
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchmynion Cychwyn Rhif 5, Rhif 6, Rhif 8, Rhif 13 a Rhif 14) 2023.
2 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 1(2), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;”.
(3) Ar ôl erthygl 10 mewnosoder—“
10A. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2023 ac sydd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.
(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n darparu’r ddarpariaeth addysgol arbennig i’r plentyn roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.”.
(4) Yn erthygl 11—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “9 na 10” rhodder “9, 10 na 10A”.
(b) ym mharagraff (2), ar ôl “2023-2024” mewnosoder “neu’r flwyddyn ysgol 2024-2025”.
(5) Yn erthygl 13(1) ar ôl “10,” mewnosoder “10A,”.
(6) Ar ôl erthygl 16 mewnosoder—“
16A. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a) a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,
(b) a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024, ac
(c) nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar 31 Awst 2024—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.”.
(7) Yn erthygl 17, yn lle “2024”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “2025”.
(8) Yn erthygl 23(1)(a), ar ôl “10(2)” mewnosoder “, 10A(2)”.
3 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 1(2), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;”.
(3) Ar ôl erthygl 10 mewnosoder—“
10A. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2023 ac sydd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.
(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.”.
(4) Yn erthygl 11—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “9 na 10” rhodder “9, 10 na 10A”;
(b) ym mharagraff (2), ar ôl “2023-2024” mewnosoder “neu’r flwyddyn ysgol 2024-2025”.
(5) Yn erthygl 13(1), ar ôl “10,” mewnosoder “10A,”.
(6) Ar ôl erthygl 16 mewnosoder—“
16A. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a) a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,
(b) a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024, ac
(c) nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar 31 Awst 2024—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.”.
(7) Yn erthygl 17, yn lle “2024”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “2025”.
(8) Yn erthygl 21(1)(a), ar ôl “10(2)” mewnosoder “, 10A(2)”.
4 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl erthygl 9 mewnosoder—“
9A. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022 ac sydd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.
(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.
(3) Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.”.
(3) Yn erthygl 10—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl “erthygl 9” mewnosoder “na 9A”.
(b) ym mharagraff (2), ar ôl “2023-2024” mewnosoder “neu’r flwyddyn ysgol 2024-2025”.
(4) Yn erthygl 11(1), ar ôl “erthyglau 9” mewnosoder “, 9A”.
(5) Yn erthygl 13(1), ar ôl “erthyglau 9,” mewnosoder “9A,”.
(6) Ar ôl erthygl 17 mewnosoder—“
17A. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a) a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
(b) a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,
(c) nad oes apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024,
(d) nad yw erthygl 17B yn gymwys iddo, ac
(e) nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar 31 Awst 2024—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
17B. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a) a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
(b) a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,
(c) pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst 2024,
(d) nad oes apêl bellach yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024, ac
(e) nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
17C. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a) a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
(b) a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac
(c) y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—
(a) y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;
(b) oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;
(c) pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.”.
(7) Yn erthygl 18, yn lle “2024”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “2025”.
(8) Yn erthygl 19(1), yn lle “2024”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “2025”.
(9) Yn erthygl 20(1)(b), yn lle “2024” rhodder “2025”.
(10) Yn erthygl 24(4)(a)—
(a) yn y testun Saesneg, ar ôl “9(2),” mewnosoder “9A(2),”;
(b) yn y testun Cymraeg, yn lle “9(2) a” rhodder “9(2), 9A(2),”.
(11) Yn erthygl 25(3)(a), ar ôl “9(2),” mewnosoder “9A(2),”.
5 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 13 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl erthygl 9 mewnosoder—“
9A. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2023 ac sydd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.
(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n darparu’r ddarpariaeth addysgol arbennig i’r plentyn roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.”.
(3) Yn erthygl 10—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl “erthygl 9” mewnosoder “na 9A”.
(b) ym mharagraff (2), ar ôl “2023-2024” mewnosoder “neu’r flwyddyn ysgol 2024-2025”.
(4) Yn erthygl 12(1) ar ôl “erthyglau 9,” mewnosoder “9A,”.
(5) Ar ôl erthygl 14 mewnosoder—“
14A. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a) a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022,
(b) a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024, ac
(c) nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar 31 Awst 2024—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.”.
(6) Yn erthygl 15 yn lle “2024”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “2025”.
(7) Yn erthygl 21(4)(a), ar ôl “9(2)” mewnosoder “, 9A(2)”.
(8) Yn erthygl 22(3)(a), ar ôl “9(2)” mewnosoder “, 9A(2)”.
6 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 14 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl erthygl 9 mewnosoder—“
9A. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2023 ac sydd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir.
(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.”.
(3) Yn erthygl 10—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl “erthygl 9” mewnosoder “na 9A”.
(b) ym mharagraff (2), ar ôl “2023-2024” mewnosoder “neu’r flwyddyn ysgol 2024-2025”.
(4) Yn erthygl 12(1), ar ôl “erthyglau 9,” mewnosoder “9A,”.
(5) Yn erthygl 14(1)(b), ar ôl “2022-2023,” mewnosoder “neu a fyddai mewn dosbarth meithrin neu yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,”.
(6) Ar ôl erthygl 14 mewnosoder—“
14A. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a) a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022,
(b) a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac
(c) nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar 31 Awst 2024—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.”.
(7) Yn erthygl 15, yn lle “2024”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “2025”.
(8) Yn erthygl 20(4)(a), ar ôl “9(2)” mewnosoder “, 9A(2),”.
(9) Yn erthygl 21(3)(a), ar ôl “9(2)” mewnosoder “, 9A(2),”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
21 Awst 2023