
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) a Defnyddiau Bwyd Anifeiliaid a Fwriedir at Ddibenion Maethol Penodol (Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354) (Cymru) 2024.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a) yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b) yn gymwys o ran Cymru;
(c) yn dod i rym ar 20 Rhagfyr 2024.
2 

(1) Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg yn Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid neu Reoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio yr un ystyr ag yn Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 neu Reoliad (EC) Rhif 767/2009, yn y drefn honno.
(2) Yn Atodlenni 1 i 20, mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir i gyfeirio at rywogaethau neu gategorïau o anifeiliaid sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Atodiad 4 (categorïau a diffiniadau o anifeiliaid targed etc.) i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 429/2008 ar reolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran llunio a chyflwyno ceisiadau ac asesu ac awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid yr un ystyr ag yn yr Atodiad hwnnw.
RHAN 2
3 

(1) Mae Atodlenni 1 i 20 yn cynnwys awdurdodiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid.
(2) Yn ddarostyngedig i Erthygl 14(4) (adnewyddu awdurdodiad) o Reoliad (EC) Rhif 1831/2003, mae’r awdurdodiadau a nodir yn Atodlenni 1 i 20 yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 19 Rhagfyr 2034.
4 

(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/897 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Bacillus subtilis  (C-3102) (DSM 15544) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir dodwy a physgod addurnol (deiliad yr awdurdodiad Asahi Calpis Wellness Co Ltd, a gynrychiolir yn yr Undeb Ewropeaidd gan Pen & Tec Consulting S.L.U.) a Rheoliadau diwygio (EC) Rhif 1444/2006, (EU) Rhif 333/2010 ac (EU) Rhif 184/2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer Erthyglau 2 i 4.
(3) Yn yr Atodiad, yn y tabl—
(a) yn yr ail golofn (enw deiliad yr awdurdodiad), yn lle “Asahi Calpis Wellness Co. Ltd, represented in the European Union by Pen & Tec Consulting S.L.U.” rhodder “Asahi Biocycle Co., Ltd”;
(b) yn y drydedd golofn (yr ychwanegyn) a’r bedwaredd golofn (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), ar gyfer “Bacillus subtilis C-3102”, ym mhob lle mae’n digwydd, rhodder “Bacillus velezensis”;
(c) yn y bumed golofn (rhywogaeth neu gategori o anifail), hepgorer “Laying hens”;
(d) Yn y seithfed golofn (isafswm cynnwys), hepgorer “3 × 10 8”.
5 

(1) Yn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2312 sy’n ymwneud ag awdurdodi defnydd newydd o baratoad o Bacillus subtilis C-3102 (DSM 15544) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer hychod, perchyll sugno a chŵn (deiliad yr awdurdodiad Asahi Calpis Wellness Co. Ltd, a gynrychiolir yn yr Undeb Ewropeaidd gan Pen & Tec Consulting S.L.U.) , yn yr Atodiad, diwygir y tabl fel a ganlyn.
(2) Yn yr ail golofn (enw deiliad yr awdurdodiad), yn lle “Asahi Calpis Wellness Co. Ltd, represented in the European Union by Pen & Tec Consulting S.L.U.” rhodder “Asahi Biocycle Co., Ltd”.
(3) Yn y drydedd golofn (yr ychwanegyn), yn lle “Bacillus subtilis” rhodder “Bacillus velezensis”.
(4) Yn y bedwaredd golofn (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi)—
(a) yn yr adran o dan y pennawd “Additive composition”, yn lle “Bacillus subtilis C-3102” rhodder “Bacillus velezensis”;
(b) yn yr adran o dan y pennawd “Characterisation of the active substance, yn lle“Bacillus subtilis” rhodder “Bacillus velezensis”.
6 

(1) Yn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/1081 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Bacillus subtilis C-3102 (DSM 15544) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer moch i’w pesgi (deiliad yr awdurdodiad Asahi Calpis Wellness Co. Ltd, a gynrychiolir yn yr Undeb Ewropeaidd gan Pen & Tec Consulting S.L.U.) , yn yr Atodiad, diwygir y tabl fel a ganlyn.
(2) Yn yr ail golofn (enw deiliad yr awdurdodiad), yn lle “Asahi Calpis Wellness Co. Ltd, represented in the European Union by Pen & Tec Consulting S.L.U.” rhodder “Asahi Biocycle Co., Ltd”.
(3) Yn y drydedd golofn (yr ychwanegyn) a’r bedwaredd golofn (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis C-3102”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Bacillus velezensis”.
7 

(1) Yn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/804 sy’n ymwneud ag adnewyddu awdurdodiad ffurf organig o seleniwm a gynhyrchir gan Saccharomyceas cerevisiae CNCM I-3060 ac o selenomethionin a gynhyrchir gan Saccharomyces cerevisiae NCYC R397 fel ychwanegion bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail(, yn yr Atodiad, mae’r cofnod ar gyfer “3b810” wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y bedwaredd golofn (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle’r adran o dan y pennawd ”Additive composition” rhodder—“
“Additive compositionPreparation of organic selenium (Se) produced by fermentation with Saccharomyces cerevisiae (CNCM I-3060) containing 2000 to 3500 mg Se/kg with the below components:
• Organic selenium: 97% minimum of total selenium
• Selenomethionine: 63% minimum of total selenium.””
(3) Yn y nawfed golofn (darpariaethau eraill), ar ôl pwynt 4 mewnosoder—“
5. The dusting potential of the additive must ensure a maximum selenium exposure of 0.2 mg Se/m
3.”
8 
Ni chaniateir i hydrocsianisol bwtyleiddiedig (E 320) gael ei roi ar y farchnad na’i ddefnyddio fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer cathod mwyach o dan Erthygl 10 o Reoliad (EC) No 1831/2003.
9 

(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 887/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Enterococcus faecium CECT 4515 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi (deiliad yr awdurdodiad Evonik Nutrition & Care GmbH)  wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodiad, yn yr ail dabl (awdurdodiad yn dod i ben 28 Mehefin 2027), yn yr ail golofn (enw deiliad yr awdurdodiad), yn lle “Evonik Nutrition & Care GmbH)” rhodder “Evonik Operations GmbH”.
10 

(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/961 dyddiedig 7 Mehefin 2017 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Enterococcus faecium CECT 4515 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer perchyll wedi eu diddyfnu, a defnydd newydd mewn dŵr i’w yfed ar gyfer perchyll wedi eu diddyfnu ac ieir i’w pesgi, ac sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2036/2005 a Rheoliad (EU) Rhif 887/2011 (deiliad yr awdurdodiad Evonik Nutrition & Care GmbH) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodiad 1, yn y tabl, yn yr ail golofn (enw deiliad yr awdurdodiad), yn lle “Evonik Nutrition & Care GmbH)” rhodder “Evonik Operations GmbH”.
11 

(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1395 sy’n ymwneud ag adnewyddu awdurdodiad o Bacillus amyloliquefaciens CECT 5940 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi, a’i awdurdodiad ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy, ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1292/2008 (deiliad yr awdurdodiad Evonik Nutrition & Care GmbH)  wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodiad, yn y tabl, yn yr ail golofn (enw deiliad yr awdurdodiad), yn lle“Evonik Nutrition & Care GmbH” rhodder “Evonik Operations GmbH”.
RHAN 3
12 

