person sy’n cynnal y gwaith.
RHAN 6
24 

(1) Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru—
(a) y dylid galluogi cyrff cyhoeddus o ddisgrifiad penodol i oruchwylio eu gwaith eu hunain o dan adran 54 o Ddeddf 1984, neu
(b) y dylid cymeradwyo corff cyhoeddus at ddiben goruchwylio ei waith ei hun felly,caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r disgrifiad hwnnw o gorff neu, yn ôl y digwydd, y corff hwnnw yn ysgrifenedig a chymryd unrhyw gamau a ymddengys yn briodol iddynt i hysbysu’r awdurdodau lleol a’r cyrff cyhoeddus hynny y bydd rhoi’r gymeradwyaeth yn effeithio arnynt.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu’r gymeradwyaeth yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i unrhyw gorff cyhoeddus yr effeithir arno, a chymryd unrhyw gamau a ymddengys yn briodol iddynt i hysbysu awdurdodau lleol am dynnu’n ôl o’r fath.
25 

(1) Ffurf ragnodedig hysbysiad corff cyhoeddus—
(a) nad yw wedi ei gyfuno â thystysgrif blaniau corff cyhoeddus, yw Ffurflen PB1(C) yn Atodlen 1, neu
(b) sydd wedi ei gyfuno â thystysgrif blaniau corff cyhoeddus, yw Ffurflen PB3(C) yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i’r planiau a’r dogfennau a ddisgrifir yn y ffurflen berthnasol a ragnodir gan baragraff (1) fynd gyda hysbysiad corff cyhoeddus.
(3) Y seiliau y mae rhaid i awdurdod lleol wrthod hysbysiad corff cyhoeddus arnynt yw’r rhai a ragnodir yn Atodlen 6.
(4) Y cyfnod y caniateir i awdurdod lleol roi hysbysiad gwrthod ar gyfer hysbysiad corff cyhoeddus yw 10 diwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
26 
Mae rheoliad 8 yn gymwys pan roddir hysbysiad corff cyhoeddus fel y mae’n gymwys pan roddir hysbysiad cychwynnol ond fel pe bai—
(a) unrhyw gyfeiriad at hysbysiad cychwynnol yn gyfeiriad at hysbysiad corff cyhoeddus,
(b) unrhyw gyfeiriad at dystysgrif blaniau yn gyfeiriad at dystysgrif blaniau corff cyhoeddus, ac
(c) unrhyw gyfeiriad at dystysgrif derfynol yn gyfeiriad at dystysgrif derfynol corff cyhoeddus.
27 
Mae rheoliad 9 yn gymwys pan roddir hysbysiad corff cyhoeddus fel y mae’n gymwys pan roddir hysbysiad cychwynnol ond fel petai—
(a) unrhyw gyfeiriad at hysbysiad cychwynnol yn gyfeiriad at hysbysiad corff cyhoeddus,
(b) unrhyw gyfeiriad at dystysgrif blaniau yn gyfeiriad at dystysgrif blaniau corff cyhoeddus, ac
(c) unrhyw gyfeiriad at dystysgrif derfynol yn gyfeiriad at dystysgrif derfynol corff cyhoeddus.
28 

(1) Ffurf ragnodedig tystysgrif blaniau corff cyhoeddus—
(a) nad yw wedi ei chyfuno â hysbysiad corff cyhoeddus, yw Ffurflen PB2(C) yn Atodlen 1, neu
(b) sydd wedi ei chyfuno â hysbysiad corff cyhoeddus, yw Ffurflen PB3(C) yn Atodlen 1.
(2) Y seiliau y mae rhaid i awdurdod lleol wrthod tystysgrif blaniau corff cyhoeddus arnynt yw’r rhai a ragnodir yn Atodlen 7.
(3) Y seiliau y mae rhaid i awdurdod lleol wrthod tystysgrif blaniau corff cyhoeddus wedi ei chyfuno â hysbysiad corff cyhoeddus arnynt yw’r rhai a ragnodir yn Atodlen 6 ac Atodlen 7.
(4) Y cyfnod y caniateir i awdurdod lleol roi hysbysiad gwrthod ar gyfer tystysgrif blaniau corff cyhoeddus neu hysbysiad a thystysgrif ar y cyd yw 10 diwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y dystysgrif.
