
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau a Gymeradwywyd o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Tachwedd 2024.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “aciwbigo” (“acupuncture”) yr ystyr a roddir yn adran 94(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “amodau cymeradwyo mandadol” (“mandatory approval conditions”) yw’r amodau a nodir yn Atodlenni 3 a 4;
 ystyr “amodau cymeradwyo mandadol cymwys” (“applicable mandatory approval conditions”) yw’r amodau cymeradwyo mandadol y mae tystysgrif gymeradwyo yn ddarostyngedig iddynt o ddyddiad dyroddi’r dystysgrif honno;
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r awdurdod lleol fel y’i diffinnir gan adran 124(1) o’r Ddeddf;
 mae i “cerbyd” (“vehicle”) yr ystyr a roddir yn adran 94(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “cleient” (“client”) yw person y rhoddir triniaeth arbennig iddo;
 ystyr “cyfnod y dystysgrif gymeradwyo” (“approval certificate period”), mewn perthynas â thystysgrif gymeradwyo, yw’r cyfnod y mae’r dystysgrif gymeradwyo yn awdurdodi rhoi triniaeth arbennig ynddo mewn mangre neu mewn cerbyd fel y’i nodir yn adran 70(5) o’r Ddeddf;
 mae i “cyfweliad ymgeisio” (“application interview”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 8(3);
 mae i “deiliad trwydded” (“licence holder”) yr ystyr a roddir yn adran 59(8)(b) o’r Ddeddf;
 ystyr “deiliad tystysgrif” (“certificate holder”) yw’r person y mae awdurdod lleol wedi cymeradwyo ei gais am dystysgrif gymeradwyo o dan adran 70 o’r Ddeddf ac y mae ei enw wedi ei restru ar y dystysgrif gymeradwyo;
 mae i “dyddiad cymeradwyo” (“approval date”) yr un ystyr ag yn adran 70(5) o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
 ystyr “ffi am gais” (“application fee”) yw’r ffi a osodir gan yr awdurdod lleol i ddod gyda chais am dystysgrif gymeradwyo;
 mae i “mangre” (“premises”) yr ystyr a roddir yn adran 94(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “rhif y dystysgrif gymeradwyo” (“approval certificate number”) yw’r cyfeirnod a roddir gan yr awdurdod lleol i’r dystysgrif gymeradwyo sy’n unigryw i’r dystysgrif honno, ac a bennir ynddi;
 mae i “triniaeth arbennig” (“special procedure”) yr ystyr a roddir yn adran 57 o’r Ddeddf;
 mae i “tystysgrif gymeradwyo” (“approval certificate”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 70(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “tystysgrif gymeradwyo dros dro” (“temporary approval certificate”) yw tystysgrif gymeradwyo sy’n awdurdodi rhoi triniaeth arbennig (neu driniaethau arbennig) mewn mangre neu gerbyd a gymeradwywyd am gyfnod nad yw’n hwy na saith niwrnod.
(2) Ac eithrio fel y darperir fel arall, mae gofyniad o dan y Rheoliadau hyn i roi hysbysiad (neu i hysbysu) yn ofyniad i roi hysbysiad ysgrifenedig.
(3) Mae dogfen y mae’n ofynnol iddi fod yn “ysgrifenedig”, neu hysbysiad y mae’n ofynnol iddo fod yn “ysgrifenedig”, yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn cynnwys cyfathrebiad electronig, fel y diffinnir “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000.
RHAN 2
3 
Nid yw’r gofyniad yn adran 69(2) o’r Ddeddf fod rhaid i berson sy’n cynnal busnes y rhoddir triniaeth arbennig yng nghwrs y busnes hwnnw roi’r driniaeth honno mewn mangre neu gerbyd sydd wedi ei chymeradwyo neu ei gymeradwyo gan yr awdurdod lleol o dan adran 70 o’r Ddeddf yn gymwys mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a) triniaeth aciwbigo a roddir i gleient mewn mangre neu gerbyd a ddefnyddir i unrhyw raddau gan y cleient hwnnw fel annedd;
(b) unrhyw driniaeth arbennig a roddir mewn sefydliad gofal iechyd annibynnol a reoleiddir.
4 
Yn y rheoliad hwn—
 mae “annedd” (“dwelling”) yn cynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i)—
(a) “cartref gofal i oedolion”, sydd â’r ystyr a roddir yn adran 28(1) o’r Ddeddf;
(b) “hosbis”, sef mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer darparu gofal lliniarol i bersonau sy’n dioddef o glefyd sy’n gwaethygu ac sydd yn ei gyfnodau olaf, gan neu ar ran sefydliad y mae darparu gofal o’r fath yn brif swyddogaeth iddo.
 ystyr “sefydliad gofal iechyd annibynnol a reoleiddir” (“regulated independent healthcare establishment”) yw—
(c) clinig annibynnol fel y diffinnir “independent clinic” gan adran 2(4) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac fel y’i rhagnodir gan reoliad 4 o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011;
(d) ysbyty annibynnol fel y diffinnir “independent hospital” gan adran 2(2) a (3) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac fel y’i rhagnodir gan reoliad 3 o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011;
(e) practis deintyddol preifat fel y’i diffinnir gan reoliad 3(1) o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017.
RHAN 3
5 

(1) Rhaid i bob cais am dystysgrif gymeradwyo ymwneud â naill ai—
(a) mangre unigol, neu
(b) cerbyd unigol.
(2) Rhaid i gais am dystysgrif gymeradwyo fod ar y ffurf a bennir yn Atodlen 1.
(3) Caniateir gwneud cais naill ai ar ffurf papur neu drwy ei gyflwyno yn electronig.
(4) Yn achos tystysgrif gymeradwyo dros dro, rhaid gwneud cais o leiaf 28 o ddiwrnodau gwaith cyn y dyddiad cymeradwyo arfaethedig ar gyfer y dystysgrif gymeradwyo dros dro.
6 

(1) Ar ôl cyflwyno cais am dystysgrif gymeradwyo ond cyn dyfarnu arno, rhaid i’r ceisydd ddarparu i’r awdurdod lleol unrhyw wybodaeth bellach y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i’w alluogi i ddyfarnu ar y cais.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol wrthod cais os yw’r ceisydd yn methu â darparu i’r awdurdod lleol yr wybodaeth y gofynnwyd amdani o dan baragraff (1).
7 

(1) Mae pa ffi am gais bynnag a osodir gan yr awdurdod lleol i ddod gyda chais.
(2) Mae’r ffi am gais (os oes un) i gael ei gosod gan yr awdurdod lleol, gan roi sylw i’r costau y mae’r awdurdod yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod fynd iddynt mewn cysylltiad ag ymdrin â cheisiadau o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Nid yw cais am dystysgrif gymeradwyo i’w drin fel pe bai wedi ei wneud yn briodol hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi cael y ffi am gais mewn arian cliriedig.
8 