(1) Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a’r rhag-gymysgeddau, y bwyd anifeiliaid cyfansawdd neu ddeunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 19 Mehefin 2025 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad a’r gofynion labelu sy’n gymwys yn union cyn 20 Rhagfyr 2024, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu dihysbyddu.
(2) Ym mharagraff (1), mae’r cyfeiriad at yr “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” yn gyfeiriad at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid 6-ffytas (EC 3.1.3.26) (rhif adnabod 4a16) fel y’i hawdurdodwyd yn union cyn 20 Rhagfyr 2024 o dan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 98/2012 sy’n ymwneud ag awdurdodi 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir gan Pichia pastoris (DSM 23036) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a thwrcwn i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy, tyrcwn a fegir ar gyfer bridio, ieir dodwy, rhywogaethau eraill o adar i’w pesgi ac ar gyfer dodwy, perchyll wedi eu diddyfnu, moch i’w pesgi a hychod.
13 

(1) Caniateir i unrhyw sylwedd neu gynnyrch a labelwyd “Bacillus subtilis C-3102” neu a labelwyd fel sylwedd neu gynnyrch sy’n cynnwys “Bacillus subtilis C-3102”, ond sydd fel arall wedi cael ei gynhyrchu a’i labelu yn unol ag awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys mewn offeryn a grybwyllir yn rheoliadau 4 i 6 o’r Rheoliadau hyn, barhau i gael ei roi ar y farchnad a’i ddefnyddio o dan yr awdurdodiad hwnnw.
(2) Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a’r rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 19 Mehefin 2025 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad a’r gofynion labelu sy’n gymwys yn union cyn 20 Rhagfyr 2024, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu disbyddu.
(3) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 19 Rhagfyr 2025 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad a’r gofynion labelu sy’n gymwys yn union cyn 20 Rhagfyr 2024, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu disbyddu.
(4) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 19 Rhagfyr 2026 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad a’r gofynion labelu sy’n gymwys cyn 20 Rhagfyr 2024, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu disbyddu.
(5) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at yr “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” yn gyfeiriadau at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bacillus velezensis (Bacillus subtilis C-3102 yn flaenorol) (DSM 15544), sydd â’r rhif adnabod 4b1820, fel y’i hawdurdodwyd yn union cyn 20 Rhagfyr 2024 o dan—
(a) Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 333/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi defnydd newydd o Bacillus subtilis C-3102 (DSM 15544) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer perchyll wedi eu diddyfnu;
(b) Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 184/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis C-3102 (DSM 15544) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy, tyrcwn, mân rywogaethau adar ac adar addurnol ac adar hela eraill;
(c) Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/897 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Bacillus subtilis (C-3102) (DSM 15544) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir dodwy a physgod addurniadol;
(d) Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/893 sy’n ymwneud ag adnewyddu awdurdodiad o Bacillus subtilis DSM 15544 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi.
14 

(1) Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a’r rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 19 Mehefin 2025 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad a’r gofynion labelu sy’n gymwys yn union cyn 20 Rhagfyr 2024, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu disbyddu.
(2) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 19 Rhagfyr 2025 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad a’r gofynion labelu sy’n gymwys yn union cyn 20 Rhagfyr 2024, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu disbyddu.
(3) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 19 Rhagfyr 2026 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad a’r gofynion labelu sy’n gymwys cyn 20 Rhagfyr 2024, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu disbyddu.
(4) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at yr “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” yn gyfeiriadau at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid burum wedi ei seleneiddio a gynhyrchir drwy eplesu â Saccharomyces cerevisiae CNCM I-3060, anactifedig, sydd â’r rhif adnabod 3b810, fel y’i hawdurdodwyd yn union cyn 20 Rhagfyr 2024 o dan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/804.
15 

(1) Caniateir i hydrocsianisol bwtyleiddiedig fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer cathod a’r rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 19 Mehefin 2025 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad a’r gofynion labelu sy’n gymwys yn union cyn 20 Rhagfyr 2024, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu disbyddu.
(2) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys hydrocsianisol bwtyleiddiedig ac a fwriedir ar gyfer cathod, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 19 Rhagfyr 2026 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad a’r gofynion labelu sy’n gymwys yn union cyn 20 Rhagfyr 2024, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu disbyddu.
16 

(1) Caniateir i ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a’r rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 19 Mehefin 2025 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad a’r gofynion labelu sy’n gymwys yn union cyn 20 Rhagfyr 2024, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu disbyddu.
(2) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 19 Rhagfyr 2025 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad a’r gofynion labelu sy’n gymwys yn union cyn 20 Rhagfyr 2024, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu disbyddu.
(3) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 19 Rhagfyr 2026 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad a’r gofynion labelu sy’n gymwys cyn 20 Rhagfyr 2024, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu disbyddu.
(4) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” yn gyfeiriadau at bob un o’r ychwanegion bwyd anifeiliaid a ganlyn.
(a) Yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid celad copor o analog hydrocsi o fethionin, sydd â’r rhif adnabod 3b410i (3b4.10 yn flaenorol) fel y’i hawdurdodwyd yn union cyn 20 Rhagfyr 2024 o dan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 349/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi celad copor o analog hydrocsi o fethionin fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail.
(b) Yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid celad manganîs o analog hydrocsi o fethionin, sydd â’r rhif adnabod 3b510 (3b5.10 yn flaenorol) fel y’i hawdurdodwyd yn union cyn 20 Rhagfyr 2024 o dan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 350/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi celad manganîs o analog hydrocsi o fethionin fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail.
(c) Yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid celad zinc o analog hydrocsi o fethionin, sydd â’r rhif adnabod 3b610 (3b6.10 yn flaenorol) fel y’i hawdurdodwyd yn union cyn 20 Rhagfyr 2024 o dan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 335/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi celad zinc o analog hydrocsi o fethionin fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail.
RHAN 4
17 

(1) Yn Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o ddefnyddiau arfaethedig o fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodol, yn yr Atodiad, yn Rhan B (rhestr o ddefnyddiau arfaethedig), diwygir y tabl fel a ganlyn.
(2) Yng nghofnod 60 (lleihau’r risg o dwymyn llaeth a chlwy’r llaeth is-glinigol), yng ngholofn rhif 2 (nodweddion maethol hanfodol), yn adran y cofnod sy’n dechrau â “Low cations/anions ratio”, yn lle “Objective: 0 < DCADs (mEq/kg dry matter) < 100” rhodder “Objective: Range from -200 mEq/kg dry matter DCADs to <100 mEq/kg dry matter DCAD”.
RHAN 5
18 
Yn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1095 sy’n ymwneud ag awdurdodi Zinc asetad deuhydrad, Zinc clorid anhydrus, Zinc ocsid, Zinc sylffad heptahydrad, Zinc sylffad monohydrad, celad Zinc o asidau amino hydrad, celad Zinc o hydrolysadau protein, celad Zinc o glycin hydrad (solet) a chelad Zinc o glycin hydra (hylif) fel ychwanegion bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail, hepgorer Erthygl 4 (diwygio Rheoliad (EU) Rhif 335/2010).
19 
Yn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/1039 sy’n ymwneud ag awdurdodi Copor(II) diacetad monohydrad, Copor(II) carbonad deuhydrosci monohydrad, Copor(II) clorid deuhydrad, Copor(II) ocsid, Copor(II) sylffad pentahydrad, celad Copor(II) o asidau amino hydrad, celad Copor(II) o hydrolysadau protein, celad Copor(II) o glycin hydrad (solet) a chelad Copor(II) o glycin hydrad (hylif) fel ychwanegion bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail, hepgorer Erthygl 5 (diwygio Rheoliad (EU) Rhif 349/2010).
20 
Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 21 wedi eu dirymu.
Sarah Murphy
Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2024
ATODLEN 1
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o gelad cromiwm o DL-methionin a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sootechnegol arall”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Celad cromiwm o DL-methionin
Rhif adnabod GB4d0001
Deiliad yr awdurdodiad Zinpro Animal Nutrition (Europe), Inc
Categori ychwanegion Ychwanegion sootechnegol
Grŵp gweithredol Sootechnegol arall
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad solet o geladau cromiwm (Cr) gyda DL-methionin gyda’r cydrannau a ganlyn:
• Calsiwm carbonad: 95.6%
• Cromiwm-DL-Methionin: 3.4%
• Olew llysiau: 1.0%
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Celad cromiwm o DL-methionin ([CH3S(CH
2)2CH(NH2)COO]3 Cr)
Dulliau dadansoddi I feintioli cromiwm yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Sbectrometreg màs â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-MS) (BS EN 17053:2018)
I feintioli methionin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod ffotometrig (IEC-VIS) (BS EN ISO 13903:2005)
I brofi ffurf geladedig yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Sbectrometreg isgoch canol (IR) ynghyd â chanfod cynnwys y cromiwm a’r methionin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid
Rhywogaeth neu gategori o anifail Buchod godro
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys 0.2 mg/kg
Uchafswm cynnwys 0.5 mg/kg
Darpariaethau eraill Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd





ATODLEN 2
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885)
Rhif adnabod 4b1710
Deiliad yr awdurdodiad Prosol S.p.A
Categori ychwanegion Ychwanegion sootechnegol
Grŵp gweithredol Sefydlogyddion fflora’r perfedd
Categori ychwanegion Paratoad solet o Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885) sy’n cynnwys isafswm o 1 × 10
9 o unedauffurfio cytref (CFU)/g
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Celloedd hyfyw Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885)

Dulliau dadansoddi I gyfrifo:
• Y dull plât arllwys gan ddefnyddio agar CGYE (cloramffenicol, glwcos, echdynnyn burum) (BS EN 15789:2021)
I adnabod y straen burum:
• Y dull adwaith cadwynol polymerasau (PCR) (DD CEN/TS 15790:2008)
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Pob rhywogaeth o Suidae heblaw perchyll sugno neu hychod
• Cathod
• Cŵn
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Ar gyfer Suidae:
• Suidae heblaw perchyll sugno, hychod a Suidae at ddibenion atgenhedlu: 3 × 109 CFU/kg
• Suidae at ddibenion atgenhedlu ac eithrio hychod: 6.4 × 109 CFU/kg
Ar gyfer cathod
• 7 × 1010 CFU/kg
Ar gyfer cŵn:
• 7 × 1010 CFU/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill Rhaid nodi’r amodau storio yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau





ATODLEN 3
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o Pediococcus acidilactici  (CNCM I-4622) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion technolegol” ac i’r grwpiau gweithredol “rheolydd asidedd” a “sylweddau gwella cyflwr hylendid”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Pediococcus acidilactici (CNCM I-4622)
Rhif adnabod 4d1712
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion technolegol
Grŵp gweithredol 
• Rheolyddion asidedd
• Sylweddau gwella cyflwr hylendid
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad solet o Pediococcus acidilactici (CNCM I-4622) sy’n cynnwys o leiaf 1×10
10 o unedau ffurfio cytref (CFU)/g
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Celloedd hyfyw Pediococcus acidilactici  (CNCM I-4622)

Dulliau dadansoddi I gyfrifo (cyfrif cytrefi) yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Y dull plât taenu gan ddefnyddio agar MRS (BS EN 15786:2021)
I adnabod y straen bacterol:
• Electrofforesis jel maes pylsedig (PFGE)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys 1 × 109 CFU/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd.
2. Dim ond i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid cyfansawdd stwnsh a fwriedir ar gyfer paratoi bwyd anifeiliaid hylifol ar fferm, neu ddeunyddiau bwyd anifeiliaid solet a fwriedir ar gyfer paratoi bwyd anifeiliaid hylifol ar fferm.
3. Os yw Pediococcus acidilactici (CNCM I-4622) i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cocsidiostatau, awdurdodir defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn gyda’r cocsidiostatau a ganlyn yn unig, ac yn unol â’u meini prawf awdurdodi unigol:
• Decocwinad
• Deuclaswril
• Halofwginon
• Nicarbasin
• Robenidin




ATODLEN 4
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o fonensin sodiwm a gynhyrchir drwy eplesu â Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “cocsidiostatau a histomonostatau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Monensin sodiwm
Rhif adnabod 51701
Deiliad yr awdurdodiad Huvepharma NV
Categori ychwanegion Cocsidiostatau a histomonostatau
Grŵp gweithredol Dim
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad o fonensin sodiwm a gynhyrchir drwy eplesu â Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) ar ffurf powdr gyda’r cydrannau a ganlyn:
• Sylwedd technegol monensin sodiwm: 250 g/kg sy’n cynnwys:
— Monensin A: isafswm o 90%
— Monensin A + B: isafswm o 95%
— Monensin C: 0.2 – 0.3%
• Perlit: 150 – 200 g/kg
• Calsiwm carbonad: 550 – 600 g/kg
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Sylwedd technegol monensin sodiwm a gynhyrchir drwy eplesu â Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419).
• Monensin sodiwm A (C36H61NaO11)
• Monensin sodiwm B (C35H59NaO11)
• Monensin sodiwm C (C37H63NaO11)
• Rhif CAS: 22373-78-0
Dulliau dadansoddi I feintioli monensin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Cromatograffaeth hylif perfformiad uchel gwedd wrthdroi gan ddefnyddio deilliant ôl-golofn a gyplysir â chanfod sbectroffotometrig (RP-HPLC-PCD-UV-VIS) (BS EN ISO 14183: 2008)
I feintioli monensin sodiwm mewn meinweoedd ieir a thyrcwn:
• Cromatograffaeth hylif perfformiad uchel gwedd wrthdroi a gyplysir â sbectrometr màs pedrypol triphlyg (RP-HPLC-MS/MS) neu unrhyw ddulliau cyfatebol.
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Ieir i’w pesgi
• Ieir a fegir ar gyfer dodwy
• Tyrcwn i’w pesgi
• Tyrcwn a fegir ar gyfer bridio
Oedran hynaf Ar gyfer ieir i’w pesgi:
• Dim
Ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy:
• 16 wythnos
Ar gyfer tyrcwn i’w pesgi, tyrcwn a fegir ar gyfer bridio:
• 16 wythnos
Isafswm cynnwys Ar gyfer ieir i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy:
• 100 mg/kg
Ar gyfer tyrcwn i’w pesgi, tyrcwn a fegir ar gyfer bridio:
• 60 mg/kg
Uchafswm cynnwys Ar gyfer ieir i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy:
• 125 mg/kg
Ar gyfer tyrcwn i’w pesgi, tyrcwn a fegir ar gyfer bridio:
• 100 mg/kg
Uchafswm terfynau gweddillion (MRLs) monensin sodiwm mewn bwyd sy’n dod o anifeiliaid Ar gyfer croen gwlyb ar y cyd â braster gwlyb:
• 25 µg/kg
Ar gyfer afu gwlyb; aren wlyb; cyhyrau gwlyb:
• 8 µg/kg
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd.
2. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn y bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar ffurf rhag-gymysgedd.
3. Ni chaniateir cymysgu monensin sodiwm â chocsidiostatau eraill.
4. Rhaid nodi’r canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio:
• Yn Saesneg: “Dangerous for equines. This feed contains an ionophore. Avoid simultaneous administration with tiamulin and monitor for possible adverse reactions when used concurrently with other medicinal substances”.
• Yn Gymraeg: “Yn beryglus i geffylau. Mae’r bwyd anifeiliaid hwn yn cynnwys ionoffor. Dylid osgoi ei roi ar yr un pryd â tiamwlin, a dylid monitro ar gyfer adweithiau andwyol posibl wrth ei ddefnyddio gyda sylweddau meddygol eraill”.
5. Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gynnal rhaglen fonitro ar ôl rhyddhau ar y farchnad ar gyfer ymwrthedd i facteria ac Eimeria spp. Rhaid cyflwyno adroddiad yn cynnwys canlyniad y rhaglen honno i Weinidogion Cymru cyn diwedd 19 Rhagfyr 2033.





