
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Mai 2023.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau Cymreig datganoledig.
(4) Yn y Rheoliad hwn, mae i “awdurdod Cymreig datganoledig” yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
2 

(1) Mae Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (diffiniadau), ym mharagraff (1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “invitation to confirm interest”;
(b) yn y diffiniad o “procurement document”, hepgorer “the prior information notice where it is used as a means of calling for competition,”.
(3) Yn rheoliad 6 (dulliau o gyfrifo gwerth amcangyfrifedig caffaeliad)—
(a) ym mharagraff (15A), hepgorer “that is not a devolved Welsh authority”;
(b) ym mharagraff (20), hepgorer “that is not a devolved Welsh authority”.
(4) Yn rheoliad 18 (egwyddorion caffael), ym mharagraff (4), hepgorer “that are not devolved Welsh authorities”.
(5) Yn rheoliad 22 (rheolau sy’n gymwys i gyfathrebu)—
(a) ym mharagraff (14)(a), hepgorer “or from the date when the invitation to confirm interest is sent”;
(b) ym mharagraff (15)(b), hepgorer “or the invitation to confirm interest”.
(6) Yn rheoliad 26 (dewis o weithdrefnau)—
(a) ym mharagraff (8), yn lle “Subject to paragraph (9), the” rhodder “The”;
(b) hepgorer paragraffau (9) a (10).
(7) Yn rheoliad 27 (gweithdrefn agored), ym mharagraff (4), hepgorer “which was not itself used as a means for calling for competition”.
(8) Yn rheoliad 28 (gweithdrefn gyfyngedig)—
(a) hepgorer paragraff (2)(b) a’r “, or” o’i flaen;
(b) ym mharagraff (6), hepgorer “which was not itself used as a means for calling for competition”.
(9) Yn rheoliad 29 (gweithdrefn gystadleuol â negodi)—
(a) hepgorer paragraff (4)(b) a’r “, or” o’i flaen;
(b) ym mharagraff (6), hepgorer “which was not itself used as a means of calling for competition”;
(c) ym mharagraff (15), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”;
(d) ym mharagraff (19), hepgorer “, in the invitation to confirm interest”;
(e) ym mharagraff (20), hepgorer “, the invitation to confirm interest”.
(10) Yn rheoliad 33 (cytundebau fframwaith), ym mharagraff (5), hepgorer “or the invitation to confirm interest”.
(11) Yn rheoliad 34 (systemau prynu dynamig)—
(a) hepgorer paragraff (9)(b) a’r “, or” o’i flaen;
(b) ym mharagraff (23), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”.
(12) Yn rheoliad 35 (arwerthiannau electronig), ym mharagraff (7), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”.
(13) Yn rheoliad 36 (catalogau electronig), ym mharagraff (5)(a), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”.
(14) Yn rheoliad 45 (amrywolion), ym mharagraff (2), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”.
(15) Yn rheoliad 46 (rhannu contractau yn lotiau), ym mhob un o baragraffau (3), (4) a (6), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”.
(16) Yn rheoliad 48 (hysbysiadau gwybodaeth ymlaen llaw), hepgorer paragraffau (5), (6) ac (8).
(17) Yn rheoliad 50 (hysbysiadau dyfarnu contractau), hepgorer paragraff (3).
(18) Yn rheoliad 53 (argaeledd dogfennau caffael yn electronig)—
(a) ym mharagraff (1), hepgorer “or the date on which an invitation to confirm interest is sent”;
(b) ym mhob un o baragraffau (2), (3) a (4), hepgorer “or the invitation to confirm interest”.
(19) Yn rheoliad 54 (gwahoddiadau i ymgeiswyr)—
(a) hepgorer paragraff (2);
(b) ym mharagraff (3), yn lle “paragraphs (1) and (2)” rhodder “paragraph (1)”;
(c) ym mharagraff (4)(e), hepgorer “in the invitation to confirm interest,”;
(d) hepgorer paragraff (6).
(20) Yn rheoliad 56 (egwyddorion cyffredinol dyfarnu contractau etc.), ym mharagraff (1)(a), hepgorer “or the invitation to confirm interest”.
(21) Yn rheoliad 58 (meini prawf dethol), ym mharagraff (19), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”.
(22) Yn rheoliad 65 (lleihau nifer yr ymgeiswyr sydd fel arall yn gymwysedig a wahoddir i gymryd rhan), ym mharagraff (2), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”.
(23) Yn rheoliad 75 (cyhoeddi hysbysiadau), hepgorer paragraff (1)(b) a’r “, or” o’i flaen.
(24) Yn rheoliad 76 (egwyddorion dyfarnu contractau), ym mharagraff (3), hepgorer “or prior information notice”.
