
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2024.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliadau Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad” (“the Market Stability Reports Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021;ystyr “y Rheoliadau Cynllunio Ardal” (“the Area Planning Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Ardal) (Cymru) 2017;ystyr “y Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth” (“the Partnership Arrangements Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015.
RHAN 2
2 
Mae’r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3 
Yn rheoliad 1(4) (dehongli), yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “Corff Llais y Dinesydd” (“the Citizen Voice Body”) yw Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 12(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020;”;“
 ystyr “cynllun ardal” (“area plan”) yw’r cynllun y mae’n ofynnol i gorff perthnasol ei lunio yn unol ag adran 14A(2) o’r Ddeddf;”;“
 ystyr “cynllun ardal ar y cyd” (“joint area plan”) yw cynllun ardal sydd wedi ei lunio gan gorff perthnasol ar y cyd â chorff perthnasol arall yn unol â’r pwerau yn adran 14A(4) neu (5) o’r Ddeddf;”.
4 

(1) Mae rheoliad 10 (amcanion y byrddau partneriaeth rhanbarthol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (a)—
(i) ar ddiwedd is-baragraff (i) hepgorer “a”;
(ii) ar ddiwedd is-baragraff (ii) hepgorer yr hanner colon a mewnosoder—“,
(iii) ymateb i’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad y mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ei lunio a’i gyhoeddi o dan adran 144B(1) o’r Ddeddf,
(iv) hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr, a’r trydydd sector (yn unol â dyletswydd awdurdod lleol o dan adran 16 o’r Ddeddf) wrth ymateb i adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, ac wrth weithredu cynllun ardal, neu gynllun ardal ar y cyd,
(v) hyrwyddo a hwyluso cyfranogiad plant o dan 18 oed mewn perthynas â phenderfyniadau sy’n effeithio arnynt ac a wneir wrth arfer y trefniadau partneriaeth (yn unol â dyletswydd awdurdod lleol o dan adran 12 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010), a
(vi) hyrwyddo datblygu trefniadau integredig o ran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol;”.
(3) Ar ddiwedd paragraff (c) hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder—“;
(d) gweithio gyda Chorff Llais y Dinesydd i hyrwyddo ymglymiad pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr, yng ngwaith y trefniadau partneriaeth.”
5 

(1) Mae rheoliad 11 (aelodaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ddiwedd paragraff (1)(k) hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder—“;
(l) cynrychiolydd i Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;
(m) o leiaf un person i gynrychioli buddiannau darparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;
(n) o leiaf un person i gynrychioli buddiannau gweithwyr sy’n darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau gofal cymdeithasol yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;
(o) o leiaf un person i gynrychioli’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol sy’n cynrychioli’r ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.
(1A) Rhaid i fwrdd partneriaeth rhanbarthol wahodd cynrychiolydd o Gorff Llais y Dinesydd i fod yn aelod sy’n sylwedydd annibynnol o’r bwrdd.
(1B) Caiff bwrdd partneriaeth rhanbarthol wahodd unrhyw bersonau eraill y mae’n meddwl eu bod yn briodol i fod yn aelodau sy’n sylwedyddion annibynnol o’r bwrdd.
(1C) O ran aelod sy’n sylwedydd annibynnol a benodir o dan baragraff (1A) neu (1B)—
(a) rhaid iddo gytuno i gael ei benodi i’r bwrdd i wasanaethu yn rhinwedd y swydd honno;
(b) caiff gymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod o’r bwrdd ond nid oes ganddo hawl i bleidleisio mewn unrhyw gyfarfod o’r bwrdd ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw;
(c) ni chaniateir iddo gael ei gyfrif mewn unrhyw gworwm ar gyfer cyfarfod o’r bwrdd.”
(3) Ym mharagraff (4), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “gwasanaethau gofal sylfaenol” (“primary care services”) yw’r gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd gwladol yn unol â threfniadau a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn unol â Rhannau 4 i 7 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;”.
6 
Ar ôl rheoliad 11 mewnosoder—“
11A. 

(1) Rhaid i bob corff partneriaeth benodi person cyfrifol i hwyluso’r trefniadau partneriaeth a hyrwyddo cydweithredu rhwng—
(a) y corff partneriaeth;
(b) pob un o’r cyrff partneriaeth eraill o fewn y trefniant partneriaeth;
(c) y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.
(2) Rhaid i awdurdod lleol benodi’r person a benodir yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol o dan adran 144 o’r Ddeddf yn berson cyfrifol ar gyfer yr awdurdod.
(3) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol benodi’r aelod gweithredol a benodir yn aelod o’r bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn berson cyfrifol ar gyfer y Bwrdd.
(4) Rhaid i berson cyfrifol—
(a) annog cydweithredu a gwaith partneriaeth o fewn y corff partneriaeth a’i penododd;
(b) arwain o ran hyrwyddo cyfraniad y corff partneriaeth a’i penododd at gyflawni amcanion y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;
(c) adrodd yn ôl i’r cabinet neu, yn ôl y digwydd, i fwrdd y corff partneriaeth a’i penododd ar waith y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.
11B. 

