
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2023.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
2 

(1) Ystyr “gwasanaeth preswyl ysgol arbennig” (“special school residential service”) yw’r ddarpariaeth o lety ynghyd â gofal neu nyrsio mewn ysgol arbennig yng Nghymru ar gyfer disgyblion yr ysgol.
(2) Ond nid yw llety ynghyd â gofal neu nyrsio a ddarperir mewn ysgol arbennig yng Nghymru ar gyfer disgyblion yn wasanaeth preswyl ysgol arbennig os y’i darperir—
(a) mewn man lle y darperir gwasanaeth cartref gofal,
(b) mewn man lle y darperir gwasanaeth llety diogel, neu
(c) mewn ysbyty.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) a “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (“additional learning provision”) yr ystyron a roddir gan adran 2 ac adran 3 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 ystyr “disgybl” (“pupil”) yw person sy’n cael addysg yn yr ysgol arbennig;
 mae i “gofal” (“care”) yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(a) o’r Ddeddf;
 mae i “gwasanaeth cartref gofal” (“care home service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;
 mae i “gwasanaeth llety diogel” (“secure accommodation service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;
 ystyr “nyrs” (“nurse”) yw nyrs gymwysedig neu fydwraig gymwysedig sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001;
 ystyr “nyrsio” (“nursing”) yw gwasanaeth sy’n cynnwys naill ai ddarparu gofal neu gynllunio, goruchwylio neu ddirprwyo’r gwaith o ddarparu gofal, ond mae’n eithrio unrhyw wasanaeth nad oes angen iddo, o ran ei natur a’r amgylchiadau y mae i’w ddarparu ynddynt, gael ei ddarparu gan nyrs;
 ystyr “ysbyty” (“hospital”) yw—
(a) ysbyty gwasanaeth iechyd o fewn yr ystyr a roddir i “health service hospital” gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006,
(b) ysbyty annibynnol o fewn yr ystyr a roddir i “independent hospital” gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac
(c) clinig annibynnol o fewn yr ystyr a roddir i “independent clinic” gan Ddeddf Safonau Gofal 2000;
 mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf Addysg 1996;
 ystyr “ysgol arbennig” (“special school”) yw ysgol, pa un a gaiff ei chynnal gan awdurdod lleol ai peidio, y mae’r cyfan o’i darpariaeth addysgol, neu’r rhan fwyaf ohoni, wedi ei threfnu’n arbennig er mwyn creu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol.
3 
Rhagnodir bod gwasanaeth preswyl ysgol arbennig yn wasanaeth rheoleiddiedig at ddibenion Rhan 1 o’r Ddeddf.
4 

(1) Nid yw adran 5 o’r Ddeddf (gofyniad i gofrestru) yn gymwys i ddarparwr presennol yn ystod y cyfnod trosiannol mewn cysylltiad â gwasanaeth perthnasol.
(2) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr cyfnod trosiannol (“transition period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â dyddiad dod i rym y rheoliadau hyn ac sy’n dod i ben naill ai—
(a) ar y dyddiad pan fydd y cais i Weinidogion Cymru yn cael ei benderfynu; neu
(b) mewn achos pan fo penderfyniad gan Weinidogion Cymru yn destun apêl i’r tribiwnlys neu apêl ddilynol, ar ddyddiad dyfarniad yr apêl honno neu ddyfarniad unrhyw apêl ddilynol;
 ystyr “darparwr presennol” (“existing provider”) yw person sy’n darparu gwasanaeth preswyl ysgol arbennig yn union cyn dyddiad dod i rym y rheoliadau hyn;
 ystyr “gwasanaeth perthnasol” (“relevant service”) yw gwasanaeth preswyl ysgol arbennig a ddarperir mewn lleoliad sy’n destun cais i gofrestru o dan adran 6 o’r Ddeddf a wnaed i Weinidogion Cymru cyn 1 Gorffennaf 2024;
 mae i “y tribiwnlys” (“the tribunal”) yr un ystyr agyn adran 189 o’r Ddeddf.
5 
Yn rheoliad 2(3) mae’r cyfeiriadau at “darpariaeth ddysgu ychwanegol” a “personau ag anghenion dysgu ychwanegol” i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at “special educational provision” a “persons with special educational needs” o fewn ystyr adran 312 o Ddeddf Addysg 1996 am gyhyd ag y mae’r arbediad a wneir gan erthygl 4 o Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 yn cael effaith.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 12.05 p.m. ar 6 Rhagfyr 2023