29 
Os yw hysbysiad corff cyhoeddus yn peidio â bod mewn grym ac os yw’r amodau ym mharagraff 4(2) o Atodlen 4 i Ddeddf 1984 (tystysgrif blaniau corff cyhoeddus yn cael ei derbyn ac nid ei dadwneud) wedi eu bodloni, ni chaiff yr awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw waith a ddisgrifir yn y dystysgrif ac sy’n cael ei gynnal yn unol â’r planiau y mae’r dystysgrif yn ymwneud â hwy—
(a) rhoi hysbysiad o dan adran 36(1) o Ddeddf 1984 (symud ymaith neu addasu gwaith sy’n torri rheoliadau adeiladu), neu
(b) cychwyn achos o dan adran 35 o Ddeddf 1984 am dorri rheoliadau adeiladu.
30 

(1) Ffurf ragnodedig tystysgrif derfynol corff cyhoeddus yw Ffurflen PB4(C) yn Atodlen 1 a’r seiliau y mae rhaid i awdurdod lleol wrthod tystysgrif derfynol arnynt yw’r rhai a ragnodir yn Atodlen 8.
(2) Y cyfnod y caniateir i awdurdod lleol roi hysbysiad gwrthod ar gyfer tystysgrif derfynol corff cyhoeddus ynddo yw 10 diwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y dystysgrif.
31 
Mae rheoliad 14 yn gymwys pan roddir hysbysiad corff cyhoeddus fel y mae’n gymwys pan roddir hysbysiad cychwynnol ond fel petai—
(a) unrhyw gyfeiriad at hysbysiad cychwynnol yn gyfeiriad at hysbysiad corff cyhoeddus, a
(b) unrhyw gyfeiriad at dystysgrif derfynol yn gyfeiriad at dystysgrif derfynol corff cyhoeddus.
RHAN 7
32 

(1) Rhaid i’r gofrestr y mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ei chadw o dan adran 56 o Ddeddf 1984 gynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad ag—
(a) hysbysiadau cychwynnol, hysbysiadau diwygio neu hysbysiadau o dan adran 51C o Ddeddf 1984 neu hysbysiadau corff cyhoeddus sydd mewn grym ar hyn o bryd, a
(b) tystysgrifau planiau, tystysgrifau trosglwyddo ac adroddiadau trosglwyddo, tystysgrifau terfynol, tystysgrifau planiau corff cyhoeddus, tystysgrifau terfynol corff cyhoeddus sydd wedi eu derbyn neu y tybir eu bod wedi eu derbyn.
(2) Yr wybodaeth i’w chofrestru yw—
(a) disgrifiad o’r gwaith y mae’r hysbysiad neu’r dystysgrif yn ymwneud ag ef ac o leoliad y gwaith,
(b) enw a chyfeiriad unrhyw berson a lofnododd yr hysbysiad neu’r dystysgrif, ac
(c) y dyddiad y derbyniwyd yr hysbysiad neu’r dystysgrif arno neu y tybiwyd y’i derbyniwyd arno.
(3) Rhaid i gofrestr gynnwys mynegai ar gyfer galluogi person i olrhain unrhyw gofnod yn y gofrestr drwy gyfeirio at gyfeiriad y tir y mae’r hysbysiad neu’r dystysgrif yn ymwneud ag ef.
(4) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir ym mharagraff (2) gael ei chofnodi yn y gofrestr cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac mewn unrhyw achos o fewn 14 diwrnod gwaith i’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad neu’r dystysgrif o dan sylw.
33 

(1) At ddibenion adran 58C(5) o Ddeddf 1984 (cofrestr o arolygwyr adeiladu), y cyfnod rhagnodedig ar gyfer cofrestru arolygydd cofrestredig adeiladu yw 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r cofrestriad yn cael effaith.
(2) At ddibenion adran 58O(4) o Ddeddf 1984 (cofrestr o gymeradwywyr rheolaeth adeiladu), y cyfnod rhagnodedig ar gyfer cofrestru cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yw 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r cofrestriad yn cael effaith.
34 
At ddibenion adran 58U(4)(b)(ii) o Ddeddf 1984, pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â chymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi copi o’r gorchymyn disgyblu i bob awdurdod lleol yng Nghymru pan fu—
(a) amrywiad o gofrestriad mewn ffordd a bennir yn y gorchymyn,
(b) atal dros dro gofrestriad ar gyfer y cyfnod a bennir yn y gorchymyn, neu
(c) canslo cofrestriad o’r dyddiad a bennir yn y gorchymyn.