(1) Rhaid i fwrdd partneriaeth rhanbarthol gyhoeddi disgrifiadau o rôl a chyfrifoldebau’r categorïau o aelodau’r bwrdd a bennir yn rheoliad 11.
(2) Rhaid i fwrdd partneriaeth rhanbarthol sefydlu a chyhoeddi’r weithdrefn ar gyfer recriwtio aelodau o’r bwrdd sy’n cynrychioli buddiannau personau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11(1)(g) ac (h).
(3) Rhaid i fwrdd partneriaeth rhanbarthol ddarparu cymorth ac arweiniad i gynorthwyo aelodau o’r bwrdd, yn enwedig yr aelodau hynny sy’n cynrychioli buddiannau personau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11(1)(g) ac (h) ac aelodau sy’n cynrychioli buddiannau sefydliadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11(1)(e).
11C. 

(1) Rhaid i fwrdd partneriaeth rhanbarthol gyflawni hunanasesiad o’i berfformiad er mwyn gwerthuso i ba raddau y cyflawnodd yr amcanion a bennir yn rheoliad 10 (“ei amcanion”) yn ystod y 12 mis blaenorol a llunio adroddiad ar ei gasgliadau.
(2) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 12 (adroddiadau), cyfeirir at hunanasesiad a gyflawnwyd ac adroddiad a luniwyd o dan baragraff (1) gyda’i gilydd fel “adroddiad hunanasesu”.
(3) Rhaid i adroddiad hunanasesu hefyd gynnwys manylion unrhyw weithredoedd y mae’r bwrdd yn bwriadu ymgymryd â hwy, ac unrhyw weithredoedd y mae wedi ymgymryd â hwy eisoes, gyda’r nod o gynyddu’r graddau y bydd yn cyflawni ei amcanion yn y flwyddyn sy’n dilyn y flwyddyn y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(4) Rhaid i adroddiad hunanasesu (heblaw adroddiad hunanasesu cyntaf bwrdd partneriaeth rhanbarthol) gynnwys asesiad y bwrdd o’r graddau yr effeithiwyd ar gasgliadau’r bwrdd, sydd wedi eu cynnwys mewn adolygiad a gyflawnwyd o dan baragraff (7), o ganlyniad i unrhyw weithredoedd y mae wedi ymgymryd â hwy i gyflawni ei amcanion yn y 12 mis blaenorol.
(5) Rhaid llunio’r adroddiad hunanasesu cyntaf erbyn 1 Ebrill 2025.
(6) Rhaid llunio adroddiadau hunanasesu dilynol fesul ysbaid o ddwy flynedd erbyn 1 Ebrill.
(7) Rhaid i fwrdd partneriaeth rhanbarthol gyflawni adolygiad o adroddiad hunanasesu a luniwyd yn unol â’r rheoliad hwn.
(8) Rhaid i adolygiad o dan baragraff (7) gynnwys gwerthusiad o’r graddau y mae unrhyw weithredoedd gan y bwrdd, gan gynnwys gweithredoedd yr ymgymerwyd â hwy yn unol â pharagraff (3), wedi cynyddu’r graddau y cyflawnodd y bwrdd ei amcanion yn y 12 mis ers i’r adroddiad hunanasesu gael ei lunio.
(9) Rhaid cyflawni’r adolygiad cyntaf erbyn 1 Ebrill 2026.
(10) Rhaid llunio adolygiadau dilynol fesul ysbaid o ddwy flynedd erbyn 1 Ebrill.
(11) Rhaid i fwrdd partneriaeth rhanbarthol gyhoeddi crynodeb o ganlyniadau adroddiad hunanasesu neu, yn ôl y digwydd, yr adolygiad a gynhaliwyd yn unol â’r rheoliad hwn, mewn adroddiad a lunnir yn unol â rheoliad 12.”
7 
Yn rheoliad 12 (adroddiadau), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) O 1 Ebrill 2025—
(a) rhaid i adroddiadau gynnwys—
(i) disgrifiad o ddiben, rôl, aelodaeth, strwythur gweithredu a blaenoriaethau allweddol y bwrdd,
(ii) gwybodaeth am sut y mae’r trefniadau partneriaeth wedi ymateb i’r asesiad o’r boblogaeth a’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, ac i weithredu’r cynllun ardal neu, yn ôl y digwydd, y cynllun ardal ar y cyd,
(iii) manylion am sut y defnyddiwyd adnoddau (wrth ddarparu gwybodaeth yn unol â pharagraff (ii)),
(iv) gwybodaeth am y ffyrdd y mae’r bwrdd wedi cynorthwyo o ran integreiddio trefniadau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol,
(v) gwybodaeth am sut y mae’r bwrdd wedi cynorthwyo o ran darparu gwasanaethau yn well er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i bobl,
(vi) cyfrif o sut y mae’r bwrdd wedi ymgysylltu â dinasyddion (yn enwedig pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, gofalwyr, plant a phobl ifanc) yn ei waith,
(vii) cyfrif o sut y mae’r bwrdd wedi hyrwyddo ymglymiad dinasyddion yn ei waith, ac asesiad o’r effaith y mae hynny wedi ei chael ar wella canlyniadau llesiant ar gyfer pobl yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol,
(viii) gwybodaeth am unrhyw weithgarwch comisiynu ar y cyd a’r defnydd o gronfeydd cyfun yn y trefniadau partneriaeth,
(ix) gwybodaeth am sut y mae’r cyrff partneriaeth wedi ymgysylltu â mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a sefydliadau’r trydydd sector (o fewn ystyr adran 16(2) o’r Ddeddf) yn y trefniadau partneriaeth,
(x) gwybodaeth am flaenoriaethau’r bwrdd ar gyfer y 12 mis nesaf,
(xi) crynodeb o adroddiad hunanasesu neu adolygiad a gynhaliwyd yn unol â rheoliad 11C, a
(xii) canlyniadau adolygiad a gynhaliwyd yn unol â rheoliad 8(2) o Reoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Ardal) (Cymru) 2017 (monitro a gwerthuso: adolygiad blynyddol);
(b) rhaid i bob corff partneriaeth gyhoeddi ar ei wefan adroddiad a luniwyd gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol o dan y rheoliad hwn.”
8 
Yn Atodlen 1, yn Nhabl 1 (swyddogaethau awdurdodau lleol), ar ôl eitem 9 mewnosoder—“
10. Swyddogaethau awdurdod lleol o dan adran 12 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010
.

