
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Datblygu Arbennig Cynllunio Gwlad a Thref (Safle Rheoli ar y Ffin Gogledd Cymru) (Ymadael â’r UE) 2023 a daw i rym ar 28 Mawrth 2023.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i “y tir” fel y’i diffinnir yn erthygl 2.
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys unrhyw strwythur neu adeiladwaith, ac unrhyw ran o adeilad fel y’i diffinnir yn y modd hwnnw, ond nid yw’n cynnwys cyfarpar neu beiriannau a gynhwysir mewn adeilad;
 ystyr “adran y ffin” (“border department”) yw unrhyw un neu ragor o blith—
(a) Gweinidogion Cymru;
(b) yr awdurdod iechyd porthladd ar gyfer Porthladd Caergybi;
(c) Comisiynwyr Cyllid a Thollau ei Fawrhydi;
(d) yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol;
(e) yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig;
(f) yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth;
 ystyr “ardal dirlunio newydd” (“new landscaping area”) yw’r ardal sydd wedi ei marcio ar y map fel “Clustogfa Sgrinio’r Tirlun Dangosol” ac sydd wedi ei harlliwio’n wyrdd gyda chroeslinellau;
 ystyr “yr ardal ddatblygadwy” (“the developable area”) yw’r ardal a ddangosir ar y map fel “Ardal ddatblygadwy” ac y dangosir ei ffin allanol gan ymyl allanol y ffin doredig ddu;
 mae “arwyneb caled” (“hard surfacing”) yn cynnwys unrhyw arwyneb artiffisial, a chaiff fod yn hydraidd neu’n anhydraidd fel y pennir;
 mae i “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”) yr ystyr a roddir i “local planning authority” yn Rhan 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 mae i “awdurdod lleol” (“local authority”) yr ystyr a roddir i “local authority” yn adran 336 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 ystyr “brigiad creigiog” (“rocky outcrop”) yw’r ardal a ddangosir ar y map fel “Brigiad Creigiog” ac sydd wedi ei harlliwio’n wyrdd tywyll gyda phatrwm triongl sy’n ailadrodd;
 mae i “datblygu” (“development”) yr un ystyr â “development” yn adran 55(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a wneir yn unol â’r caniatâd cynllunio a roddir gan erthygl 3;
 ystyr “datblygwr” (“developer”) yw’r awdurdod lleol neu adran y ffin neu berson sy’n gwneud y datblygiad ar ran awdurdod lleol neu adran y ffin ar yr adeg berthnasol;
 ystyr “derbynyddion preswyl” (“residential receptors”) yw’r anheddau preswyl yn y cyfeiriadau stryd a ganlyn yng Nghaergybi—
(a) Kingsland Road;
(b) Penrhyn Geiriol;
(c) Lôn Trefignath;
 ystyr “ffordd fynediad argyfwng” (“emergency access road”) yw unrhyw ffordd o’r fynedfa argyfwng ar y briffordd sydd wedi ei marcio â’r saethau glas ar y map, hyd at y llawr caled agosaf;
 mae i “gwastraff peryglus” (“hazardous waste”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005;
 ystyr “y map” (“the map”) yw’r map sydd wedi ei farcio “Map y cyfeirir ato yng Ngorchymyn Datblygu Arbennig Cynllunio Gwlad a Thref (Safle Rheoli ar y Ffin Gogledd Cymru) (Ymadael â’r UE) 2023, rhif y dyluniad: BCP22-006-05-01 diwygiad P01.11” y mae copi ohono, wedi ei lofnodi gan aelod o’r Uwch Wasanaeth Sifil yng Nghyfarwyddiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru, ar gael i edrych arno yn—
(a) Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ,
(b) www.llyw.cymru, ac
(c) Cyngor Sir Ynys Môn, yr Adran Cynllunio a Rheoli Adeiladu, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW;
 ystyr “mynedfa’r safle” (“site entrance”) yw’r lleoliad a ddangosir ar y map fel “Mynedfa i’r safle a ganiateir” a chan y ddwy saeth goch;
 mae “nwyddau” (“goods”) yn cynnwys planhigion ac anifeiliaid;
 ystyr “Parth A” (“Zone A”) yw’r ardal a ddangosir ar y map fel “Parth A – 23m” ac sydd wedi ei harlliwio’n borffor gyda phatrwm tonnog sy’n ailadrodd;
 ystyr “Parth B” (“Zone B”) yw’r ardal a ddangosir ar y map fel “Parth B – 33m” ac sydd wedi ei harlliwio’n wyrdd golau gyda phatrwm llinell letraws sy’n ailadrodd;
 ystyr “y tir” (“the land”) yw’r tir sy’n cynnwys Plot 9, Parc Cybi, Caergybi, LL65 2YQ y dangosir ei ffin allanol gan ymyl allanol llinell goch fras ar y map;
 ystyr “tirlunio” (“landscaping”) yw—
(a) plannu coed, gwrychoedd, llwyni neu laswellt a’u cynnal a’u cadw;
(b) ffurfio argloddiau neu newidiadau eraill i lefelau’r ddaear;
 ystyr “tirlunio presennol” (“existing landscaping”) yw’r coed a’r llystyfiant presennol o ymyl ffin dde-orllewinol y tir i ymyl ffin dde-ddwyreiniol y tir gan gynnwys y tu ôl i’r pwll presennol ac a nodwyd ar y map—
(a) fel “Tirlunio presennol i’w gadw”, a
(b) wedi ei arlliwio’n oren gyda phatrwm ongl sgwâr sy’n ailadrodd.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at uchder adeilad yn gyfeiriad at ei uchder wrth fesur o ddatwm ordnans.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at fesuriad o ffin yn gyfeiriad at fesuriad unionlin sy’n unionsyth i unrhyw bwynt ar y ffin o dan sylw.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at derfynau sŵn nad ydynt yn uwch na desibelau (dB) penodedig yn gyfeiriad at gyfartaledd lefel pwysedd sain dros amser sydd wedi’i phwysoli yn unol ag “A” am gyfnod o un awr (LAeq, 1awr).
3 

