
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2023.
2 
Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3 
Yn rheoliad 2(b) (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau) ar ôl “1 Ionawr 2024” mewnosoder “fodd bynnag, nid yw rheoliad 4 yn gymwys i ddaliadau glaswelltir cymhwysol hyd nes 1 Ionawr 2025”.
4 
Yn rheoliad 3 (dehongli)—
(a) ar ôl y diffiniad o “cynllun gwrteithio”, mewnosoder—“
 ystyr “cynllun rheoli maethynnau uwch” (“enhanced nutrient management plan”) yw cynllun a lunnir yn unol â pharagraffau 6 a 7 o Atodlen 1A;”;
(b) yn lle’r diffiniad o “CANC” rhodder—“
 ystyr “CNC” (“NRW”) yw Cyfoeth Naturiol Cymru;”;
(c) ar ôl y diffiniad o “cwrs dŵr” mewnosoder—“
 ystyr “cyfarpar taenu manwl” (“precision spreading equipment”) yw system gwadnau llusg, bar diferion neu chwistrellydd;
 ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024;.”.
(d) ar ôl y diffiniad o “daliad” mewnosoder—“
 ystyr “daliad glaswelltir cymhwysol” (“qualifying grassland holding”) yw daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, pan fo 80% neu fwy o ardal amaethyddol y daliad wedi ei hau â phorfa;”;
5 
Ar ôl rheoliad 4 (dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad) mewnosoder—“
4A. 

(1) Rhaid i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol—A≥Ngl/250±Nngl/170lle—
 A yw arwynebedd y daliad (hectarau), fel y bo’n bodoli ar 1 Ionawr 2024;
 Ngl yw cyfanswm y nitrogen (kg) mewn tail da byw sy’n pori a ddodir ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, wedi ei gyfrifo yn unol â thabl 1 yn Atodlen 1;
 Nngl yw cyfanswm y nitrogen (kg) mewn tail da byw nad ydynt yn pori a ddodir ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, wedi ei gyfrifo yn unol â thabl 2 yn Atodlen 1.
(2) Pan fo meddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol yn bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, rhaid iddo—
(a) cyflwyno hysbysiad i CNC yn unol â rheoliad 4B, a
(b) cydymffurfio â’r gofynion rheoli maethynnau uwch yn Atodlen 1A.
(3) Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod maint y nitrogen sydd i’w daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd ac unrhyw goetir (oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori).
4B. 

(1)  Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn gynnwys—
(a) enw meddiannydd y daliad glaswelltir cymhwysol,
(b) cyfeiriad y daliad glaswelltir cymhwysol,
(c) datganiad ysgrifenedig bod y meddiannydd yn bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, a
(d) datganiad ysgrifenedig y bydd y meddiannydd yn cydymffurfio â’r gofynion ychwanegol a nodir yn Atodlen 1A.
(2) Rhaid cyflwyno hysbysiad i CNC erbyn 31 Mawrth 2024 a rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch ar gyfer y daliad glaswelltir cymhwysol fynd gydag ef.
(3) Rhaid cyflwyno’r hysbysiad a’r cynllun rheoli maethynnau uwch sy’n mynd gydag ef i CNC drwy e-bost.”
6 
Yn rheoliad 14 (taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewau)—
(a) ym mharagraff (1), ar y dechrau mewnosoder “Ac eithrio pan fo paragraff 26 o Atodlen 1A yn gymwys,”, a
(b) hepgorer paragraff 4.
7 
Yn y rheoliadau a ganlyn, yn lle “CANC” rhodder “CNC”—
(a) rheoliad 24(1)(c)(i),
(b) rheoliad 30, ym mhob lle y mae’n digwydd,
(c) rheoliad 31, ym mhob lle y mae’n digwydd,
(d) rheoliad 32(2),
(e) rheoliad 47, ac
(f) Atodlen 6, ym mhob lle y mae’n digwydd.
8 
Ar ôl Atodlen 1 (meintiau o dail, nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan dda byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori), mewnosoder Atodlen 1A (gofynion rheoli maethynnau uwch) fel y’i nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
9 
Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 wedi eu dirymu.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
14 December 2023
YR ATODLEN
Rheoliad 8
“
ATODLEN 1A
Rheoliadau 4A a 4B
1. 
Mae’r gofynion rheoli maethynnau uwch a ganlyn yn gymwys i ddeiliad daliad glaswelltir cymhwysol sy’n bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
2. 
Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “dadansoddiad samplu pridd” (“soil sampling analysis”) yw dadansoddiad o sampl pridd a wneir gan labordy profi pridd i ddadansoddi priddoedd ar gyfer ffosfforws;
 ystyr “mynegai ffosfforws pridd” (“soil phosphorus index”) yw cyfeiriad at y rhif mynegai a neilltuwyd i’r pridd yn unol â Thabl 1 o’r Atodlen hon, i ddynodi lefel y ffosfforws sydd ar gael o’r pridd.
3. 
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau mai’r unig dail da byw sydd i’w ddodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yw tail a gynhyrchir gan y da byw ar y daliad.
4. 

