
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio a Dirymu) (Cymru) 2024.
(2) Mae’n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2024.
2 
Yng Ngorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018, yn lle’r Atodlen rhodder yr Atodlen sydd wedi ei chynnwys yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
3 
Mae Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Ffioedd ar gyfer Profi Diheintyddion) 1991 wedi ei ddirymu o ran Cymru.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
6 Tachwedd 2024
YR ATODLEN
Erthygl 2
“
YR ATODLEN
Erthygl 3

Tabl 1
Colofn 1 Colofn 2
Gweithgaredd Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir
Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 munud o amser arolygu. 433
Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu fangre sydd i’w defnyddio fel canolfan gasglu, pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 90 o funudau o amser arolygu. 780
Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre a ddefnyddir ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu fangre sydd i’w defnyddio fel canolfan gasglu, pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol cynnal un ymweliad arolygu yn unig er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 75 munud o amser arolygu. 387
Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre a ddefnyddir ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu fangre sydd i’w defnyddio fel canolfan gasglu, pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol felly cynnal dau ymweliad arolygu er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 75 o funudau o amser arolygu. 550

Tabl 2
Colofn 1 Colofn 2
Gweithgaredd Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir
Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu. 283
Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 munud o amser arolygu. 467
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu nad yw ymweliad arolygu yn ofynnol. 201
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu. 329
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod mwy nag ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu. 329

Tabl 3
Colofn 1 Colofn 2
Gweithgaredd Ffi (£) am yr ymweliadau milfeddygol a gynhelir
Ymweliad milfeddygol ychwanegol at ddiben ystyried cais am drwydded, adnewyddu trwydded yn flynyddol neu ymweliad dilynol yn sgil peidio â chydymffurfio, sy’n cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw. 362
Ymweliad milfeddygol at ddiben ystyried cais am newid gweithredol yn ystod y flwyddyn, sy’n cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw. 362
Tâl atodol ar unrhyw ymweliad pan fo’r amser arolygu milfeddygol yn hwy na’r amser penodedig a ddarperir yn yr Atodlen hon. 24 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Yr amser a dreulir gan arolygydd milfeddygol yn teithio i’r fangre drwyddedig, neu’r fangre y bwriedir ei thrwyddedu, ac oddi yno, at ddiben gweithgareddau trwyddedu nad ydynt wedi eu heithrio rhag ffioedd o dan erthygl 3(4) neu (5) o’r Gorchymyn hwn. 24 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir, hyd at uchafswm o 144”