(1) Yn ddarostyngedig i erthyglau 4 a 5, rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer—
(a) newid defnydd y tir yn sylweddol at ddiben, neu mewn cysylltiad ag—
(i) unrhyw weithgaredd sy’n ffurfio rhan o swyddogaethau, neu sy’n gysylltiedig â swyddogaethau, y mae’n ofynnol eu cyflawni gan neu ar ran adran ffin mewn cysylltiad â cherbydau a nwyddau sy’n dod i mewn i Brydain Fawr neu’n ymadael â hi, neu sydd ar fin dod i mewn i Brydain Fawr neu sydd ar fin ymadael â hi, drwy Borthladd Caergybi, gan gynnwys—(aa) cofnodi cerbydau sy’n mynd i’r ardal ddatblygadwy neu’n ymadael â’r ardal ddatblygadwy;(bb) darparu, adnewyddu, gwirio, ardystio a chymeradwyo datganiadau tollau, trwyddedau a dogfennau eraill sy’n ymwneud â cherbydau a nwyddau;(cc) archwilio nwyddau, ymafael ynddynt a’u cadw;(dd) arolygu cerbydau a nwyddau at unrhyw ddiben cyfreithlon arall;(ee) storio neu ddal nwyddau sy’n cael eu cludo mewn cerbydau;(ff) gwirio cerbydau,
(ii) lleoli cerbydau yn gysylltiedig â hynny, ac unrhyw faterion sy’n ategol i hynny, gan gynnwys atgyweiriadau brys i gerbydau, a
(iii) mannau parcio a weithredir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod lleol, ar gyfer hyd at 60 cerbyd nwyddau trwm;
(b) yn yr ardal ddatblygadwy, adeiladu, gosod, darparu, gweithredu, cynnal a chadw, gwella neu addasu, datgomisiynu neu symud ymaith unrhyw adeiladau ac arwynebau caled, a chyflawni unrhyw waith a newidiadau i lefelau’r ddaear, sy’n ofynnol neu a ddarperir mewn cysylltiad â defnyddio’r tir yn unol ag is-baragraff (a), gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddarparu—
(i) cyfleusterau ar gyfer gyrwyr cerbydau;
(ii) cyfleusterau ar gyfer personau sy’n ymwneud ag unrhyw weithgaredd a ganiateir gan is-baragraff (a);
(iii) cyfleusterau diogelwch a derbyn;
(iv) ffyrdd a dulliau mynediad eraill;
(v) unrhyw brif bibell, pibell, cebl neu gyfarpar arall ar gyfer darparu dŵr, nwy, trydan neu wasanaethau eraill;
(vi) unrhyw systemau draenio dŵr brwnt a dŵr wyneb gan gynnwys cwlfertau, ffosydd, pantiau a phyllau;
(vii) arwynebau caled;
(viii) goleuadau;
(ix) ffensys;
(x) arwyddion;
(xi) tirlunio;
(xii) mesurau gostegu sŵn;
(xiii) mannau gwefru ac offer cynhyrchu ynni adnewyddadwy;
(xiv) mannau parcio a weithredir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod lleol, ar gyfer hyd at 60 cerbyd nwyddau trwm;
(c) yn yr ardal rhwng ffin yr ardal ddatblygadwy a ffin y tir—
(i) tirlunio;
(ii) ffensys, ac eithrio ffensys gostegu sŵn;
(iii) rheoli gwastraff a draenio;sy’n ategol i’r gweithgareddau yn is-baragraffau (a) a (b).
(2) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 yn gymwys i’r tir—
(a) ac eithrio’r brigiad creigiog, ond
(b) os oes gwrthdaro rhwng y Gorchymyn hwn ac unrhyw ddatblygu a ganiateir gan y Gorchymyn hwnnw, mae darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn gymwys.
4 
Ni chaniateir datblygu o fewn y brigiad creigiog.
5 

