
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Amgylchedd Hanesyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2024.
RHAN 2
2 
Yn Atodlen 2 i Reoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979, ym mharagraff (i), ar ôl “1990” mewnosoder “or under section 158 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
3 
Yn erthygl 1(2) o Orchymyn Ardaloedd o Bwysigrwydd Archaeolegol (Hysbysiad o Weithrediadau) (Esemptio) 1984, hepgorer “or Wales”.
4 
Yn Atodlen 1A i Reoliadau Ceisiadau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Henebion Hynafol) 1992, ym mharagraff 1—
(a) yn is-baragraff (e), yn lle’r geiriau o “after paragraph (3)” hyd at “yw—” rhodder “in regulation 6, after paragraph (5) there were inserted—“
(6) At ddiben y rheoliad hwn—
 ystyr “cais cydredol” (“concurrent application”) yw cais a wneir o dan adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992, sy’n ymwneud â chynigion y mae rhoi cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth yn ofynnol ar eu cyfer;
 ystyr perchennog (“owner”) yw—;”;
(b) yn is-baragraff (f), yn lle’r geiriau o “after paragraph (3)” hyd at “means—” rhodder “in regulation 6, after paragraph (5) there were inserted—“
(6) For the purposes of this regulation—
 “concurrent application” (“cais cydredol”) means an application made under section 6 of the Transport and Works Act 1992, relating to proposals for which the granting of listed building consent or conservation consent is required;
 “owner” (“perchennog”) means—”;
(c) yn is-baragraff (i)(iii), ym mharagraff (5) a fewnosodwyd, yn lle’r geiriau o “ystyr “cais cydredol”” hyd at y diwedd, rhodder “mae i “cais cydredol” yr un ystyr ag yn rheoliad 6.”;
(d) yn is-baragraff (j)(iii), ym mharagraff (5) a fewnosodwyd, yn lle’r geiriau o “means” hyd at y diwedd, rhodder “has the same meaning as in regulation 6.”
5 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009, yn y testun Cymraeg, yn is-baragraff (dd) o’r diffiniad o “ardal sensitif”, yn lle “yn yr ystyr a roddir i “scheduled monument” yn” rhodder “o fewn ystyr”.
6 
Yn Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, yn y testun Cymraeg, ar ôl y tabl, o dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”, ym mharagraff (h)(i), yn lle “yr ystyr a roddir i “scheduled monument”” rhodder “(“scheduled monument”) yr un ystyr ag”.
7 
Yn Atodlen 5 i Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016, yn y testun Cymraeg, ar ôl y tabl, o dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”, ym mharagraff (d)(i), yn lle “yr un ystyr ag a roddir i “scheduled monument”” rhodder “(“scheduled monument”) yr un ystyr ag”.
8 
Yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon a chanddynt Fuddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015—
(a) hepgorer y cofnod ar gyfer “Historic Environment (Wales) Act 2023” a’r testun yn y golofn gyfatebol;
(b) ar ôl y cofnod ar gyfer “Countryside and Rights of Way Act 2000”, mewnosoder—“
Historic Environment (Wales) Act 2023 A consent under section 12 and Schedule 3 (authorisation of classes of works)
 A consent under section 13 (authorisation of works by scheduled monument consent)”.
9 
Yn rheoliad 4A o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017—
(a) yn lle “reoliadau 4” rhodder “reoliad 4”;
(b) yn lle “na 5” rhodder “na rheoliad 5”.
10 
Yn Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024, hepgorer rheoliadau 2 a 6, a’r penawdau italig o’u blaenau.
11 
Yn rheoliad 3(5)(b) o Reoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024, yn y testun Cymraeg, yn lle “fuddiant” rhodder “ddiddordeb”.
12 
Yn Atodlen 2 i Reoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024, yn y testun Saesneg, ym mharagraff 6—
(a) yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), hepgorer “that the building and the associated land”;
(b) ar ddechrau paragraff (a), mewnosoder “that the building and the associated land”;
(c) ar ddechrau paragraff (b), mewnosoder “that the building and the associated land”.
Jack Sargeant
Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
26 Tachwedd 2024