(25) Yn rheoliad 110 (cyhoeddi cyfleoedd dyfarnu contractau ar ‘Contracts Finder’), hepgorer paragraff (7).
(26) Yn Atodlen 4A (cytundebau masnach ryngwladol), o flaen y cofnod ar gyfer y Cytundeb Masnach Rydd rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ac Awstralia, hepgorer “For contracting authorities that are not devolved Welsh authorities:”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 8 (egwyddor triniaeth gyfartal, peidio â gwahaniaethu a thryloywder), ym mharagraff (5), hepgorer “that are not devolved Welsh authorities”.
(3) Yn rheoliad 9 (symiau trothwy a dulliau o gyfrifo gwerth amcangyfrifedig contractau consesiwn), ym mharagraff (9A), hepgorer “that is not a devolved Welsh authority”.
(4) Yn Atodlen 4 (cytundebau masnach ryngwladol), o flaen y cofnod ar gyfer y Cytundeb Masnach Rydd rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ac Awstralia, hepgorer “For contracting authorities and utilities that are not devolved Welsh authorities:”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (diffiniadau), ym mharagraff (1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “invitation to confirm interest”;
(b) yn y diffiniad o “periodic indicative notice”, hepgorer “, or where relevant, 91(1)(b)”;
(c) yn y diffiniad o “procurement document”, hepgorer “, the periodic indicative notice”.
(3) Yn rheoliad 17 (dulliau o gyfrifo gwerth amcangyfrifedig y caffaeliad)—
(a) ym mharagraff (15A), hepgorer “that is not a devolved Welsh authority”;
(b) ym mharagraff 20, hepgorer “that is not a devolved Welsh authority”.
(4) Yn rheoliad 36 (egwyddorion caffael), ym mharagraff (4), hepgorer “that are not devolved Welsh authorities”.
(5) Yn rheoliad 40 (rheolau sy’n gymwys i gyfathrebu)—
(a) ym mharagraff (14)(a), hepgorer “or from the date on which the invitation to confirm interest is sent”;
(b) ym mharagraff (15)(b), hepgorer “or the invitation to confirm interest”
(6) Yn rheoliad 44 (dewis o weithdrefnau), hepgorer paragraffau (4)(a) a (5).
(7) Yn rheoliad 45 (gweithdrefn agored)—,
(a) ym mharagraff (2), yn lle “paragraphs (4) to (6)”, rhodder “paragraphs (4A) to (6)”;
(b) hepgorer paragraff (4);
(c) ym mharagraff (4A), hepgorer “that are not devolved Welsh authorities”.
(8) Yn rheoliad 46 (gweithdrefn gyfyngedig), hepgorer paragraff (2)(b) a’r “; or” o’i flaen.
(9) Yn rheoliad 47 (gweithdrefn wedi ei negodi â galwad am gystadleuaeth flaenorol), hepgorer paragraff (2)(b) a’r “; or” o’i flaen.
(10) Yn rheoliad 48 (deialog gystadleuol), hepgorer paragraff (2)(b) a’r “; or” o’i flaen.
(11) Yn rheoliad 52 (systemau prynu dynamig)—
(a) hepgorer paragraff (9)(b) a’r “; or” o’i flaen;
(b) ym mharagraff 23—
(i) ar ôl is-baragraff (a), mewnosoder “or”;
(ii) hepgorer is-baragraff (b).
(12) Yn rheoliad 53 (arwerthiannau electronig), ym mharagraff (7), hepgorer “, in the invitation to confirm interest”.
(13) Yn rheoliad 54 (catalogau electronig), ym mharagraff (5)(a), hepgorer “, in the invitation to confirm interest”.
(14) Yn rheoliad 63 (cyfathrebu manylebau technegol), hepgorer paragraff (1)(b) a’r “; or” o’i flaen.
(15) Yn rheoliad 65 (rhannu contractau yn lotiau)—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) ar ôl is-baragraff (a), mewnosoder “or”;
(ii) hepgorer is-baragraff (b).
(b) ym mharagraff (3)(b) a pharagraff (5)(b), hepgorer “to confirm interest,”.
(16) Yn rheoliad 67 (hysbysiadau dangosol cyfnodol), hepgorer paragraffau (5), (6) ac (8).
(17) Yn rheoliad 70 (hysbysiadau dyfarnu contractau), hepgorer paragraff (3).
(18) Yn rheoliad 73 (argaeledd dogfennau caffael yn electronig)—
(a) ym mharagraff (1), hepgorer “or the date on which an invitation to confirm interest is sent”;
(b) ym mharagraff (4), hepgorer “or the invitation to confirm interest”;
(c) ym mharagraff (5)—
(i) ar ôl is-baragraff (a), mewnosoder “or”;
(ii) hepgorer is-baragraff (b).
(19) Yn rheoliad 74 (gwahoddiadau i ymgeiswyr)—
(a) hepgorer paragraff (2);
(b) ym mharagraff (3), yn lle “paragraphs (1) and (2)” rhodder “paragraph (1)”;
(c) hepgorer paragraff (6).
(20) Yn rheoliad 91 (cyhoeddi hysbysiadau), ym mharagraff (1)—
(a) ar ôl is-baragraff (a), mewnosoder “or”;
(b) hepgorer is-baragraff (b).
(21) Yn rheoliad 92 (egwyddorion dyfarnu contractau), ym mharagraff (3), hepgorer “, periodic indicative notice”.
(22) Yn rheoliad 105A (y ddyletswydd sy’n ddyledus i weithredwyr economaidd o bartïon GPA), ym mharagraff (3)—
(a) ar ôl is-baragraff (a), mewnosoder “or”;
(b) hepgorer is-baragraff (b).
(23) Yn Atodlen 3 (cytundebau masnach ryngwladol), o flaen y cofnod ar gyfer y Cytundeb Masnach Rydd rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ac Awstralia, hepgorer “For utilities that are not devolved Welsh authorities:”.
5 

(1) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n effeithio ar unrhyw gaffaeliad a gychwynnwyd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae caffaeliad wedi ei gychwyn cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym os, cyn y dyddiad hwnnw, yn unol â’r Rheoliadau Caffael cymwys, yw—
(a) hysbysiad wedi ei gyflwyno i wasanaeth e-hysbysu’r DU er mwyn—
(i) gwahodd cynigion neu geisiadau i’w dewis i dendro am gontract, cytundeb fframwaith neu system brynu ddynamig arfaethedig, neu i negodi mewn cysylltiad â hwy, neu
(ii) cyhoeddi bwriad i gynnal cystadleuaeth ddylunio;
(b) yr awdurdod contractio neu’r cyfleustod wedi cyhoeddi unrhyw fath o hysbyseb yn ceisio cynigion neu ddatganiadau o ddiddordeb mewn contract, cytundeb fframwaith neu system brynu ddynamig arfaethedig;
(c) yr awdurdod contractio neu’r cyfleustod wedi cysylltu ag unrhyw weithredwr economaidd er mwyn—
(i) ceisio datganiadau o ddiddordeb neu gynigion mewn cysylltiad â chontract, cytundeb fframwaith neu system brynu ddynamig arfaethedig, neu
(ii) ymateb i ddatganiad o ddiddordeb neu gynnig digymell a gafwyd gan y gweithredwr economaidd hwnnw mewn perthynas â chontract, cytundeb fframwaith neu system brynu ddynamig arfaethedig.
(3) At ddibenion y Rheoliad hwn, mae caffaeliad yn cwmpasu’r gweithdrefnau cyfan sydd, yn unol â’r Rheoliadau Caffael cymwys, yn deillio o’r cychwyn hwnnw.
(4) Nid yw gweithdrefnau a gymerir at ddiben addasu contract neu gytundeb fframwaith i’w hystyried, at ddibenion paragraff (3), fel petaent yn deillio o gychwyn y caffaeliad y deilliodd dyfarnu’r contract neu’r cytundeb fframwaith hwnnw ei hun ohono.
(5) Nid yw gweithdrefn a gychwynnir fel y’i disgrifir ym mharagraff 2(a)(i), (b) neu (c) i’w hystyried, at ddibenion paragraff (3), fel petai yn deillio o gychwyn unrhyw gystadleuaeth ddylunio a oedd wedi ei chynnal yn flaenorol mewn perthynas â phwnc y caffaeliad.
(6) Yn y Rheoliad hwn—
(a) ystyr “Rheoliadau Caffael” yw’r canlynol ac, mewn perthynas ag unrhyw weithdrefn, mae’n golygu pa un bynnag o’r canlynol sy’n gymwys i’r weithdrefn honno—
(i) Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015;
(ii) Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016;
(iii) Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016;
(b) mae i’r termau Cymraeg canlynol yr un ystyr â’r termau Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau Caffael cymwys—
(i) awdurdod contractio (“contracting authority”);
(ii) cystadleuaeth ddylunio (“design contest”);
(iii) system brynu ddynamig (“dynamic purchasing system”);
(iv) gweithredwr economaidd (“economic operator”);
(v) cytundeb fframwaith (“framework agreement”);
(vi) caffaeliad (“procurement”);
(vii) gwasanaeth e-hysbysu’r DU (“UK e-notification service”);
(viii) cyfleustod (“utility”).
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
3 Mai 2023