
RHAN 1
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Diwygio) (Estyn i’r Swistir a Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2024 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2025.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Cytundeb y Swistir” (“the Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a Chydffederasiwn y Swistir ar Gydnabod Cymwysterau Proffesiynol a wnaed yn Llundain ar 14 Mehefin 2023;
 ystyr “Rheoliadau 2023” (“the 2023 Regulations”) yw Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023.
RHAN 2
3 

(1) Mae rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau 2023 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle’r diffiniad o “cyfnod ymaddasu” rhodder—“
 ystyr “cyfnod ymaddasu” (“adaptation period”) yw—
(a) yn achos ceisydd sy’n gwneud cais gan ddibynnu ar ddal cymwysterau proffesiynol a gafwyd yn y Swistir, gyfnod o ymarfer o dan oruchwyliaeth, yn ddarostyngedig i asesiad ac y gall addysg bellach neu hyfforddiant pellach ddod gydag ef, mewn proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig o dan gyfrifoldeb aelod cymwysedig o’r proffesiwn hwnnw;
(b) yn achos ceisydd sy’n gwneud cais gan ddibynnu ar ddal cymwysterau proffesiynol a gafwyd ac eithrio yn y Swistir, gyfnod o ymarfer o dan oruchwyliaeth, yn ddarostyngedig i asesiad ac y gall hyfforddiant pellach ddod gydag ef, mewn proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig o dan gyfrifoldeb aelod cymwysedig o’r proffesiwn hwnnw;”.
(3) Hepgorer ““ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn rheoliadau;”.
4 
Ym mharagraff (6) o reoliad 8 (y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth wneud cais am gydnabyddiaeth) o Reoliadau 2023, yn lle “y Deyrnas Unedig” rhodder “Cymru a Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon”.
5 
Yn lle rheoliad 11 (ffioedd) o Reoliadau 2023 rhodder—“
11. 

(1) Caiff rheoleiddiwr Cymreig godi’r ffioedd hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol mewn cysylltiad â chais.
(2) Rhaid i unrhyw ffioedd a godir gan reoleiddiwr Cymreig mewn cysylltiad â chais—
(a) bod yn rhesymol ac yn gymesur â chost y cais, a
(b) bod yn dryloyw ac wedi eu cyhoeddi ymlaen llaw.
(3) Yn achos ceisydd sy’n gwneud cais gan ddibynnu ar gymwysterau proffesiynol a gafwyd yn y Swistir, rhaid i unrhyw ffioedd fod yn daladwy drwy ddulliau electronig.
(4) Yn achos ceisydd sy’n gwneud cais gan ddibynnu ar gymwysterau proffesiynol a gafwyd yn rhywle ac eithrio yn y Swistir, rhaid i unrhyw ffioedd fod yn daladwy drwy ddulliau electronig drwy wefan y rheoleiddiwr Cymreig.”
6 
Ar ôl paragraff 3 o Atodlen 2 (y gwladwriaethau penodedig) i Reoliadau 2023, mewnosoder—“
4. 
Cydffederasiwn y Swistir”
RHAN 3
7 
Yn Erthygl 10 (hyfforddiant ac ardystio) o Reoliad (EU) Rhif 517/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 16 Ebrill 2014 ar nwyon tŷ gwydr wedi eu fflworineiddio, ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 842/2006—
(a) ym mharagraff 10, yn lle “an EEA EFTA state” rhodder “a specified state”;
(b) yn lle paragraff 16 rhodder—“
16. 
For the purposes of this Article, a ‘specified state’ means a state specified in Schedule 2 to the Recognition of Professional Qualifications and Implementation of International Recognition Agreements (Wales) (Amendment etc.) Regulations 2023.”
8 

(1) Mae Rheoliadau Sylweddau sy’n Teneuo’r Osôn 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ailrifer rheoliad 4 (ystyr “competent”) yn baragraff (1) o’r rheoliad hwnnw.
(3) Yn rheoliad 4(1) (fel y’i hailrifwyd gan baragraff (2))—
(a) yn is-baragraffau (a) ac (c)(ii), yn lle “an EEA EFTA state” rhodder “a specified state”;
(b) hepgorer is-baragraff (d);
(c) mewnosoder paragraff newydd (2)—“
(2) For the purposes of this regulation, a “specified state” means a state specified in Schedule 2 to the Recognition of Professional Qualifications and Implementation of International Recognition Agreements (Wales) (Amendment etc.) Regulations 2023.”
(4) Yn rheoliad 6 (cymwysterau a goruchwyliaeth)—
(a) ym mharagraff (5)(b)(i), yn lle “4(a)” rhodder “4(1)(a)”;
(b) ym mharagraff (6)(a)(i), yn lle “4(c)” rhodder “4(1)(c)”.
(5) Yn y nodyn cwr tudalen i Atodlen 2, yn lle “4(a)” rhodder “4(1)(a)”.
(6) Yn y nodyn cwr tudalen i Atodlen 3, yn lle “4(c)” rhodder “4(1)(c)”.
Jack Sargeant
Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2024