
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023 a deuant i rym ar 1 Mehefin 2023.
2 
Mae Atodlen 12 (trosi tenantiaethau a thrwyddedau presennol sy’n bodoli cyn i Bennod 3 o Ran 10 ddod i rym) i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
3 
Ym mharagraff 1(1) (diffiniadau), yn y lle priodol, mewnosoder—“
 mae i “contract sy’n cymryd lle contract arall” (“substitute contract”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 32;”.
4 
Ym mharagraff 11 (datganiad ysgrifenedig o gontract wedi ei drosi a darparu gwybodaeth)—
(a) yn lle is-baragraff (1A) rhodder—“
(1A) Pan fo hunaniaeth deiliad y contract wedi newid cyn 1 Mehefin 2023 (sef y diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod darparu gwybodaeth), mae adran 31(2) (rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad contract newydd) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn newid”.”;
(b) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract sy’n cymryd lle contract arall (ac yn unol â hynny mae adran 31 yn gymwys, fel y’i haddasir gan baragraff 11A, mewn perthynas â chontractau o’r fath).”.
5 
Ar ôl paragraff 11 mewnosoder—“
11A 

(1) Wrth eu cymhwyso i gontract sy’n cymryd lle contract arall sydd wedi dod i fodolaeth cyn 1 Mehefin 2023—
(a) mae adran 31(1) i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r dyddiad meddiannu”;
(b) mae adran 31(2) i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn newid”;
(c) mae’r darpariaethau a ganlyn i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r dyddiad meddiannu”—
(i) adran 36(3)(a);
(ii) adran 37(3)(a);
(d) mae adran 39(1) i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â dyddiad meddiannu’r contract”.
(2) Wrth eu cymhwyso i gontract sy’n cymryd lle contract arall sydd wedi dod i fodolaeth ar neu ar ôl 1 Mehefin 2023—
(a) mae’r darpariaethau a ganlyn i’w darllen fel pe bai’r cyfeiriadau at y dyddiad meddiannu yn gyfeiriadau at y diwrnod y mae gan ddeiliad y contract hawl i ddechrau meddiannu’r annedd o dan y contract sy’n cymryd lle contract arall—
(i) adran 31(1);
(ii) adran 36(3)(a);
(iii) adran 37(3)(a);
(b) mae adran 39(1) i’w darllen fel pe bai’r cyfeiriad at ddyddiad meddiannu’r contract yn gyfeiriad at y dyddiad y mae gan ddeiliad y contract hawl i ddechrau meddiannu’r annedd o dan y contract sy’n cymryd lle contract arall.”.
6 
Ym mharagraff 12A—
(a) ar ôl “chontract wedi ei drosi” mewnosoder “, heblaw am gontract sy’n cymryd lle contract arall,”;
(b) yn is-baragraff (b), ym mharagraff addasedig 2(a) o Atodlen 9A, hepgorer “(pan na fo wedi ei ddatgymhwyso gan baragraff 11(1A) o’r Atodlen honno)”.
7 
Ym mharagraff 13(1), ar ôl “chontract wedi ei drosi” mewnosoder “, heblaw am gontract sy’n cymryd lle contract arall,”.
8 
Ym mharagraff 15(3)(b), hepgorer “(gweler paragraff 32)”.
9 
Ym mharagraff 32(1) (contractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contractau eraill), ar ôl “paragraff 28” mewnosoder “neu pan fo darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb”.
10 
Hepgorer paragraff 27(2) o Atodlen 6 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
18 Mai 2023