ATODLEN 5
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o fonensin sodiwm a gynhyrchir drwy eplesu â Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “cocsidiostatau a histomonostatau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Monensin sodiwm
Rhif adnabod 51701.
Deiliad yr awdurdodiad Huvepharma NV
Categori ychwanegion Cocsidiostatau a histomonostatau
Grŵp gweithredol Dim
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad o fonensin sodiwm a gynhyrchir drwy eplesu â Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) ar ffurf powdr gyda’r cydrannau a ganlyn:
• Sylwedd technegol monensin sodiwm: 250g/kg sy’n cynnwys:
— Monensin A: isafswm o 90%
— Monensin A + B: isafswm o 95%
— Monensin C: 0.2 – 0.3%
• Perlit: 150 – 200 g/kg
• Bran gwenith: 550 – 600 g/kg
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Sylwedd technegol monensin sodiwm a gynhyrchir drwy eplesu â Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419).
• Monensin sodiwm A (C36H61NaO11)
• Monensin sodiwm B (C35H59NaO11)
• Monensin sodiwm C (C37H63NaO11)
• Rhif CAS: 22373-78-0
Dulliau dadansoddi I feintioli monensin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Cromatograffaeth hylif perfformiad uchel gwedd wrthdroi gan ddefnyddio deilliant ôl-golofn a gyplysir â chanfod sbectroffotometrig (RP-HPLC-PCD-UV-VIS) (BS EN ISO 14183: 2008)
I feintioli monensin sodiwm mewn meinweoedd ieir a thyrcwn:
• Cromatograffaeth hylif perfformiad uchel gwedd wrthdroi a gyplysir â sbectrometr màs pedrypol triphlyg (RP-HPLC-MS/MS) neu unrhyw ddulliau cyfatebol.
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Ieir i’w pesgi
• Ieir a fegir ar gyfer dodwy
• Tyrcwn i’w pesgi
• Tyrcwn a fegir ar gyfer bridio
Oedran hynaf Ar gyfer ieir i’w pesgi:
• Dim
Ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy:
• 16 wythnos
Ar gyfer tyrcwn i’w pesgi, tyrcwn a fegir ar gyfer bridio:
• 16 wythnos
Isafswm cynnwys Ar gyfer ieir i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy:
• 100 mg/kg
Ar gyfer tyrcwn i’w pesgi, tyrcwn a fegir ar gyfer bridio:
• 60 mg/kg
Uchafswm cynnwys Ar gyfer ieir i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy:
• 125 mg/kg
Ar gyfer tyrcwn i’w pesgi, tyrcwn a fegir ar gyfer bridio:
• 100 mg/kg
Uchafswm terfynau gweddillion (MRLs) monensin sodiwm mewn bwyd sy’n dod o anifeiliaid Ar gyfer croen gwlyb ar y cyd â braster gwlyb:
• 25 µg/kg
Ar gyfer afu gwlyb; aren wlyb; cyhyrau gwlyb:
• 8 µg/kg
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd.
2. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn y bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar ffurf rhag-gymysgedd.
3. Ni chaniateir cymysgu monensin sodiwm â chocsidiostatau eraill.
4. Rhaid nodi’r canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio:
• Yn Saesneg: “Dangerous for equines. This feed contains an ionophore. Avoid simultaneous administration with tiamulin and monitor for possible adverse reactions when used concurrently with other medicinal substances”.
• Yn Gymraeg: “Yn beryglus i geffylau. Mae’r bwyd anifeiliaid hwn yn cynnwys ionoffor. Dylid osgoi ei roi ar yr un pryd â thiamwlin, a dylid monitro ar gyfer adweithiau andwyol posibl wrth ei ddefnyddio gyda sylweddau meddygol eraill”.
5. Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gynnal rhaglen fonitro ar ôl rhyddhau ar y farchnad ar gyfer ymwrthedd i facteria ac Eimeria spp. Rhaid cyflwyno adroddiad yn cynnwys canlyniad y rhaglen honno i Weinidogion Cymru cyn diwedd 19 Rhagfyr 2033.





ATODLEN 6
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir drwy eplesu ag Komagataella phaffii (DSM 23036) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sylweddau gwella treuliadwyedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn 6-ffytas (EC 3.1.3.26)
Rhif adnabod 4a16
Deiliad yr awdurdodiad Huvepharma NV
Categori ychwanegion Ychwanegion sootechnegol
Grŵp gweithredol Sylweddau gwella treuliadwyedd
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad o 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir drwy eplesu â Komagataella phaffii (DSM 23036) sydd ag isafswm actifedd ensym o:
• 4,000 OTU/g ar ffurf solet
• 8,000 OTU/g ar ffurf hylif
Nodweddiad y sylwedd(au) actif 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir drwy eplesu â Komagataella phaffii (DSM 23036)
• Rhif CAS: 9001-89-2
• Rhif EC (IUBMB):: 3.1.3.26
Dulliau dadansoddi I feintioli actifedd ffytas yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Dull colorimetrig yn seiliedig ar feintioli’r ffosffad anorganig a ryddheir gan yr ensym o’r sodiwm ffytad
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Pob rhywogaeth o adar
• Pob Suidae
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwy Ar gyfer rhywogaethau adar:
• Pob rhywogaeth o adar ac eithrio tyrcwn: 125 OTU/kg
• Tyrcwn: 250 OTU/kg
Ar gyfer Suidae:
• Pob Suidae ac eithrio perchyll: 125 OTU/kg
• Perchyll: 250 OTU/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd.






ATODLEN 7
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o Bacillus velezensis (DSM 15544) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Bacillus velezensis (DSM 15544)
Rhif adnabod 4b1820
Deiliad yr awdurdodiad Asahi Biocycle Co., Ltd
Categori ychwanegion Ychwanegion sootechnegol
Grŵp gweithredol Sefydlogyddion fflora’r perfedd
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad solet o Bacillus velezensis (DSM 15544) sy’n cynnwys isafswm o 1 × 1010 o unedau ffurfio cytref (CFU)/g
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Sborau hyfyw Bacillus velezensis (DSM 15544)

Dulliau dadansoddi I gyfrifo (cyfrif cytrefi) yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Y dull plât taenu gan ddefnyddio agar soia trypton ym mhob matrics targed (BS EN 15784:2021)
I adnabod yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid
• Electrofforesis jel maes pylsedig (PFGE)
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Perchyll wedi eu diddyfnu
• Pob rhywogaeth o adar
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys 3 × 108 CFU/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd.




