
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 5 Gorffennaf 2023.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at rif safle rhes mewn tabl yn gyfeiriad at ei safle heb gyfrif y rhes sy’n cynnwys penawdau colofnau’r tabl hwnnw.
2 

(1) Mae Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, ar ôl y diffiniad o “Rheoliad Rheolaeth yr UE” mewnosoder—“
 ystyr “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“Official Controls Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2017 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion;”.
(3) Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “Erthygl 45 o Reoliad Rheolaeth yr UE” rhodder “Erthygl 20 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;
(b) ym mharagraff (3), ar ôl “Rheoliad Rheolaeth yr UE” mewnosoder “neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.
(4) Hepgorer rheoliad 5.
(5) Yn yr Atodlen—
(a) yn Nhabl 1, yn lle’r ail a’r drydedd golofn rhodder—“

Colofn 2 Colofn 3
Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132
12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 72 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 72
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir 11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
21 am bob anfoneb 21 am bob anfoneb
2,134.50 2,484
1,147 1,343
1,147 1,343
586 687
586 687
476 557
476 557”;
(b) yn Nhabl 2—
(i) ym mhennawd y tabl, yn lle “Erthygl 45 o Reoliad Rheolaeth yr UE” rhodder “Erthygl 20 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;
(ii) yn y golofn gyntaf, yn lle “Reoliad Rheolaeth yr UE”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;
(iii) yn lle’r ail a’r drydedd golofn rhodder—“

Colofn 2 Colofn 3
Ffi (£) am ymweliadau safle at ddibenion arolygu a gynhelir ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 Ffi (£) am ymweliadau safle at ddibenion arolygu a gynhelir ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 132
11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir 11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir 12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir 11 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
188 am bob ymweliad 219 am bob ymweliad
752 y flwyddyn 876 y flwyddyn
2,256 y flwyddyn 2,628 y flwyddyn”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor—
(a) yn lle ““arolygfa ffin” (“border inspection post”)” rhodder ““safle rheoli ar y ffin” (“border control post”)”;
(b) yn lle’r diffiniad o “cynllun iechyd dofednod” rhodder—“
 ystyr “cynllun iechyd dofednod” (“poultry health scheme”) yw’r cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n llywodraethu allforio neu symud adar neu wyau deor i’r UE, Gogledd Iwerddon neu wledydd penodedig nad ydynt yn yr UE, a gyhoeddwyd ar 22 Gorffennaf 2021;”.
(3) Ar ôl rheoliad 2 mewnosoder—“
2A. 
Os cyflawnir unrhyw weithgaredd y mae ffi yn daladwy ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn dros gyfnod pan fo ffioedd gwahanol yn gymwys, y ffi sy’n daladwy mewn perthynas â’r gweithgaredd hwnnw yw—
(a) pan fo’r gweithgaredd yn cael ei gyflawni fel rhan o gais, y ffi sy’n gymwys ar y dyddiad y daw’r cais i law;
(b) fel arall, y ffi sy’n gymwys ar y dyddiad y dechreuir y gweithgaredd.”.
(4) Yn rheoliadau 4(2)(a), (b) ac (c), 5(2)(a), 6(3), 7(2) ac 8(2), ar ôl “yng ngholofn 2” mewnosoder “neu golofn 3”.
(5) Yn rheoliad 9, ac ym mhennawd y rheoliad hwnnw, yn lle “arolygfeydd ffin” rhodder “safleoedd rheoli ar y ffin”.
(6) Yn Atodlen 1—
(a) yn Nhabl 1—
(i) yn lle Colofn 2 rhodder—“

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024
12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 72
41
68
95
18 am bob sampl a brofwyd (nid yw’r ffi amser yn gymwys)”;
(ii) ar ôl Colofn 2 mewnosoder—“

Colofn 3
Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
12 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 72
49
83
117
21 am bob sampl a brofwyd (nid yw’r ffi amser yn gymwys)”;
(b) yn lle Tabl 2 rhodder—“

Tabl 2
Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Gweithgaredd Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024 Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
Prosesu cais am gymeradwyaeth gychwynnol i labordy, neu am adnewyddiad dwyflynyddol o gymeradwyaeth labordy 86 86
Cynnal arolygiadau ar gyfer gwaith sicrhau ansawdd 688 am bob ymweliad 1,025 am bob ymweliad
Cynnal profion cydweithredol ar gyfer Salmonela fel sy’n ofynnol i gael cymeradwyaeth fel labordy profi, a chadw’r gymeradwyaeth honno 44 am bob prawf 44 am bob prawf ”;
(c) yn Nhabl 3—
(i) yn lle Colofn 2 rhodder—“

