
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 2 Awst 2023.
2 
Mae Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 12.
3 
Yn rheoliad 5A (cworwm ar gyfer cyfarfod y Cyngor Llywodraethu), yn lle “pedwar” rhodder “tri”.
4 
Yn rheoliad 8A (Panel Penodiadau’r Cyngor Llywodraethu), hepgorer paragraff (3).
5 
Yn rheoliad 9 (nifer aelodau’r Tribiwnlys Prisio a’u penodiad), hepgorer paragraffau (5) a (6).
6 
Yn rheoliad 10 (parhad aelodaeth o’r Tribiwnlys Prisio)—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl “gyfnod”, yn lle “o bum mlynedd” rhodder “sydd i’w bennu gan y Panel Penodiadau, ond heb fod yn hwy na phum mlynedd”;
(b) ym mharagraff 2(a), yn lle “bum mlynedd” rhodder “benodiad a bennir o dan reoliad 10(1)”;
(c) ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) Ni fydd aelod yn peidio â bod yn aelod o’r Tribiwnlys Prisio at ddibenion rheoliadau 11(4)(b), 12(4)(a) a 13(5)(b) pan fo’r aelod, ar ddiwedd cyfnod penodiad o dan reoliad 10(1), yn cael ei benodi yn syth am gyfnod pellach o dan y rheoliad hwnnw.”
7 
Yn rheoliad 27(1) (dehongli), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 “mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;”“
 “ystyr “gwrandawiad” (“hearing”) yw gwrandawiad llafar ac mae’n cynnwys gwrandawiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyswllt fideo, dros y ffôn neu drwy ddull arall o gyfathrebiadau electronig dwyffordd disymwth;”
8 
Yn rheoliad 31 (trefniadau ar gyfer apelau), ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(6) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, caiff y Tribiwnlys Prisio reoleiddio ei weithdrefn ei hun.”
9 
Yn rheoliad 34(2) (hysbysiad o wrandawiad)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (a), hepgorer “neu”;
(b) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(c) yn swyddfa’r tribiwnlys prisio, neu
(d) ar wefan y tribiwnlys prisio.”
10 
Yn rheoliad 34(3), ar ôl y gair “man” mewnosoder y geiriau “a’r wefan”.
11 
Yn rheoliad 46(11), hepgorer paragraff (a).
12 
Yn Atodlen 2 (gweithdrefn ethol)—
(a) ym mharagraff 2, hepgorer “(ond yn ddarostyngedig i baragraff 12(a))”;
(b) ar ddiwedd paragraff 12(a), hepgorer “—” a mewnosoder “yn aelod o’r Tribiwnlys Prisio;”;
(c) hepgorer paragraff 12(a)(i) a (ii).
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
10 Gorffennaf 2023