ATODLEN 8
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o L-histidin monohydroclorid monohydrad a gynhyrchir drwy eplesu ag Escherichia coli K-12 (KCCM 80212) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn L-histidin monohydroclorid monohydrad
Rhif adnabod 3c352i
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau
Cyfansoddiad yr ychwanegyn L-histidin monohydroclorid monohydrad gyda maen prawf puredd heb fod yn llai na 98% fel powdr gyda’r cydrannau a ganlyn:
• Lleithder: uchafswm o 1%
• Histidin: isafswm o 72%
• Histamin: uchafswm o 100ppm
Nodweddiad y sylwedd(au) actif L-histidin monohydroclorid monohydrad a gynhyrchir drwy eplesu ag Escherichia coli K-12 (KCCM 80212) (C6H12ClN3O3)
• Rhif CAS: 5934-29-2
• Rhif EINECS: 611-821-4
Dulliau dadansoddi I feintioli histidin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Cromatograffaeth hylif perfformiad uchel a gyplysir â chanfod ffotometrig (HPLC-UV) (BS EN ISO 13903: 2005), neu
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS/FLD)
I feintioli histidin mewn rhag-gymysgeddau, deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod ffotometrig (IEC-VIS) (Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 sy’n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli bwyd anifeiliaid yn swyddogol - Atodiad 3, F)
I feintioli histamin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Cromatograffaeth hylif perfformiad uchel a gyplysir â chanfod ffotometrig (HPLC-UV) (BS EN ISO 13903: 2005)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd.
2. Caniateir rhoi L-histidin monohydroclorid monohydrad ar y farchnad a’i ddefnyddio fel ychwanegyn sy’n baratoad.
3. Rhaid nodi’r cynnwys histidin ar label yr ychwanegyn a’r rhag-gymysedd.
4. Rhaid nodi’r canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, ar label yr ychwanegyn a’r rhag-gymysgedd:
• Yn Saesneg: “The supplementation with L-histidine monohydrochloride monohydrate shall be limited to the nutritional requirements of the target animal, which depend on the species, the physiological state of the animal, the performance level, the environmental conditions, the level of other amino acids in the diet and the level essential trace elements such as copper and zinc”.
• Yn Gymraeg: “Rhaid i’r ychwanegiad â L-histidin monohydroclorid monohydrad fod yn gyfyngedig i ofynion maethol yr anifail targed, sy’n dibynnu ar y rhywogaeth, cyflwr ffisiolegol yr anifail, lefel perfformiad, yr amodau amgylcheddol, lefel asidau amino eraill yn y diet a lefel elfennau hybrin hanfodol fel copor a zinc”.
5. Rhaid i gynnwys endotocsin yr ychwanegyn a’i botensial ysgeintio sicrhau amlygiad endotocsin mwyaf posibl o 1600 IU endotocsinau/m3 aer
.







ATODLEN 9
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o L-tryptoffan a gynhyrchir drwy eplesu ag Escherichia coli (KCCM 80210) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn L–tryptoffan
Rhif adnabod 3c440i
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau
Cyfansoddiad yr ychwanegyn L-tryptoffan gyda maen prawf puredd ar sail deunydd sych heb fod yn llai na 98% fel powdr gyda’r cydrannau a ganlyn:
• Cynnwys lleithder: uchafswm o 1%
• 1,1’-ethyliden-bis-L-tryptoffan: uchafswm o 10 mg/kg
Nodweddiad y sylwedd(au) actif L-tryptoffan a gynhyrchir drwy eplesu ag Escherichia coli (KCCM 80210) (C11H12N2O2)
• Rhif CAS: 73-22-3
• Rhif EINECS: 200-795-6
Dulliau dadansoddi I adnabod L-tryptoffan yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Food Chemical Codex “L-tryptophan monograph”
I ganfod tryptoffan yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau:
• Cromatograffaeth hylif perfformiad uchel â chanfod fflworoleuedd (HPLC-FLD) (BS EN ISO 13904:2016)
I ganfod tryptoffan mewn deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Cromatograffaeth hylif perfformiad uchel â chanfod fflworoleuedd (HPLC-FLD) (Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 sy’n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli bwyd anifeiliaid yn swyddogol - Atodiad 3, G)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid i L-tryptophan fod yn ddiogel i’r rwmen pan gaiff ei roi i anifeiliaid cnoi cil.
2. Rhaid nodi’r canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, ar label yr ychwanegyn a’r rhag-gymysgedd:
• yn Saesneg: “The supplementation with L-tryptophan shall take into account all essential and conditionally essential amino acids in order to avoid imbalances”.
• Yn Gymraeg: “Rhaid i’r atchwanegiad ag L-tryptophan ystyried yr holl asidau amino hanfodol ac amodol hanfodol er mwyn osgoi anghydbwysedd”.
3. Rhaid i gynnwys endotocsin yr ychwanegyn a’i botensial ysgeintio sicrhau amlygiad endotocsin mwyaf posibl o 1600 IU endotocsinau/m
3 aer.









ATODLEN 10
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o L‐lysin sylffad a gynhyrchir drwy eplesu â Corynebacterium glutamicum (KCCM 80227) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn L-lysin sylffad
Rhif adnabod 3c324i
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad gronynnol o L-lysin sylffad sydd ag o leiaf 52% o L-lysin, uchafswm o 24% o sylffad ac sydd ag uchafswm cynnwys lleithder o 4%
Nodweddiad y sylwedd(au) actif L-lysin sylffad a gynhyrchir drwy eplesu â Corynebacteriumglutamicum (KCCM 80227) (C12H28N4O4· H2SO4)
• Rhif CAS: 60343-69-3
Dulliau dadansoddi I feintioli lysin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid a rhag-gymysgeddau sy’n cynnwys mwy na 10% lysin:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS/FLD) (BS EN ISO 17180:2013)
I adnabod sylffad yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Monograff yr European Pharmacopoeia 2030
I feintioli lysin mewn rhag-gymysgeddau, deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod ffotometrig (IEC-VIS) (Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 sy’n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli bwyd anifeiliaid yn swyddogol - Atodiad 3, F)
I feintioli lysin mewn dŵr:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS/FLD) (BS EN ISO 17180:2013)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys 10,000 mg/kg
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd.
2. Rhaid nodi’r cynnwys L-lysin ar label yr ychwanegyn.
3. Rhaid nodi’r canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, ar label yr ychwanegyn a’r rhag-gymysgedd:
• Yn Saesneg: “The supplementation with L-lysine should take into account all essential and conditionally essential amino acids in order to avoid imbalances”.
• Yn Gymraeg: “Dylai’r atchwanegiad ag L-lysin ystyried yr holl asidau amino hanfodol ac amodol hanfodol er mwyn osgoi anghydbwysedd”.






ATODLEN 11
Rheoliad 3(1)

Mae’r sylwedd hydrocsianisol bwtyleiddiedig (rhif adnabod 1b320) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion technegol” ac i’r grŵp gweithredol “gwrthocsidyddion”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Hydrocsianisol bwtyleiddiedig
Rhif adnabod 1b320
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion technolegol
Grŵp gweithredol Gwrthocsidyddion
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Hydrocsianisol bwtyleiddiedig gydag isafswm cynnwys o 98.5% mewn ffurf solet cwyrog
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Hydrocsianisol bwtyleiddiedig sy’n cynnwys cymysgedd o 2-tert-bwtyl-4-hydrocsianisol ac o leiaf 85% 3-tert-bwtyl-4-hydrocsianisol (C11H16O2)
• Rhif CAS: 25013-16-5
Dulliau dadansoddi I feintioli hydrocsianisol bwtyleiddiedig mewn ychwanegion bwyd anifeiliaid:
• Cromatograffaeth nwy a gyplysir â chanfod ïoneiddio â fflam (GC-FID) (Dull Food Chemical Codex 7fed argraffiad)
I feintioli hydrocsianisol bwtyleiddiedig mewn rhag-gymygeddau a bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Cromatograffaeth hylif perfformiad uchel gwedd wrthdroi a gyplysir â chanfod aráe-deuodau-uwchfioled (RP-HPLC-UV-DAD, 285 nm)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Cathod
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys 150 mg/kg
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd.
2. Mae hydrocsianisol bwtyleiddiedig wedi ei awdurdodi i’w ddefnyddio ar y cyd â hydrocsitolwen bwtyleiddiedig hyd at uchafswm cynnwys cyfunol o 150 mg/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn.