(1) Mae’r meini prawf y mae rhaid i geisydd eu bodloni ar gyfer tystysgrif gymeradwyo er mwyn i’r cais gael ei ganiatáu wedi eu nodi ym mharagraffau (2) i (5).
(2) Rhaid i’r ceisydd—
(a) bod yn 18 oed neu’n hŷn,
(b) darparu tystiolaeth bod y ceisydd yn meddu ar Ddyfarniad Lefel 2 a reoleiddir, ac
(c) cyflwyno plan o’r fangre neu’r cerbyd y mae’r cais yn ymwneud â hi neu ag ef, sy’n cydymffurfio â pharagraff (5).
(3) Rhaid i’r ceisydd ymgymryd â chyfweliad ymgeisio â’r awdurdod lleol, a’i basio, sy’n cynnwys cwestiynau a ofynnir gan yr awdurdod lleol ac a atebir gan y ceisydd, er mwyn dangos gwybodaeth y ceisydd am y materion a ganlyn—
(a) y dyletswyddau a osodir, o dan Ran 4 o’r Ddeddf neu yn rhinwedd y Rhan honno, ar ddeiliad tystysgrif,
(b) yr amodau cymeradwyo mandadol, ac
(c) goblygiadau peidio â chydymffurfio â’r amodau cymeradwyo mandadol.
(4) Rhaid i’r fangre neu’r cerbyd y mae’r cais yn ymwneud â hi neu ag ef—
(a) cael ei harolygu neu ei arolygu gan yr awdurdod lleol,
(b) cael ei chadw neu ei gadw mewn cyflwr da er mwyn galluogi rhoi’r driniaeth arbennig yn ddiogel ac yn hylan, ac
(c) adlewyrchu’r manylebau a ddarperir yn y plan sy’n dod gyda’r cais.
(5) Rhaid i’r plan sy’n dod gyda’r cais gynnwys (pan fo’n gymwys)—
(a) y mynedfeydd i’r fangre neu’r cerbyd a’r allanfeydd ohoni neu ohono,
(b) mesuriadau a disgrifiad o siâp y mannau (megis ystafelloedd) (os oes rhai) sydd yn y fangre neu’r cerbyd,
(c) y mynedfeydd i’r mannau (megis ystafelloedd) (os oes rhai) sydd yn y fangre neu’r cerbyd, a’r allanfeydd ohonynt,
(d) lleoliad y canlynol (os oes rhai)—
(i) sinciau cyfarpar,
(ii) biniau offer miniog,
(iii) ystafelloedd staff,
(iv) mannau, cyfleusterau neu ystafelloedd storio ar gyfer cynhyrchion a/neu gyfarpar,
(v) toiledau,
(vi) mannau neu ystafelloedd aros,
(vii) basnau golchi dwylo,
(viii) biniau gwastraff,
(ix) ffenestri, a
(x) gweithfannau.
(6) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “bin offer miniog” (“sharps bin”) yw cynhwysydd anhyblyg, arbenigol sy’n cydymffurfio â Chod CGE 20 01 99 ac sydd wedi ei gynllunio i waredu’n ddiogel offer miniog sy’n gysylltiedig â rhoi triniaethau arbennig;
 ystyr “Dyfarniad Lefel 2 a reoleiddir” (“regulated Level 2 Award”) yw Dyfarniad Lefel 2, a reoleiddir gan Gymwysterau Cymru, mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig;
 ystyr “gweithfan” (“workstation”) yw’r rhan o’r man gwaith triniaethau arbennig sy’n cynnwys y canlynol—
(a) gwely, cadair neu gyffelyb, y mae cleient yn eistedd neu’n gorwedd arno neu arni i gael triniaeth arbennig a roddir gan ddeiliad trwydded,
(b) cadair neu stôl y mae deiliad y drwydded yn eistedd arni i roi’r driniaeth arbennig (os yw’n gymwys), ac
(c) arwyneb gwaith a ddefnyddir ar gyfer gosod a storio’r offerynnau a’r cynhyrchion a ddefnyddir gan ddeiliad y drwydded i roi’r driniaeth arbennig.
RHAN 4
9 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cais am dystysgrif gymeradwyo sy’n cymeradwyo mangre neu gerbyd wedi ei wneud i awdurdod lleol yn unol â Rhan 3.
(2) Os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod yr holl feini prawf cymeradwyo a nodir yn rheoliad 8 wedi eu bodloni, rhaid i’r awdurdod lleol ganiatáu’r cais am dystysgrif gymeradwyo a dyroddi tystysgrif gymeradwyo i’r ceisydd, sy’n cymeradwyo mangre neu gerbyd mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennig.
(3) Os nad yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod yr holl feini prawf cymeradwyo a nodir yn rheoliad 8 wedi eu bodloni, rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i’r ceisydd bod y cais am dystysgrif gymeradwyo wedi ei wrthod i’r graddau y mae’n ymwneud â chymeradwyo’r fangre honno neu’r cerbyd hwnnw.
(4) Rhaid i’r hysbysiad—
(a) nodi’r rhesymau pam y mae’r awdurdod lleol yn gwrthod y cais, a
(b) datgan y caiff y ceisydd apelio o dan Rannau 12 a 13 yn erbyn y penderfyniad.
RHAN 5
10 

(1) Rhaid i dystysgrif gymeradwyo fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2.
(2) Bwriedir i’r testun sydd wedi ei gynnwys mewn bachau petryal yn y ffurflen yn Atodlen 2 fod yn ganllawiau.
(3) Rhaid atodi copi o’r amodau cymeradwyo mandadol cymwys i’r dystysgrif gymeradwyo.
(4) At ddibenion Atodlen 2, mae i’r termau “aciwbigo”, “tyllu’r corff”, “electrolysis” a “tatŵio” oll yr un ystyron ag a roddir yn adran 94(1) o’r Ddeddf.
RHAN 6
11 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amodau cymeradwyo mandadol sydd i fod yn gymwys i dystysgrifau cymeradwyo, at ddibenion adran 70(3)(c) o’r Ddeddf.
(2) Mae tystysgrif gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn Atodlen 3.
(3) Mae tystysgrif gymeradwyo dros dro yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn Atodlen 4.
RHAN 7
12 

(1) Caiff awdurdod lleol, ar gais gan ddeiliad y dystysgrif, amrywio tystysgrif gymeradwyo.
(2) Rhaid i bob cais i amrywio tystysgrif gymeradwyo ymwneud â naill ai—
(a) mangre unigol, neu
(b) cerbyd unigol.
(3) Rhaid i gais i amrywio tystysgrif gymeradwyo—
(a) cael ei wneud i’r awdurdod lleol a ganiataodd y dystysgrif gymeradwyo,
(b) cael ei wneud naill ai ar ffurf papur neu drwy ei gyflwyno yn electronig,
(c) cynnwys manylion y newidiadau y bwriedir eu gwneud i’r dystysgrif gymeradwyo,
(d) cynnwys rhif tystysgrif gymeradwyo’r fangre neu’r cerbyd y mae’r cais yn ymwneud â hi neu ag ef, ac
(e) cynnwys datganiad wedi ei lofnodi gan ddeiliad y dystysgrif sy’n datgan, hyd eithaf ei wybodaeth, fod yr wybodaeth a ddarperir gan ddeiliad y dystysgrif yn y cais yn wir a bod deiliad y dystysgrif yn deall ei bod yn drosedd o dan adran 82(7) o’r Ddeddf i roi gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol (pa un ai’n fwriadol neu’n ddi-hid).
(4) Os yw cais i amrywio tystysgrif gymeradwyo yn ymwneud â newidiadau i strwythur neu ddyluniad y fangre neu’r cerbyd a nodir ar y dystysgrif gymeradwyo, rhaid iddo hefyd gynnwys—
(a) manylion y newidiadau arfaethedig sydd i’w gwneud yn y fangre neu yn y cerbyd, a
(b) plan wedi ei ddiweddaru sy’n ofynnol gan reoliad 8(2)(c) ac sy’n dangos yn glir y newidiadau arfaethedig hynny.
(5) O ran cais i amrywio tystysgrif gymeradwyo drwy ychwanegu disgrifiad o driniaeth arbennig y mae’r dystysgrif gymeradwyo i awdurdodi iddi gael ei rhoi—
(a) rhaid iddo bennu’r driniaeth arbennig o dan sylw, a
(b) mae i’w drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n gais i ddyroddi tystysgrif gymeradwyo sy’n awdurdodi i’r driniaeth honno gael ei rhoi (ac mae dyddiad yr amrywio i’w drin, o ran cymhwyso’r rheoliad hwn mewn cysylltiad â’r driniaeth honno, fel dyddiad dyroddi tystysgrif gymeradwyo sy’n awdurdodi i’r driniaeth gael ei rhoi).
(6) Nid yw paragraff (5)(b) yn gymwys at ddibenion dyfarnu ar y dystysgrif gymeradwyo.
13 
Ar ôl cyflwyno cais i amrywio tystysgrif gymeradwyo ond cyn dyfarnu arno, rhaid i ddeiliad y dystysgrif—
(a) bodloni’r awdurdod lleol yn ystod arolygiad o’r fangre neu’r cerbyd fod yr amrywiadau arfaethedig yn y fangre a gymeradwywyd neu yn y cerbyd a gymeradwywyd yn adlewyrchu’r amrywiadau a ddisgrifir yn y cais i amrywio (os oes ei angen), a
(b) darparu gwybodaeth bellach fel sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol er mwyn iddo wneud dyfarniad.
14 