35 
At ddibenion adran 58V(4)(b)(ii) o Ddeddf 1984, pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud (neu’n dirymu) gorchymyn o dan adran 58V o Ddeddf 1984, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol roi copi o’r gorchymyn (neu hysbysiad o’r dirymu) i bob awdurdod lleol yng Nghymru pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod y toriad a amheuir mor ddifrifol fel eu bod, os ydynt yn penderfynu bod y toriad wedi digwydd, yn debygol o wneud gorchymyn o dan adran 58U(2)(d) o Ddeddf 1984 sy’n canslo cofrestriad y person.
36 

(1) Pan ddarperir ar gyfer yr hawl i apelio o dan adran 58D(4), 58I(5), 58J(5), 58P(4), 58U(5), 58V(5), 58Z4(7), 58Z5(9), 58Z6(5) neu 58Z7(5) o Ddeddf 1984, rhaid gwneud apêl i lys ynadon drwy gŵyn.
(2) Ni chaniateir gwneud apêl ond ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn. Y seiliau yw bod penderfyniad Gweinidogion Cymru—
(a) yn wallus yn ffeithiol;
(b) yn anghywir yn gyfreithiol;
(c) yn afresymol;
(d) yn ddiffygiol yn weithdrefnol.
(3) Rhaid gwneud apêl o fewn 21 o ddiwrnodau perthnasol sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad, neu o fewn y cyfnod estynedig hwnnw y caiff y ceisydd a Gweinidogion Cymru gytuno arno yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg.
(4) Ar apêl, caiff llys ynadon gadarnhau, amrywio neu ddiddymu’r penderfyniad sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “diwrnodau perthnasol” yw unrhyw ddiwrnod heb gynnwys dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971.
RHAN 8
37 
Mae pob un o’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 17 (pwerau awdurdod lleol mewn perthynas â gwaith sydd wedi ei gwblhau yn rhannol), wedi ei ddynodi’n ddarpariaeth nad yw adran 35 o Ddeddf 1984 yn gymwys iddi.
38 
Yn erthygl 30(5)(c) o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 hepgorer “approved inspector or”.
39 

(1) Mae Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) yn y lle priodol mewnosoder ““the RBCA (Wales) Regulations” means the Building (Registered Building Control Approvers etc.) (Wales) Regulations 2024;”;
(b) hepgorer ““the Approved Inspectors Regulations” means the Building (Approved Inspectors etc.) Regulations 2010”.
(3) Yn rheoliad 5(1)(d), yn lle “Approved Inspectors Regulations” rhodder “RBCA (Wales) Regulations”.
(4) Yn rheoliad 8(1)(d)—
(a) ym mharagraff (i), yn lle “regulation 19(2)(a)(i) of the Approved Inspectors Regulations” rhodder “regulation 17(2)(a)(i) of the RBCA (Wales) Regulations”;
(b) ym mharagraff (ii), yn lle “regulation 19(3) of the Approved Inspectors Regulations” rhodder “regulation 17(3) of the RBCA (Wales) Regulations”.
40 
Yn rheoliad 12(7) o Reoliadau 2010, yn lle “regulation 19 of the Building (Approved Inspectors etc) Regulations 2010” rhodder “regulation 17 of the Building (Registered Building Control Approvers etc.) (Wales) Regulations 2024”.
41 

(1) Mae Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “Rheoliadau 2024” (“the 2024 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.”;
(b) hepgorer “ystyr “y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy” (“the Approved Inspectors Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010.”.
(3) Yn rheoliad 3(2)(o)—
(a) yn y geiriau agoriadol, yn lle “rheoliad 19(1) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy” rhodder “rheoliad 17(1) o Reoliadau 2024”;
(b) ym mharagraff (i), yn lle “reoliad 19(2)(a) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy” rhodder “reoliad 17(2)(a) o Reoliadau 2024”;
(c) ym mharagraff (ii), yn lle “reoliad 19(2)(b) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy” rhodder “reoliad 17(2)(b) o Reoliadau 2024”.
42 

(1) O ran Cymru, mae Rhannau 2 – 5, Rhan 6A, Rhan 7 ac Atodlenni 1 – 9 i Reoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“y Rheoliadau AC”) wedi eu dirymu, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau (5) i (7).
(2) Mae’r darpariaethau a ganlyn wedi eu dirymu:
(a) rheoliadau 29 i 33 o Reoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2013;
(b) Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2014;
(c) rheoliadau 11 i 13 o Reoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2014;
(d) rheoliad 3 o Reoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2016;
(e) rheoliadau 17 i 28 o Reoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Adeiladau Ynni a Eithrir) (Cymru) 2018;
(f) rheoliadau 18 i 20 o Reoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2022;
(g) Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Arolygwyr Cymeradwy) (Cymru) 2022;
(h) Rheoliadau Adeiladu (Y Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu) (Cofrestru, Sancsiynau ac Apelau) (Cymru) 2023;
(i) Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2024.
(3) Nid yw diwygio adran 51A o Ddeddf 1984 gan adran 46(2) o Ddeddf 2022 yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad cychwynnol y mae rheoliad 3 o Reoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2024 yn gymwys iddo.
(4) Ar ôl y geiriau “hysbysiad cychwynnol” yn rheoliad 11(3) o Reoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2024 mewnosoder “sy’n ymwneud yn unig â gwaith adeiladu”.
(5) Bydd unrhyw un neu ragor o’r ffurflenni yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau AC a gyflwynir i’r awdurdod lleol cyn 1 Ionawr 2025 yn cael eu prosesu.
(6) Mae’r Rheoliadau AC yn parhau i fod yn gymwys i ffurflenni a gyflwynir i’r awdurdod lleol cyn 1 Ionawr 2025.
(7) Mae rheoliadau 2 i 7 a 9 o’r Rheoliadau AC yn parhau i gael effaith i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddibenion rheoliad 29 o’r Rheoliadau AC.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
28 Tachwedd 2024
ATODLEN 1
Rheoliadau 6, 7, 10, 12, 13, 15, 25, 28, 30

ATODLEN 2
Rheoliadau 6, 7 a 10
1 
Nid yw’r hysbysiad yn y ffurf ragnodedig.
2 
Ni fydd unrhyw ran o’r gwaith a ddisgrifir yn yr hysbysiad yn cael ei gynnal yn ardal yr awdurdod lleol y rhoddwyd yr hysbysiad iddo.
3 
Nid yw’r person a lofnododd yr hysbysiad fel cymeradwywr yn gymeradwywr ar y dyddiad y gwrthodir yr hysbysiad neu os yw’n gymeradwywr ar y dyddiad hwnnw, nid yw ei gofrestriad yn cynnwys yr holl waith a ddisgrifir yn yr hysbysiad.
4 
Yn ogystal, yn achos hysbysiad diwygio, nid y person a lofnododd yr hysbysiad diwygio fel cymeradwywr yw’r cymeradwywr a roddodd yr hysbysiad cychwynnol.
5 
O ran y person a bennir yn yr hysbysiad fel yr arolygydd cofrestredig adeiladu a roddodd gyngor mewn perthynas â’r hysbysiad hwnnw—
(a) nid oedd yn arolygydd cofrestredig adeiladu ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad, neu
(b) roedd yn arolygydd cofrestredig adeiladu ar y dyddiad hwnnw ond nid oedd ei gofrestriad yn cynnwys yr holl waith a ddisgrifiwyd yn yr hysbysiad.
6 
Nid yw’r hysbysiad na’r planiau a’r dogfennau cysylltiedig yn cynnwys—
(a) lleoliad a disgrifiad o’r gwaith, gan gynnwys defnydd unrhyw adeilad y mae’r gwaith yn ymwneud ag ef;
(b) yr wybodaeth sydd ei hangen ar yr awdurdod lleol i benderfynu a ddylid gwrthod yr hysbysiad ar sail 10 neu 11;
(c) gwybodaeth am ba un a yw’r gwaith yn ymwneud ag annedd newydd ai peidio.
7 
Mae’n ofynnol gan reoliad 8 i’r cymeradwywr ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub cyn rhoi tystysgrif blaniau neu dystysgrif derfynol, ac nid yw’r hysbysiad yn cynnwys ymrwymiad i wneud hynny.
