
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Dynodi Darparwyr) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Tachwedd 2024.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “addysg drydyddol” (“tertiary education”) yr ystyr a roddir gan adran 144(1) o Ddeddf 2022;
 mae i “darparwr cofrestredig” (“registered provider”) yr ystyr a roddir gan adran 144(1) o Ddeddf 2022;
 ystyr “Deddf 2022” (“the 2022 Act”) yw Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022;
 ystyr “dogfennau llywodraethu” (“governing documents”) yw—
(a) yn achos darparwr addysg drydyddol sy’n gwmni, ei femorandwm a’i erthyglau cymdeithasu;
(b) mewn unrhyw achos arall, dogfen sy’n darparu ar gyfer cyfansoddiad y darparwr a’i redeg;
 ystyr “Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru” (“the Credit and Qualifications Framework for Wales”) yw’r ddogfen sy’n dwyn y teitl hwnnw a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru, fel y mae’n cael ei diweddaru o bryd i’w gilydd, ac sy’n cynnwys disgrifiadau o lefelau cymwysterau;
 ystyr “rheoleiddiwr elusennau” (“charity regulator”) yw’r Comisiwn Elusennau, Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau’r Alban neu Gomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon.
3 

(1) Rhaid i gais gan ddarparwr addysg drydyddol am ddynodiad yn sefydliad o dan adran 83 o Ddeddf 2022 gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys—
(a) enw a phrif gyfeiriad yr ymgeisydd;
(b) unrhyw enwau eraill y mae’r ymgeisydd yn gweithredu odanynt;
(c) copi o ddogfennau llywodraethu’r ymgeisydd;
(d) os mai elusen yw’r ymgeisydd, yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2);
(e) yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (3).
(2) Rhaid i ymgeisydd sy’n elusen ddarparu ei rif cofrestru elusen, a’r rheoleiddiwr neu reoleiddwyr elusennau y mae wedi ei gofrestru gydag ef neu gyda hwy neu’r rheswm pam nad yw cofrestriad o’r fath yn ofynnol.
(3) Rhaid i gais gynnwys—
(a) disgrifiad o’r addysg drydyddol y mae’r ymgeisydd yn ei darparu yng Nghymru, gan gynnwys lefelau’r cyrsiau, drwy gyfeirio at Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru;
(b) disgrifiad o’r dyfarniadau y caniateir iddynt gael eu rhoi i bersonau sy’n ymgymryd ag addysg drydyddol yr ymgeisydd;
(c) nifer y personau sy’n ymgymryd ag addysg drydyddol yr ymgeisydd ar ddyddiad y cais, a faint ohonynt sy’n gwneud hynny yng Nghymru;
(d) y lleoliadau lle y mae’r ymgeisydd yn darparu addysg drydyddol;
(e) cyfeiriad unrhyw wefan a gynhelir gan yr ymgeisydd mewn cysylltiad â’i ddarpariaeth o addysg drydyddol;
(f) copi o unrhyw brosbectws a gyhoeddir gan yr ymgeisydd mewn cysylltiad â’i ddarpariaeth o addysg drydyddol.
4 

(1) Wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw gais y mae darparwr wedi ei wneud i dynnu ei ddynodiad yn ôl.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn tynnu dynodiad darparwr yn ôl, rhaid iddynt roi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr sy’n cynnwys y rhesymau dros y penderfyniad a’r dyddiad y mae’r tynnu’n ôl yn cymryd effaith.
5 
Ni chaiff Gweinidogion Cymru dynnu dynodiad darparwr yn ôl—
(a) tra ei fod yn ddarparwr cofrestredig, neu
(b) tra nad yw’n ddarparwr cofrestredig mwyach ond ei fod yn cael ei drin fel pe bai’n dal i fod yn ddarparwr cofrestredig at unrhyw ddiben.
Vikki Howells
Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch,
o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
6 Tachwedd 2024