
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 3) 2023.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
2 

(1) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau, ar 7 Mawrth 2023—
(a) adran 4 (gweithdrefn dyletswydd gonestrwydd); a
(b) adran 11 (dehongli “gofal iechyd” a thermau eraill).
(2) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 7 Mawrth 2023—
(a) adran 25 (rheoliadau); a
(b) adran 28 (pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc.).
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2023