(1) Mae pa ffi am gais bynnag a osodir gan yr awdurdod lleol i ddod gyda chais i amrywio tystysgrif gymeradwyo.
(2) Mae’r ffi am gais (os oes un) i’w gosod gan yr awdurdod lleol, gan roi sylw i’r costau y mae’r awdurdod yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod fynd iddynt mewn cysylltiad ag ymdrin â cheisiadau i amrywio o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Nid yw cais i amrywio tystysgrif gymeradwyo i’w drin fel pe bai wedi ei wneud yn briodol hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi cael y ffi am gais mewn arian cliriedig.
15 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cais i amrywio tystysgrif gymeradwyo wedi ei wneud i awdurdod lleol yn unol â Rhan 7.
(2) Os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod cais i amrywio yn unol â Rhan 7 wedi ei wneud, rhaid i’r awdurdod lleol ganiatáu’r cais i amrywio tystysgrif gymeradwyo a dyroddi’r dystysgrif gymeradwyo wedi ei hamrywio i ddeiliad y dystysgrif.
(3) Os nad yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod cais i amrywio yn unol â Rhan 7 wedi ei wneud, rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i ddeiliad y dystysgrif fod y cais am dystysgrif gymeradwyo wedi ei wrthod i’r graddau y mae’n ymwneud ag amrywio’r dystysgrif gymeradwyo honno.
(4) Rhaid i’r hysbysiad—
(a) nodi’r rhesymau pam y mae’r awdurdod lleol yn gwrthod y cais, a
(b) datgan y caiff deiliad y dystysgrif apelio o dan Rannau 12 a 13 yn erbyn y penderfyniad.
16 

(1) Caiff effaith amrywiad (ymhlith pethau eraill)—
(a) ychwanegu neu ddileu disgrifiad o driniaeth arbennig y mae’r dystysgrif gymeradwyo yn awdurdodi iddi gael ei rhoi;
(b) awdurdodi newid enw deiliad y dystysgrif neu enw cofrestredig y busnes sy’n gysylltiedig â’r dystysgrif gymeradwyo;
(c) awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi mewn mangre neu mewn cerbyd sydd wedi cael unrhyw newid neu unrhyw newidiadau i’r strwythur neu’r dyluniad.
(2) Ni chaniateir i dystysgrif gymeradwyo gael ei hamrywio o dan y Rhan hon er mwyn—
(a) trosglwyddo’r dystysgrif gymeradwyo o ddeiliad y dystysgrif i unigolyn arall, (gan gynnwys pan fu newid mewn perchnogaeth neu reolaeth mewn perthynas â’r fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd);
(b) cwtogi neu estyn cyfnod y dystysgrif gymeradwyo;
(c) terfynu’r dystysgrif gymeradwyo.
RHAN 8
17 

(1) Caiff awdurdod lleol, ar gais gan ddeiliad y dystysgrif, adnewyddu tystysgrif gymeradwyo.
(2) Rhaid i bob cais i adnewyddu tystysgrif gymeradwyo ymwneud â naill ai—
(a) mangre unigol, neu
(b) cerbyd unigol.
(3) Rhaid i gais i adnewyddu tystysgrif gymeradwyo—
(a) cael ei wneud i’r awdurdod lleol a ganiataodd y dystysgrif gymeradwyo,
(b) cael ei wneud o leiaf 28 o ddiwrnodau gwaith cyn i’r dyddiad cymeradwyo a restrir ar y dystysgrif gymeradwyo ddod i ben,
(c) cael ei wneud naill ai ar ffurf papur neu drwy ei gyflwyno yn electronig,
(d) cynnwys rhif tystysgrif gymeradwyo’r fangre neu’r cerbyd y mae’r cais yn ymwneud â hi neu ag ef, ac
(e) cael ei wneud ar y ffurf a bennir yn Atodlen 1.
(4) Mae paragraff 3(e) yn ddarostyngedig i’r darpariaethau yn rheoliad 20.
18 
Ar ôl cyflwyno cais i adnewyddu tystysgrif gymeradwyo ond cyn dyfarnu arno, rhaid i ddeiliad y dystysgrif ddarparu i’r awdurdod lleol unrhyw wybodaeth bellach y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i’w alluogi i ddyfarnu ar y cais.
19 

(1) Mae pa ffi am gais bynnag a osodir gan yr awdurdod lleol i ddod gyda chais i adnewyddu tystysgrif gymeradwyo.
(2) Mae’r ffi am gais (os oes un) i’w gosod gan yr awdurdod lleol, gan roi sylw i’r costau y mae’r awdurdod yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod fynd iddynt mewn cysylltiad ag ymdrin â cheisiadau i adnewyddu o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Nid yw cais i adnewyddu tystysgrif gymeradwyo i’w drin fel pe bai wedi ei wneud yn briodol hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi cael y ffi am gais mewn arian cliriedig.
20 

(1) Mae’r meini prawf y mae rhaid i ddeiliad tystysgrif eu bodloni er mwyn i dystysgrif gymeradwyo gael ei adnewyddu wedi eu nodi ym mharagraff (2).
(2) Mae’r meini prawf a bennir yn rheoliad 8 yn gymwys fel pe bai cais i adnewyddu tystysgrif gymeradwyo yn gais am dystysgrif gymeradwyo, ac eithrio’r meini prawf yn rheoliad 8(2)(b) a (3) nad ydynt yn gymwys.
21 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cais i adnewyddu tystysgrif gymeradwyo wedi ei wneud i awdurdod lleol yn unol â Rhan 8.
(2) Os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod yr holl feini prawf adnewyddu a nodir yn rheoliad 20 wedi eu bodloni, rhaid iddo ganiatáu’r cais i adnewyddu tystysgrif gymeradwyo a dyroddi tystysgrif gymeradwyo i ddeiliad y dystysgrif, sy’n cymeradwyo mangre neu gerbyd mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennig.
(3) Os nad yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod yr holl feini prawf adnewyddu a nodir yn rheoliad 20 wedi eu bodloni, rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i ddeiliad y dystysgrif fod y cais i adnewyddu tystysgrif gymeradwyo wedi ei wrthod.
(4) Rhaid i’r hysbysiad—
(a) nodi’r rhesymau pam y mae’r awdurdod lleol yn gwrthod y cais, a
(b) datgan y caiff deiliad y dystysgrif apelio o dan Rannau 12 a 13 yn erbyn y penderfyniad.
22 

(1) At ddibenion y Rhan hon, bydd tystysgrif gymeradwyo yn dod i ben ar y cynharaf o blith y canlynol—
(a) diwedd cyfnod y dystysgrif gymeradwyo;
(b) y dyddiad y dirymir y dystysgrif gymeradwyo;
(c) y dyddiad y terfynir y dystysgrif gymeradwyo yn wirfoddol.
(2) Ond ni fydd tystysgrif gymeradwyo yn dod i ben—
(a) pan fo cais i adnewyddu yn yr arfaeth;
(b) pan fo’r amser y caniateir cyflwyno sylwadau o dan Ran 12 ynddo heb ddod i ben;
(c) pan fo apêl a ddygir o dan Ran 13 eto i gael ei phenderfynu.
RHAN 9
23 

(1) Os yw tystysgrif gymeradwyo wedi mynd ar goll, wedi cael ei dwyn neu wedi cael ei difrodi, caiff deiliad y dystysgrif wneud cais am gopi i’r awdurdod lleol a ddyroddodd y dystysgrif.
(2) Rhaid i gais am gopi o dystysgrif gymeradwyo—
(a) cael ei wneud i’r awdurdod lleol a ganiataodd y dystysgrif gymeradwyo,
(b) cael ei wneud naill ai ar ffurf papur neu drwy ei gyflwyno yn electronig,
(c) cynnwys esboniad pam y ceisir copi o’r dystysgrif gymeradwyo, a
(d) pan fo’n bosibl, ddarparu cadarnhad o rif y dystysgrif gymeradwyo.
24 

(1) Mae pa ffi am gais bynnag a osodir gan yr awdurdod lleol i ddod gyda chais am gopi o dystysgrif gymeradwyo.
(2) Mae’r ffi am gais (os oes un) i’w gosod gan yr awdurdod lleol, gan roi sylw i’r costau y mae’r awdurdod yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod fynd iddynt mewn cysylltiad ag ymdrin â cheisiadau am gopïau o dystysgrifau cymeradwyo o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Nid yw cais am gopi o dystysgrif gymeradwyo i’w drin fel pe bai wedi ei wneud yn briodol hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi cael y ffi am gais mewn arian cliriedig.
25 