(1) Mae datblygiad a awdurdodir gan erthygl 3 yn ddarostyngedig i’r amodau yn yr Atodlen.
(2) Rhaid cydymffurfio â’r amodau yn Rhan 2 o’r Atodlen cyn i unrhyw ddefnydd a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i) gychwyn.
6 

(1) Pan fo amod yn darparu ar gyfer “cymeradwyaeth berthnasol” mae hyn yn golygu cymeradwyaeth a roddir gan yr awdurdod cynllunio lleol mewn ysgrifen.
(2) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn cael cais am gymeradwyaeth berthnasol a’i fod yn ystyried nad yw gwybodaeth ddigonol wedi ei darparu iddo i benderfynu pa un ai i roi’r gymeradwyaeth berthnasol, rhaid iddo roi gwybod i’r ceisydd am yr wybodaeth bellach neu’r dogfennau pellach sy’n ofynnol ganddo.
(3) Caiff yr awdurdod cynllunio lleol roi’r gymeradwyaeth berthnasol yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau a rhaid cyflawni’r datblygiad yn unol ag unrhyw amodau a bennir.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2023
YR ATODLEN
Erthygl 5
RHAN 1
1 

(1) Rhaid amgáu’r brigiad creigiog gyda ffensys o amgylch ei derfyn allanol.
(2) Ni chaniateir unrhyw ddatblygu hyd nes y cydymffurfir â’r amod yn is-baragraff (1), ac eithrio darparu goleuadau, ffensys neu arwyddion.
2 

(1) Ni chaniateir gwneud y gwaith adeiladu a restrir yn is-baragraff (2) ond rhwng yr oriau a ganlyn—
(a) 0700 a 1900 yn ystod yr wythnos, a
(b) 0700 a 1300 ar ddydd Sadwrn.
(2) Unrhyw—
(a) symud daear;
(b) drilio, torri neu ffrwydro;
(c) gosod arwyneb caled;
(d) defnyddio cerbydau neu gyfarpar gyda larymau bacio.
3 

(1) Ni chaiff lefelau sŵn yn ystod gwaith adeiladu fod yn uwch na 65dB (LAeq, 1awr).
(2) Ni chaiff lefel dirgryniad y ddaear fod yn uwch nag—
(a) cyflymder uchaf gronynnau o 10 milimedr yr eiliad;
(b) cyflymder uchaf gronynnau o 1 milimedr yr eiliad ar 10 neu ragor o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 15 niwrnod yn olynol.
(3) Rhaid mesur terfynau sŵn a dirgryniad o 1 fetr i ffwrdd o unrhyw wedd derbynnydd preswyl.
4 

(1) Rhaid cydymffurfio â’r amod hwn yn ystod unrhyw ddatblygu a ganiateir gan erthygl 3(1)(b) neu (c).
(2) Rhaid codi arwyddion dros dro er mwyn—
(a) cyfeirio cerbydau adeiladu i ddynesu at y tir ac ymadael â’r tir gan ddefnyddio ffordd feingefn Parc Cybi o’r gyffordd sy’n cysylltu â chefnffordd yr A55, a
(b) annog cerbydau rhag defnyddio ffordd Lôn Trefignath o’i chyffordd â’r tir hyd at ei chyffordd â Lon Towyn Capel.
(3) Rhaid darparu mannau parcio o fewn yr ardal ddatblygadwy sy’n ddigonol i atal parcio gorlif ar ffordd feingefn Parc Cybi.
(4) Rhaid darparu lle ar gyfer llwytho a dadlwytho o fewn yr ardal ddatblygadwy sy’n ddigonol i atal y gweithgaredd hwn rhag digwydd ar ffordd feingefn Parc Cybi.
(5) Rhaid i gyfleusterau golchi olwynion fod ar gael a rhaid iddynt gael eu gweithredu i atal mwd a malurion rhag cael eu dyddodi ar y briffordd, a phan fo dyddodion yn digwydd, rhaid i’r datblygwr sicrhau bod y briffordd yn cael ei sgubo.
5 

