
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Ionawr 2023.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i hysbysiadau galw am dalu sy’n ymwneud â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 neu ar ôl hynny, ac a ddyroddir gan awdurdodau bilio Cymru neu ar eu rhan.
2 

(1) Mae paragraff 1 o Atodlen 2 (nodiadau esboniadol) i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y paragraff o’r enw Gwerth ardrethol, yn lle “2017” rhodder “2023” ac yn lle “2015” rhodder “2021”.
(3) Yn y paragraff o’r enw Ailbrisio, yn lle “2017” rhodder “2023” ac yn lle “2015” rhodder “2021”.
(4) Yn y paragraff o’r enw Newid yn y gwerth ardrethol, hepgorer y geiriau “Os na fydd y trethdalwr a’r swyddog prisio yn cytuno ar y prisiad o fewn 3 mis i wneud y cynnig, bydd y mater yn cael ei gyfeirio gan y swyddog prisio fel apêl gan y cynigydd i Dribiwnlys Prisio Cymru.”
(5) Yn y paragraff o’r enw Y lluosydd ardrethu annomestig, hepgorer y geiriau “ac, ac eithrio mewn blwyddyn ailbrisio, ni all godi fwy na chyfradd y cynnydd yn y mynegai prisiau manwerthu”.
(6) Yn y paragraff o’r enw Rhyddhad ardrethi trosiannol—
(a) yn lle “2016” rhodder “2022”;
(b) hepgorer y gair “bach”;
(c) yn lle “2017” rhodder “2023”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
5 Ionawr 2023