
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Hydref 2023.
2 
Yn rheoliad 1(3) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001, yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol”, ar ôl “cyngor cymuned,” mewnosoder “cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021,”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
12 Medi 2023