(1) Rhaid i’r awdurdod lleol ganiatáu’r cais os yw wedi ei fodloni—
(a) bod y dystysgrif gymeradwyo ar goll, wedi ei dwyn neu wedi ei difrodi, a
(b) pan fo’r dystysgrif gymeradwyo ar goll neu wedi ei dwyn, fod yr heddlu wedi ei hysbysu am hyn.
(2) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl caniatáu cais, rhaid i awdurdod lleol ddyroddi copi o’r dystysgrif gymeradwyo i ddeiliad y dystysgrif.
(3) Os nad yw awdurdod lleol wedi ei fodloni o dan baragraff (1) rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i ddeiliad y dystysgrif—
(a) sy’n cynnwys y rhesymau pam y mae’r awdurdod lleol yn gwrthod y cais, a
(b) sy’n datgan y caiff deiliad y dystysgrif apelio o dan Rannau 12 a 13 yn erbyn y penderfyniad.
26 
Rhaid i gopi o dystysgrif gymeradwyo a ddyroddir gan awdurdod lleol o dan reoliad 25—
(a) cael ei ardystio gan yr awdurdod lleol fel copi gwir, a
(b) cael ei drin at ddibenion y Rheoliadau hyn ac unrhyw ofynion a osodir gan neu o dan y Rheoliadau hyn fel y dystysgrif gymeradwyo wreiddiol.
RHAN 10
27 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae awdurdod lleol yn pennu swm y ffi am gais at ddibenion adran 70(8)(a) o’r Ddeddf.
(2) Mae’r costau y mae rhaid i awdurdod lleol roi sylw iddynt (yn unol â rheoliad 7) wrth bennu’r ffi am gais yn cynnwys, yn arbennig, gostau y mae’r awdurdod lleol yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod lleol fynd iddynt mewn cysylltiad â cheisiadau a’r gweithgareddau a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—
(a) cael a chofnodi’r cais a chraffu arno,
(b) cynnal cyfweliad ymgeisio ac arolygiad o’r fangre neu’r cerbyd,
(c) camau dilynol sy’n gysylltiedig â’r cyfweliad ymgeisio a’r arolygiad o’r fangre neu’r cerbyd,
(d) cymeradwyo neu wrthod y cais, ac
(e) pennu gradd y swyddog a’r amser sy’n gysylltiedig â phob un o’r swyddogaethau hyn.
(3) Rhaid i awdurdod lleol adolygu lefel y ffi—
(a) ar ddiwedd y cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym, a
(b) fesul ysbaid o ddim mwy nag 1 flwyddyn wedi hynny.
(4) Ni chaniateir talu ffi am gais mewn rhandaliadau.
(5) Caiff awdurdod lleol ad-dalu’r cyfan neu ran o ffi am gais sydd eisoes wedi ei thalu.
(6) Os daw’n amlwg, ar ôl talu ffi am gais, y dylid bod wedi talu ffi lai, rhaid ad-dalu’r swm dros ben.
28 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae awdurdod lleol yn pennu swm y ffi gydymffurfio (os oes un) at ddibenion adran 76(2) o’r Ddeddf.
(2) Mae’r costau y mae rhaid i awdurdod lleol roi sylw iddynt (yn unol ag adran 76(4) o’r Ddeddf) wrth bennu’r ffi gydymffurfio yn cynnwys, yn arbennig, gostau y mae’r awdurdod lleol yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod lleol fynd iddynt mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—
(a) cynnal cofnodion ar gronfa ddata yr awdurdod lleol,
(b) cynnal y gofrestr a sefydlwyd o dan adran 75 o’r Ddeddf,
(c) swyddog awdurdodedig yn arfer y pwerau mynediad etc. o dan adran 84 o’r Ddeddf ac yn cynnal ymweliadau dirybudd a all, mewn rhai achosion, arwain at arfer y pwerau arolygu etc. o dan adran 88 o’r Ddeddf,
(d) cymryd camau yn erbyn deiliad y dystysgrif ac arfer y pŵer i ddirymu tystysgrif gymeradwyo o dan adran 73 o’r Ddeddf, ac
(e) pennu gradd y swyddog a’r amser sy’n gysylltiedig â phob un o’r swyddogaethau hyn.
(3) Rhaid i awdurdod lleol adolygu lefel y ffi—
(a) ar ddiwedd y cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym, a
(b) fesul ysbaid o ddim mwy nag 1 flwyddyn wedi hynny.
(4) Ni chaniateir talu’r ffi gydymffurfio mewn rhandaliadau.
(5) Caiff awdurdod lleol ad-dalu’r cyfan neu ran o’r ffi gydymffurfio sydd eisoes wedi ei thalu.
(6) Os daw’n amlwg, ar ôl talu’r ffi gydymffurfio, y dylid bod wedi talu ffi lai, rhaid ad-dalu’r swm dros ben.
(7) Caniateir i unrhyw ffi gydymffurfio sy’n ddyledus i awdurdod lleol ac sy’n parhau i fod heb ei thalu fod yn adenilladwy gan yr awdurdod lleol hwnnw drwy ddyled sifil.
(8) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “ffi gydymffurfio” (“compliance fee”) yw ffi y caniateir ei chodi gan yr awdurdod lleol o dan adran 76(2) o’r Ddeddf;
 mae i “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yr ystyr a roddir yn adran 83 o’r Ddeddf.
RHAN 11
29 
Pan fo deiliad tystysgrif yn dymuno i dystysgrif gymeradwyo beidio â chael effaith a phan fo’n rhoi hysbysiad o dan adran 72(1) o’r Ddeddf i’r awdurdod lleol sydd wedi caniatáu a dyroddi’r dystysgrif gymeradwyo, rhaid i’r hysbysiad gynnwys—
(a) y dyddiad y bwriedir i’r dystysgrif gymeradwyo beidio â chael effaith,
(b) rhif y dystysgrif gymeradwyo,
(c) manylion deiliad y dystysgrif, i gynnwys ei enw llawn, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a’i fanylion cyswllt,
(d) yn achos mangre a gymeradwywyd, gyfeiriad y fangre,
(e) yn achos cerbyd a gymeradwywyd sydd â rhif cofrestru, rif cofrestru’r cerbyd,
(f) yn achos cerbyd a gymeradwywyd nad oes ganddo rif cofrestru, pa fanylion adnabod bynnag am y cerbyd y mae’r awdurdod lleol wedi ystyried eu bod yn briodol yn unol ag adran 71(3)(b) o’r Ddeddf, ac
(g) enw unrhyw bersonau y mae deiliad y dystysgrif yn meddwl bod yr hysbysiad yn debygol o effeithio arnynt.
RHAN 12
30 

(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys os yw awdurdod lleol yn bwriadu rhoi hysbysiad i P ei fod yn bwriadu gwrthod cais.
(2) Yn Rhannau 12 a 13—
 ystyr “cais” (“anapplication”) yw cais—
(a) am dystysgrif gymeradwyo,
(b) i amrywio tystysgrif gymeradwyo,
(c) i adnewyddu tystysgrif gymeradwyo, a
(d) am gopi o dystysgrif gymeradwyo;
 ystyr “P” (“P”) yw’r ceisydd neu ddeiliad y dystysgrif.
31 
Caiff awdurdod lleol wrthod cais.
32 
Os yw awdurdod lleol yn bwriadu gwrthod cais o dan reoliad 31, rhaid iddo roi hysbysiad (“hysbysiad rhybuddio”) i P sy’n nodi’r hyn y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu ei wneud a pham.
33 

(1) Rhaid i hysbysiad rhybuddio ddatgan y caiff P, o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, naill ai—
(a) cyflwyno sylwadau ynghylch y cynigion, neu
(b) hysbysu’r awdurdod lleol bod P yn dymuno cyflwyno sylwadau.
(2) Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio fod yn llai na 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad.
(3) Caiff yr awdurdod lleol gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio—
(a) os yw P, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, yn hysbysu’r awdurdod lleol nad yw P yn dymuno cyflwyno sylwadau, neu
(b) os yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio yn dod i ben ac nad yw P wedi cyflwyno sylwadau nac wedi hysbysu’r awdurdod lleol bod P yn dymuno gwneud hynny.
(4) Os yw P, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, yn hysbysu’r awdurdod lleol bod P yn dymuno cyflwyno sylwadau—
(a) rhaid i’r awdurdod lleol ganiatáu cyfnod rhesymol pellach i P i gyflwyno sylwadau, a
(b) caiff yr awdurdod lleol gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio os yw P yn methu â chyflwyno sylwadau o fewn y cyfnod pellach hwnnw.
(5) Os yw P yn cyflwyno sylwadau (naill ai o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio neu o fewn y cyfnod pellach a ganiateir o dan baragraff (4)(a)), rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y sylwadau.
(6) Caniateir i’r sylwadau a gyflwynir gan P o dan y rheoliad hwn gael eu cyflwyno ar lafar neu fel arall ac, yn achos sylwadau llafar, caiff P neu gynrychiolydd P eu cyflwyno.
34 

(1) Os yw awdurdod lleol, ar ôl cydymffurfio â’r gofynion yn rheoliad 32, yn penderfynu cymryd y camau a nodir yn yr hysbysiad rhybuddio, rhaid iddo roi hysbysiad o benderfyniad i P sy’n nodi’r rhesymau dros gymryd camau o’r fath.
(2) Rhaid i’r hysbysiad o benderfyniad hefyd ddatgan—
(a) y caiff P apelio o dan Ran 13 yn erbyn y penderfyniad, a
(b) y cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo.
(3) Os yw awdurdod lleol, ar ôl cydymffurfio â rheoliad 32, yn penderfynu peidio â chymryd y camau g weithredu a nodir yn yr hysbysiad rhybuddio, rhaid i’r awdurdod lleol roi’r hysbysiad o benderfyniad i P.
RHAN 13
35 

(1) Caiff P apelio i lys ynadon yn erbyn penderfyniad i wrthod cais.
(2) Mae apêl i gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad o benderfyniad i wrthod y cais.
(3) Mae apêl i fod ar ffurf cwyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980.
(4) At ddibenion y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, mae gwneud y gŵyn i’w drin fel gwneud yr apêl.
(5) Yn dilyn apêl, caiff y llys ynadon—
(a) cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol yr apelir yn ei erbyn, neu
(b) diddymu neu amrywio’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn,
a chaiff wneud unrhyw orchymyn o ran costau y mae’n meddwl ei fod yn addas.
(6) Os bydd y llys ynadon yn diddymu neu’n amrywio’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn, caiff anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan y llys.
36 

(1) Caniateir i apêl gan y naill barti neu’r llall yn erbyn penderfyniad llys ynadon o dan reoliad 35 gael ei dwyn gerbron Llys y Goron.
(2) Yn dilyn apêl i Lys y Goron, caiff Llys y Goron—
(a) cadarnhau, amrywio neu wrth-droi penderfyniad y llys ynadon,
(b) anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon neu’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.
37 

(1) Pan fo llys, yn dilyn apêl o dan reoliad 35 neu 36, yn amrywio neu’n gwrth-droi penderfyniad awdurdod lleol, caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu’r ceisydd neu ddeiliad y dystysgrif am golled a ddioddefwyd o ganlyniad i’r penderfyniad.
(2) Nid yw dwyn apêl o dan reoliad 35 neu 36 mewn cysylltiad â phenderfyniad a wneir gan awdurdod lleol yn atal dros dro effaith y penderfyniad nac unrhyw hysbysiad a roddir o dan Ran 12.
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27th November 2024
ATODLEN 1
Rheoliad 5(2)

ATODLEN 2
Rheoliad 10(1)

ATODLEN 3
Rheoliad 11(2)
1 

(1) Ni chaiff deiliad y dystysgrif ganiatáu i unrhyw ddeiliaid trwydded roi triniaeth arbennig pan fo’r fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd, neu unrhyw ran ohoni neu ohono, yn peri, neu’n debygol o beri, risg sylweddol o niwed i iechyd dynol.
(2) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd yn cael ei defnyddio neu ei ddefnyddio yn y fath fodd sy’n lleihau’r risg o niwed i iechyd dynol.
(3) Ni chaiff deiliad y dystysgrif beryglu diogelwch, iechyd na llesiant cleientiaid, deiliaid trwydded, staff nac aelodau o’r cyhoedd sy’n defnyddio ei fangre neu ei gerbyd.
(4) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif gadw a chynnal cofnod cyfredol o’r holl ddeiliaid trwydded sy’n gweithredu yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd, gan gynnwys pob triniaeth arbennig y mae deiliad y drwydded wedi ei drwyddedu i’w rhoi.
(5) Ni chaiff deiliad y dystysgrif ganiatáu i ddeiliaid trwydded weithredu yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd ond pan fo’r fangre neu’r cerbyd wedi ei nodi yn ei drwydded triniaeth arbennig.
(6) Ni chaniateir mynd y tu hwnt i uchafswm nifer y gweithfannau a gymeradwywyd i’w defnyddio yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd ac sydd wedi ei nodi ar y dystysgrif gymeradwyo.
(7) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod yr holl ddeiliaid trwydded sy’n gweithredu yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd yn gweithredu mewn ffordd nad yw’n mynd yn groes i’r drwydded triniaeth arbennig a ddyroddwyd mewn perthynas â’r triniaethau arbennig a nodir yn y drwydded triniaeth arbennig (gan gynnwys yr amodau trwyddedu mandadol).
2 

(1) Rhaid i gopi o’r amodau cymeradwyo mandadol cymwys fod ar gael yn rhwydd i’w arolygu ar gais gan swyddog awdurdodedig neu gan gleient.
(2) Ni chaniateir addasu’r dystysgrif gymeradwyo mewn unrhyw ffordd a rhaid iddi barhau i fod yn ddarllenadwy.
(3) Mewn achos pan fo’r dystysgrif gymeradwyo wedi mynd ar goll, wedi cael ei dwyn neu wedi cael ei difrodi, rhaid i ddeiliad y dystysgrif wneud cais, o fewn cyfnod rhesymol, i gael un newydd yn ei lle oddi wrth yr awdurdod lleol sy’n dyroddi.
(4) Pan ddaw’r dystysgrif gymeradwyo i ben, rhaid dychwelyd y dystysgrif sydd wedi dod i ben i’r awdurdod lleol sy’n dyroddi yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir gan yr awdurdod hwnnw.
(5) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod ganddo sicrwydd yswiriant drwy’r amser yn ystod cyfnod y dystysgrif gymeradwyo. Rhaid i dystiolaeth o sicrwydd yswiriant dilys fod ar gael yn rhwydd i’w harolygu gan unrhyw swyddog awdurdodedig.
3 

(1) Rhaid i’r dystysgrif gymeradwyo gael ei harddangos ym mynedfa cwsmeriaid y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd neu gerllaw iddi, neu yn y rhan ohoni neu ohono sy’n destun y dystysgrif gymeradwyo, ac mewn safle sy’n galluogi cleientiaid ac aelodau o’r cyhoedd i’w darllen yn hawdd.
(2) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif arddangos hysbysiad sy’n datgan na fydd triniaethau arbennig yn cael eu rhoi i unrhyw berson sy’n feddw neu yr ymddengys ei fod yn feddw, pa un ai yn rhinwedd diod, cyffuriau neu unrhyw fodd arall. Rhaid i’r hysbysiad hwn fod mewn lleoliad sy’n galluogi cleientiaid ac aelodau o’r cyhoedd i’w ddarllen yn hawdd.
(3) Ni chaiff deiliad y dystysgrif ganiatáu i anifeiliaid ddod i mewn i’r fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd ac eithrio cŵn cymorth cofrestredig sy’n dod gyda chleient.
(4) Rhaid arddangos yn glir hysbysiad sy’n cynnwys cyfarwyddiadau golchi dwylo wrth bob basn golchi dwylo yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd.
(5) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod deiliad y drwydded yn glynu wrth y rhwymedigaeth sydd arno na chaiff ond caniatáu i gleient ddod ag unigolyn arall gydag ef os nad yw presenoldeb yr unigolyn arall hwnnw yn ystod y driniaeth arbennig yn peri risg uwch o haint.
(6) Rhaid cyfyngu ar fynediad i’r man gwaith triniaethau arbennig i neb ond deiliad y drwydded, deiliad y dystysgrif, personau sydd wedi eu hawdurdodi gan ddeiliad y dystysgrif neu ddeiliad y drwydded (sy’n cynnwys y cleient ac unigolyn sy’n dod gyda’r cleient) a chŵn cymorth cofrestredig (os ydynt yn gymwys). Dim ond rhan o’r fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd y caniateir i unrhyw unigolion eraill gael mynediad iddi pan na fo hynny’n peri risg uwch o haint.
(7) Rhaid nodi’n glir y mannau y gwaherddir mynediad y cyhoedd iddynt yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd a rhaid cyfyngu ar fynediad aelodau o’r cyhoedd i’r canlynol—
(a) gweithfannau (oni bai eu bod wedi eu hawdurdodi gan ddeiliad y dystysgrif neu ddeiliad y drwydded (i gynnwys cleient ac unigolyn sy’n dod gyda chleient)),
(b) mannau ac ystafelloedd lle y mae sbwriel sy’n deillio o’r driniaeth arbennig yn cael ei gasglu a’i storio, ac
(c) unrhyw fannau lle y mae cyfarpar a chynhyrchion sy’n ymwneud â thriniaethau arbennig yn cael ei storio neu eu storio.
4 