ATODLEN 12
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o sylfaen L‐lysin (hylif) a gynhyrchir drwy eplesu â Corynebacterium glutamicum (KCCM 80183) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Sylfaen L-lysin (hylif)
Rhif adnabod 3c320
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Hydoddiant dyfrllyd sy’n cynnwys o leiaf 50% L-lysin
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Sylfaen L-lysin (hylif) (NH2(CH2) CH (NH2) COOH) a gynhyrchir drwy eplesu â Corynebacterium glutamicum (KCCM 80183).
• Rhif CAS: 56-87-1
Dulliau dadansoddi I feintioli lysin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid a rhag-gymysgeddau sy’n cynnwys mwy na 10% lysin:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS/FLD) (BS EN ISO 17180:2013)
I feintioli lysin mewn rhag-gymysgeddau, deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS) (Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 sy’n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli bwyd anifeiliaid yn swyddogol - Atodiad 3, F)
I feintioli lysin mewn dŵr:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS/FLD) (BS EN ISO 17180:2013), neu
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS) (Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 - Atodiad 3, F)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r cynnwys L-lysin ar label yr ychwanegyn.
2. Caniateir defnyddio’r ychwanegyn drwy ddŵr i’w yfed.
3. Rhaid nodi’r canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, ar label yr ychwanegyn a’r rhag-gymysgedd:
• Yn Saesneg: ”Dylai’r ychwanegiad gyda L-lysin, yn enwedig trwy ddŵr i’w yfed, ystyried yr holl asidau amino hanfodol a hanfodol amodol er mwyn osgoi anghydbwysedd”.
• Yn Gymraeg: “Dylai’r atchwanegiad ag L-lysin, yn arbennig drwy ddŵr i’w yfed, ystyried yr holl asidau amino hanfodol ac amodol hanfodol er mwyn osgoi anghydbwysedd”.





ATODLEN 13
Rheoliad 3(1)

Mae’r sylwedd L‐lysin monohydroclorid (pur yn dechnegol) a gynhyrchir drwy eplesu â Corynebacterium glutamicuma (KCCM 80183) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn L-lysin monohydroclorid (pur yn dechnegol)
Rhif adnabod 3c322ii
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Powdr L-lysin monohydroclorid sydd o leiaf 78% L-lysin ac sydd ag uchafswm cynnwys lleithder o 1.5%
Nodweddiad y sylwedd(au) actif L-lysin monohydroclorid (pur yn dechnegol) (NH2(CH2)4CH(NH2)COOH) a gynhyrchir drwy eplesu â Corynebacterium glutamicum (KCCM 80183)
• Rhif CAS: 657-27-2
Dulliau dadansoddi I adnabod L-lysin monohydroclorid yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• “Monograff L-lysin monohydroclorid” y Food Chemicals Codex
I feintioli lysin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid a rhag-gymysgeddau sy’n cynnwys mwy na 10% lysin:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS/FLD) (BS EN ISO 17180:2013)
I feintioli lysin mewn rhag-gymysgeddau, deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS) (Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 sy’n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli bwyd anifeiliaid yn swyddogol - Atodiad 3, F)
I feintioli lysin mewn dŵr:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS/FLD) (BS EN ISO 17180:2013), neu
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS) (Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 - Atodiad 3, F)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r cynnwys L-lysin ar label yr ychwanegyn.
2. Gellir defnyddio’r ychwanegyn drwy ddŵr i’w yfed.
3. Rhaid nodi’r canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, ar label yr ychwanegyn a’r rhag-gymysgedd:
• Yn Saesneg: “The supplementation with L-lysine, in particular via water for drinking, should take into account all essential and conditionally essential amino acids in order to avoid imbalances”;
• Yn Gymraeg: “Dylai’r atchwanegiad ag L-lysin, yn arbennig drwy ddŵr i’w yfed, ystyried yr holl asidau amino hanfodol ac amodol hanfodol er mwyn osgoi anghydbwysedd”.






ATODLEN 14
Rheoliad 3(1)

Mae’r sylwedd disodiwm 5’-gwanilad (GMP) a gynhyrchir drwy eplesu â Corynebacterium stationis (KCCM 10530) ac Escherichia coli K-12 (KFCC 11067) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion synhwyraidd” ac i’r grŵp gweithredol “cyfansoddion cyflasu”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Disodiwm 5’-gwanilad
Rhif adnabod 2b627i
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion synhwyraidd
Grŵp gweithredol Cyfansoddion cyflasu
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Powdr disodiwm 5’-gwanilad â meini prawf purdeb lleiaf o 97%.
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Ffurf wedi ei hydradu ar ddisodiwm 5’-gwanilad (GMP) a gynhyrchir drwy eplesu â Corynebacterium stationis (KCCM 10530) ac Escherichia coli K-12 (KFCC 11067) (C10H12N5Na2O8P)
• Rhif CAS: 5550-12-9
• Rhif EINECS: 226-914-1
Dulliau dadansoddi I adnabod disodiwm 5’-gwanilad (GMP) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Monograff “disodiwm 5’-gwanilad” FAO JECFA
I ganfod disodiwm 5’-gwanilad (GMP) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, rhag-gymysgeddau cyflasu a dŵr:
• Cromatograffaeth hylif perfformiad uchel a gyplysir â chanfod UV (HPLC-UV)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd.
2. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn yn y bwyd anifeiliaid ar ffurf rhag-gymysgedd.
3. Rhaid nodi’r canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, ar label yr ychwanegyn:
• Yn Saesneg: “Recommended maximum content of the active substance when used alone or in combination with other ribonucleotides up to the same level per kg of complete feedingstuff with a moisture content of 12%: 50 mg”.
• Yn Gymraeg: “Yr uchafswm cynnwys a argymhellir o’r sylwedd actif pan y’i defnyddir ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â riboniwcleotidau eraill hyd at yr un lefel fesul kg o fwyd anifeiliaid â chynnwys lleithder o 12%: 50 mg”.
4. Rhaid i grŵp gweithredol, rhif adnabod, enw a swm ychwanegol y sylwedd actif gael eu nodi ar label y rhag-gymysgedd pan fyddai’r lefel defnydd ar label y rhag-gymysgedd yn golygu bod lefel y sylwedd actif (ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â riboniwcleotidau eraill) mewn bwyd anifeiliaid cyflawn yn fwy na 50 mg/kg.






ATODLEN 15
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o fwramidas (EC 3.2.1.17) a gynhyrchir drwy eplesu â Trichoderma reesei (DSM 32338) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “ychwanegion sootechnegol eraill”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Mwramidas (EC 3.2.1.17)
Rhif adnabod 4d16
Deiliad yr awdurdodiad DSM Nutritional Products Ltd
Categori ychwanegion Ychwanegion sootechnegol
Grŵp gweithredol Ychwanegion sootechnegol eraill
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoadau solet a hylif o fwramidas (EC 3.2.1.17) a gynhyrchir drwy eplesu â Trichoderma reesei (DSM 32338) sydd ag isafswm actifedd ensym o 60,000 LSU(F)/g
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Mwramidas (EC 3.2.1.17) a gynhyrchir drwy eplesu â Trichoderma reesei (DSM 32338)
• Rhif CAS: 9001-63-2
• Rhif EINECS: 232-620-4
• Rhif EC (IUBMB): 3.2.1.17
Dulliau dadansoddi I feintioli mwramidas yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Dull biobrawf ensym sy’n seiliedig ar fflworoleuedd sy’n pennu dadbolymeriad ensym wedi ei gataleiddio paratoad peptidoglycan â label fflworesin ar pH 6.0 a 30 °C.
Rhywogaeth neu gategori o anifail Perchyll wedi eu diddyfnu
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys 50,000 LSU(F)/kg
Uchafswm cynnwys 65,000 LSU(F)/kg
Darpariaethau eraill Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd.