(1) Rhaid cydymffurfio â’r amod hwn yn ystod unrhyw ddatblygu a ganiateir gan erthygl 3(1)(b) neu (c).
(2) Ni chaniateir defnyddio goleuadau artiffisial ond pan fo hynny’n angenrheidiol.
(3) Rhaid cyfeirio unedau goleuadau i ffwrdd o bob derbynnydd preswyl.
6 
Rhaid i fesurau effeithiol fod ar waith i ddiogelu rhag dod â rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid estron goresgynnol ar y tir ar gerbyd neu ar droed.
7 
Ni chaiff uchder adeiladau ar gyfer y parthau a nodir yng ngholofn (1) o Dabl 1 fod yn uwch na’r uchder a nodir yng ngholofn (2).

Tabl 1
(1) Parth (2) Uchder uchaf adeilad
Parth A 23 o fetrau
Parth B 33 o fetrau
 
8 

(1) Rhaid i’r elfennau a ganlyn fod wedi eu gwneud o laswellt cyfnerthedig hydraidd—
(a) y ffordd fynediad argyfwng;
(b) cilfan yr is-orsaf.
(2) Os cânt eu hadeiladu rhaid i’r elfennau a ganlyn fod wedi eu gwneud o ddeunydd hydraidd—
(a) llwybrau troed;
(b) meysydd parcio.
(3) Os cânt eu hadeiladu rhaid i’r elfennau a ganlyn fod wedi eu gwneud o ddeunydd anhydraidd ac wedi eu hadeiladu i atal llygryddion rhag mynd i’r ddaear—
(a) pob ffordd heblaw’r ffordd fynediad argyfwng;
(b) y llain ddanfoniadau;
(c) yr ardal arolygu cerbydau;
(d) yr ardal cwarantin cerbydau.
9 

(1) Rhaid i doeon adeiladau fod wedi eu gorffen yn un o’r lliwiau a ganlyn—
(a) S 3005-Y20R;
(b) S 3005-R80B;
(c) S 7010-Y90R;
(d) S 3502-R;
(e) S 3005-G50Y.
(2) Rhaid i ffasadau adeiladau, ffensys diogelwch a ffensys rhwystro acwstig fod wedi eu gorffen mewn pren naturiol neu yn un o’r lliwiau a ganlyn—
(a) S 2040-G40Y;
(b) S 2005-B20G;
(c) S 3005-Y20R.
(3) Rhaid i elfennau allanol eraill fod wedi eu gorffen yn un o’r lliwiau a ganlyn—
(a) S 2040-G40Y;
(b) S 2005-B20G;
(c) S 3005-Y20R;
(d) S 1515-Y90R;
(e) S 0575-G90Y.
(4) Yn y paragraff hwn, mae “lliwiau” yn cyfeirio at y lliw sy’n cyfateb i’r cod a restrir ar y Natural Colour System®.
(5) Yn is-baragraff (3), mae “elfennau allanol eraill” yn cynnwys—
(a) fframiau ffenestri;
(b) trimiau;
(c) nodweddion pensaernïol;
(d) strwythurau atodol;
(e) canllawiau;
(f) colofnau goleuo;
(g) celfi allanol megis meinciau.
(6) Yn is-baragraff (3), nid yw “elfennau allanol eraill” yn cynnwys paneli solar ffotofoltäig nac offer solar thermol.
(7) Os nad yw unrhyw un neu ragor o’r lliwiau a bennir yn y paragraff hwn ar gael i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio ar yr adeg berthnasol, caiff y datblygwr wneud cais i’r awdurdod lleol am gymeradwyaeth berthnasol i ddefnyddio lliw sy’n cydweddu’n agos.
10 

(1) Rhaid gosod unedau goleuadau mor isel at y ddaear ag sy’n ymarferol, ac ni chaiff colofnau goleuo fod yn uwch na 15 metr o uchder uwch datwm ordnans.
(2) Rhaid i unedau goleuadau fod—
(a) o dan gwfl er mwyn cuddio ffynhonnell y golau o’r golwg o’r tu allan i’r ardal ddatblygadwy, a
(b) wedi eu cyfeirio tuag i lawr er mwyn lleihau gollyngiad golau.
(3) Ni chaiff lefelau golau artiffisial fod yn uwch na 0.74 lux wrth fesur o 1 fetr y tu allan i ffin yr ardal ddatblygadwy.
(4) Ni chaiff tymheredd lliw cydberthynol pob golau artiffisial fod yn uwch na 2700 kelvin.
(5) Ni chaiff golau sbectrwm glas o unrhyw ffynhonnell fod yn weladwy o’r brigiad creigiog.
11 