(1) Ni chaniateir rhoi triniaeth arbennig ond mewn gweithfan yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd.
(2) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod dyluniad, maint, strwythur a chyflwr y fangre neu’r cerbyd yn galluogi gwaith glanhau a diheintio effeithiol.
(3) Rhaid i’r holl arwynebau, gosodiadau, ffitiadau a chyfleusterau mewnol yn y man gwaith triniaethau arbennig fod o’r fath ddeunydd a dyluniad, a chael eu cadw mewn cyflwr da, i alluogi gwaith glanhau a diheintio effeithiol pan fo halogiad gan waed neu hylifau corfforol yn debygol.
(4) Pan ddarperir man aros, rhaid ei wahanu’n ffisegol oddi wrth y man gwaith triniaethau arbennig.
(5) Rhaid bod gan y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd gyfleusterau toiled y gall deiliaid trwydded, staff a chleientiaid eu cyrraedd a’u defnyddio’n rhwydd.
(6) Pan ddarperir cyfleusterau toiled yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd, rhaid iddynt gael eu hawyru a chynnwys basn golchi dwylo sydd â chyflenwad digonol o ddŵr rhedegog (poeth ac oer neu gymysg), sebon hylif a thywelion papur wedi eu storio mewn cyflenwr caeedig.
(7) Rhaid i’r weithfan fod â digon o le er mwyn galluogi rhoi’r driniaeth arbennig yn ddiogel ac yn hylan.
(8) Rhaid i’r man gwaith triniaethau arbennig gynnwys yr holl weithfannau a’r holl gyfleusterau ar gyfer storio’n lân gyfarpar, offerynnau a chynhyrchion a ddefnyddir ar gyfer triniaethau arbennig, neu mewn cysylltiad â hwy, er mwyn atal y risg o halogiad.
(9) Rhaid darparu cyfleusterau addas ar gyfer storio’n hylan gyfarpar, offerynnau a chynhyrchion a ddefnyddir ar gyfer triniaethau arbennig, neu mewn cysylltiad â hwy, er mwyn osgoi’r risg o halogiad.
(10) Rhaid darparu trefniadau addas ar gyfer storio, rheoli ac adalw cofnodion cleientiaid yn ddiogel, sy’n ymwneud â’r triniaethau arbennig sy’n cael eu cynnig a’u rhoi.
(11) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod pecyn cymorth cyntaf sydd wedi ei stocio’n addas ac sydd ar gael yn rhwydd yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd sy’n diwallu anghenion cymorth cyntaf y triniaethau arbennig a roddir yno.
(12) Rhaid i’r goleuadau fod yn addas ac yn ddigonol i sicrhau bod y fangre neu’r cerbyd yn gweithredu’n ddiogel ac i hwyluso gwaith glanhau a diheintio effeithiol. Pan fo angen, rhaid darparu goleuadau lleol ym mhob gweithfan i sicrhau bod y driniaeth arbennig yn cael ei rhoi yn ddiogel ac yn hylan.
(13) Rhaid darparu awyriad digonol i’r man gwaith triniaethau arbennig yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd.
(14) Rhaid darparu nifer addas o fasnau golchi dwylo sydd ar gael yn rhwydd ym mhob man gwaith triniaethau arbennig. Rhaid i’r basnau golchi dwylo weithio’n iawn a bod mewn cyflwr da.
(15) Rhaid i’r holl fasnau golchi dwylo mewn man gwaith triniaethau arbennig gynnwys cyflenwad digonol o ddŵr rhedegog (poeth ac oer neu gymysg), sebon hylif a thywelion papur wedi eu storio mewn cyflenwr caeedig sy’n agos i’r basn golchi dwylo.
(16) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod yr holl fasnau golchi dwylo at ddefnydd y deiliaid trwydded yn cael eu stocio’n llawn â sebon hylif a thywelion papur.
(17) Ni chaniateir defnyddio basnau golchi dwylo ond at ddibenion golchi dwylo ac elinau.
5 

(1) Rhaid cadw pob rhan o’r fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd yn lân ac yn daclus.
(2) Rhaid gweithredu amserlen lanhau sy’n addas ac yn ddigonol ar gyfer y fangre, y gosodiadau, y ffitiadau, y dodrefn, y cyfarpar a’r offerynnau.
(3) Rhaid darparu cyfarpar, cyfleusterau a threfniadau ar gyfer dihalogi, glanhau, diheintio a, phan fo angen, sterileiddio teclynnau gwaith, offerynnau ac eitemau eraill. Rhaid gwahanu’r ddarpariaeth hon oddi wrth yr holl weithfannau, a rhaid iddi adlewyrchu’r triniaethau a roddir yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd.
(4) Rhaid defnyddio, cynnal a gwasanaethu’r holl gyfarpar a ddefnyddir at ddiben glanhau, diheintio neu sterileiddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a rhaid cael cofnodion ar ffurf dogfen i ddangos bod y profion ansawdd priodol wedi eu cynnal i ddilysu’r defnydd o’r cyfarpar hwnnw.
6 

(1) Rhaid gwneud darpariaeth addas ar gyfer casglu, storio a gwaredu gwastraff a sbwriel arall.
(2) Rhaid darparu nifer digonol o finiau gwastraff hawdd eu glanhau, nad ydynt yn cael eu gweithredu â llaw, yn y man gwaith triniaethau arbennig. Rhaid i’r biniau gwastraff fod wedi eu hadeiladu’n briodol a chael eu cadw mewn cyflwr da a glân.
(3) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif ddarparu nifer addas o finiau offer miniog a sicrhau eu bod mewn lleoliad diogel yn agos i’r holl weithfannau.
(4) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod darpariaeth addas wedi ei gwneud ar gyfer gwaredu gwastraff domestig a gwastraff clinigol nad yw’n beryglus, ac ar gyfer eu storio ar wahân.
(5) Rhaid marcio tarddle (enw a chyfeiriad y busnes) yr holl wastraff clinigol nad yw’n beryglus (bagiau gwastraff melyn a biniau offer miniog melyn) cyn eu gwaredu.
(6) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod y gwastraff clinigol, nad yw’n beryglus (bagiau gwastraff melyn a biniau offer miniog melyn) yn cael ei gasglu’n rheolaidd gan gludwr gwastraff trwyddedig. Rhaid cadw cofnod o wastraff rheoledig a draddodir yn y fangre neu’r cerbyd a rhaid iddo fod ar gael i’w arolygu gan swyddog awdurdodedig.
7 
Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “amodau trwyddedu mandadol” (“mandatory licensing conditions”) yw’r amodau y mae trwydded triniaeth arbennig yn ddarostyngedig iddynt;
 ystyr “bin offer miniog” (“sharps bin”) yw cynhwysydd anhyblyg, arbenigol sy’n cydymffurfio â Chod CGE 20 01 99 ac sydd wedi ei gynllunio i waredu’n ddiogel offer miniog sy’n gysylltiedig â rhoi triniaethau arbennig;
 ystyr “gweithfan” (“workstation”) yw’r rhan o’r man gwaith triniaethau arbennig sy’n cynnwys y canlynol—
(a) gwely, cadair neu gyffelyb, y mae cleient yn eistedd neu’n gorwedd arno neu arni i gael triniaeth arbennig a roddir gan ddeiliad trwydded,
(b) cadair neu stôl y mae deiliad y drwydded yn eistedd arni i roi’r driniaeth arbennig (os yw’n gymwys), ac
(c) arwyneb gwaith a ddefnyddir ar gyfer gosod a storio’r offerynnau a’r cynhyrchion a ddefnyddir gan ddeiliad y drwydded i roi’r driniaeth arbennig;
 ystyr “offer miniog” (“sharps”) yw gwrthrychau neu offerynnau sy’n gallu torri, crafu, pricio neu achosi anaf i’r croen ac mae’n cynnwys pob math o nodwydd a rasel untro;
 ystyr “man gwaith triniaethau arbennig” (“special procedures work area”) yw ardal neu ystafell ddynodedig a ddefnyddir at ddiben rhoi triniaeth arbennig, ac o ran man gwaith triniaethau arbennig—
(d) rhaid iddo gynnwys o leiaf—
(i) 1 weithfan,
(ii) 1 basn golchi dwylo,
(iii) 1 bin gwastraff,
(iv) 1 bin offer miniog (os yw’n gymwys), a
(e) caiff hefyd gynnwys cyfleusterau eraill a chyfarpar arall i gefnogi’r gwaith o roi’r driniaeth arbennig;
 ystyr “sicrwydd yswiriant” (“insurance cover”) yw polisi yswiriant atebolrwydd cyhoeddus dilys a ddyroddwyd gan yswiriwr awdurdodedig i yswirio’r ceisydd mewn perthynas â’r fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd;
 mae i “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yr ystyr a roddir yn adran 83 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
 mae i “trwydded triniaeth arbennig” (“special procedure licence”) yr ystyr a roddir yn adran 59 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
 ystyr “yswiriwr awdurdodedig” (“authorised insurer”), mewn perthynas â pholisi yswiriant, yw person a gaiff gynnal yn y Deyrnas Unedig y busnes o roi effaith i gontractau yswiriant, neu o gyflawni contractau yswiriant, o’r math a ddarperir o dan y polisi yswiriant.
ATODLEN 4
Rheoliad 11(3)
1 