(1) Rhaid i’r meddiannydd, at ddibenion pennu’r mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd, ymgymryd â dadansoddiad samplu pridd o bob pumed hectar o leiaf o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd.
(2) Caiff meddiannydd ddibynnu ar ganlyniadau dadansoddiad samplu pridd blaenorol o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd at ddibenion is-baragraff (1), ar yr amod y cynhaliwyd y dadansoddiad samplu hwnnw o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2020 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2023.
(3) Pan na fo dadansoddiad samplu pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd wedi ei gynnal o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (2), rhaid cynnal y dadansoddiad samplu hwnnw o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 30 Mawrth 2024.
5. 
Rhaid i’r meddiannydd bennu’r mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd trwy ddefnyddio canlyniadau’r dadansoddiad samplu pridd o dan baragraff 4 a’r gwerthoedd yn y tabl a ganlyn.

Mynegai ffosfforws Ffosfforws (P) mg / L Olsen (P)
0 0-9
1 10-15
2 16-25
3 26-45
4 46-70
5 71-100
6 101-140
7 141-200
8 201-280
9 Dros 280
6. 
Yn ogystal â llunio cynlluniau taenu nitrogen o dan reoliad 6 (cynllunio’r modd y taenir gwrtaith nitrogen) rhaid i’r meddiannydd, o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 30 Mawrth 2024—
(a) cyfrifo’r maint optimwm o wrtaith ffosffad (kg) y dylid ei daenu ar y cnwd yn ystod y cyfnod perthnasol, gan gymryd i ystyriaeth y mynegai ffosfforws pridd, a
(b) llunio cynllun (“cynllun rheoli maethynnau uwch”) ar gyfer taenu gwrtaith ffosffad yn ystod y cyfnod perthnasol.
7. 

(1) Rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch ar gyfer y daliad—
(a) cynnwys map risg, a lunnir yn unol â pharagraff 11(1), sy’n nodi lleoliad y caeau y mae’r cynllun yn ymwneud â hwy, a
(b) datgan yn glir mewn perthynas ag unrhyw gae y cyfeirir ato yn y cynllun y math o wrtaith sydd i’w ddefnyddio.
(2) Rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch gofnodi—
(a) y mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd,
(b) y maint optimwm o wrtaith ffosffad (kg) y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth y mynegai ffosfforws pridd,
(c) faint o nitrogen (kg) sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig y bwriedir ei daenu i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu yn ystod y cyfnod perthnasol,
(d) faint o ffosffad (kg) sy’n debygol o gael ei gyflenwi i fodloni gofyniad y cnwd o unrhyw dail organig a daenir neu y bwriedir ei daenu yn ystod y cyfnod perthnasol, wedi ei gyfrifo yn unol ag—
(i) tablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) o Atodlen 1,
(ii) samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3, neu
(iii) dadansoddiadau technegol a ddarperir gan y cyflenwr,
(e) faint o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o nitrogen sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y nitrogen a fydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir yn ystod y cyfnod perthnasol), ac
(f) faint o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o ffosffad sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir at ddiben gwrteithio’r cnwd yn ystod y cyfnod perthnasol).
8. 
Ni waeth beth fo’r ffigur a gofnodir yn y cynllun rheoli maethynnau uwch yn unol â pharagraff 7(2)(b), rhaid i’r meddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—
(a) y ffosffad o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd, a
(b) y ffosffad o dail organig, yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo,yn fwy, yn ystod y cyfnod perthnasol, na’r terfynau a bennir ym mharagraff 9.
9. 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff cyfanswm y ffosffad a daenir ar unrhyw gnwd a restrir yng ngholofn gyntaf unrhyw un o’r tablau isod fod yn fwy na’r ffigur o dan y rhif mynegai ffosfforws pridd cymwys yn yr un tabl.

Tabl 2 - Uchafsymiau ffosffad ar gyfer porfa
 Mynegai ffosfforws pridd (kg P2O5 / ha)
 0 1 2 3 4+
Wrth i’r borfa ymsefydlu 120 80 50 30 0
Pori 80 50 20 0 0
Gwair 80 55 30 0 0
Silwair     
Toriad cyntaf 100 70 40 20 0
Ail doriad 25 25 25 0 0
Trydydd toriad 15 15 15 0 0
Pedwerydd toriad 10 10 10 0 0

Tabl 3 - Uchafsymiau ffosffad ar gyfer cnydau eraill
Mynegai-P 0 1 2 3 4 5+
Cnwd Ffosffad (kg / ha)
Cnydau porthi
Indrawn porthi 115 85 55 20 0 0
Ydau cnwd cyfan 115 85 55 0 0 0
Swêds a maip porthi (wedi eu codi) 105 75 45 0 0 0
Betys porthiant (wedi eu codi) 120 90 60 0 0 0
Rêp, swêds a maip sofl porthi (a borir) 85 55 25 0 0 0
Cêl (a borir) 80 50 20 0 0 0
Rhygwellt a heuir ar gyfer hadau 90 60 30 0 0 0
Cnydau âr (Gwellt wedi ei ymgorffori)
Gwenith y gaeaf 110 80 50 0 0 0
Rhygwenith y gaeaf 125 95 65 0 0 0
Haidd y gaeaf 110 80 50 0 0 0
Haidd y gwanwyn 105 75 45 0 0 0
Gwenith y gwanwyn/rhygwenith y gwanwyn/rhyg/ceirch 110 80 50 0 0 0
Cnydau âr (Gwellt wedi ei dynnu ymaith)
Gwenith y gaeaf 115 85 55 0 0 0
Rhygwenith y gaeaf 130 100 70 0 0 0
Haidd y gaeaf 115 85 55 0 0 0
Haidd y gwanwyn> 105 75 45 0 0 0
Gwenith y gwanwyn 110 80 50 0 0 0
Rhygwenith y gwanwyn/rhyg 110 80 50 0 0 0
Ceirch 115 85 55 0 0 0
Hadau olew
Rêp had olew y gaeaf 110 80 50 0 0 0
Rêp had olew y gwanwyn neu had llin 90 60 30 0 0 0
Pys (sych a dringo) a ffa 100 70 40 0 0 0
Betys siwgr 110 80 50 0 0 0
Tatws 250 210 170 100 0 0
Llysiau a bylbiau 
Merllys (ymsefydlu) 175 150 125 100 75 0
Merllys (y blynyddoedd dilynol ar ôl ymsefydlu) 75 75 50 50 25 0
Ysgewyll Brwsel, bresych storio, bresych pen a bresych llyfnddail 200 150 100 50 0 0
Blodfresych a calabrese 200 150 100 50 0 0
Seleri 250 200 150 100 50 0
Pys (cynhaeaf y farchnad) 185 135 85 35 0 0
Ffa llydan, corffa a ffa dringo 200 150 100 50 0 0
Radis ac india-corn 175 125 75 25 0 0
Letys a dail berwr 250 200 150 100 60 60
Winwns a chennin 200 150 100 50 60 60
Betys (coch) swêds, maip, pannas a moron 200 150 100 50 0 0
Bylbiau a blodau bwlb 200 150 100 50 0 0
Coriander a mintys 175 125 75 25 0 0
Courgettes 175 125 75 25 0 0
Ffrwythau a gwinwydd cyn plannu 200 100 50 50 0 0
Hopys cyn plannu 250 175 125 100 50 0
Ffrwythau coed sefydledig 80 40 20 20 0 0
Cyrens duon, cyrens cochion, eirin Mair, mafon, mwyar logan, mafonfwyar, mwyar duon, mefus a gwinwydd 110 70 40 40 0 0
Hopys sefydledig 250 200 150 100 50 0

(2) Caniateir taenu ffosffad ar borfa a chnydau eraill uwchben y gwerthoedd a nodir yn y tablau uchod yn ddarostyngedig i gael cyngor ysgrifenedig ymlaen llaw gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau.
10. 
Yn ogystal â’r wybodaeth sydd i’w chofnodi o dan reoliad 7 (yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn) rhaid i’r meddiannydd—
(a) cyn taenu tail organig yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi cyfanswm y ffosffad (kg) sydd yn y tail organig; a
(b) cyn taenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi—
(i) faint o ffosffad (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o ffosffad sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir), a
(ii) y mis arfaethedig ar gyfer taenu.
11. 

(1) Yn ychwanegol at y gofynion o dan reoliad 11 (mapiau risg), rhaid i’r map risg—
(a) dangos pob cae wedi ei farcio â rhif cyfeirnod neu rif i alluogi croesgyfeirio at gaeau a gofnodwyd mewn cynlluniau gwrteithio,
(b) cyfateb i ardal amaethyddol y daliad, ac
(c) cael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2024.
(2) Pan fo newid mewn amgylchiadau yn effeithio ar fater y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a) neu (b), rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map o fewn un mis i’r newid, gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y newid.
12. 
Rhaid i’r meddiannydd gynnal y daliad i sicrhau bod o leiaf 80% o’r ardal amaethyddol wedi ei hau â phorfa yn ystod y cyfnod perthnasol.
13. 
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau nad yw unrhyw berson—
(a) yn aredig glaswelltir dros dro ar briddoedd tywodlyd ar y daliad o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Gorffennaf 2024 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024,
(b) yn aredig porfa ar briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr 2024 ar y daliad pan fo tail da byw wedi ei daenu ar y borfa honno o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Medi ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol, ac
(c) yn aredig porfa ar briddoedd nad ydynt yn briddoedd tywodlyd ar y daliad cyn 16 Ionawr 2024 pan fo tail da byw wedi ei daenu ar y borfa honno o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 15 Hydref yn y flwyddyn galendr flaenorol ac yn dod i ben â 15 Ionawr 2024.
14. 
Pan fo unrhyw borfa ar y daliad yn cael ei haredig yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid—
(a) hau’r tir â chnwd â galw mawr am nitrogen o fewn pedair wythnos sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa, neu
(b) hau’r tir â phorfa o fewn chwe wythnos, sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa.
15. 
Ni chaiff cylchdro cnydau ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol gynnwys codlysiau na phlanhigion eraill sy’n trosi nitrogen atmosfferig ac eithrio porfa sydd â llai na 50% ohono yn feillion, neu unrhyw godlysiau eraill gyda phorfa wedi ei hau oddi tanynt.
16. 

(1) Rhaid i’r meddiannydd gofnodi cyfanswm yr ardal amaethyddol ac ardal y borfa o fewn y daliad erbyn 1 Mawrth 2024.
(2) Os bydd maint y daliad neu ardal y borfa o fewn iddo yn newid, rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r cofnod o fewn un mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y newid.
17. 

(1) Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1) disgwyliedig y da byw sydd i’w cadw ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol.
(2) Yn dilyn y gofynion i wneud cofnod yn is-baragraff (1), rhaid i’r meddiannydd wedyn gyfrifo a chofnodi faint o nitrogen a ffosffad (kg) mewn tail y disgwylir i’r da byw ar y daliad ei gynhyrchu yn ystod y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) yn Atodlen 1.
(3) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth 2024.
18. 

(1) Rhaid i’r meddiannydd—
(a) gwneud cofnod o fath a maint y tail da byw (tunelli neu fetrau ciwbig fel y bo’n gymwys) y bwriedir ei anfon o’r daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, a
(b) asesu a chofnodi maint y nitrogen (kg) sydd yn y tail da byw a gofnodir o dan baragraff (a) yn unol â rheoliad 36(4) a Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3.
(2) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud erbyn 1 Mawrth 2024.
19. 
Yn ogystal â gofynion rheoliad 39 (cofnodion o’r cnydau a heuwyd), os yw’r meddiannydd yn bwriadu taenu gwrtaith ffosffad yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid i’r meddiannydd o fewn un wythnos i hau cnwd gofnodi—
(a) y cnwd a heuir, a
(b) dyddiad ei hau.
20. 
Yn ogystal â gofynion rheoliad 40 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen), rhaid i’r meddiannydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi—
(a) o fewn un wythnos i daenu tail organig, gyfanswm y cynnwys ffosfforws (kg), a
(b) o fewn un wythnos i daenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd—
(i) dyddiad ei daenu, a
(ii) maint y ffosffad a daenwyd (kg).
21. 
Yn ogystal â gofynion rheoliad 41 (cofnodion dilynol), rhaid i’r meddiannydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi o fewn un wythnos i aredig porfa ar y daliad ddyddiad yr aredig hwnnw.
22. 

(1) Rhaid i’r meddiannydd, neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd, gyflwyno cyfrifon gwrteithio ar gyfer y cyfnod perthnasol i CNC erbyn 31 Mawrth 2025.
(2) Rhaid cyflwyno’r cyfrifon gwrteithio i CNC drwy e-bost.
(3) Rhaid i’r cyfrif gwrteithio gofnodi—
(a) cyfanswm ardal amaethyddol y daliad mewn hectarau;
(b) arwynebedd y daliad mewn hectarau a orchuddir gan—
(i) gwenith y gaeaf,
(ii) gwenith y gwanwyn,
(iii) haidd y gaeaf,
(iv) haidd y gwanwyn,
(v) rêp had olew y gaeaf,
(vi) betys siwgr,
(vii) tatws,
(viii) indrawn porthi,
(ix) porfa, a
(x) cnydau eraill;
(c) nifer a chategori yr anifeiliaid a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol yn unol â’r categorïau a ddisgrifir yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(d) maint y nitrogen a’r ffosffad (kg) yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(e) maint (tunelli neu fetrau ciwbig fel y bo’n gymwys), math a nodweddion y tail da byw a anfonwyd o’r daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
(f) maint y nitrogen a’r ffosffad (kg) yn y tail a gofnodwyd o dan is-baragraff (3)(e), wedi ei gyfrifo yn unol ag Atodlen 1;
(g) pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen (kg) yr holl stociau gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
(h) pwysau (tunelli) a chynnwys ffosffad (kg) yr holl stociau gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
(i) pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen (kg) yr holl wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad ac a anfonwyd ohono yn ystod y cyfnod perthnasol;
(j) pwysau (tunelli) a chynnwys ffosffad (kg) yr holl wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad ac a anfonwyd ohono yn ystod y cyfnod perthnasol.
23. 

(1) Rhaid i’r meddiannydd ddiogelu yr holl bridd drwy sicrhau bod yr holl dir wedi ei orchuddio â chnydau, soflau, gweddillion neu lystyfiant arall bob amser, ac eithrio pan fyddai sefydlu gorchudd o’r fath yn creu risg sylweddol o erydiad pridd a risg sylweddol y bydd nitrogen a ffosfforws yn mynd i ddŵr wyneb.
(2) Pan fo tir wedi ei gynaeafu gan ddefnyddio dyrnwr medi, cynaeafwr porthiant neu beiriant torri porfa, rhaid i’r meddiannydd sicrhau y bodlonir un o’r amodau a ganlyn ar y tir hwnnw bob amser, drwy gydol y cyfnod perthnasol sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl cynaeafu ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024—
(a) bod sofl y cnwd a gynaeafwyd yn dal yn y tir, neu
(b) bod y tir yn cael ei baratoi fel gwely hadau ar gyfer cnwd neu gnwd gorchudd dros dro o fewn 14 o ddiwrnodau i gynaeafu, gan ddechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl cynaeafu, ac—
(i) bod y cnwd, neu’r cnwd gorchudd dros dro, yn cael ei hau o fewn cyfnod o 10 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl i’r gwely hadau gael ei baratoi yn derfynol, neu
(ii) pe bai hau o fewn y cyfnod hwnnw o 10 niwrnod yn arwain at risg sylweddol o erydu pridd, ac o nitrogen neu ffosfforws yn mynd i ddŵr wyneb, fod y cnwd, neu’r cnwd gorchudd dros dro, yn cael ei hau cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r tir beidio â bod yn ddyfrlawn.
24. 

(1) Rhaid i’r meddiannydd sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol nad yw safleoedd lle darperir cyfleuster bwydo atodol ar gyfer da byw wedi eu lleoli o fewn 20 metr i gwrs dŵr ar unrhyw dir.
(2) Rhaid i’r meddiannydd sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol nad yw safleoedd lle darperir cyfleuster yfed atodol ar gyfer da byw wedi eu lleoli o fewn 10 metr i gwrs dŵr ar unrhyw dir.
25. 
Os yw’r meddiannydd yn bwriadu taenu slyri ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid defnyddio cyfarpar taenu manwl ac eithrio pan na fyddai’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
26. 
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau nad yw unrhyw berson, yn ystod y cyfnod perthnasol, yn taenu tail organig o fewn 15 metr i ddŵr wyneb oni bai ei fod yn defnyddio cyfarpar taenu manwl ac os felly ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb.”