
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Chwefror 2024.
2 
Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio yn unol â’r Atodlen.
3 
Bydd unrhyw hysbysiad neu drwydded a ddyroddwyd, neu gymeradwyaeth neu ganiatâd a roddwyd, o dan Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 ac sy’n cael effaith pan ddaw’r Gorchymyn hwn i rym, yn parhau mewn grym.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
19 Rhagfyr 2023
YR ATODLEN
Erthygl 2
1 
Yn erthygl 2 (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “map a adneuwyd”, yn lle “yw’r map o’r enw “ardaloedd TB Rhanbarthol Cymru” a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru ac sy’n ddyddiedig 23 Mehefin 2017” rhodder “yw’r map o’r enw “ardaloedd TB Rhanbarthol Cymru a Lloegr” a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru ac sy’n ddyddiedig 15 Rhagfyr 2023”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “ardal risg uchel yn Lloegr” (“high-risk area in England”) yw’r holl dir sydd wedi ei arlliwio a’i nodi’n “Ardal Risg Uchel” ar y map a adneuwyd;”;
(c) yn y diffiniad o “uned besgi drwyddedig”, ar ôl “arolygydd” mewnosoder “milfeddygol”;
(d) yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “statws rhydd rhag twbercwlosis swyddogol” (“officially tuberculosis-free status”) yw’r statws sy’n deillio o fodloni’r amodau a bennir gan Weinidogion Cymru i alluogi masnachu gwartheg heb gyfyngiadau ar symud yn ymwneud â thwbercwlosis;”.
2 
Yn erthygl 8 (hysbysu am glefyd mewn anifeiliaid buchol), ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Rhaid i berson, heblaw am y ceidwad, sy’n gwneud hysbysiad o dan baragraff (1) hysbysu’r ceidwad am ei amheuaeth hefyd.”
3 
Yn erthygl 13A (profion ar ôl symud)—
(a) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Pan symudir anifail buchol i’r ardal TB ganolradd o fuches a leolir yn—
(a) yr ardal TB uchel,
(b) yr ardal risg uchel yn Lloegr, neu
(c) Gogledd Iwerddon,
 rhaid i’r ceidwad sy’n cael yr anifail drefnu i brawf ar ôl symud gael ei gynnal arno gan filfeddyg cymeradwy ddim llai na 60 diwrnod, ond ddim mwy na 120 diwrnod, ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd yr anifail y fangre sy’n ei gael.”;
(b) ym mharagraff (3), yn lle “paragraff (2)” rhodder “paragraffau (2) na (2A)”.
4 
Yn erthygl 14 (cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis), ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth am ba mor hir y mae buches wedi bod â statws rhydd rhag twbercwlosis swyddogol ar unrhyw ffurf y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas at ddibenion helpu personau eraill i ddiogelu rhag lledaeniad pellach twbercwlosis.”
5 
Yn erthygl 14A (unedau pesgi eithriedig ac unedau pesgi cymeradwy)—
(a) yn y pennawd hepgorer “Unedau pesgi eithriedig ac”;
(b) ym mharagraff (1), hepgorer is-baragraff (a);
(c) ym mharagraff (2), yn is-baragraff (b) hepgorer “uned besgi eithriedig neu’r”;
(d) ym mharagraff (3) hepgorer “uned besgi eithriedig neu”;
(e) ym mharagraff (4) hepgorer “uned besgi eithriedig nac”;
(f) ym mharagraff (5) hepgorer “uned besgi eithriedig nac”;
(g) ym mharagraff (6) hepgorer “uned besgi eithriedig neu”;
(h) yn lle paragraff (7) rhodder—“
(7) Mae uned besgi yn Lloegr sydd wedi ei chymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol i gymryd anifeiliaid buchol sydd wedi eu symud heb brawf cyn symud yn uned besgi eithriedig at ddibenion y Gorchymyn hwn.”
6 
Yn erthygl 15 (gwaharddiadau)—
(a) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Ni chaiff unrhyw berson gymryd sampl o anifail buchol at ddiben rhoi diagnosis o dwbercwlosis heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru.”
(b) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(6) Pan fo prawf perthnasol wedi ei gynnal ar anifail buchol, ni chaiff person, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol, symud yr anifail hwnnw o’r fangre lle cynhaliwyd y prawf hyd nes bod canlyniad negatif wedi cael ei ddarllen gan arolygydd neu filfeddyg cymeradwy a hyd nes bod y ceidwad wedi cael gwybod am y canlyniad hwnnw.”
7 
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 5 (unedau pesgi eithriedig ac unedau pesgi cymeradwy)—
(a) yn y pennawd hepgorer “Unedau pesgi eithriedig ac”;
(b) yn is-baragraff (1)(a) hepgorer “uned besgi eithriedig neu”.
8 
Yn Atodlen 2—
(a) ym mharagraff 5 (symud i unedau pesgi eithriedig) hepgorer “a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A”;
(b) hepgorer paragraff 8 (symud o fewn yr ardal TB isel neu ohoni).
9 
Yn Atodlen 3—
(a) ym mharagraff 3 (symud i unedau pesgi eithriedig) hepgorer “a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A”;
(b) ar ôl paragraff 6 (symud i sioeau amaethyddol) mewnosoder—“
(6A) Symud anifail buchol i sioe amaethyddol yn yr ardal TB ganolradd, neu ddychwelyd anifail i’r ardal TB ganolradd o sioe amaethyddol y tu allan i’r ardal TB ganolradd, ar yr amod—
(a) nad yw’r symud yn golygu aros am fwy na 24 awr neu letya’r anifail hwnnw ar faes y sioe, a
(b) bod yr anifail naill ai’n mynd yn uniongyrchol o’r sioe i’w gigydda neu’n cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol ar ôl y sioe.”;
(c) yn lle paragraff 7 (symud o’r ardal risg isel yn Lloegr i’r ardal TB isel) rhodder—“
7. 
Symud anifail buchol o’r ardal risg isel yn Lloegr i’r ardal TB isel. Mae i “ardal risg isel” yr ystyr a roddir i “low-risk area” yn erthygl 2(1) o Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 ac Atodlen 1 iddo.”