
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u cymeradwyir drwy benderfyniad gan Senedd Cymru (ar yr amod y cymeradwyir y Rheoliadau hyn cyn i Senedd Cymru gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023, neu cyn 1 Mawrth 2023, pa un bynnag sydd gynharaf).
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1988” yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
2 
Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023—
(a) nid yw paragraff 5(5A)(a) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn gymwys;
(b) at ddiben paragraff 4B o Atodlen 7 i Ddeddf 1988, pennir mai 113.9 yw B.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2023