8 
Mae’n ofynnol gan reoliad 9 i’r cymeradwywr ymgynghori â’r ymgymerwr carthffosiaeth cyn rhoi tystysgrif blaniau neu dystysgrif derfynol, ac nid yw’r hysbysiad yn cynnwys ymrwymiad i wneud hynny.
9 
Nid yw’r hysbysiad yn cynnwys declarasiwn gan y cymeradwywr nad oes gan y cymeradwywr, ac ni fydd gan y cymeradwywr tra bo’r hysbysiad cychwynnol mewn grym, unrhyw fuddiant proffesiynol nac ariannol yn y gwaith hwnnw.
10 
Yn achos codi neu estyn adeilad, mae’r awdurdod lleol o’r farn, er mwyn cydymffurfio â gofynion Rhan H o Atodlen 1 i Reoliadau 2010, fod rhaid i ddraen neu garthffos breifat arfaethedig ollwng i garthffos bresennol, ond nid yw’r datganiad sy’n cyd-fynd â’r hysbysiad yn disgrifio trefniant o’r fath.
11 
Nid yw’r awdurdod lleol yn fodlon y bydd y gwaith a ddisgrifir yn cydymffurfio ag unrhyw ddeddfiad lleol sy’n ei gwneud yn ofynnol, neu sy’n ei awdurdodi, i wrthod planiau a gyflwynir yn unol â rheoliadau adeiladu.
12 

(1) Ac eithrio pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, mae hysbysiad cychwynnol (“hysbysiad cynharach”) eisoes wedi ei roi mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r gwaith a ddisgrifir yn yr hysbysiad.
(2) Nid yw’r sail yn is-baragraff (1) yn gymwys os—
(a) yw hysbysiad cynharach wedi peidio â bod mewn grym ac nid yw’r awdurdod lleol wedi cymryd unrhyw gamau cadarnhaol i oruchwylio’r gwaith a ddisgrifir ynddo, neu
(b) yw’r hysbysiad yn cyd-fynd ag ymgymeriad gan y cymeradwywr a roddodd hysbysiad cynharach i’r perwyl y bydd y cymeradwywr yn canslo’r hysbysiad hwnnw cyn gynted ag y derbynnir yr hysbysiad cychwynnol sydd o dan ystyriaeth.
ATODLEN 3
Rheoliad 10
1 
Nid yw’r dystysgrif yn y ffurf ragnodedig.
2 
Ni fydd unrhyw ran o’r gwaith a ddisgrifir yn y dystysgrif blaniau yn cael ei gynnal yn ardal yr awdurdod lleol y rhoddwyd y dystysgrif iddo.
3 
Nid yw’r dystysgrif yn disgrifio’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef.
4 
Nid yw’r dystysgrif yn pennu’r planiau y mae’n ymwneud â hwy.
5 
Ac eithrio pan gyfunir tystysgrif blaniau â hysbysiad cychwynnol, nid oedd unrhyw hysbysiad cychwynnol mewn grym mewn cysylltiad â’r gwaith a ddisgrifir yn y dystysgrif ar yr adeg y rhoddwyd y dystysgrif.
6 
Roedd hysbysiad cychwynnol mewn grym mewn cysylltiad â’r gwaith a ddisgrifiwyd yn y dystysgrif ar yr adeg y rhoddwyd y dystysgrif, ond—
(a) nid yw’r dystysgrif wedi ei llofnodi gan y cymeradwywr a roddodd yr hysbysiad cychwynnol,
(b) nid yw’r person a lofnododd y dystysgrif yn gymeradwywr ar y dyddiad y gwrthodir yr hysbysiad, neu
(c) pan fo’n gymeradwywr, nid yw ei gofrestriad yn cynnwys yr holl waith a ddisgrifir yn y dystysgrif.
7 
O ran y person a bennir yn y dystysgrif fel yr arolygydd cofrestredig adeiladu a roddodd gyngor mewn perthynas â’r dystysgrif honno—
(a) nid oedd yn arolygydd cofrestredig adeiladu ar y dyddiad y cyflwynwyd y dystysgrif, neu
(b) roedd yn arolygydd cofrestredig adeiladu ar y dyddiad hwnnw ond nid oedd ei gofrestriad yn cynnwys yr holl waith a ddisgrifiwyd yn y dystysgrif.
8 
Roedd yn ofynnol gan reoliad 8 i’r cymeradwywr ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub cyn rhoi’r dystysgrif, ond nid yw’r dystysgrif yn cynnwys declarasiwn bod yr apelydd wedi ymgynghori â hwy yn unol â’r rheoliad hwnnw.
9 
Roedd yn ofynnol gan reoliad 9 i’r cymeradwywr ymgynghori â’r ymgymerwr carthffosiaeth cyn rhoi’r dystysgrif, ond nid yw’r dystysgrif yn cynnwys declarasiwn bod yr apelydd wedi ymgynghori â hwy yn unol â’r rheoliad hwnnw.
10 
Nid yw’r dystysgrif yn cynnwys declarasiwn gan y cymeradwywr nad yw’r cymeradwywr, ers rhoi’r hysbysiad cychwynnol o dan sylw, wedi cael unrhyw fuddiant proffesiynol nac ariannol yn y gwaith hwnnw.
ATODLEN 4
Rheoliad 12
1 
Nid yw’r dystysgrif yn y ffurf ragnodedig.
2 
Ni chynhaliwyd unrhyw ran o’r gwaith a ddisgrifir yn y dystysgrif derfynol yn ardal yr awdurdod lleol y rhoddwyd y dystysgrif iddo.
3 
Nid yw’r dystysgrif yn disgrifio’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef.
4 
Nid oedd unrhyw hysbysiad cychwynnol mewn grym mewn cysylltiad â’r gwaith a ddisgrifiwyd yn y dystysgrif ar yr adeg y rhoddwyd y dystysgrif.
5 
Roedd hysbysiad cychwynnol mewn grym mewn cysylltiad â’r gwaith a ddisgrifiwyd yn y dystysgrif ar yr adeg y rhoddwyd y dystysgrif, ond—
(a) nid yw’r dystysgrif wedi ei llofnodi gan y cymeradwywr a roddodd yr hysbysiad cychwynnol,
(b) nid yw’r person a lofnododd y dystysgrif yn gymeradwywr ar y dyddiad y gwrthodir y dystysgrif, neu
(c) pan fo’n gymeradwywr, nid yw ei gofrestriad yn cynnwys yr holl waith a ddisgrifir yn y dystysgrif.
6 
O ran y person a bennir yn y dystysgrif fel yr arolygydd cofrestredig adeiladu a roddodd y cyngor mewn perthynas â’r dystysgrif honno—
(a) nid oedd yn arolygydd cofrestredig adeiladu ar y dyddiad y cyflwynwyd y dystysgrif, neu
(b) roedd yn arolygydd cofrestredig adeiladu ar y dyddiad hwnnw ond nid oedd ei gofrestriad yn cynnwys yr holl waith a ddisgrifiwyd yn y dystysgrif.
7 
Mae rheoliad 38 o Reoliadau 2010, fel y’i cymhwyswyd gan reoliad 5 (addasu Rheoliadau 2010 etc.), yn gymwys i’r gwaith adeiladu y mae’r dystysgrif derfynol yn ymwneud ag ef ac nid yw’r cymeradwywr wedi darparu cadarnhad bod y person sy’n cynnal y gwaith wedi hysbysu’r cymeradwywr i’r perwyl bod yr wybodaeth diogelwch tân wedi ei rhoi i’r person cyfrifol fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwnnw.
8 
Nid yw’r dystysgrif yn cynnwys declarasiwn gan y cymeradwywr nad yw’r cymeradwywr, ers rhoi’r hysbysiad, wedi cael unrhyw fuddiant proffesiynol nac ariannol yn y gwaith hwnnw.
ATODLEN 5
Rheoliad 22
1 
Nid yw’r dystysgrif drosglwyddo yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 20 (gwybodaeth i’w chynnwys mewn tystysgrifau trosglwyddo).
2 
Nid yw naill ai’r dystysgrif drosglwyddo neu’r adroddiad trosglwyddo yn cynnwys gwybodaeth sy’n ofynnol gan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau Deddf 1984.
3 
Ni fydd unrhyw ran o’r gwaith anorffenedig a ddisgrifir yn y dystysgrif drosglwyddo yn cael ei gynnal yn ardal yr awdurdod lleol y rhoddwyd y dystysgrif drosglwyddo iddo.
4 
Nid oedd unrhyw hysbysiad cychwynnol newydd o dan adran 53(7)(a) o Ddeddf 1984 mewn grym mewn cysylltiad â’r gwaith a ddisgrifir yn y dystysgrif drosglwyddo ar yr adeg y rhoddwyd y dystysgrif drosglwyddo.
5 
Roedd hysbysiad cychwynnol newydd mewn grym mewn cysylltiad â’r gwaith anorffenedig a ddisgrifiwyd yn y dystysgrif drosglwyddo ar yr adeg y rhoddwyd y dystysgrif, ond—
(a) nid yw’r dystysgrif wedi ei llofnodi gan y cymeradwywr a roddodd yr hysbysiad cychwynnol newydd,
(b) nid yw’r person a lofnododd y dystysgrif yn gymeradwywr ar y dyddiad y gwrthodir y dystysgrif, neu
(c) pan fo’n gymeradwywr, nid yw ei gofrestriad yn cynnwys yr holl waith a ddisgrifir yn y dystysgrif.
6 
O ran y person a bennir yn y dystysgrif fel yr arolygydd cofrestredig adeiladu a roddodd gyngor mewn perthynas â’r dystysgrif honno—
(a) nid oedd yn arolygydd cofrestredig adeiladu ar y dyddiad y cyflwynwyd y dystysgrif, neu
(b) roedd yn arolygydd cofrestredig adeiladu ar y dyddiad hwnnw ond nid oedd ei gofrestriad yn cynnwys yr holl waith a ddisgrifiwyd yn y dystysgrif.
7 

(1) Ac eithrio pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, mae hysbysiad cychwynnol newydd o dan adran 53(7) o Ddeddf 1984 (“hysbysiad cynharach”) eisoes wedi ei roi mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r gwaith anorffenedig a ddisgrifir yn yr hysbysiad.
(2) Nid yw’r sail yn is-baragraff (1) yn gymwys os—
(a) yw hysbysiad cynharach wedi peidio â bod mewn grym ac nid yw’r awdurdod lleol wedi cymryd unrhyw gamau cadarnhaol i oruchwylio’r gwaith a ddisgrifir ynddo, neu
(b) yw’r hysbysiad yn cyd-fynd ag ymgymeriad gan y cymeradwywr a roddodd hysbysiad cynharach i’r perwyl y bydd y cymeradwywr yn canslo’r hysbysiad hwnnw cyn gynted ag y derbynnir yr hysbysiad cychwynnol sydd o dan ystyriaeth.
(3) Mae tystysgrif drosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo eisoes wedi eu derbyn.
8 

(1) Mae’r awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad o dan adran 36 o Ddeddf 1984, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop mewn perthynas â’r gwaith anorffenedig.
(2) Daeth cais i law’r awdurdod lleol mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r gwaith anorffenedig yn unol â rheoliad 18 o Reoliadau 2010.
(3) Fel arall, mae’r awdurdod lleol wedi cymryd unrhyw gamau cadarnhaol i oruchwylio’r gwaith anorffenedig.
9 
Rhoddwyd cais i’r cymeradwywr o dan adran 53C(4) o Ddeddf 1984 ond methodd â darparu’r wybodaeth o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn yr adran honno.
10 
Nid yw’r dystysgrif drosglwyddo a’r adroddiad trosglwyddo wedi eu cyflwyno cyn diwedd y cyfnod perthnasol yn unol ag adran 53B(3) o Ddeddf 1984.
ATODLEN 6
Rheoliad 25
1 
Nid yw’r hysbysiad yn y ffurf ragnodedig.
2 
Ni fydd unrhyw ran o’r gwaith a ddisgrifir yn yr hysbysiad yn cael ei gynnal yn ardal yr awdurdod lleol y rhoddwyd yr hysbysiad iddo.
3 
Nid yw’r corff y llofnodwyd yr hysbysiad ar ei ran yn gorff cyhoeddus o fewn ystyr adran 54 o Ddeddf 1984.
4 
Mae’n ofynnol gan reoliad 26 i’r corff cyhoeddus ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub cyn rhoi tystysgrif blaniau corff cyhoeddus neu dystysgrif derfynol corff cyhoeddus, ac nid yw’r hysbysiad yn cynnwys ymrwymiad i wneud hynny.
