
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2023.
2 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5A (gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio: ffioedd), ym mharagraff (4B), yn lle “31 Rhagfyr 2023” rhodder “30 Mehefin 2025”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (ffioedd)—.
(a) ym mharagraff (5A), yn lle’r geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (5C)” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (5E)”;
(b) hepgorer paragraffau (5C) a (5D);
(c) ar ôl paragraff (5B), mewnosoder—“
(5E) Nid yw’r ffi a bennir yn Atodlen 4A yn daladwy mewn cysylltiad â llwyth sydd i’w gludo i Ogledd Iwerddon—
(a) gan berson sy’n gweithredu ac eithrio yng nghwrs busnes, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad, neu
(b) i’w ddanfon i—
(i) gweithredwr proffesiynol y mae ei brif fan busnes yng Ngogledd Iwerddon, neu
(ii) unrhyw berson sy’n preswylio yng Ngogledd Iwerddon, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad na’i ddefnyddio at ddibenion unrhyw fusnes.
(5F) Mae paragraff (5E) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2025.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2023