
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 10 Chwefror 2023.
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, yn y diffiniad o “ysgol” hepgorer “, neu ysgol arbennig nad yw awdurdod lleol yn ei chynnal”.
(3) Yn rheoliad 4, yn lle paragraff (8) rhodder—“
(8) Mae’r cyfeiriad ym mharagraff (2) at 380 o sesiynau i’w gymryd fel cyfeiriad at 376 o sesiynau mewn perthynas â’r flwyddyn ysgol 2022–2023.”
(4) Yn lle rheoliad 5 rhodder—“
5. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy’n dod o fewn y blynyddoedd ysgol 2022–2023, 2023–2024 a 2024–2025 sydd wedi ei neilltuo (yn llwyr neu’n bennaf) i ddarparu hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff sy’n addysgu a staff nad ydynt yn addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill) neu i baratoi a chynllunio, mewn perthynas ag un neu ragor o’r canlynol—
(a) lleihau effaith tlodi ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion yn yr ysgol;
(b) gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ar gyfer disgyblion yn yr ysgol;
(c) y cwricwlwm sydd i’w ddarparu yn yr ysgol o dan Ran 2 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
(2) Mae paragraff (1) i gael effaith mewn perthynas â dim mwy na dwy sesiwn ysgol ym mhob blwyddyn ysgol.
(3) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, mae’r sesiwn honno i’w hystyried at ddibenion rheoliad 4 fel sesiwn pan gyfarfu’r ysgol.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
16 Ionawr 2023