”
RHAN 3
9 
Yn y Rheoliadau Cynllunio Ardal, yn lle rheoliad 7 rhodder—“
7. 

(1) Rhaid i gorff perthnasol neu, yn achos cynllun ardal ar y cyd, y cyrff perthnasol lunio a chyhoeddi cynllun cyflawni blynyddol sy’n pennu’r ffordd y bydd y gwasanaethau a’r gweithredoedd a nodir yn y cynllun ardal neu, yn ôl y digwydd, y cynllun ardal ar y cyd, yn cael eu cyflawni neu’r ffordd yr ymgymerir â hwy er mwyn diwallu’r anghenion a nodir yn yr adroddiad asesiad poblogaeth yn ystod y 12 mis nesaf gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir y cynllun cyflawni blynyddol.
(2) Rhaid i’r cynllun cyflawni blynyddol cyntaf gael ei lunio a’i gyhoeddi gan gorff perthnasol neu, yn ôl y digwydd, y cyrff perthnasol erbyn 1 Ebrill 2025.
(3) Rhaid i bob corff perthnasol gyhoeddi ar ei wefan y cynllun cyflawni blynyddol a luniwyd gan y corff perthnasol neu, mewn achosion priodol, y cyrff perthnasol.
(4) Rhaid i gorff perthnasol neu, pan fo cynllun blynyddol ar y cyd wedi ei lunio, un o’r cyrff perthnasol gyflwyno i Weinidogion Cymru gopi o gynllun cyflawni blynyddol a luniwyd yn unol â’r rheoliad hwn.
8. 

(1) Rhaid i gorff perthnasol neu, yn achos cynllun ardal ar y cyd, y cyrff perthnasol gymryd camau priodol i fonitro a gwerthuso effaith cyflenwi’r gwasanaethau a’r gweithredoedd yr ymgymerir â hwy yn unol â’r cynllun ardal neu, mewn achosion priodol, y cynllun ardal ar y cyd.
(2) Rhaid i gorff perthnasol neu, yn achos cynllun ardal ar y cyd, y cyrff perthnasol gynnal adolygiad blynyddol o’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r cynllun ardal neu, yn ôl y digwydd, y cynllun ardal ar y cyd, o ganlyniad i’r gwasanaethau a ddarparwyd a’r gweithredoedd yr ymgymerwyd â hwy yn unol â’r cynllun cyflawni blynyddol (wedi ei lunio yn unol â rheoliad 7(1)) ar gyfer y cyfnod 12 mis blaenorol.
(3) Rhaid i’r adolygiad blynyddol cyntaf gael ei gynnal gan gorff perthnasol neu, yn ôl y digwydd, y cyrff perthnasol, erbyn 1 Ebrill 2026.
(4) Rhaid i gorff perthnasol neu, mewn achosion priodol, y cyrff perthnasol sicrhau bod canlyniadau adolygiad a gynhaliwyd yn unol â pharagraff (2) yn cael eu cynnwys fel rhan o’r adroddiad blynyddol a gyhoeddir gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol perthnasol yn unol â rheoliad 12 o’r rheoliadau trefniadau partneriaeth.”
RHAN 4
10 
Yn y Rheoliadau Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad, yn rheoliad 4 (cyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad)—
(a) ar ddiwedd paragraff (1) mewnosoder “(yr adroddiad cyntaf)”;
(b) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi eu hail adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad erbyn 1 Medi 2027.
(3) Rhaid cyhoeddi adroddiadau dilynol ar sefydlogrwydd y farchnad fesul ysbaid nad yw’n fwy na phum mlynedd erbyn 1 Medi.”
Dawn Bowden
Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2024