5 
Mae’n ofynnol gan reoliad 27 i’r corff cyhoeddus ymgynghori â’r ymgymerwr carthffosiaeth cyn rhoi tystysgrif blaniau corff cyhoeddus neu dystysgrif derfynol corff cyhoeddus, ac nid yw’r hysbysiad yn cynnwys ymrwymiad i wneud hynny.
6 
Yn achos codi neu estyn adeilad, mae’r awdurdod lleol o’r farn, er mwyn cydymffurfio â gofynion Rhan H o Atodlen 1 i Reoliadau 2010, fod rhaid i ddraen neu garthffos breifat arfaethedig ollwng i garthffos bresennol, ond nid yw’r datganiad sy’n cyd-fynd â’r hysbysiad yn disgrifio trefniant o’r fath.
7 
Nid yw’r awdurdod lleol yn fodlon y bydd y gwaith a ddisgrifir yn cydymffurfio ag unrhyw ddeddfiad lleol sy’n ei gwneud yn ofynnol, neu sy’n ei awdurdodi, i wrthod planiau a gyflwynir yn unol â rheoliadau adeiladu.
ATODLEN 7
Rheoliad 28
1 
Nid yw’r dystysgrif yn y ffurf ragnodedig.
2 
Nid yw’r dystysgrif yn disgrifio’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef.
3 
Nid yw’r dystysgrif yn pennu’r planiau y mae’n ymwneud â hwy.
4 
Ac eithrio pan gyfunir tystysgrif blaniau corff cyhoeddus â hysbysiad corff cyhoeddus, nid oedd unrhyw hysbysiad corff cyhoeddus mewn grym mewn cysylltiad â’r gwaith a ddisgrifir yn y dystysgrif ar yr adeg y rhoddwyd y dystysgrif.
5 
Roedd hysbysiad corff cyhoeddus mewn grym mewn cysylltiad â’r gwaith a ddisgrifiwyd yn y dystysgrif ar yr adeg y rhoddwyd y dystysgrif, ond—
(a) nid yw’r dystysgrif wedi ei llofnodi gan neu ar ran y corff cyhoeddus a roddodd yr hysbysiad hwnnw, neu
(b) mae’r corff hwnnw wedi peidio â bod yn gorff cyhoeddus o fewn ystyr adran 54 o Ddeddf 1984.
6 
Roedd yn ofynnol gan reoliad 26 i’r corff cyhoeddus ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub cyn rhoi’r dystysgrif, ond nid yw’r dystysgrif yn cynnwys declarasiwn yr ymgynghorwyd â hwy yn unol â’r rheoliad hwnnw.
7 
Roedd yn ofynnol gan reoliad 27 i’r corff cyhoeddus ymgynghori â’r ymgymerwr carthffosiaeth cyn rhoi’r dystysgrif, ond nid yw’r dystysgrif yn cynnwys datganiad yr ymgynghorwyd â hwy yn unol â’r rheoliad hwnnw.
ATODLEN 8
Rheoliad 30
1 
Nid yw’r dystysgrif yn y ffurf ragnodedig.
2 
Nid yw’r dystysgrif yn disgrifio’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef.
3 
Nid oedd unrhyw hysbysiad corff cyhoeddus mewn grym mewn cysylltiad â’r gwaith a ddisgrifiwyd yn y dystysgrif ar yr adeg y rhoddwyd y dystysgrif.
4 
Roedd hysbysiad corff cyhoeddus mewn grym mewn cysylltiad â’r gwaith a ddisgrifir yn y dystysgrif ar yr adeg y rhoddwyd y dystysgrif, ond nid yw’r dystysgrif wedi ei llofnodi gan neu ar ran y corff cyhoeddus a roddodd yr hysbysiad hwnnw.
5 
Roedd yn ofynnol gan reoliad 26 i’r corff cyhoeddus ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub cyn rhoi’r dystysgrif, ond nid yw’r dystysgrif yn cynnwys datganiad yr ymgynghorwyd â hwy yn unol â’r rheoliad hwnnw.
6 
Roedd yn ofynnol gan reoliad 27 i’r corff cyhoeddus ymgynghori â’r ymgymerwr carthffosiaeth cyn rhoi’r dystysgrif, ond nid yw’r dystysgrif yn cynnwys datganiad yr ymgynghorwyd â hwy yn unol â’r rheoliad hwnnw.