
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) 2024.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1982” (“the 1982 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
 ystyr “Rheoliadau Cymeradwyaeth o ran Triniaethau Arbennig” (“the Special Procedures Approval Regulations”) yw Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau a Gymeradwywyd o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024;
 mae i “trwydded triniaeth arbennig” (“special procedure licence”) yr ystyr a roddir yn adran 59 o’r Ddeddf;
 mae i “tystysgrif gymeradwyo” (“approval certificate”) yr un ystyr ag yn adran 70 o’r Ddeddf.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 29 Tachwedd 2024, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a) adran 56 (trosolwg o’r Rhan hon);
(b) adran 57 (beth yw triniaeth arbennig?);
(c) adran 58 (gofyniad i unigolyn sy’n rhoi triniaeth arbennig gael ei drwyddedu);
(d) adran 59 (darpariaeth gyffredinol ynghylch trwyddedau triniaeth arbennig);
(e) adran 60 (unigolion sydd wedi eu hesemptio);
(f) adran 62 (meini prawf trwyddedu);
(g) adran 63 (amodau trwyddedu mandadol);
(h) adran 65 (caniatâd neu wrthodiad mandadol i gais am drwydded triniaeth arbennig);
(i) adran 66 (disgresiwn i ganiatáu cais am drwydded triniaeth arbennig);
(j) adran 67 (caniatáu neu wrthod cais i adnewyddu);
(k) adran 68 (dirymu trwydded triniaeth arbennig);
(l) adran 69 (rhoi triniaeth arbennig yng nghwrs busnes: gofyniad i gael cymeradwyaeth);
(m) adran 70 (cymeradwyo mangreoedd a cherbydau mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennig);
(n) adran 71 (tystysgrifau cymeradwyo);
(o) adran 72 (terfynu cymeradwyaeth yn wirfoddol);
(p) adran 73 (dirymu cymeradwyaeth);
(q) adran 74 (dirymu cymeradwyaeth: gofynion hysbysu);
(r) adran 75 (dyletswydd i gynnal cofrestr o drwyddedau triniaeth arbennig a mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd);
(s) adran 76 (ffioedd);
(t) adran 78 (trwyddedau triniaeth arbennig: hysbysiadau camau adfer i ddeiliad trwydded);
(u) adran 79 (mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd: hysbysiadau camau adfer ar gyfer mangre);
(v) adran 80 (tystysgrif gwblhau);
(w) adran 81 (apelau);
(x) adran 82(5) i (9) (troseddau);
(y) adran 83 (swyddogion awdurdodedig);
(z) adran 84 (pwerau mynediad etc.);
(aa) adran 86 (gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraill);
(bb) adran 87 (darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad);
(cc) adran 88 (pwerau arolygu etc.);
(dd) adran 89 (rhwystro etc. swyddogion);
(ee) adran 90 (pŵer i wneud pryniannau prawf);
(ff) adran 91 (eiddo a gedwir: apelau);
(gg) adran 92 (eiddo a gyfeddir: digolledu);
(hh) adran 93 (pŵer i ychwanegu neu ddileu triniaethau arbennig);
(ii) adran 94 (dehongli’r Rhan hon);
(jj) Atodlen 3 (darpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrwyddedau triniaeth arbennig).
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 29 Awst 2025—
(a) adran 61 (dynodi unigolyn at ddibenion adran 58(3));
(b) adran 77 (hysbysiadau stop);
(c) adran 82(1) i (4) (troseddau);
(d) adran 85 (gwarant i fynd i mewn i annedd).
4 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i berson (P) sydd, yn union cyn 29 Tachwedd 2024, wedi ei gofrestru i gynnal—
(a) y gwaith o aciwbigo;
(b) y busnes o datŵio, rhoi lliw lled-barhaol ar y croen, tyllu cosmetig neu electrolysis.
(2) Gydag effaith o 29 Tachwedd 2024, bernir bod P yn rhoi triniaeth arbennig o dan awdurdod trwydded triniaeth arbennig (y cyfeirir ati yn yr erthygl hon fel “trwydded drosiannol”).
