
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 9 (Dosbarth 6), yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Mae’r dosbarth ar anheddau sydd wedi ei ragnodi at ddiben y rheoliad hwn (“Dosbarth 6”) wedi ei ffurfio o bob annedd y mae ei meddiannu wedi ei gyfyngu gan amod cynllunio sydd—
(a) yn atal meddiannaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau o leiaf mewn unrhyw gyfnod o un flwyddyn;
(b) yn pennu na chaniateir defnyddio’r annedd ond ar gyfer llety gwyliau; neu
(c) yn atal meddiannaeth fel unig neu brif breswylfa person.”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2023