
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2024 a deuant i rym ar 6 Ionawr 2025.
2 

(1) Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 11A—
(a) daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
(b) yn y paragraff hwnnw, yn lle’r geiriau o “rheoliad (3)(1)(ab)” hyd at “2016” rhodder “paragraff (2)—”;
(c) ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—“
(2) Mae datblygiad o fewn y paragraff hwn os yw—
(a) o fewn rheoliad 3(1)(a) neu (aa) o Reoliadau 2016 ac—
(i) yn achos adeiladu naill ai gorsaf gynhyrchu neu orsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir, disgwylir i’r orsaf gynhyrchu neu’r orsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir, pan gaiff ei hadeiladu, fod â gallu cynhyrchu gosodedig o lai na 50 megawat, neu
(ii) yn achos estyn neu addasu naill ai gorsaf gynhyrchu neu orsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir, disgwylir i’r estyniad neu’r addasiad gynyddu’r gallu cynhyrchu gosodedig o lai na 50 megawat; neu
(b) o fewn rheoliad 3(1)(ab) (gosod llinell drydan uwchben y ddaear) o Reoliadau 2016.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “gorsaf gynhyrchu” (“generating station”), “gallu cynhyrchu gosodedig” (“installed generating capacity”) a “gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir” (“onshore wind generating station”) yr ystyron a roddir yn rheoliad 4(3) o Reoliadau 2016;
 ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016.;”;
(d) yn y pennawd, yn lle “llinellau trydan” rhodder “penderfyniad gan berson penodedig”.
(3) Ym mhennawd rheoliad 18A, yn lle “llinellau trydan” rhodder “penderfyniad gan berson penodedig”.
(4) Yn rheoliad 40(1)(b), yn lle “rheoliad 11A(a)” rhodder “rheoliad 11A(1)(a)”.
(5) Ym mharagraff 1(3A) o Atodlen 8, yn lle “llinellau trydan” rhodder “penderfyniad gan berson penodedig”.
3 
Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau pan fo Gweinidogion Cymru wedi cael adroddiad o dan reoliad 18 neu 28 o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016, gan gynnwys o dan reoliad 28 fel y’i cymhwysir gan reoliad 30(3) o’r Rheoliadau hynny, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
28 Tachwedd 2024