(3) Mae trwydded drosiannol i’w thrin at ddibenion yr erthygl hon fel pe bai’n dod i ben—
(a) ar 1 Mawrth 2025 os yw P yn methu â gwneud cais am drwydded triniaeth arbennig ar neu cyn 28 Chwefror 2025, neu
(b) os yw P yn gwneud cais am drwydded triniaeth arbennig ar neu cyn 28 Chwefror 2025—
(i) ar y dyddiad y rhoddir y drwydded triniaeth arbennig, neu
(ii) ar y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad o benderfyniad i wrthod y cais am drwydded triniaeth arbennig (ac eithrio y bydd y drwydded drosiannol yn parhau i gael effaith, pan fo sylwadau wedi eu cyflwyno, neu pan fo apêl wedi ei gwneud, mewn perthynas â’r penderfyniad i wrthod yn unol â darpariaethau perthnasol y Ddeddf, hyd nes bod apêl wedi ei phenderfynu’n llawn, wedi ei thynnu’n ôl neu hyd nes y rhoddir y gorau iddi).
(4) Er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw darfodiad trwydded drosiannol o dan baragraff (3)(a) o’r erthygl hon i’w drin fel pe bai’r drwydded drosiannol wedi ei dirymu ac nid yw’n arwain at hawl i apelio o dan Atodlen 3 i’r Ddeddf.
(5) Nid yw’r rhwymedigaeth ar awdurdod lleol i gynnal a chyhoeddi cofrestr fel y nodir yn adran 75 o’r Ddeddf (dyletswydd i gynnal cofrestr o drwyddedau triniaeth arbennig a mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd) yn gymwys mewn perthynas â thrwyddedau trosiannol.
5 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i fangre (A) sydd, yn union cyn 29 Tachwedd 2024, wedi ei chofrestru i gynnal—
(a) y gwaith o aciwbigo;
(b) y busnes o datŵio, rhoi lliw lled-barhaol ar y croen, tyllu cosmetig neu electrolysis.
(2) Gydag effaith o 29 Tachwedd 2024, bernir bod A wedi ei chymeradwyo gan awdurdod lleol fel mangre y rhoddir triniaeth arbennig ynddi a dyroddir tystysgrif gymeradwyo (y cyfeirir ati yn yr erthygl hon fel “tystysgrif gymeradwyo drosiannol”) i’r fangre honno.
(3) Mae tystysgrif gymeradwyo drosiannol i’w thrin at ddibenion yr erthygl hon fel pe bai’n dod i ben—
(a) ar 1 Mawrth 2025 os yw ceisydd yn methu â gwneud cais am dystysgrif gymeradwyo mewn cysylltiad ag A ar neu cyn 28 Chwefror 2025, neu
(b) os yw ceisydd yn gwneud cais am dystysgrif gymeradwyo mewn cysylltiad ag A ar neu cyn 28 Chwefror 2025—
(i) ar y dyddiad y rhoddir tystysgrif gymeradwyo, neu
(ii) ar y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad o benderfyniad i wrthod cais am dystysgrif gymeradwyo (ac eithrio y bydd y dystysgrif gymeradwyo drosiannol yn parhau i gael effaith, pan fo sylwadau wedi eu cyflwyno, neu pan fo apêl wedi ei gwneud, mewn perthynas â’r penderfyniad i wrthod yn unol â’r darpariaethau perthnasol yn y Rheoliadau Cymeradwyaeth o ran Triniaethau Arbennig, hyd nes bod apêl wedi ei phenderfynu’n llawn, wedi ei thynnu’n ôl neu hyd nes y rhoddir y gorau iddi).
(4) Er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw darfodiad tystysgrif gymeradwyo drosiannol o dan baragraff (3)(a) i’w drin fel pe bai’r drwydded drosiannol wedi ei dirymu ac nid yw’n arwain at hawl i apelio o dan Ran 12 neu 13 o’r Rheoliadau Cymeradwyaeth o ran Triniaethau Arbennig.
(5) Nid yw’r rhwymedigaeth ar awdurdod lleol i gynnal a chyhoeddi cofrestr fel y nodir yn adran 75 o’r Ddeddf (dyletswydd i gynnal cofrestr o drwyddedau triniaeth arbennig a mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd) yn gymwys mewn perthynas â thystysgrifau cymeradwyo trosiannol.
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2024