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024
123
3,203
3,517”;
(ii) ar ôl Colofn 2 mewnosoder—“

Colofn 3
Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
146
3,936
3,954”.
(7) Yn Atodlen 2—
(a) yn Nhabl 1—
(i) yn lle Colofn 2 rhodder—“

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132
82 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
49
62
35
61 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
34 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)”;
(ii) ar ôl Colofn 2 mewnosoder—“

Colofn 3
Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132
108 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
71
67
39
67 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
39 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)”;
(b) yn Nhabl 2, yn lle Colofn 2 rhodder—“

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny
86
158 am bob prawf
310 am bob prawf
310 am bob prawf
280 am bob prawf
310 am bob prawf”.
(8) Yn y Tabl yn Atodlen 3—
(a) yng Ngholofn 1—
(i) yn y bedwaredd res yn lle “canolfan gasglu CE” rhodder “canolfan gasglu drwyddedig”;
(ii) yn y bumed res yn lle “canolfan gwarantin CE” rhodder “canolfan gwarantin drwyddedig”;
(iii) yn y chweched res—(aa) yn lle “canolfan gasglu CE” rhodder “canolfan gasglu drwyddedig”;(bb) yn lle “neu ganolfan storio CE” rhodder “neu ganolfan storio drwyddedig”;
(iv) yn yr wythfed res yn lle “at ddefnydd domestig neu ddefnydd y CE” rhodder “at ddefnydd domestig neu at ddefnydd masnachu ag Aelod-wladwriaeth”;
(b) yn lle Colofn 2 rhodder—“

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132
27
35
39
37
23
31”;
(c) ar ôl Colofn 2 mewnosoder—“

Colofn 3
Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132
33
44
48
46
28
38”.
(9) Yn Atodlen 4, yn y Tabl—
(a) yn lle Colofn 2 rhodder—“

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132

42 am bob baedd

31 am bob baedd

37
34
23”;
(b) ar ôl Colofn 2 mewnosoder—“

Colofn 3
Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132

53 am bob baedd

38 am bob baedd

46
42
28”.
(10) Yn Atodlen 5, yn y Tabl—
(a) yn y drydedd res o Golofn 1—
(i) ar ôl y geiriau “tîm trosglwyddo embryonau buchol” mewnosoder “o dan reoliad 4 o Reoliadau 1995”;
(ii) hepgorer “storfa o dan reoliad 13 o Reoliadau 1995;”;
(iii) ar ôl y geiriau “(gan gynnwys arolygu labordy neu beidio)” mewnosoder “o dan reoliad 6 neu 7 o Reoliadau 1995”;
(b) yn lle Colofn 2 rhodder—“

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Gorffennaf 2024
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132
38
13
34
23
6 am bob tîm ychwanegol a phob labordy neu storfa ychwanegol”;
(c) ar ôl Colofn 2 mewnosoder—“

Colofn 3
Ffi (£) ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl hynny
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 132
47
16
42
28
7 am bob tîm ychwanegol a phob labordy neu storfa ychwanegol”.
(11) Yn Atodlen 6—
(a) ym mhennawd yr Atodlen honno ac ym mhennawd Tabl 1, yn lle “arolygfeydd ffin” rhodder “safleoedd rheoli ar y ffin”;
(b) yn lle Tabl 1 rhodder—“

Colofn 1 Colofn 2
Arolygu math o anifail a gwirio dogfennau Ffioedd (£) am bob llwyth ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny
Dofednod ac adar hela bach 53
Dofednod – mewnforion wyau rheolaidd 53
Ratidau 53
Adar caeth 61
Pysgod byw, anifeiliaid dyfrol ac amffibiaid 48
Gwenyn 40
Cwningod a chnofilod 44
Pryfed eraill ac infertebratau 40
Ymlusgiaid 48
Anifeiliaid anwes heb ddatganiad 63
Equidae 79
Da byw a ffermir, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, camelidau, moch a baeddod gwyllt 190
Anifeiliaid nas cynhwysir mewn unrhyw gategori arall 50
Gwirio dogfennau ar gyfer trawslwytho 79”;
(c) yn Nhabl 2, yn lle Colofn 2 rhodder—“

Colofn 2
Ffi (£) ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny
261 am bob llwyth
346 am bob llwyth
16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 96 am bob ymweliad
”;
(d) yn Nhabl 3, yn lle Colofn 2 rhodder—“

Colofn 2
Ffi am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd ar 5 Gorffennaf 2023 neu ar ôl hynny
21
28
14
16, hyd at uchafswm o 96 am bob ymweliad”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
4 Gorffennaf 2023