(1) Ni chaiff deiliad y dystysgrif ganiatáu i unrhyw ddeiliaid trwydded roi triniaeth arbennig pan fo’r fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd, neu unrhyw ran ohoni neu ohono, yn peri, neu’n debygol o beri, risg sylweddol o niwed i iechyd dynol.
(2) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd yn cael ei defnyddio neu ei ddefnyddio yn y fath fodd sy’n lleihau’r risg o niwed i iechyd dynol.
(3) Ni chaiff deiliad y dystysgrif beryglu diogelwch, iechyd na llesiant cleientiaid, deiliaid trwydded, staff nac aelodau o’r cyhoedd sy’n defnyddio ei fangre neu ei gerbyd.
(4) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif gadw a chynnal cofnod cyfredol o’r holl ddeiliaid trwydded sy’n gweithredu yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd, gan gynnwys pob triniaeth arbennig y mae deiliad y drwydded wedi ei drwyddedu i’w rhoi.
(5) Ni chaiff deiliad y dystysgrif ganiatáu i ddeiliaid trwydded weithredu yn y fangre neu ei gerbyd a gymeradwywyd ond pan fo’r fangre neu’r cerbyd wedi ei phennu neu wedi ei bennu yn ei drwydded triniaeth arbennig.
(6) Ni chaniateir mynd y tu hwnt i uchafswm nifer y gweithfannau a gymeradwywyd i’w defnyddio yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd ac sydd wedi ei nodi ar y dystysgrif gymeradwyo.
(7) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod yr holl ddeiliaid trwydded sy’n gweithredu yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd yn gweithredu mewn ffordd nad yw’n mynd yn groes i’r drwydded triniaeth arbennig a ddyroddwyd mewn perthynas â’r triniaethau arbennig a nodir yn y drwydded triniaeth arbennig (gan gynnwys yr amodau trwyddedu mandadol).
2 

(1) Rhaid i gopi o’r amodau cymeradwyo mandadol cymwys fod ar gael yn rhwydd i’w arolygu ar gais gan swyddog awdurdodedig neu gan gleient.
(2) Ni chaniateir addasu’r dystysgrif gymeradwyo mewn unrhyw ffordd a rhaid iddi barhau i fod yn ddarllenadwy.
(3) Mewn achos pan fo’r dystysgrif gymeradwyo wedi mynd ar goll, wedi cael ei dwyn neu wedi cael ei difrodi, rhaid i ddeiliad y dystysgrif wneud cais, o fewn cyfnod rhesymol, i gael un newydd yn ei lle oddi wrth yr awdurdod lleol sy’n dyroddi.
(4) Pan ddaw’r dystysgrif gymeradwyo i ben, rhaid dychwelyd y dystysgrif sydd wedi dod i ben i’r awdurdod lleol sy’n dyroddi yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir gan yr awdurdod hwnnw.
(5) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod ganddo sicrwydd yswiriant drwy’r amser yn ystod cyfnod y dystysgrif gymeradwyo pan fydd triniaethau arbennig yn cael eu rhoi yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd. Rhaid i dystiolaeth o sicrwydd yswiriant dilys fod ar gael yn rhwydd i’w harolygu gan unrhyw swyddog awdurdodedig.
3 

(1) Rhaid i’r dystysgrif gymeradwyo gael ei harddangos ym mynedfa cwsmeriaid y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd neu gerllaw iddi, neu yn y rhan ohoni neu ohono sy’n destun y dystysgrif gymeradwyo, ac mewn safle sy’n galluogi cleientiaid ac aelodau o’r cyhoedd i’w darllen yn hawdd.
(2) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif arddangos hysbysiad sy’n datgan na fydd triniaethau arbennig yn cael eu rhoi i unrhyw berson sy’n feddw neu yr ymddengys ei fod yn feddw, pa un ai yn rhinwedd diod, cyffuriau neu unrhyw fodd arall. Rhaid i’r hysbysiad hwn fod mewn lleoliad sy’n galluogi cleientiaid ac aelodau o’r cyhoedd i’w ddarllen yn hawdd.
(3) Ni chaiff deiliad y dystysgrif ganiatáu i anifeiliaid ddod i mewn i’r fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd ac eithrio cŵn cymorth cofrestredig sy’n dod gyda chleient.
(4) Rhaid cyfyngu ar fynediad i fan gwaith triniaethau arbennig i neb ond deiliad y drwydded, rheolwr y digwyddiad (fel deiliad y dystysgrif), personau sydd wedi eu hawdurdodi gan ddeiliad y dystysgrif neu ddeiliad y drwydded (sy’n cynnwys y cleient ac unigolyn sy’n dod gyda’r cleient) a chŵn cymorth cofrestredig (os ydynt yn gymwys).
(5) Rhaid arddangos yn glir hysbysiad sy’n cynnwys cyfarwyddiadau golchi dwylo wrth bob basn golchi dwylo a ddefnyddir gan ddeiliaid trwydded yn unig.
(6) Rhaid nodi mannau mynediad y cyhoedd yn glir a rhaid cyfyngu ar fynediad aelodau o’r cyhoedd i’r canlynol—
(a) gweithfannau (oni bai eu bod wedi eu hawdurdodi gan ddeiliad y dystysgrif neu ddeiliad y drwydded (i gynnwys cleient ac unigolyn sy’n dod gyda chleient)),
(b) mannau ac ystafelloedd lle y mae sbwriel sy’n deillio o’r driniaeth arbennig yn cael ei gasglu a’i storio, ac
(c) unrhyw fannau lle y mae cyfarpar a chynhyrchion sy’n ymwneud â thriniaethau arbennig yn cael ei storio neu eu storio.
4 

(1) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod dyluniad, maint, strwythur a chyflwr y fangre neu’r cerbyd yn galluogi gwaith glanhau a diheintio effeithiol pan fo halogiad gan waed neu hylifau corfforol yn debygol.
(2) Ni chaniateir rhoi triniaeth arbennig ond yn y weithfan sydd wedi ei dynodi at y diben hwnnw.
(3) Rhaid i’r holl arwynebau, gosodiadau, ffitiadau a chyfleusterau mewnol yn y man gwaith triniaethau arbennig fod o’r fath ddeunydd a dyluniad, a chael eu cadw mewn cyflwr da, i alluogi gwaith glanhau a diheintio effeithiol pan fo halogiad gan waed neu hylifau corfforol yn debygol.
(4) Rhaid bod gan y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd gyfleusterau toiled y gall deiliaid trwydded, staff a chleientiaid eu cyrraedd a’u defnyddio’n rhwydd.
(5) Pan ddarperir cyfleusterau toiled yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd, rhaid iddynt gael eu hawyru a chynnwys basn golchi dwylo sydd â chyflenwad digonol o ddŵr rhedegog (poeth ac oer neu gymysg), sebon hylif a thywelion papur wedi eu storio mewn cyflenwr caeedig.
(6) Rhaid i’r weithfan fod â digon o le er mwyn galluogi rhoi’r driniaeth arbennig yn ddiogel ac yn hylan.
(7) Rhaid i’r man gwaith triniaethau arbennig gynnwys yr holl weithfannau a’r holl gyfleusterau ar gyfer storio’n lân gyfarpar, offerynnau a chynhyrchion a ddefnyddir ar gyfer triniaethau arbennig, neu mewn cysylltiad â hwy, er mwyn atal y risg o halogiad.
(8) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod pecynnau cymorth cyntaf sydd wedi eu stocio’n addas ac sydd ar gael yn rhwydd yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd ac sy’n diwallu anghenion cymorth cyntaf y triniaethau arbennig sy’n cael eu rhoi a nifer y deiliaid trwydded sy’n gweithredu yn y digwyddiad.
(9) Rhaid i’r goleuadau fod yn addas ac yn ddigonol i sicrhau bod y fangre neu’r cerbyd yn gweithredu’n ddiogel ac i hwyluso gwaith glanhau a diheintio effeithiol. Pan fo angen, rhaid darparu goleuadau lleol ym mhob gweithfan i sicrhau bod y driniaeth arbennig yn cael ei rhoi yn ddiogel ac yn hylan.
(10) Rhaid darparu awyriad digonol i’r man gwaith triniaethau arbennig.
(11) Rhaid darparu nifer addas o fasnau golchi dwylo sydd ar gael yn rhwydd yn y man gwaith triniaethau arbennig i’w defnyddio gan y deiliaid trwydded. Rhaid i’r basnau golchi dwylo weithio’n iawn a bod mewn cyflwr da.
(12) Rhaid i fasnau golchi dwylo a ddefnyddir gan ddeiliaid trwydded gynnwys cyflenwad digonol o ddŵr rhedegog poeth ac oer neu gymysg, sebon hylif a thywelion papur wedi eu storio mewn cyflenwr caeedig sy’n agos i’r basn golchi dwylo.
(13) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod yr holl fasnau golchi dwylo at ddefnydd y deiliaid trwydded wedi eu stocio’n llawn â sebon hylif a thywelion papur drwy gydol yr arddangosfa, yr adloniant neu’r digwyddiad.
(14) Ni chaniateir defnyddio basnau golchi dwylo ond at ddibenion golchi dwylo ac elinau.
5 

(1) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd (neu bob rhan o’r fangre neu’r cerbyd y mae’n gyfrifol amdani) yn cael ei chadw neu ei gadw’n lân ac yn daclus drwy’r amser.
(2) Rhaid gweithredu amserlen lanhau sy’n addas ac yn ddigonol ar gyfer y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd.
(3) Rhaid darparu cyfarpar, cyfleusterau a threfniadau ar gyfer dihalogi, glanhau, diheintio a, phan fo angen, sterileiddio teclynnau gwaith, offerynnau ac eitemau eraill. Rhaid gwahanu’r ddarpariaeth hon oddi wrth yr holl weithfannau, a rhaid iddi adlewyrchu’r triniaethau a roddir yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd.
(4) Pan na ellir darparu cyfarpar, cyfleusterau na threfniadau ar gyfer dihalogi, glanhau diheintio a, phan fo’n ofynnol, sterileiddio teclynnau gwaith, offerynnau ac eitemau eraill, rhaid gweithredu polisi defnydd untro.
(5) Rhaid defnyddio, cynnal a gwasanaethu’r holl gyfarpar a ddefnyddir at ddiben glanhau, diheintio neu sterileiddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a rhaid cael cofnodion ar ffurf dogfen i ddangos bod y profion ansawdd priodol wedi eu cynnal i ddilysu defnydd o’r cyfarpar hwnnw.
6 

(1) Rhaid gwneud darpariaeth addas ar gyfer casglu, storio a gwaredu gwastraff a sbwriel arall.
(2) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif ddarparu nifer addas o finiau offer miniog a sicrhau eu bod mewn lleoliad diogel yn agos i’r holl weithfannau.
(3) Rhaid darparu nifer digonol o finiau gwastraff hawdd eu glanhau, nad ydynt yn cael eu gweithredu â llaw, yn y man triniaethau arbennig a rhaid iddynt fod wedi eu hadeiladu’n briodol a chael eu cadw mewn cyflwr da a glân.
(4) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod darpariaeth addas wedi ei gwneud ar gyfer gwaredu gwastraff domestig a gwastraff clinigol nad yw’n beryglus, ac ar gyfer eu storio ar wahân.
(5) Rhaid marcio tarddle (enw a chyfeiriad y busnes) yr holl wastraff clinigol nad yw’n beryglus (bagiau gwastraff melyn a biniau offer miniog melyn) cyn eu gwaredu.
(6) Rhaid i ddeiliad y dystysgrif sicrhau bod y gwastraff clinigol, nad yw’n beryglus (bagiau gwastraff melyn a biniau offer miniog melyn) yn cael ei gasglu gan gludwr gwastraff trwyddedig. Rhaid cadw cofnod o wastraff rheoledig a draddodir yn y fangre neu’r cerbyd a rhaid iddo fod ar gael i’w arolygu gan swyddog awdurdodedig.
7 
Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “amodau trwyddedu mandadol” (“mandatory licensing conditions”) yw’r amodau y mae trwydded triniaeth arbennig yn ddarostyngedig iddynt;
 ystyr “bin offer miniog” (“sharps bin”) yw cynhwysydd anhyblyg, arbenigol sy’n cydymffurfio â Chod CGE 20 01 99 ac sydd wedi ei gynllunio i waredu’n ddiogel offer miniog sy’n gysylltiedig â rhoi triniaethau arbennig;
 ystyr “gweithfan” (“workstation”) yw’r rhan o’r man gwaith triniaethau arbennig sy’n cynnwys y canlynol—
(a) gwely, cadair neu gyffelyb, y mae cleient yn eistedd neu’n gorwedd arno neu arni i gael triniaeth arbennig a roddir gan ddeiliad trwydded,
(b) cadair neu stôl y mae deiliad y drwydded yn eistedd arni i roi’r driniaeth arbennig (os yw’n gymwys), ac
(c) arwyneb gwaith a ddefnyddir ar gyfer gosod a storio’r offerynnau a’r cynhyrchion a ddefnyddir gan ddeiliad y drwydded i roi’r driniaeth arbennig;
 ystyr “offer miniog” (“sharps”) yw gwrthrychau neu offerynnau sy’n gallu torri, crafu, pricio neu achosi anaf i’r croen ac mae’n cynnwys pob math o nodwydd a rasel untro;
 ystyr “man gwaith triniaethau arbennig” (“special procedures work area”) yw ardal neu ystafell ddynodedig a ddefnyddir at ddiben rhoi triniaeth arbennig, ac o ran man gwaith triniaethau arbennig—
(a) rhaid iddo gynnwys o leiaf—
(i) 1 weithfan,
(ii) 1 basn golchi dwylo,
(iii) 1 bin gwastraff,
(iv) 1 bin offer miniog (os yw’n gymwys), a
(b) caiff hefyd gynnwys cyfleusterau eraill a chyfarpar arall i gefnogi’r gwaith o roi’r driniaeth arbennig;
 ystyr “sicrwydd yswiriant” (“insurance cover”) yw polisi yswiriant atebolrwydd cyhoeddus dilys a ddyroddwyd gan yswiriwr awdurdodedig i yswirio’r ceisydd mewn perthynas â’r fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd;
 mae i “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yr ystyr a roddir yn adran 83 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
 mae i “trwydded triniaeth arbennig” (“special procedure licence”) yr ystyr a roddir yn adran 59 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
 ystyr “yswiriwr awdurdodedig” (“authorised insurer”), mewn perthynas â pholisi yswiriant, yw person a gaiff gynnal yn y Deyrnas Unedig y busnes o roi effaith i gontractau yswiriant, neu o gyflawni contractau yswiriant, o’r math a ddarperir o dan y polisi yswiriant.