(1) Rhaid i bob gorchudd ar gyfer tyllau archwilio a mannau gwialennu fod wedi eu marcio gyda’r lliw priodol, a rhaid cynnal a chadw’r marciau i sicrhau eu bod i’w gweld yn glir.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), y “lliw priodol” yw—
(a) glas ar gyfer draenio dŵr wyneb, a
(b) coch ar gyfer draenio dŵr brwnt.
RHAN 2
12 

(1) Rhaid i’r datblygwr gyflwyno strategaeth arwyddion i’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer cymeradwyaeth berthnasol, a rhaid cael y gymeradwyaeth hon cyn i unrhyw ddefnydd a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i) gychwyn.
(2) Rhaid i’r strategaeth arwyddion amlinellu sut y bydd yr arwyddion yn—
(a) cyfeirio cerbydau i ddynesu at y tir ac ymadael â’r tir gan ddefnyddio ffordd feingefn Parc Cybi o’r gyffordd sy’n cysylltu â chefnffordd yr A55, a
(b) annog cerbydau rhag defnyddio ffordd Lôn Trefignath o’i chyffordd â’r tir hyd at ei chyffordd â Lon Towyn Capel.
(3) Rhaid i’r holl arwyddion a gymeradwyir yn y gymeradwyaeth berthnasol gael eu codi.
13 

(1) Rhaid i’r datblygwr benodi cydlynydd cynllun teithio i oruchwylio’r cynllun teithio y cyfeirir ato ym mharagraff 27.
(2) Rhaid i’r datblygwr hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol mewn ysgrifen am enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost cydlynydd y cynllun teithio o fewn un mis gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir y penodiad.
14 

(1) Rhaid gwella’r tirlunio presennol.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), ystyr “gwella” yw mynd i’r afael ag erydiad ac ardaloedd tenau ac ysbeidiol yn y tirlunio presennol drwy fesurau sy’n cynnwys—
(a) crafu;
(b) gwrteithio’r pridd;
(c) tocio a ffurfio;
(d) torri pren marw;
(e) rhwygo a phalu i atal cywasgu.
15 

(1) Rhaid plannu tirlunio newydd sy’n cynnwys rhywogaethau coed a llwyni brodorol cymysg rhwng y tirlunio presennol a ffin yr ardal ddatblygadwy.
(2) Dylai lleoliad y tirlunio newydd alinio mor agos ag sy’n ymarferol â’r ardal dirlunio newydd a ddangosir ar y map.
(3) Rhaid i’r tirlunio presennol a’r ardal dirlunio newydd, wrth fesur o ffin y tir, fod o leiaf 10 metr o ddyfnder.
(4) Pan fo’r ardal dirlunio newydd yn rhannu’n ddwy gainc fel y dangosir ar y map, gydag un gainc yn gyfochrog ag ymyl yr ardal ddatblygadwy a’r llall yn gyfochrog â’r tirlunio presennol wrth ymyl ffin y tir, mae’r dyfnder o 10 metr i’w fesur fel dyfnder cyfunedig y ddwy gainc o’r ardal dirlunio newydd a’r tirlunio presennol.
(5) At ddibenion is-baragraff (1), ystyr “rhywogaethau coed a llwyni brodorol cymysg” yw unrhyw blanhigion yn y rhestr a geir yn Rhan 4.
16 

(1) Rhaid i’r datblygwr gyflwyno “cynllun cynnal a chadw tirlunio” i’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer cymeradwyaeth berthnasol, a rhaid cael y gymeradwyaeth hon cyn i unrhyw ddefnydd a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i) gychwyn.
(2) Rhaid i’r cynllun cynnal a chadw tirlunio gynnwys—
(a) rhaglen ar gyfer monitro planhigion sy’n methu;
(b) gofyniad—
(i) bod rhaid rhoi planhigion newydd yn flynyddol yn lle unrhyw blanhigion sy’n methu, a dylai’r planhigion newydd fod yn seiliedig ar dystiolaeth o rywogaethau sy’n ymsefydlu’n llwyddiannus;
(ii) bod rhaid cadw’r tirlunio mor rhydd o chwyn ag sy’n ymarferol;
(iii) y caiff ffensys da byw eu codi i ddiogelu planhigion newydd.
17 

(1) Rhaid gosod mesurau gostegu sŵn a rhaid iddynt fod yn hollol weithredol.
(2) Rhaid i’r datblygwr gael cymeradwyaeth berthnasol yn cadarnhau bod y mesurau gostegu sŵn yn ddigonol i sicrhau na fydd lefelau sŵn ym mhob un o’r derbynyddion preswyl yn uwch na’r lefelau ar yr amseroedd cyfatebol o’r dydd a amlinellir yn Nhabl 3 ym mharagraff 29.
(3) Yn y paragraff hwn, mae “mesurau gostegu sŵn” yn cynnwys ffensys gostegu sŵn a rheolaethau rheoli ardal ddatblygadwy.
18 

(1) Rhaid i wastraff gael ei waredu a dŵr ddraenio o’r datblygiad, naill ai o adeiladau neu o arwynebau caled, drwy’r system ddraenio briodol.
(2) Y system ddraenio briodol yw SDdG ar gyfer dŵr ffo o’r elfennau a amlinellir yng ngholofn (1) yn Nhabl 2, gyda cholofn (2) yn nodi’r dull draenio.

Tabl 2
(1) Elfen (2) Y dull draenio
Ffyrdd mynediad Casglu gan stripiau hidlo a phantiau neu ddraeniau hidlo i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr.
Y llain ddanfoniadau a pharcio i gerbydau nwyddau trwm Casglu drwy ddraenio llinellol gyda gwahanydd olew i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr.
Meysydd parcio Ymdreiddio i’r ddaear drwy balmant hydraidd a’r gweddill i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr.
Llwybrau troed Ymdreiddio i’r ddaear drwy balmant hydraidd a’r gweddill i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr.
Yr ardal cwarantin cerbydau Casglu drwy ddraenio llinellol gyda gwahanydd olew i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr.
Dŵr o doeon Casglu drwy bibellau dŵr i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr.
Ffordd fynediad argyfwng Draenio uniongyrchol i’r ddaear.
Cilfan yr is-orsaf Draenio uniongyrchol i’r ddaear.
Ardaloedd wedi eu tirlunio Draenio uniongyrchol i’r ddaear.
(3) Y garthffos dŵr brwnt yw’r system ddraenio briodol ar gyfer—
(a) dŵr brwnt domestig o—
(i) swyddfeydd ac ardaloedd lles adeiladau arolygu,
(ii) adeiladau lles gyrwyr, a
(iii) adeiladau lles staff;
(b) elifion masnach o—
(i) ardaloedd arolygu ar gyfer planhigion, cynnyrch ac anifeiliaid bach, a
(ii) storfeydd biniau allanol.
(4) Y garthffos dŵr brwnt neu ddraenio i danciau cadw dros dro er mwyn eu symud ymaith gan dancer yw’r system ddraenio briodol ar gyfer elifion masnach o—
(a) ardaloedd arolygu ar gyfer anifeiliaid mawr gan gynnwys ceffylau, a
(b) storfeydd gwastraff anifeiliaid allanol.
(5) Yn yr amod hwn, ystyr “SDdG” yw system ddraenio gynaliadwy ar gyfer rheoli dŵr glaw, gan gynnwys eira a mathau eraill o ddyddodiad, gyda’r nod o—
(a) lleihau’r difrod gan lifogydd,
(b) gwella ansawdd dŵr,
(c) diogelu a gwella’r amgylchedd,
(d) gwarchod iechyd a diogelwch, ac
(e) sicrhau sefydlogrwydd a chydnerthedd systemau draenio.
RHAN 3
19 
Rhaid i offer gorlifo fod ar gael yn yr ardal ddatblygadwy ar bob adeg a rhaid iddynt fod â chapasiti gofynnol cyfunedig sy’n ddigonol i amsugno 1500 litr o gemegau ac olewau.
20 

(1) Rhaid storio gwastraff peryglus mewn ardal sy’n ddiogel, yn anhydraidd ac sydd wedi ei gorchuddio.
(2) Rhaid storio gwastraff peryglus hylifol mewn ardal wedi ei byndio sy’n ddigonol i ddal 110% o gyfanswm cyfaint yr hylif.
21 
Rhaid storio gwastraff anifeiliaid a phlanhigion, gan gynnwys anifeiliaid meirw a phan fo’n briodol nwyddau yr ymafaelwyd ynddynt, mewn cynwysyddion anhydraidd y gellir eu selio yn llwyr pan fydd y gwastraff hwnnw yn yr ardal ddatblygadwy ac wrth ei symud ymaith o’r ardal ddatblygadwy.
22 

(1) Rhaid cadw tail mewn storfa ddiddos sy’n atal fermin ac sydd ag arwyneb anhydraidd a system ddraenio wedi ei selio i atal dŵr ffo.
(2) Rhaid bod gan y storfa a ddisgrifir yn is-baragraff (1) awyru digonol i atal nwyon rhag cronni.
23 
Rhaid i danciau tanwydd fod wedi eu lleoli uwchben lefel y ddaear.
24 
Rhaid i unrhyw destun ar arwydd a ganiateir neu sy’n ofynnol gan neu o dan y Gorchymyn hwn fod yn Gymraeg ac yn Saesneg a rhaid rhoi’r testun Cymraeg yn gyntaf.
25 

(1) Os yw’r ffensys sy’n amgáu’r brigiad creigiog sy’n ofynnol gan baragraff 1(1) yn cael eu cadw neu eu hamnewid ar ôl i unrhyw ddefnydd a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i) gychwyn, mae’r amod yn is-baragraff (2) yn gymwys.
(2) Rhaid i’r ffensys fod—
(a) yn ffensys atal da byw a wnaed o wifrau galfanedig gyda physt heb eu paentio a wnaed o bren ac sy’n llai nag 1.5 metr o uchder, neu
(b) wedi eu gorffen yn y palet lliw a nodir ym mharagraff 9(2).
(3) Ni chaniateir unrhyw offer, peiriannau, deunyddiau nac eitemau eraill ar y brigiad creigiog heblaw er mwyn codi neu gynnal a chadw’r ffensys yn ôl yr angen.
26 
Rhaid i gerbydau sy’n mynd i’r tir wneud hynny drwy fynedfa’r safle heblaw mewn argyfwng pryd y caniateir defnyddio’r fynedfa argyfwng sydd wedi ei marcio ar y map â dwy saeth las yng nghornel ogledd-ddwyreiniol yr ardal ddatblygadwy a’r tir.
27 

(1) Rhaid i’r cynllun teithio gael ei adolygu a’i ddiweddaru i gynnwys amcanion clir a thargedau o ran dulliau teithio (“y cynllun teithio diwygiedig”).
(2) Rhaid i’r cynllun teithio diwygiedig hefyd gynnwys—
(a) llinell amser ar gyfer gweithredu’r rhaglen, a
(b) manylion ynghylch sut y caiff yr amcanion a’r targedau eu monitro, eu hadolygu a’u diweddaru.
(3) Rhaid cyflwyno’r cynllun teithio diwygiedig i’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer cymeradwyaeth berthnasol o fewn y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r defnydd cyntaf a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i), a rhaid gweithredu’r cynllun teithio diwygiedig yn unol â’r gymeradwyaeth hon.
(4) Rhaid i’r cynllun teithio wedi ei ddiweddaru fod ar gael i edrych arno ym mhrif swyddfa’r datblygwr ac ar ei wefan.
(5) At ddibenion y paragraff hwn, ystyr y “cynllun teithio” yw Datganiad Trafnidiaeth Safle Rheoli ar y Ffin Gogledd Cymru—
(a) a luniwyd gan Mott Macdonald,
(b) dyddiedig Rhagfyr 2022, ac
(c) sydd â’r rhif dogfen BCP22-005-00-01.
(6) Rhaid hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol ynghylch unrhyw newidiadau i fanylion cydlynydd y cynllun teithio o fewn un mis i’r newid.
(7) At ddibenion is-baragraff (6), ystyr “manylion cydlynydd y cynllun teithio” yw’r wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff 13(2).
28 
Rhaid cynnal a chadw a rheoli’r tirlunio presennol sydd wedi ei wella yn unol â pharagraff 14(1) a’r tirlunio newydd a ddarperir yn unol â pharagraff 15 yn unol â’r cynllun cynnal a chadw tirlunio, am oes unrhyw ddefnydd o’r datblygiad a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i), er mwyn sicrhau ei iechyd parhaus.
29 

(1) Ni chaiff y lefelau sŵn ym mhob un o’r derbynyddion preswyl fod yn fwy na’r lefelau desibel ar yr amseroedd cyfatebol o’r dydd a amlinellir yn Nhabl 3.

Tabl 3
Derbynnydd Terfyn sŵn yn ystod y dydd Terfyn sŵn yn ystod y nos
(dB LAeq, 1awr) (dB LAeq, 1awr)
Kingsland Road 54 39
Penrhyn Geiriol 43 42
Tyddyn-Uchaf 41 41
(2) Yn Nhabl 3—
(a) ystyr “yn ystod y dydd” yw 7:00 i 22:59, a
(b) ystyr “yn ystod y nos” yw 23:00 i 6:59.
30 
Ni chaiff injan cerbyd segura pan fo’r cerbyd yn llonydd am fwy na 5 munud.
31 

(1) Pan gynigir cynnal gweithgaredd newydd ar y tir rhaid i’r datblygwr gyflwyno astudiaeth sŵn i’r awdurdod cynllunio lleol a chael cymeradwyaeth berthnasol cyn y caiff y gweithgaredd newydd gychwyn.
(2) Rhaid i’r astudiaeth sŵn amlinellu a fydd y gweithgaredd newydd yn peri newid negyddol i gymeriad acwstig yr allbwn sŵn o’r tir.
(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithgaredd newydd” yw—
(a) codi adeilad newydd,
(b) ychwanegu arwyneb caled newydd,
(c) ychwanegu cyfarpar neu beiriannau newydd, neu
(d) pan fo adeilad neu arwyneb caled presennol i’w ddefnyddio at ddiben gwahanol,
pan fo’r rhain wedi digwydd ar ôl cael y gymeradwyaeth berthnasol sy’n ofynnol gan baragraff 17(2).
(4) Yn is-baragraff (2), mae newid i gymeriad acwstig yn cynnwys cynnydd o ran—
(a) sŵn amledd isel;
(b) sŵn tonaidd;
(c) ysbeidiolrwydd sŵn.
32 

(1) Cyn i unrhyw adeilad newydd, adeilad a ddefnyddir at ddibenion gwahanol, neu ardal o arwyneb caled gael ei feddiannu neu ei meddiannu am y tro cyntaf, neu ei ddefnyddio neu ei defnyddio am y tro cyntaf, at unrhyw ddiben a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i) rhaid iddo neu iddi fod yn gysylltiedig â’r system ddraenio briodol.
(2) Yn is-baragraff (1), ystyr y “system ddraenio briodol” yw’r system ym mharagraff 18 sy’n gymwys i’r elfen newydd.
RHAN 4

Math o dirwedd Enw’r planhigyn
Sgrin goetir Salix albaPopulus tremulaPinus sylvestrisBetula pendulaAlnus glutinosaAcer pseudoplatanusPrunus aviumAcer campestreIlex aquifoliumCornus sanguineaLigustrum vulgareSambucus nigra
Sgrin goetir wleb Salix albaPopulus tremulaAlnus glutinosaSalix capreaSambucus nigra
Sgrin ymyl coetir Betula pendulaSalix capreaCorylus avellanaCornus sanguineaCrataegus monogynaPrunus spinosaRosa canina
Coeden sbesimen – gwlyptir Salix albaPopulus tremula
Coeden sbesimen – brigiad creigiog Betula pendulaSorbus aucuparia
Coeden sbesimen – allanfa argyfwng Acer pseudoplatanusPrunus aviumQuercus robur
Brigiad creigiog Ulex europaeusCytisus scoparius
Mewnol addurniadol Aucuba japonicaSarcococca hookeriana Var. ‘Humilis’Skimmia japonicaOlearia x haastiiPig yr aran ‘Orion’Vinca minorClychau’r gog cyffredinEirlysBriallenLlysiau’r neidrLlysiau’r ysgyfaintFfenigl-y-moch gwridog Briallen Fair
Hadu blodau gwyllt BriallenLlysiau’r neidrLlysiau’r ysgyfaintFfenigl-y-moch gwridog Briallen FairBlodyn neidrMeillionen gochGludlys nos-flodeuolBrigwellt garwCedowyddClychlys dail danadlY feddyges lasByddon chwerwLlysiau’r angelCreithig bêrCarpiog y gorsClychlys clystyrogClychlys dail danadlPysen-y-ceirwCyfardwfLlysiau’r-milwr cochY bengaledClafrllys y maesLlygad-llo mawrBwrnedY feddyges lasBlodyn ymenynBlodyn neidrMaeswellt cyffredinRhonwellt y ciPeiswellt cochRhonwellt penfainGweunwellt llyfnMilddailErwainBriwydd felenMapgoll glan y dŵrGellesgenPysen-y-ceirw fawrLlyriad yr aisCedowyddCribell felenSuran y cŵnBwrned mawrFfeingl yr hwchDant y llewArianllysFfacbysen y berthCynffonwellt y maesPerwellt y gwanwynCrydwelltBrigwellt garwHaidd y maes