
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw ‌‌Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) (Diwygio a Darpariaeth Drosiannol) 2023 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2024.
2 
Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.
3 
Yn yr Atodlen (gofynion o ran ffurf adroddiadau blynyddol), yn lle paragraffau 1 i 4 rhodder—“
1. 
Rhaid i’r wybodaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei chynnwys mewn adroddiad blynyddol gael ei nodi o dan y penawdau a ganlyn—
Pennod 1: Crynodeb y Cyfarwyddwr
Pennod 2: Cyd-destun
Pennod 3: Asesu perfformiad
Pennod 4: Gwybodaeth arall
2. 
Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ym mhennod 3 gael ei nodi mewn pedair rhan o dan y penawdau a ganlyn—
Pennod 3(a): Pobl
Pennod 3(b): Atal
Pennod 3(c): Partneriaeth ac integreiddio
Pennod 3(d): Llesiant
3. 
Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ym mhob rhan o bennod 3 gael ei nodi mewn pedair adran o dan y penawdau a ganlyn—
Adran (i): Beth yr ydym yn ei wybod am ansawdd ac effaith yr hyn yr ydym yn ei wneud?
Adran (ii): Sut yr ydym yn gwybod?
Adran (iii): Beth yr ydym yn ei wneud yn dda a sut y gallwn wella?
Adran (iv): Pa gynnydd a wnaethom ar y meysydd i’w gwella a nodwyd yn adroddiad y llynedd? Pa wahaniaeth a wnaethom?
4. 
Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ym mhennod 4 gael ei nodi mewn pedair rhan o dan y ‌penawdau a ganlyn—
Pennod 4(a): Arolygiadau ac adolygiadau
Pennod 4(b): Cwynion a sylwadau
Pennod 4(c): Cyfeirio at ffynonellau eraill o wybodaeth
Pennod 4(d): Unrhyw wybodaeth arall”.
4 

(1) Nid yw’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 a 3 yn cael unrhyw effaith i’r graddau y maent yn ymwneud â’r adroddiadau blynyddol a lunnir gan awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
12 Rhagfyr 2023