
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 3, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2023.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984;ystyr “Deddf 2022” (“the 2022 Act”) yw Deddf Diogelwch Adeiladau 2022.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae i ymadroddion Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 1984 yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2022 i rym ar 5 Medi 2023—
(a) adran 32(1) a (4) (awdurdodau rheolaeth adeiladu) o ran Cymru, ac adran 32(3) at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 91ZD o Ddeddf 1984;
(b) o ran Cymru—
(i) adran 33 (rheoliadau adeiladu), at yr holl ddibenion sy’n weddill;
(ii) adrannau 34 a 35 (deiliaid dyletswyddau a dyletswyddau cyffredinol, a chymhwysedd y diwydiant);
(iii) adran 36 (cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu yn darfod etc), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 32 a 53A o Ddeddf 1984, a pharagraff 4A(6) o Atodlen 4 iddi;
(iv) adran 37 (penderfynu ar geisiadau penodol gan awdurdod cenedlaethol priodol), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 30A o Ddeddf 1984;
(v) adran 38 (cydymffurfedd a hysbysiadau stop), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 35B, 35C a 35D o Ddeddf 1984;
(vi) adran 39 (torri rheoliadau adeiladu), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 35 o Ddeddf 1984;
(vii) adran 41 (dirymu etc ddarpariaethau penodol a wneir o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972);
(viii) adran 42 (rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu)—(aa) at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 58C, 58O, 58U, 58V, 58Z4 a 58Z5 o Ddeddf 1984;(bb) at ddiben llunio a chyhoeddi dogfennau o dan adrannau 58F, 58H, 58R, 58T, 58Z a 58Z3 o Ddeddf 1984;(cc) i’r graddau y mae’n ymwneud â mewnosod adran 58Y yn Neddf 1984;
(ix) adran 44 (swyddogaethau nad ydynt yn arferadwy ond drwy arolygwyr cofrestredig adeiladu, neu gyda eu cyngor), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 46A a 54B o Ddeddf 1984;
(x) adran 46 (gwaith adeilad risg uwch: cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 52A a 55 o Ddeddf 1984;
(xi) adran 47 (gwaith adeilad risg uwch: cyrff cyhoeddus);
(xii) adrannau 49 i 52 (tystysgrifau planiau, canslo hysbysiad cychwynnol, hysbysiadau cychwynnol newydd a chasglu gwybodaeth), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 50, 52, 53, 53B, 53C a 53D o Ddeddf 1984, a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi;
(xiii) paragraffau Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad â Rhan 3 o Ddeddf 2022) a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn;
(xiv) adran 56 (apelau) (yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 170(4)(b)(ix) o Ddeddf 2022);
(xv) paragraff 30 o Atodlen 6 (apelau a phenderfyniadau eraill), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 101A o Ddeddf 1984;
(xvi) adran 57 (ffioedd a thaliadau).
3 
O ran Cymru, daw adran 156 (diwygio Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005) ac eithrio is-adran (4) (ac is-adran (8) i’r graddau y mae’n ymwneud ag erthygl 22B o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005) i rym ar 1 Hydref 2023.
4 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2022 i rym ar 1 Ionawr 2024—
(a) o ran Cymru, adran 42 (rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu), i’r graddau y mae’n ymwneud â mewnosod Rhan 2A yn Neddf 1984 ac eithrio adrannau 58H i 58L, 58T i 58W, 58Y, 58Z1 i 58Z6 a 58Z8(;
(b) adran 42, i’r graddau y mae’n ymwneud â mewnosod adran 58Z10 yn Neddf 1984.
5 
Mae ymgyngoriadau a ddechreuodd cyn 5 Medi 2023 o dan naill ai adran 14(7) neu (8) o Ddeddf 1984 yn bodloni’r gofynion ymgynghori yn yr is-adrannau hynny, fel y’u diwygir gan baragraff 17 o Atodlen 5 i Ddeddf 2022.