ATODLEN 16
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o ffytomenadion (fitamin K1) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “fitaminau, pro-fitaminau a sylweddau wedi eu diffinio’n dda yn gemegol sydd ag effaith debyg”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Ffytomenadion neu fitamin K1
Rhif adnabod 3a712
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Fitaminau, pro-fitaminau a sylweddau wedi eu diffinio’n dda yn gemegol sydd ag effaith debyg
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Cynhyrchir gan synthesis cemegol
• Paratoad solet sy’n cynnwys o leiaf 4.2% o ffytomenadion (fitamin K1)
Nodweddiad y sylwedd(au) actif 2-methyl-3-[(E-7R, 11R) -3,7,11,15-tetramethylhecsadec-2- enyl] naphthalen-1,4-dion (ffytomenadion) (C31H46O2)
• Rhif CAS: 84-80-0
• Rhif EINECS: 201-564-2â’r elfennau a ganlyn:
• E-ffytomenadion: isafswm o 75%
• E-epocsiffytomenadion: Uchafswm o 4%
• Cyfanswm purdeb isomerau E-ffytomenadion, E-epocsiffytomenadion a Z-ffytomenadion: 97% o leiaf
Dulliau dadansoddi I ganfod ffytomenadion (fitamin K1) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Cromatograffaeth hylif perfformiad uchel (HPLC) (Monograff yr European Pharmacopoeia 1036)
I ganfod ffytomenadion yn y paratoad ychwanegion ac mewn bwyd anifeiliaid cyflenwol:
• Cromatograffaeth hylif perfformiad uchel â chanfod fflworoleuedd (HPLC-FLD) (BS EN 14148:2003)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Ceffylau
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd.







ATODLEN 17
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o gelad copr o analog hydrocsi o fethionin a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “cyfansoddion elfennau hybrin”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Celad copr o analog hydrocsi o fethionin
Rhif adnabod 3b410i
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Cyfansoddion elfennau hybrin
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Celad copr o analog hydrocsi o fethionin ar ffurf solet sy’n cynnwys 16% o gopr o leiaf a’r cydrannau a ganlyn:
• asid bwtanöig (2-hydrocsi-4-methylthio): 78% o leiaf
• Nicel: Uchafswm o 20 ppm
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Celad copr o analog hydrocsi o fethionin(Cu(CH3S(CH2)2-CH(OH)-COO)2)
• Rhif CAS: 292140-30-8
Dulliau dadansoddi I feintioli cynnwys analog hydrocsi o fethionin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Titradaeth, titradiad potensiomedrig ar ôl adwaith lleihau ocsideiddio
I feintioli cyfanswm y copr yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Sbectrometreg allyriant atomig â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-AES) (BS EN 15510:2017 neu BS EN 15621:2017); neu
• Sbectrometreg amsugniad atomig (AAS) (BS EN ISO 6869:2001)
I feintioli cyfanswm y copr mewn rhag-gymysgeddau:
• Sbectrometreg allyriant atomig â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-AES) (BS EN 15510:2017 neu BS EN 15621:2017); neu
• Sbectrometreg amsugniad atomig (AAS) (BS EN ISO 6869:2001); neu
• Sbectrometreg màs â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-MS) (BS EN 17053:2018)
I feintioli cyfanswm y copr mewn deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Sbectrometreg allyriant atomig â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-AES) (BS EN 15510:2017 neu BS EN 15621:2017); neu
• Sbectrometreg amsugniad atomig (AAS) (Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 sy’n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli bwyd anifeiliaid yn swyddogol - Atodiad 4, C neu BS EN ISO 6869:2001); neu
• Sbectrometreg màs â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-MS) (BS EN 17053:2018)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys Ar gyfer bucholion:
• Cyn dechrau cnoi cil: 15mg/kg (cyfanswm)
• Arall: 30mg/kg (cyfanswm)
Ar gyfer defaid:
• 15 mg/kg (cyfanswm)
Ar gyfer geifr:
• 35 mg/kg (cyfanswm)
Ar gyfer perchyll:
• Yn sugno ac wedi eu diddyfnu hyd at 4 wythnos ar ôl eu diddyfnu: 150 mg/kg (cyfanswm)
• O’r 5ed wythnos hyd at 8 wythnos ar ôl diddyfnu: 100 mg/kg (cyfanswm)
Ar gyfer cramenogion:
• 50 mg/kg (cyfanswm)
Ar gyfer pob rhywogaeth arall o anifail:
• 25 mg/kg (cyfanswm)
Darpariaethau eraill 1. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn yn y bwyd anifeiliaid ar ffurf rhag-gymysgedd.
2. Ar gyfer bwyd anifeiliaid ar gyfer defaid, pan fo lefel y copr yn y bwyd anifeiliaid yn uwch na 10 mg/kg, rhaid nodi’r canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, ar label y bwyd anifeiliaid:
• Yn Saesneg: “The level of copper in this feed may cause poisoning in certain breeds of sheep”.
• Yn Gymraeg: “Gall lefel y copr yn y bwyd anifeiliaid hwn achosi gwenwyno mewn rhai bridiau o ddefaid”;
3. Ar gyfer bwyd anifeiliaid ar gyfer bucholion ar ôl dechrau cnoi cil, pan fo lefel y copr yn y bwyd anifeiliaid yn llai nag 20 mg/kg, rhaid nodi’r canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, ar label y bwyd anifeiliaid:
• Yn Saesneg: “The level of copper in this feed may cause copper deficiencies in cattle grazing pastures with high contents of molybdenum or sulphur”.
• Yn Gymraeg: “Gall lefel y copr yn y bwyd anifeiliaid hwn achosi diffygion copr mewn gwartheg syn pori tir sydd â chynnwys uchel o folybdenwm neu sylffwr”.








ATODLEN 18
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o gelad manganîs o analog hydrocsi o fethionin a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “cyfansoddion elfennau hybrin”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Celad manganîs o analog hydrocsi o fethionin
Rhif adnabod 3b510
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Cyfansoddion elfennau hybrin
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Celad manganîs o analog hydrocsi o fethionin ar ffurf solet sy’n cynnwys 14% o fanganîs o leiaf a’r cydrannau a ganlyn:
• asid bwtanöig (2-hydrocsi-4-methylthio): 76% o leiaf
• Nicel: Uchafswm o 170 ppm
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Celad manganîs o analog hydrocsi o fethionin(Mn(CH3S(CH2)2-CH(OH)-COO)2)
• Rhif CAS: 292140-29-5
Dulliau dadansoddi I feintioli cynnwys analog hydrocsi o fethionin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Titradaeth, titradiad potensiomedrig ar ôl adwaith lleihau ocsideiddio
I feintioli cyfanswm y manganîs yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau
• Sbectrometreg amsugniad atomig (AAS) (BS EN ISO 6869:2001); neu
• Sbectrometreg allyriant atomig â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-AES) (BS EN 15510:2017), neu
• Sbectrometreg allyriant atomig â phlasma a gyplyswyd yn anwythol ar ôl treulio drwy bwysedd (ICP-AES) (BS EN 15621:2017)
I feintioli cyfanswm y manganîs mewn deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Sbectrometreg amsugniad atomig (AAS) (Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 sy’n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli bwyd anifeiliaid yn swyddogol - Atodiad 4, C neu BS EN ISO 6869:2001), neu
• Sbectrometreg allyriant atomig â phlasma a gyplyswyd yn anwythol, ICP-AES (BS EN 15510:2017), neu
• Sbectrometreg allyriant atomig â phlasma a gyplyswyd yn anwythol ar ôl treulio drwy bwysedd (ICP-AES) (BS EN 15621:2017)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys Ar gyfer pysgod:
• 100 mg/kg (cyfanswm)
Ar gyfer pob rhywogaeth arall o anifail:
• 150 mg/kg (cyfanswm)
Darpariaethau eraill 1. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn yn y bwyd anifeiliaid ar ffurf rhag-gymysgedd.
2. Caniateir rhoi celad manganîs o analog hydrocsi o fethionin ar y farchnad a’i ddefnyddio fel ychwanegyn sy’n baratoad.







