
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2023, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 10 Chwefror 2023.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw unrhyw ardal o dir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
 mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;
 ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2; y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
 ystyr “Rheoliad 1307/2013” (“Regulation 17/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin;
 ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig;
 ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.
2 

(1) Mae paragraffau (2), (3) a (4) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn yr ystyr a roddir i “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio’r tir o dan sylw, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol awyr agored neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2,
(b) y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2021 fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3, ac
(c) y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2022 fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 4.
(3) Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2020 yn unol â chofnod 4 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
(b) y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2021 fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3.
(4) Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2021 yn unol â chofnod 4 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
(b) y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2022 fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 4.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
17 Ionawr 2023
YR ATODLEN
Erthygl 2


colofn 1 colofn 2 colofn 3 colofn 4
Defnydd ffermio Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£) ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2021 Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£) ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2022
1. Da byw
Buchod godro buwch 641 813
Buchod bridio cig eidion: ar dir mewn ardal lai ffafriol buwch -144 -106
ar dir arall buwch -264 -156
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) y pen -149 -18(1)
Buchod llaeth i lenwi bylchau y pen 90 99(1)
Mamogiaid: ar dir mewn ardal lai ffafriol mamog -20 -12
ar dir arall mamog 3 23
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) y pen 5 9
Moch: hychod a banwesod torrog hwch neu fanwes 244 269
moch porc y pen 8 9.1
moch torri y pen 10.8 12.1
moch bacwn y pen 12.7 14.5
Dofednod: ieir dodwy aderyn 4.3 4.2
brwyliaid aderyn 0.3 0.3
cywennod ar ddodwy aderyn 0.8 0.8
Tyrcwn Nadolig aderyn 10.5 12.5
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 145 397
Ffa hectar 7 135
Rêp had olew hectar 250 294
Pys sych hectar -20 -50
Tatws: cynnar cyntaf hectar 3,190 3,460
prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 2,410 2,410
Betys siwgr hectar 160 460
Gwenith hectar 370 480
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau’r berllan hectar 3,090 3,460
Ffrwythau meddal hectar 14,720 15,460
4. Hectarau cymwys
Tir a oedd yn 2020 (gweler colofn 3) neu yn 2021 (gweler colofn 4) yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad 1307/2013 tir dan anfantais ddifrifol hectar 132.70 114.98
tir dan anfantais hectar 131.19 114.96
pob tir arall hectar 33.46 79.06
