
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2024, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 7 Chwefror 2024.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw unrhyw ardal o dir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
 mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;
 ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2; y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;
 ystyr “Rheoliad 1307/2013” (“Regulation 1307/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin;
 ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig;
 ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.
2 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn yr ystyr a roddir i “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio’r tir dan sylw, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2023, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3, fel y’i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i’r Atodlen honno.
(3) Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2022 yn unol â chofnod 4 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2023, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
8 Ionawr 2024
YR ATODLEN
Erthygl 2


colofn 1Defnydd ffermio colofn 2Uned gynhyrchu colofn 3Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£)
1. Da byw
Buchod godro buwch 967.00
Buchod bridio cig eidion: ar dir mewn ardal lai ffafriol buwch 5.00
ar dir arall buwch -28.00
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) y pen -24.00

Buchod llaeth i lenwi bylchau y pen 154.00

Mamogiaid: ar dir mewn ardal lai ffafriol mamog -15.00
ar dir arall mamog 10.00
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) y pen 12.00
Moch: hychod a banwesod torrog hwch neu fanwes 265.00
moch porc y pen 9.90
moch torri y pen 13.00
moch bacwn y pen 15.60
Dofednod: ieir dodwy aderyn 4.60
brwyliaid aderyn 0.30
cywennod ar ddodwy aderyn 0.90
Tyrcwn Nadolig aderyn 14.90
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 334.00
Ffa hectar 181.00
Rêp had olew hectar 164.00
Pys sych hectar 200.00
Tatws: cynnar cyntaf hectar 2,650.00
prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 3,060.00
Betys siwgr hectar 620.00
Gwenith hectar 540.00
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau’r berllan hectar 4,460.00
Ffrwythau meddal hectar 17,870.00
4. Hectarau cymwys
Tir a oedd, yn 2022, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad 1307/2013 tir dan anfantais ddifrifol hectar 116.18
tir dan anfantais hectar 116.07
pob tir arall hectar 50.76