ATODLEN 19
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o gelad zinc o analog hydrocsi o fethionin a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “cyfansoddion elfennau hybrin”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Celad zinc o analog hydrocsi o fethionin
Rhif adnabod 3b610
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Cyfansoddion elfennau hybrin
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Celad zinc o analog hydrocsi o fethionin ar ffurf solet sy’n cynnwys 17% o zinc o leiaf a’r cydrannau a ganlyn:
• asid bwtanöig (2-hydrocsi-4-methylthio): 79% o leiaf
• Nicel: Uchafswm o 1.7 ppm
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Celad zinc o analog hydrocsi o fethionin (Zn(CH3S(CH2)2-CH(OH)-COO)2)
• Rhif CAS: 292140-29-5
Dulliau dadansoddi I feintioli cynnwys analog hydrocsi o fethionin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Titradaeth, titradiad potensiomedrig ar ôl adwaith lleihau ocsideiddio
I feintioli cyfanswm y zinc yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Sbectrometreg allyriant atomig â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-AES) (BS EN 15510:2017 neu BS EN 15621:2017), neu
• Sbectrometreg amsugniad atomig (AAS) (BS EN ISO 6869:2001)
I feintioli cyfanswm y zinc mewn rhag-gymysgeddau:
• Sbectrometreg allyriant atomig â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-AES) (BS EN 15510:2017 neu BS EN 15621:2017), neu
• Sbectrometreg amsugniad atomig (AAS) (BS EN ISO 6869:2001), neu
• Sbectrometreg màs â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-MS) (BS EN 17053:2018)
I feintioli cyfanswm y zinc mewn deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Sbectrometreg allyriant atomig â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-AES) (BS EN 15510:2017 neu BS EN 15621:2017), neu
• Sbectrometreg amsugniad atomig (AAS) (Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 sy’n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli bwyd anifeiliaid yn swyddogol - Atodiad 4, C neu BS EN ISO 6869:2001), neu
• Sbectrometreg màs â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-MS) (BS EN 17053:2018)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys Ar gyfer cathod:
• 200 mg/kg (cyfanswm)
Ar gyfer cŵn:
• 200mg/kg (cyfanswm)
Ar gyfer pysgod:
• Rhywogaethau Salmonidau: 180mg/kg (cyfanswm)
• Arall: 150mg/kg (cyfanswm)
Ar gyfer amnewidion llaeth ar gyfer lloi:
• 180 mg/kg (cyfanswm)
Ar gyfer cwningod:
• 150 mg/kg (cyfanswm)
Ar gyfer Suidae:
• Perchyll, hychod: 150mg/kg (cyfanswm)
• Arall: 120mg/kg (cyfanswm)
Ar gyfer pob rhywogaeth arall o anifail:
• 120 mg/kg (cyfanswm)
Darpariaethau eraill 1. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn yn y bwyd anifeiliaid ar ffurf rhag-gymysgedd.
2. Caniateir rhoi celad zinc o analog hydrocsi o fethionin ar y farchnad a’i ddefnyddio fel ychwanegyn sy’n baratoad.








ATODLEN 20
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o ffwmonisin esteras (EC 3.1.1.87) a gynhyrchir drwy eplesu â Komagataella phaffii (DSM 32159) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion technolegol” ac i’r grŵp gweithredol “sylweddau i leihau halogiad bwyd anifeiliaid gan fycotocsinau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Ffwmonisin esteras (EC 3.1.1.87)
Rhif adnabod 1m03i
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion technolegol
Grŵp gweithredol Sylweddau i leihau halogiad bwyd anifeiliaid gan fycotocsinau
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad o ffwmonisin esteras (EC 3.1.1.87) a gynhyrchir drwy eplesu â Komagataella phaffii (DSM 32159) sydd ag isafswm actifedd ensym o 3000 U/g
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Ffwmonisin esteras (EC 3.1.1.87) a gynhyrchir gan Komagataella phaffii (DSM 32159)
• Rhif EC (IUBMB): 3.1.1.87
Dulliau dadansoddi I ganfod actifedd ffwmonisin esteras:
• Cromatograffaeth hylif perfformiad uchel wedi ei chyplysu â dull sbectrometreg màs tandem (HPLC-MS/MS) yn seiliedig ar feintioli’r asid tricarbalilig a ryddheir o weithred yr ensym ar ffwmonisin B1 ar pH 8.0 a 30 ºC.
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys 40 U/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd.
2. Mae’r ychwanegyn wedi ei awdurdodi i’w ddefnyddio mewn silwair yn seiliedig ar indrawn yn unig.





ATODLEN 21
Rheoliad 20

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 109/2007 ynghylch awdurdodi monensin sodiwm (Coxidin) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid
Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 333/2010 ynghylch awdurdodi defnydd newydd o Bacillus subtilis C-3102 (DSM 15544) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer perchyll wedi eu diddyfnu (deiliad yr awdurdodiad Asahi Calpis Wellness Co. Ltd, a gynrychiolir yn yr Undeb Ewropeaidd gan Pen & Tec Consulting S.L.U.)
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 335/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi celad zinc o analog hydrocsi o fethionin fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 349/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi celad copr o analog hydrocsi o fethionin fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 350/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi celad manganîs o analog hydrocsi o fethionin fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 170/2011 ynghylch awdurdodi Saccharomyces cerevisiae MUCL 39885 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer perchyll (wedi eu diddyfnu) ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1200/2005 (deiliad yr awdurdodiad Prosol SpA)
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 184/2011 ynghylch awdurdodi Bacillus subtilis C-3102 (DSM 15544) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy, tyrcwn, mân rywogaethau adar ac adar addurniadol a hela eraill (deiliad yr awdurdodiad Asahi Calpis Wellness Co. Ltd, a gynrychiolir yn yr Undeb Ewropeaidd gan Pen & Tec Consulting S.L.U.)
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 98/2012 ynghylch awdurdodi 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir gan Pichia pastoris (DSM 23036) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a thyrcwn i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy, tyrcwn a fegir ar gyfer bridio, ieir dodwy, rhywogaethau eraill o adar i’w pesgi ac ar gyfer dodwy, perchyll i’w pesgi a hychod (deiliad yr awdurdodiad Huvepharma AD)
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 140/2012 sy’n ymwneud ag awdurdodi monensin sodiwm fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy (deiliad yr awdurdodiad Huvepharma NV Belgium
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/893 ynghylch adnewyddu awdurdodiad Bacillus subtilis DSM 15544 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi ac yn diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1444/2006 (deiliad yr awdurdodiad Asahi Calpis Wellness Co. Ltd, a gynrychiolir yn yr Undeb Ewropeaidd gan Pen & Tec Consulting S.L.U.)
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (E) 2020/146 yn diwygio Rheoliad (EU) Rhif 333/2010, Rheoliad Gweithredu (EU) 2017/2312, Rheoliad Gweithredu (EU) 2018/1081, Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/897, Rheoliad Gweithredu (EU) 2019/893 a Rheoliad (EU) Rhif 184/2011 ynghylch awdurdodi’r paratoad o Bacillus subtilis C-3102 (DSM 15544) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid
