1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Ffurf Awdurdodiadau Dros Dro) (Cyfansoddion Cobalt(II)) (Cymru) 2023.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a) yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b) yn gymwys o ran Cymru;
(c) yn dod i rym ar 14 Gorffennaf 2023.
2 

(1) Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009, yn y drefn honno.
(2) Ym mharagraff (1)—
 ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid;
 ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio.
3 

(1) Mae paragraffau (2) i (5) yn rhagnodi ffurfiau awdurdodiadau dros dro ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid penodol.
(2) Mae ffurf awdurdodi dros dro ragnodedig cobalt(II) asetad tetrahydrad (rhif adnabod 3b301) wedi ei nodi yn Atodlen 1.
(3) Mae ffurf awdurdodi dros dro ragnodedig cobalt(II) carbonad (rhif adnabod 3b302) wedi ei nodi yn Atodlen 2.
(4) Mae ffurf awdurdodi dros dro ragnodedig cobalt(II) carbonad hydrocsid (2:3) monohydrad (rhif adnabod 3b303) wedi ei nodi yn Atodlen 3.
(5) Mae ffurf awdurdodi dros dro ragnodedig cobalt(II) sylffad heptahydrad (rhif adnabod 3b305) wedi ei nodi yn Atodlen 4.
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
20 Mehefin 2023
ATODLEN 1
Rheoliad 3(2)

Mae’r sylwedd cobalt(II) asetad tetrahydrad, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “cyfansoddion elfennau hybrin”, wedi ei awdurdodi dros dro fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid, yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Cobalt(II) asetad tetrahydrad
Rhif adnabod yr ychwanegyn 3b301
Deiliad yr awdurdodiad Dim un wedi ei bennu
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Cyfansoddion elfennau hybrin
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Cobalt(II) asetad tetrahydrad
• Crisialau/gronigion, yn cynnwys isafswm o 23% o gobalt
• Gronynnau < 50 μm: islaw 1%
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Cobalt(II) asetad tetrahydrad
• Co(CH3COO)2 × 4H2O
• Rhif CAS: 6147-53-1
Dulliau dadansoddi I adnabod asetad yn yr ychwanegyn:
• Monograff 20301 yr European Pharmacopoeia
Ar gyfer nodweddiad crisialograffig yr ychwanegyn:
• Diffreithiant pelydr-X
I ganfod cyfanswm y cobalt yn yr ychwanegyn, y rhag-gymysgeddau, y bwyd anifeiliaid cyfansawdd a’r deunyddiau bwyd anifeiliaid:
• Sbectrometreg allyriant (atomig) optegol â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-AES) (BS EN 15510:2017), neu
• Sbectrometreg allyriant (atomig) optegol â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-AES) ar ôl treulio drwy bwysedd (BS EN 15621:2017)
I ganfod dosbarthiad maint gronynnau:
• Dadansoddiad maint gronynnau — dulliau diffreithiant laser (BS ISO 13320:2020)
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Anifeiliaid cnoi cil sydd â rwmen gweithredol
• Equidae
• Lagomorffiaid
• Cnofilod
• Ymlusgiaid sy’n llysysyddion
• Mamaliaid sw
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys 1 (cyfanswm)
Darpariaethau eraill 1. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn mewn bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar ffurf rhag-gymysgedd.
2. Rhaid datgan ar labeli’r ychwanegyn a’r rhag-gymysgedd gyfanswm yr elfen (cobalt) sydd wedi ei chynnwys.
3. Rhaid datgan y canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, ar labeli’r ychwanegyn a’r rhag-gymysgedd:
• Yn Saesneg: “It is recommended to limit the supplementation with cobalt to 0.3 mg/kg in complete feed. In this context, the risk for cobalt deficiency due to local conditions and the specific composition of the diet should be taken into account.”
• Yn Gymraeg: “Argymhellir cyfyngu ar atchwanegu â chobalt i 0.3 mg/kg mewn bwyd anifeiliaid cyflawn. Yn y cyd-destun hwn, dylid ystyried y risg o ddiffyg cobalt oherwydd amodau lleol a chyfansoddiad penodol y deiet.”
4. Rhaid datgan y canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, ar gyfarwyddiadau defnyddio’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Yn Saesneg: “Protective measures to avoid exposure with cobalt by inhalation or by dermal route should be taken.”
• Yn Gymraeg: “Dylid cymryd mesurau diogelu i osgoi dod i gysylltiad â chobalt drwy fewnanadlu neu drwy lwybr croenol.”
Dechrau’r cyfnod awdurdodi dros dro 15 Gorffennaf 2023
Diwedd y cyfnod awdurdodi dros dro Diwedd 14 Gorffennaf 2028

ATODLEN 2
Rheoliad 3(3)

Mae’r sylwedd cobalt(II) carbonad, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “cyfansoddion elfennau hybrin”, wedi ei awdurdodi dros dro fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid, yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Cobalt(II) carbonad
Rhif adnabod yr ychwanegyn 3b302
Deiliad yr awdurdodiad Dim un wedi ei bennu
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Cyfansoddion elfennau hybrin
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Cobalt(II) carbonad
• Powdr, yn cynnwys isafswm o 46% o gobalt
• Cobalt carbonad: isafswm o 75%
• Cobalt hydrocsid: 3% - 15%
• Dŵr: uchafswm o 6%
• Gronynnau < 11 μm: islaw 90%
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Cobalt(II) carbonad
• CoCO3
• Rhif CAS: 513-79-1
Dulliau dadansoddi I adnabod carbonad yn yr ychwanegyn:
• Monograff 20301 yr European Pharmacopoeia
Ar gyfer nodweddiad crisialograffig yr ychwanegyn:
• Diffreithiant pelydr-X
I ganfod cyfanswm y cobalt yn yr ychwanegyn, y rhag-gymysgeddau, y bwyd anifeiliaid cyfansawdd a’r deunyddiau bwyd anifeiliaid:
• Sbectrometreg allyriant (atomig) optegol â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-AES) (BS EN 15510:2017), neu
• Sbectrometreg allyriant (atomig) optegol â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-AES) ar ôl treulio drwy bwysedd (BS EN 15621:2017)
I ganfod dosbarthiad maint gronynnau:
• Dadansoddiad maint gronynnau — dulliau diffreithiant laser (BS ISO 13320:2020)
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Anifeiliaid cnoi cil sydd â rwmen gweithredol
• Equidae
• Lagomorffiaid
• Cnofilod
• Ymlusgiaid sy’n llysysyddion
• Mamaliaid sw
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys 1 (cyfanswm)
Darpariaethau eraill 1. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn mewn bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar ffurf rhag-gymysgedd. Rhaid rhoi’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd hwn ar y farchnad ar ffurf nad yw’n bowdr.
2. Rhaid datgan ar labeli’r ychwanegyn a’r rhag-gymysgedd gyfanswm yr elfen (cobalt) sydd wedi ei chynnwys.
3. Rhaid datgan y canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, ar labeli’r ychwanegyn a’r rhag-gymysgedd:
• Yn Saesneg: “It is recommended to limit the supplementation with cobalt to 0.3 mg/kg in complete feed. In this context, the risk for cobalt deficiency due to local conditions and the specific composition of the diet should be taken into account.”
• Yn Gymraeg: “Argymhellir cyfyngu ar atchwanegu â chobalt i 0.3 mg/kg mewn bwyd anifeiliaid cyflawn. Yn y cyd-destun hwn, dylid ystyried y risg o ddiffyg cobalt oherwydd amodau lleol a chyfansoddiad penodol y deiet.”
4. Rhaid datgan y canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, ar gyfarwyddiadau defnyddio’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Yn Saesneg: “Protective measures to avoid exposure with cobalt by inhalation or by dermal route should be taken.”
• Yn Gymraeg: “Dylid cymryd mesurau diogelu i osgoi dod i gysylltiad â chobalt drwy fewnanadlu neu drwy lwybr croenol.”
Dechrau’r cyfnod awdurdodi dros dro 15 Gorffennaf 2023
Diwedd y cyfnod awdurdodi dros dro Diwedd 14 Gorffennaf 2028

ATODLEN 3
Rheoliad 3(4)

Mae’r sylwedd cobalt(II) carbonad hydrocsid (2:3) monohydrad, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “cyfansoddion elfennau hybrin”, wedi ei awdurdodi dros dro fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid, yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Cobalt(II) carbonad hydrocsid (2:3) monohydrad
Rhif adnabod yr ychwanegyn 3b303
Deiliad yr awdurdodiad Dim un wedi ei bennu
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Cyfansoddion elfennau hybrin
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Cobalt(II) carbonad hydrocsid (2:3) monohydrad
• Powdr, yn cynnwys isafswm o 50% o gobalt
• Gronynnau < 50 μm: islaw 98%
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Cobalt(II) carbonad hydrocsid (2:3) monohydrad
• 2CoCO3 × 3Co(OH)2 × H2O
• Rhif CAS: 51839-24-8
Dulliau dadansoddi I adnabod carbonad yn yr ychwanegyn:
• Monograff 20301 yr European Pharmacopoeia
Ar gyfer nodweddiad crisialograffig yr ychwanegyn:
• Diffreithiant pelydr-X
I ganfod cyfanswm y cobalt yn yr ychwanegyn, y rhag-gymysgeddau, y bwyd anifeiliaid cyfansawdd a’r deunyddiau bwyd anifeiliaid:
• Sbectrometreg allyriant (atomig) optegol â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-AES) (BS EN 15510:2017), neu
• Sbectrometreg allyriant (atomig) optegol â phlasma a gyplyswyd yn anwythol (ICP-AES) ar ôl treulio drwy bwysedd (BS EN 15621:2017)
I ganfod dosbarthiad maint gronynnau:
• Dadansoddiad maint gronynnau — dulliau diffreithiant laser (BS ISO 13320:2020)
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Anifeiliaid cnoi cil sydd â rwmen gweithredol
• Equidae
• Lagomorffiaid
• Cnofilod
• Ymlusgiaid sy’n llysysyddion
• Mamaliaid sw
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys 1 (cyfanswm)
Darpariaethau eraill 1. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn mewn bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar ffurf rhag-gymysgedd. Rhaid rhoi’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd hwn ar y farchnad ar ffurf nad yw’n bowdr.
2. Rhaid datgan ar labeli’r ychwanegyn a’r rhag-gymysgedd gyfanswm yr elfen (cobalt) sydd wedi ei chynnwys.
3. Rhaid datgan y canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, ar labeli’r ychwanegyn a’r rhag-gymysgedd:
• Yn Saesneg: “It is recommended to limit the supplementation with cobalt to 0.3 mg/kg in complete feed. In this context, the risk for cobalt deficiency due to local conditions and the specific composition of the diet should be taken into account.”
• Yn Gymraeg: “Argymhellir cyfyngu ar atchwanegu â chobalt i 0.3 mg/kg mewn bwyd anifeiliaid cyflawn. Yn y cyd-destun hwn, dylid ystyried y risg o ddiffyg cobalt oherwydd amodau lleol a chyfansoddiad penodol y deiet.”
4. Rhaid datgan y canlynol, yn Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg, ar gyfarwyddiadau defnyddio’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Yn Saesneg: “Protective measures to avoid exposure with cobalt by inhalation or by dermal route should be taken.”
• Yn Gymraeg: “Dylid cymryd mesurau diogelu i osgoi dod i gysylltiad â chobalt drwy fewnanadlu neu drwy lwybr croenol.”
Dechrau’r cyfnod awdurdodi dros dro 15 Gorffennaf 2023
Diwedd y cyfnod awdurdodi dros dro Diwedd 14 Gorffennaf 2028

ATODLEN 4
Rheoliad 3(5)

Mae’r sylwedd cobalt(II) sylffad heptahydrad, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “cyfansoddion elfennau hybrin”, wedi ei awdurdodi dros dro fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid, yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Cobalt(II) sylffad heptahydrad
Rhif adnabod yr ychwanegyn 3b305
Deiliad yr awdurdodiad Dim un wedi ei bennu
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Cyfansoddion elfennau hybrin
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Cobalt(II) sylffad heptahydrad
• Powdr, yn cynnwys isafswm o 20% o gobalt
• Gronynnau < 50 μm: islaw 95%
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Cobalt(II) sylffad heptahydrad
• CoSO4 × 7H2O
• Rhif CAS: 10026-24-1
Dulliau dadansoddi I adnabod sylffad yn yr ychwanegyn: