
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gofrestr o Ddarparwyr Gwasanaethau (Gwybodaeth Ragnodedig a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn, heblaw rheoliad 2, i rym ar 31 Rhagfyr 2023.
(3) Daw rheoliad 2 i rym ar 30 Medi 2024.
RHAN 2
2 
Mae’r wybodaeth a ganlyn wedi ei rhagnodi o dan adran 38(2)(g) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 fel gwybodaeth y mae rhaid ei dangos mewn cofnod yn y gofrestr o ddarparwyr gwasanaethau—
(a) cyfeiriad post electronig,
(b) rhif ffôn y gwasanaeth,mewn cysylltiad â phob man lle y darperir gwasanaeth, pob man y darperir gwasanaeth ohono, neu bob man y darperir gwasanaeth mewn perthynas ag ef.
RHAN 3
3 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 4.
4 
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 32(a), ar ôl “cyfeiriad” mewnosoder “, cyfeiriad post electronig”.
5 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 6.
6 
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1, ar ôl “Manylion cyswllt”, hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder “gan gynnwys cyfeiriad post electronig a rhif ffôn.”
7 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 8.
8 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3, ar ôl paragraff 25 mewnosoder y paragraff canlynol—“
25A. 
Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.”
9 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 10.
10 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3, ar ôl paragraff 22, mewnosoder y paragraff canlynol—“
22A. 
Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.”
11 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 12.
12 
Yn Atodlen 3, ar ôl paragraff 18, mewnosoder y paragraff canlynol—“
18A. 
Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.”
13 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 14.
14 
Yn Atodlen 3, ar ôl paragraff 21, mewnosoder y paragraff canlynol—“
22. 
Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.”
15 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 16.
16 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3, ar ôl paragraff 18, mewnosoder y paragraff canlynol—“
18A. 
Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.”
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 12.12 p.m. ar 6 Rhagfyr 2023