6 
Nid yw’r diwygiadau i erthygl 32 o’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) a wneir gan adran 156(10)(b) ac (c) o Ddeddf 2022 yn gymwys i drosedd a gyflawnir cyn 1 Hydref 2023.
7 
Rhwng 5 Medi 2023 a 31 Rhagfyr 2023 mae cyfeiriadau at “regulatory authority” yn adran 58Y o Ddeddf 1984 i’w darllen fel pe bai adran 58A o Ddeddf 1984 mewn grym.
8 
Er bod adran 106(3) o Ddeddf 1984 wedi ei hepgor gan baragraff 67 o Atodlen 5 i Ddeddf 2022, mae adran 106(3) yn parhau i fod yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo cais o dan y ddarpariaeth honno wedi ei wneud i lys ynadon cyn i’r diddymiad ddod i rym.
9 
Er bod paragraffau 5 a 9 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 wedi eu hepgor (gan baragraff 83(3) a (7) o Atodlen 5 i Ddeddf 2022), mae unrhyw ddarpariaethau yn y rheoliadau a ganlyn (sydd mewn grym yn union cyn 5 Medi 2023) ac a wnaed o dan baragraff 5 neu 9 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 yn parhau i fod mewn grym ac maent yn gymwys fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 105B o Ddeddf 1984 a chaniateir iddynt gael eu hamrywio neu eu dirymu yn unol â hynny—
(a) Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010,
(b) Rheoliadau Adeiladu 2010, ac
(c) Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010.
10 
Er bod paragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 wedi ei amnewid (gan baragraff 83(8) o Atodlen 5 i Ddeddf 2022), mae unrhyw ddarpariaethau yn y rheoliadau a ganlyn (sydd mewn grym yn union cyn 5 Medi 2023) ac a wnaed o dan baragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 yn parhau i fod mewn grym ac maent yn gymwys fel pe baent wedi eu gwneud o dan baragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 fel y’i hamnewidiwyd a chaniateir iddynt gael eu hamrywio neu eu dirymu yn unol â hynny—
(a) Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010,
(b) Rheoliadau Adeiladu 2010, ac
(c) Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

18 Awst 2023
YR ATODLEN
Rheoliad 2(b)(xiii)
1 
Paragraff 2.
2 
Paragraff 3.
3 
Paragraff 4(1) a 4(2).
4 
Paragraff 5(1) a 5(2).
5 
Paragraff 6.
6 
Paragraff 9.
7 
Paragraff 10.
8 
Paragraff 11(1), 11(2) ac 11(3).
9 
Paragraff 12(1) a 12(2).
10 
Paragraff 13(1), 13(2), 13(5) a 13(6).
11 
Paragraff 14(1), 14(2), 14(3)(b) a 14(4)(b).
12 
Paragraff 15(1) i 15(5) a 15(9).
13 
Paragraff 16.
14 
Paragraff 17.
15 
Paragraff 22(1) a 22(8).
16 
Paragraff 40(1) a 40(3).
17 
Paragraff 42(1) a 42(3).
18 
Paragraff 46(1) a 46(2).
19 
Paragraff 50.
20 
Paragraff 51.
21 
Paragraff 53.
22 
Paragraff 55(1), 55(4)(a) a 55(6).
23 
Paragraff 57(1) a 57(3).
24 
Paragraff 67.
25 
Paragraff 71.
26 
Paragraff 74(1) a 74(2).
27 
Paragraff 75.
28 
Paragraff 76(1) a 76(3).
29 
Paragraff 80, at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 125A o Ddeddf Adeiladu 1984.
30 
Y diffiniadau o “appropriate court or tribunal”, “building control approval”, “building control authority” a “higher-risk building work” ym mharagraff 81(2).
31 
Paragraff 82.
32 
Paragraff 83(1), 83(2), 83(3) (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984), 83(7), 83(8) a 83(9).
33 
Paragraff 84(1) a 84(3).