
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Absenoldeb Profedigaeth Rhiant ac Absenoldeb Rhiant a Rennir) 2023 a deuant i rym ar 26 Mai 2023.
2 

(1) Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16(a)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (iii) hepgorer “neu”, a
(b) ar ddiwedd is-baragraff (iv) hepgorer “neu” a mewnosoder—“
(v) ei hawl i absenoldeb rhiant a rennir a roddir gan adran 75E neu 75G o Ddeddf 1996; neu
(vi) ei hawl i absenoldeb profedigaeth rhiant a roddir gan adran 80EA o Ddeddf 1996; neu”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2023